Adolygiad Ffilm: Sunshine on Leith (PG)

Sunshine on Leith

Y Sêr: George MacKay, Kevin Guthrie, Freya Mayor, Antonia Thomas, Peter Mullan, Jane Horrocks a Jason Flemyng

Y Cyfarwyddo: Dexter Fletcher

Y Sgrifennu: Stephen Greenhorn

Hyd: 100 mun

Adolygais y ffilm Sunshine on Leith ar raglen Prynhawn Da ar S4C ar ddydd Iau, Hydref 10ed, 2013. Cliciwch yma i wylio eto.

ABBA, Queen  a Johnny Cash; mae nhw i gyd wedi sbarduno jukebox musical. Ond i bob llwyddiant aruthrol-  Mamma Mia!  yn eu plith- ceir dwsinau o fethiannau, fel Viva Forever!.

′Nol yn 2007 llwyddodd band pop o’r Alban i ddenu miloedd i’r theatr i brofi’r sioe gerdd a ysbrydolwyd gan un o’u halbymau. Lle fethodd y Spice Girls yn rhacs, llwyddodd The Proclaimers – o bawb – i gyffroi cynulleidfaoedd gyda’r sioe gerdd Sunshine on Leith.

Chwe mlynedd wedi i gwmni theatr y Dundee Rep atgyfodi yr  albwm anghofiedig o’r un enw, mae’r sioe i’w gweld bellach yn y sinema. Wrth wraidd yr holl ddrama y mae sawl stori serch a osodwyd yn ninas Caeredin.

Cyflwynir dau hen ffrind ar ddechrau’r ffilm – dau filwr, sy’n goroesi ffrwydriad yn Afghanistan. Daw’r ddau ′nol i’r Alban i ddechrau o’r newydd, a chanfod cariadon yn Leith.

Mae Ally (Kevin Guthrie) yn benderfynol o briodi ei gariad cyntaf, Liz (Freya Mayor), tra fod Davy (George MacKay) yn syrthio’n glep am Yvonne (Antonia Thomas). Ond tra fod Liz ′di gosod ei bryd ar fynd yn nyrs ym Miami, mae Yvonne am droi am adre, i Lundain.

Yn y cyfamser, mae Jean (Jane Horrocks) a Rab (Peter Mullan) – rhieni Davy a Liz – ar fin nodi chwarter canrif o briodas. Ond daw ysbryd o’r gorffennol i darfu ar y dathlu, i siglo eu huniad i’w seiliau.

Mae’r stori sylfaenol yn gawslyd tu hwnt, a’r perfformiadau’n hynod anwastad. Ar brydiau, yn wir, mae’n ffilm chwerthinllyd o wael, ond mae’n taenu’i swyn, serch yr holl wendidau.

Mae’r diolch am hynny’n bennaf i Peter Mullan , sydd yma’n portreadu Rab, gŵr Jean.  Gallai’r actor o Ddwyrain yr Alban hudo cynulleidfa’n llwyr â darlleniad o’r Yellow Pages. Mae e’n bresenoldeb mawr yn Game of Thrones  ac roedd yn wych yn Top of the Lake.

Mewn ffair llawn ysgafnder a froth ffwrdd â hi , daw â dyfnder a gravitas. Mae’n bechod na chawn ni archwilio’r twyll sy’n sail i’w berthynas ef a’i wraig, ond rhaid, rhywsut, ffeindio’n ffordd i 500 Miles.

Os ydych chi’n ffan o’r Proclaimers, byddwch yn wir wrth eich bodd, ond fel arall, mae’r ffilm ymhell o gystadlu â The Commitments (1991) o ran hiwmor a sylwedd.

Mae’r stori’n deneuach na’r erthylbeth Mamma Mia! ond caiff dinas Caeredin ei thrin fel brenhines. Does dim cornel o’r ddinas chaiff ei hepgor o’r sgrîn, ac mae’n hysbyseb a hanner i dîm Hibs.

Mae’r amseru’n ddiddorol, gyda refferendwm ar y gweill i benderfynu ffawd Alban anibynnol. Serch holl wendidau’r ffilm, mae Sunshine on Leith yn hawlio’i hunaniaeth ei hun, ac yn llawn hyder cenedlaethol.

Sgôr Terfynol*:

Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 3 Cookie yn cyfateb i 6 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s