Adolygiad Ffilm: Blue Jasmine (12)

Blue Jasmine Poster

Y Sêr: Cate Blanchett, Sally Hawkins, Alec Baldwin, Andrew Dice Clay, Bobby Cannavalle, Louis C. K. a Peter Sarsgaard

Y Cyfarwyddo: Woody Allen

Y Sgrifennu: Woody Allen

Hyd: 98mun

Adolygais Blue Jasmine, Austenland a Girl Most Likely ar raglen Prynhawn Da ar S4C ar ddydd Gwener, Medi 27ain, 2013. Cliciwch yma i wylio eto.

Yn dilyn haf cyfan o flocbysters bombastig yn llawn effeithiau arbennig, mae’r sinema y penwythnos ma yn orlawn o chick-flicks, a Blue Jasmine gan Woody Allen sy’n rhagori arnyn nhw i gyd.

Mae’r ffilm yn dilyn Jasmine (Cate Blanchett), sydd â’i bywyd ar chwâl, wedi cyfnod fel un o wragedd cyfoethocaf Efrog Newydd. Yn dilyn carchariad ei gwr, Hal (Alec Baldwin) am ei gafflo ariannol, rhaid i Jasmine fynd i fyw at ei chwaer fach Ginger (Sally  Hawkins, Made in Dagenham, Submarine) yn San Francisco.

Collodd Ginger ei henillion loteri pan fuddsoddodd ei phres yng nghynllun Ponzi ei brawd-yng-nghyfraith ; serch hynny, estynna groeso i’w chwaer soffistigedig i’w chartref clyd. Ond gyda’i siaced Chanel a’i bagiau Louis Vuitton ac Hermès, mae Jasmine yn dal i drigo ar blaned hollol wahanol i Ginger.

Mae’r ffilm yn pendilio rhwng realiti newydd Jasmine, a’i bywyd blaenorol yn Efrog Newydd – lle cawn gip ar sut aeth popeth o chwith. Fel yn achos saga Bernie Madoff, a’i wraig ef Ruth, codir y cwestiwn amlwg yn aml; “Faint yn union oedd hi’n gwybod?”.

Does dim gobaith darganfod yr ateb, nag uniaethu yn llwyr â hi, gan fod Jasmine ar goll mewn niwlen o Xanax a Stolichnaya. A serch ei chwymp mewn statws mae hi’n dal i siarad lawr wrth Ginger, gan geisio chwalu ei perthynas â’i dyweddi dosbarth gweithiol, Chilli (Bobby Cannavalle).

Wrth ddarllen am Jasmine mewn du a gwyn, hawdd fyddai credu mai dyma un o deips cartwnaidd Woody Allen, y byddai actores arall yn ei phortreadu mewn ffordd gomig. Ond diolch i berfformiad deallus gan Cate Blanchett, cydymdeimlir â Jasmine, wrth iddi gynnig dehongliad o ddynes gafodd ei llorio’n llwyr gan ddigwyddiadau  y tu hwnt i’w rheolaeth.

Yn aml iawn, wrth wylio Blue Jasmine, anghofiais  mai Woody Allen oedd yn llywio’r ffilm; yn wir, ag eithrio’r teitlau du a gwyn i gyfeiliant jazz Efrog Newydd, mae iddi naws ac egni wahanol iawn i’r arfer. Ceir perfformiadau ystyriol gan y dynion i gyd, ond yn arbennig Andrew Dice Clay a Bobby Cannavale fel dynion coler glas, sy’n llawn trugaredd.

Yn wir, wedi blynyddoedd o berfformiadau eilradd gan bawb o Hugh Grant i Kenneth Branagh, y mae’r unig gymeriad sy’n ymdebygu i Woody Allen yn chwarae ran ymylol, diolch byth.

Yr un yw ymdriniaeth y cyfarwyddwr o ddinas Efrog Newydd, gan mai yn San Francisco y lleolir y rhan fwyaf o’r ffilm hon. Daeth Vicky Cristina Barcelona a Midnight in Paris fel chwa o awyr iach ganddo’n ddiweddar iawn; mae’n amlwg fod archwilio ei atlas ymhellach yn ei siwtio i’r dim.

Y Sgôr Terfynol*: 

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 4 Cookie yn cyfateb i 8 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Adolygiad Ffilm: Blue Jasmine (12)

  1. Dywedodd Carl Morris :

    Newydd gwylio’r ffilm benigamp hon. Diolch am yr adolygiad.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s