Adolygiad Theatr: Rhwng Dau Fyd (Theatr Genedlaethol Cymru/ Sherman Cymru/ Living Pictures Productions)

Rhwng Dau Fyd

Profiad hynod gyffrous ym myd y theatr Gymraeg oedd mynychu perfformiad cyntaf Rhwng Ddau Fyd yn theatr Sherman Cymru.

Yn ogystal â chynnig y cyfle i sawru tair drama newydd sbon – i gyd yn ymateb i thema stori Blodeuwedd– cafodd y gynulleidfa eiddgar eu herio i ystyried rôl y cyfarwyddwr wrth lwyfannu’r gweithiau.

Penllanw blwyddyn o hyfforddiant yw’r prosiect dan sylw i ddarganfod lleisiau newydd. Cydlynnwyd y cyfan rhwng y Theatr Genedlaethol, Sherman Cymru a Living Pictures, dan arweiniad Elen Bowman, a derbyniwyd hyfforddiant pellach gan artistiaid o ddisgyblaethau eraill; coreograffi a dawns, er enghraifft, gan Marc Rees,  yn ogystal â chwmni Frantic Assembly.

Yn amlach na pheidio, wrth ymateb i gynhyrchiad, elfennau amlwg yr actio a’r ysgrifennu gaiff eu hystyried yn gyntaf; ond mae’n hawdd iawn anghofio fod unrhyw gyfanwaith theatrig mewn gwirionedd yn ganlyniad i weledigaeth y cyfarwyddwr.

Ces i felly, fel beirniad, fy herio i ystyried nifer o ffactorau; oeddwn i’n deall y stori? Oedd y cyd-destun yn glir? A beth am y cymeriadau? Oedd yr actorion yn cydweithio’n dda gyda’i gilydd, ac a wnaethpwyd defnydd diddorol – a digonol-  o’r llwyfan?

Roedd na gymaint o elfennau eraill i’w hystyried, hefyd; y defnydd o olau, y symud a’r sain, a pherthynas y gwaith â chwedl y ferch o flodau – heb sôn am fwynhau fy hun! Yn y diwedd, fodd bynnag, rhaid ymateb yn reddfol i’r gweithiau, a cafwyd noson wefreiddiol – ar y cyfan.

Roedd y cymeriadau i gyd mewn limbo llwyr; yn gaeth i’w hamgylchiadau. Crewyd bydoedd gwahanol o fewn gofod gwag a lenwyd â ffrwyth penrhyddid.

Cychwynwyd yn hyderus â drama gorlawn o syniadau; Gwagle gan yr awdures Branwen Davies, dan gyfarwyddyd Wyn Mason o gyrion Aberystwyth.

Roedd y ddrama hon yn ddechrau direidus mewn ffordd; i ategu at yr her o ganolbwyntio ar y cyfarwyddo, cyflwynwyd cynhyrchiad am ddramodydd dan bwysau. Llenwyd y llwyfan gan gorwynt o gymeriadau, cyn gadael llanast pur a gwewyr llwyr – a sgwennwr yn ei bants a sanau smotiog.

Diolch i droslais difyr, wnaeth ddwyn sylwebaeth David Attenburough i gôf, cawsom gyflwyniad i Dafydd Rhys; dramodydd disgleiriaf ei genhedlaeth- yn ei feddwl ei hun- a gwestai diweddara Beti â’i Phobol.

Cafwyd sesiwn therapi o fath yng nghwmni llais cynnes Beti, cyn iddi droi arno am ddili-dalio. Beth oedd ei fwriad ar gyfer ei ail ddrama fawr? Pwy, yn wir, oedd y Dafydd Rhys go iawn? Pa wirionedd mawr oesol oedd ganddo’i rannu â’i gynulleidfa; oedd e’n fwy na one-trick pony?

Yr hyn a ddilynodd oedd mynediad cwbl swreal i benglog boncyrs yr artist o’n blaenau. Aethpwyd â’r gynulledifa ar gyfeiliorn wrth iddo geisio osgoi’r gwir, cyn cael ei drechu gan gyfres o ystrydebau.

Creodd ferch ei freuddwydion, a ymddangosodd o’n blaenau, ar ffurf silwét cyn troi’n berson go-iawn. Diolch i’w awen anfoddog, cafodd Dafydd ddôs o realaeth, gan ddeall gwreiddiau ei greisis creadigol.

Crewyd egni o’r cychwyn, ac argraff gadarn o gyfarwyddwr oedd am ddaearu holl syniadau haniaethol y sgript. Angorwyd y cyfan gan berfformiad comig tan gamp Ceri Murphy, a chefnogaeth gref gan arian byw o actores, Bethan Mai.

O gofio mai dyma rag-ddangosiad cyntaf y cynhyrchiad, a’r noson gyntaf iddynt oll wynebu’r cyhoedd, crewyd argraff yn syth,  a bu rowlio chwerthin ymysg y dorf ar sawl achlysur.

Munud yn unig o doriad a gafwyd rhwng gwallgofrwydd y ddrama gyntaf a get-in Man Gwyn a Man Draw gan Meic Povey. Fe’m denwyd yn syth gan set syml tu hwnt, a hoeliwyd fy sylw gan berfformiadau penigamp.

Tra bu cydweithio da rhwng y ddau actor cyntaf, roedd y cemeg a brofwyd yn yr ail ddrama oddi ar y raddfa! Mae’r actores Lisa Jên Brown wastad yn drawiadol ar lwyfan, ac yma roedd hi’n seiren dwyllodrus. Fe’i chyfatebwyd hi  gan berfformiad rhagorol o rywiol gan yr actor o Gaergybi, Owen Arwyn.

Gwleidyddiaeth godineb a oedd testun y ddrama danbaid a gyfarwyddwyd gan Ffion Haf. Ces fy nenu’n syth i fewn i fyd clostraffobig pâr priod o’r enw Ceri a Glyn.

Ysai Ceri i weld ei gwr yn ymddwyn fel dyn, a’i charu fel dynes go iawn. Tueddai Glyn i’w hosgoi, i fynd am beint efo’r criw, ond ysai yntau am brawf o’i chariad hithau.

Wrth geisio ail-afael yng ngwreiddiau eu serch, dinoethwyd eu gwahaniaethau.

Sefydlwyd  naws ac awyrgylch synhwyrus tu hwnt, diolch i oleuo a cherddoriaeth tra chynnil. Cafwyd cynhyrchiad corfforol, a choreograffi cain wrth i’r ddau chwarae gemau â’i gilydd.

Synhwyrwyd absenoldeb dau gymeriad arall a fynnodd darfu ar y darlun, wrth i’r pâr frwydro i achub eu perthynas. Arweiniwyd y gynulleidfa i uniaethu’n llwyr â nhw – cyn gofyn, yn derfynnol, i be?

Roedd y sgript yn rhodd i ddau actor gwych, ond llywiwyd y cyfan gan gyfarwyddo hynod gadarn. Enillwyd ymddiriedaeth y gynulleidfa gan weledigaeth clir, ac actio oedd yn amrwd o onest.

Ces fy swyno gymaint nes i mi adael yn benysgafn, a fu’n sicr yn ddylanwad ar fy ymateb i’r ddrama olaf.

Wedi toriad o ugain munud, dychwelodd y dorf yn llawn chwilfrydedd ar gyfer Marjory gan Caryl Lewis. Mae’n flin gen i ddweud ces fy nrysu a nieithrio – er i eraill ddewis hon fel eu ffefryn.

Gosodwyd y ddrama mewn bwthyn Cymreig ar ganol yr Ugeinfed Ganrif. Yn byw gyda’i gilydd yr oedd Marjory a’i thad – gwas bach i deulu’r Powells dylanwadol. Dilynwyd eu hanes o blentyndod Marjory hyd at gyfnod ei harddegau hwyr.

Sefydlwyd o’r cychwyn y bu i Marjory golli’i mam, ac fod ganddi ffrind dychmygol fel plentyn.  Ond wrth i’r ddrama ddatblygu, cafwyd awgrym tipyn cryfach fod ganddi allu goruwchnaturiol.

Cynyddu wnaeth y tyndra rhwng y tad a’i ferch wrth i Marjory dyfu’n ddynes o flaen ei lygaid. Cafwyd tro go ddychrynllyd yng nghynffon y stori, a diweddglo i sbarduno hunllefau.

Roedd y set yn un syml a lwyddodd yn syth i’n lleoli yng nghefn gwlad Cymru. Chwaraeodd arch ran ganolog ar ffurf y bwrdd bwyd, a danlinellodd bresenoldeb meirw byw.

Rhaid canmol yr actio arbennig o dda yn nrama tywyllaf y noson. Buddiodd yr actores ifanc Heledd Gwynn yn sicr o gyfarwyddo Ffion Dafis; cynigodd berffomiad hypnotig a gyfleodd holl angst y ferch anghyffredin i’r dim.

Castiwyd Geraint Lewis yn ei herbyn – actor greodd argraff fawr fel Sianco yn yr addasiad ffilm o Martha Jac a Sianco gan Caryl Lewis. Cynigodd yntau ddehongliad cryf o gymeriad sgitsoffrenig, a lethwyd gan gyfrinach fawr ei orffennol.

Fel yn achos Man Gwyn Man Draw, cafwyd eiliadau o hiwmor, a gynigodd gyfle prin i’r gynulleidfa anadlu. Fel gweithiau eraill Caryl Lewis, rhoddodd ei sgript lais hanfodol i’r trueiniaid a ymneilltuwyd o gymdeithas – ac acen swynol, dwyllodrus o hardd.

Yn anffodus, camddehonglais gronoleg y stori, gan ddrysu’n lân rhwng Marjory’r ferch a Marjory y ddynes, gan olygu i mi golli f’amynedd â’i hanes teimladwy. Ces fy annifyrru’n llwyr yng nghwmni Marjory a’i thad; ond  nid drwg o beth mo hynny â stori arswyd.

Gadewais yn llawn cwestiynau, a arweiniodd at drafodaeth fywiog yng nghyntedd lawn theatr Sherman Cymru. Ces fy herio, fy niddanu a ngwefreiddio’n llwyr – a gadewais wrth godi nghap i’r cyfarwyddwyr.

Mae Rhwng Dau Fyd i’w weld yn Sherman Cymru, Caerdydd, tan nos Sadwrn, Medi 14eg. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Theatr. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Adolygiad Theatr: Rhwng Dau Fyd (Theatr Genedlaethol Cymru/ Sherman Cymru/ Living Pictures Productions)

  1. Hysbysiad: Adolygiad Theatr: Pridd (Theatr Genedlaethol Cymru) | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s