Diolchgarwch

Diolchgarwch

Rhannais hanes fy namwain car ar raglen Heno ar S4C ar nos Lun, yr 16eg o Ragfyr, 2013 a gyda Dylan Iorwerth ar raglen Dan yr Wyneb ar BBC Radio Cymru; cliciwch yma i wylio eto., ac yma i wrando eto.

Union wythnos yn ôl ges i ddamwain car – profiad dychrynllyd, a dwi’n lwcus i fod ’ma. Ro’n i’n teithio o Gaerdydd i Aberystwyth brynhawn Mawrth d’wethaf, pan ddigwyddodd y ddamwain ar gyrion Llanbedr Pont Steffan.

Roedd hi’n ddiwrnod braf, wedi dyddiau o dywydd gwyllt, ac ro’n i ar fy ffordd i holi Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol, Arwel Gruffydd, mewn sesiwn arbennig yn y Llyfrgell Genedlaethol, fel rhan o ddathliadau deugainmlwyddiant Adran Theatr Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth – lle bum yn fyfyrwraig dros ddegawd yn ôl.

Ro’n i wedi paratoi’n drwyadl ac yn edrych ymlaen yn eiddgar ar gyfer noson ddifyr iawn yn y Drwm.

Doedd dim brys yn y byd , ac roedd hi’n braf cael gweld Cymru ar ei gorau ar b’nawn hynod hyfryd o hydref. Ond wedi i mi basio gwesty’r Falcondale,  i gyfeiriad Aberaeron, collais reolaeth o’r car ar dro cas.

Sgrialais oddi ar y ffordd trwy glawdd a choed trwchus, gan hyrddio lawr bryncyn serth. Chwalodd y ffenestr yn deilchion a rhuthrodd y brigau amdanaf gan anelu am fy ngwddf a mraich dde. Daeth popeth i stop pan laniais, o’r diwedd, mewn cae anial yn gwynebu’r ffordd fawr. Dechreuais sgrechian pan sylweddolais gymaint o waed oedd yn llifo o ngwddf, â neb o gwmpas i nghlywed – a’r drws yn sownd ar gau.

O fewn dim, fodd bynnag, rhedodd dyn mewn crys Llewod coch i lawr y bryn i weld sut siâp oedd arnaf i. Gallwn weld o’i ymateb fod y sefyllfa’n ddifrifol, a gwaeddodd ar ei bartner i alw am ambiwlans.

Ei enw oedd Rob, un o Ruddlan yn wreiddiol – roedd e ar ei wyliau yn yr ardal pan ddigwyddodd y ddamwain o flaen ei lygaid. Wrth iddo ymdrechu i atal y gwaedu twy’r ffenest agored , eglurodd ei fod yn wirfyddolwr gydag Ambiwlans Sant Ioan yn ei amser sbâr, ac fe gynghorodd e i mi aros mor llonydd ag y medrwn rhg ofn i mi niweidio ′nghefn.

Roedd y boen yn arteithiol, a cynyddodd fy mraw, wrth ofni na chyrhaeddai’r ambiwlans am sbel. Llwyddodd Rob i’m llonyddu, a brwydrais i aros ar effro wrth ei holi am ei gefndir a’i waith yn Henllan.

Gwibiodd yr amser, ac o fewn munudau  clywais seiren ambiwlans, a daeth y paramedics, Rob (arall)  a Chris, a siaradodd Gymraeg gyda mi. Allai wir ddim pwysleisio faint o gysur oedd hynny ar adeg mor frawychus.

Fe’m gosodwyd mewn neck-brace, a’r peth nesaf a glywais oedd rhagor o’r iaith Gymraeg ymysg y dynion tân a ddaeth i nhorri’n rhydd o’r car. Pan ofynais ar ryw bwynt, i ba ysbyty ro’n i’n debygol o gael fy nghludo, prun ai Glangwili  neu Ysbyty Bronglais,  tanlinellodd yr ateb enbydrwydd y sefyllfa  – roedd na ambiwlans awyr ar ei ffordd i nghludo i ofal llawfeddygon yr adran blastics yn Ysbyty Treforys, Abertawe. Wrth rwymo fy nghlwyfau edrychodd Chris i fyw fy llygaid i’m sicrhau y byddwn i’n iawn.

Ar ôl fy ngosod ar estynnydd cadarn, ces fy nhynnu’n ofalus  trwy gefn y car a’m rhoi i orwedd ar y cae tu fas. Troellodd adennydd yr hofrennydd uwch fy mhen gan greu gwynt a thwrw mawr. Daeth heddwas ataf i fofyn rhywfaint o fanylion a daeth Gareth a Jason o’r ambiwlans awyr i nghludo i fewn i’r hofrennydd bychan a chwistrellu morffin i un o wythiennau fy mraich.

Cydweithiodd pawb yn wych, yn  llawn hiwmor a phroffesiynoldeb – ches i mo ngadael ar ben fy hun am eiliad. Ugain munud wedi gadael cae fferm Pwll Cware ger Llambed ro’n i yng ngofal tîm argyfwng Ysbyty Treforys.

Gwelais dimoedd trawma ER ffuglennol droeon dros y blynyddoedd ar gyfresi teledu amrywiol, ond  roedd bod yn rhan o’r darlun yn brofiad swreal a ces berspectif  hollol wahanol ar y sefyllfa eithafol hon. Gwynebau cyfeillgar uwch fy mhen, yn gweithio’n chwim dan bwysau’r argyfwng o’u blaenau. Cyflwynodd pawb yn eu tro eu henwau a’u swyddogaeth- Keis o Iran, Rachel o Glydach a Richard o Ros, Pontardawe yn eu plith- gan egluro pob cam o’r driniaeth dros yr oriau nesa, a cysylltodd Sister Karen â’m teulu’n syth bin.

Dwi’n credu i mi ddiolch i bawb o Rob ymlaen gant o weithiau am eu gofal a’u harbenigedd. Ymatebodd nifer ohonynt â chwerthiniad ddiymhongar; “Dyma’n swydd i, paid â phoeni o gwbl.”

Ces fy nghydio’n llwyr gan emosiynau mawrion trwy gydol fy mhrofiad, a daeth dagrau o ddiolchgarwch i lenwi’n llygaid yn ddi-baid. Er i mi brofi arswyd pur ac unigrwydd llethol ar achlysur y ddamwain  ei hun, ces gysur aruthrol o bresenoldeb pawb.

Rhuthrodd cymaint trwy ′mhen pan ddigwyddodd y ddamwain –  y teimlad  mwyaf oedd diymadferthedd llwyr.  Aeth batri fy ffon yn fflat dros fy nghinio yn Nantgaredig, felly doedd dim modd cyfathrebu â neb. Doedd dim ffordd o gysylltu’n uniongyrchol â’r gwasanaethau brys, na dweud wrth griw y Llyf Gen na allwn i fod yno’r noson honno chwaith.

Teimlais gywilydd yn ogystal am achosi’r fath ffwdan  – yn fwy na dim, ro’n i’n grac â mi fy hun. Mae fy rhieni yn cychwyn eu triniaethau canser yr wythnos hon, gyda Dad yn dechrau ei gwrs cemotherapi a radiotherapi ef yn Ysbyty Felindre yfory, ac ro’n i wedi gaddo hebrwng Mam i’w huned arbenigol yn Southampton ar union yr un diwrnod; dyma’r peth olaf yr oedden nhw angen ei wynebu ar adeg o’r fath.

Ro’n i mor ddiolchgar i’w gweld nhw yn hwyrach y noson honno, a fy chwiorydd drannoeth, a bu’r gofal ges i yn ysbyty Treforys yn ddi-hafal. Ces ymweliad ag ymgynghorydd yr adran blastics i egluro y byddent angen archwilio’r niwed i nerfau fy ngwyneb, fy ysgwydd a ngwddf, a’r posibilrwydd o skin-graft ar fy mraich.

Yn dilyn llawdriniaeth dan anasthetig, i dynnu’r holl wydr o nghnawd, daeth newyddion da – ni fu unrhyw niwed i nerfau fy ngwyneb na ngwddf, nag i feinwe fy mraich, gan olygu i mi dderbyn pwythau yn unig. Tanlinellwyd fwy nag unwaith pa mor lwcus yr oeddwn – ces fy nghlwyfo’n wael nesaf at brif arteri fy ngwddf.

Derbyniais yr un safon o ofal gan nyrsys Ward Penfro, ac roedd fy arhosiad yno hefyd yn agoriad llygad. Cafodd gwyneb y ddynes drws nesaf ei brathu’n wael gan Rottweiller ei merch maeth, tra cafodd llaw y fenyw yn y gwely gyferbyn â mi ei frathu gan Alsatian y teulu.

Ar fy ochr dde, ddes i adnabod Hayley o’r Porth, y Rhondda, oedd yn byw gyferbyn â niweddar Anti Lizza, ac yn cofio Bopa Lil a fy Mamgu yn iawn. Roedd hi eisioes wedi colli deuddeg stôn mewn pwysau pan ffeindiodd lwmpyn yn ei brest, a chanfod fod arni ganser y meinwe a’r esgyrn. Roedd y meddygon wedi cyfnewid tair asen a’i sternwm am fersiynau newydd o blastig- a’r canser wedi’i ddifa’n llwyr wrth dynnu’r esgyrn hynny o’i chorff.

Yn y gornel bellaf, clywais hanes Bridget o Landyfaelog – sleisiodd ei llaw wrth dorri cig oen, pan oedd yng ngofal tafarn ei rhieni, y Red Lion,  tra roedden nhwythau ar eu gwyliau.

Gerllaw yr oedd menyw o Aberfan, a gollodd ei brawd a’i chefnder yn nhrychineb 1966 – roedd hi’n ddisgybl yn ysgol y babanod, nesaf i’r tirlithriad, ar y pryd. Roedd hi newydd dderbyn llawdriniaeth i adfer ei bron, wedi iddi oresgyn canser  dwy flynedd yn ôl.

Gyferbyn â hi yr oedd dynes  drawiadol iawn â chanddi lipstic coch a bag Balenciaga, fu’n gwylio Breaking Bad ar ei iPad. Gofynais wrth Hayley beth oedd yn bod arni hi –  cyfnewid ei breast implants PIP am rai newydd, oedd yr ateb.

O’n cwmpas ni gyd, y nyrsys llawn hiwmor, pob un ag acenion hyfryd Gorllewin Cymru. Diolch i Delyth a Siân a Kirsty a Phil,  a dwsinau o bobol eraill. Derbyniais chwistrelliadau a thabledi di-ri gan gymaint o bobol bob awr o’r dydd- a’r nos.

Roedd safon y bwyd ymhell o’r ystrydeb ych-a-fi, a bwytais bopeth a gynigwyd. Cawl cennin a thatws ffres, a tharten corned-beef, a phwdinau hen-ffasiwn fel cacen sbynj â chwstard a phwdin reis. Dywedwyd wrthyf fod y gwasanaeth iechyd yn gwario rhwng dwybunt a theirpunt ar  fwyd dyddiol pob claf, tra fod carcharorion yn cael gwerth rhwng chwephunt a seithbunt y diwrnod yr un.

Ymwelodd fy mam a fy chwiorydd â swyddfa heddlu Llanbedr Pont Steffan dros y penwythnos, i siarad â’r heddlu ac i ddarganfod enw perchennog y tir fferm lle ddigwyddodd y ddamwain. Ond yw Cymru’n fach pan y chi’n siarad Cymraeg? Ewyrth un o fy ffrindiau gorau, Esyllt, yw Mr Geraint Jones-Lewis, Rhyd y Gôf Isaf; ymddiheuriadau mawr iddo ef am achosi’r fath ddifrod i’w dir.

Yn ôl Eirlys, ei chwaer, mae e wedi apelio am arwyddion ffordd ers tro, a bu damwain car rhwng dau gerbyd arall ar union yr un troad ddiwrnod yn unig cyn fy namwain innau

Rydw i adre bellach, yng nghartre fy rhieni – yn falch iawn i fod ′ma, ac yn ddiolchgar fod cynifer wedi cysylltu i ddymuno gwellhad buan. Wrth i minnau wella’n raddol gallaf hefyd gynnig gofal i fy rhieni yn ogystal – yn y cyfamser, diolch yn fawr i fy chwiorydd, Lleucu a Catrin , am ddelio â phopeth gyda gwên.

Bu pawb mor garedig, ac er na fydda i ′nol wrth fy ngwaith am rai wythnosau, ro’n i’n awyddus i gofnodi’r cyfan cyn i’r enwau a’r manylion, a’r emosiynau byw hyn i gyd fynd yn angof am byth.

Rydw i’n eithriadol o ffodus na ches i niwed gwaeth, diolch i gyfres o bobol anhygoel.

Cliciwch yma am wybodaeth ac i noddi gwasanaeth cymorth cyntaf Ambiwlans Sant Ioan ac yma i gefnogi Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

  1. Dywedodd Llinos Rowlands :

    Mor ddrwg gennai glywed dy drafferthion, druan chdi, roedd y ddamwain yn swnio’n hunllefus. Mae Geraint Rhyd Y Gof yn perthyn i mi o ochr fy mam! Falch i glywed dy fod gartref ac yn gwella, cymer ofal.x

    • Dywedodd lowrihafcooke :

      Diolch yn fawr i ti Llinos, Cymru fach ynde! Mor flin gen i golli’r parti lansio nos Wener, edrych mlaen i gael gafael ar gopi o’r llyfr – mae’r llun na ohonot ti a Dylan ger Llynnoedd Cregennan yn wych xxx

  2. Dywedodd dafyddt :

    Dyna adroddiad trylwyr iawn o ystyried yr amgylchiadau! Rwy’n falch iawn i glywed fod ti’n gwella a heb gael anaf rhy ddifrifol. Mae nifer o fy nheulu i wedi cael triniaeth ardderchog yn Nhreforys felly roeddet mewn dwylo da. Gwellhad buan i ti a dy rieni.

  3. Dywedodd Carl Morris :

    Brysia wella Lowri.

    Mae’n gymaint o ryddhad i glywed dy fod ti’n wella. Diolch am rannu dy brofiadau. Dw i newydd cyfrannu ychydig i’r Ambiwlans Awyr.

    Mae’r elfen am y ddwy damwain mewn dau ddiwrnod yn anhygoel. Dw i’n siwr byddai lot ohonyn ni yn fodlon ysgrifennu llythyr at bwy bynnag sydd yn gyfrifol am y ffyrdd i ofyn am welliannau ar frys.

  4. Dywedodd Gwennan Williams :

    Roeddwn arfer gweithio yn yr adran blastics yn Nhreforys felly roeddwn yn gyfarwydd â rhai o’r enwau ti wedi crybwyll yma. Falch bod gwaith y doctoriaid, nyrsys a staff eraill wedi dy gysuro a’th wella ar ôl damwain ddifrifol. Dydi’r gwasanaeth iechyd ddim mor ddrwg a ma rhai yn mynnu- mae’n braf, fel nyrs, i glywed canmoliaeth o’r gofal a dderbyniaist. Gobeithio byddi yn dal i wella a bydd dy rieni hefyd yn derbyn yr un math o ofal tra ei bod yn cael triniaeth canser.

  5. Dywedodd Bethan Mair :

    Lowri, Lowri fach! Wedi cael braw ofnadwy o ddarllen hyn, ac eisiau i ti wybod y gwna i unrhyw beth i dy helpu yn ôl y galw. Mae gen ti lu o deulu a ffrindiau da yn agos atat, ond os gallaf helpu mewn unrhyw ffordd, hanner gair sydd ei angen. Brysia wella’n llwyr, ac edrychaf ymlaen at dy weld di
    Bethan Mair xxxxx

  6. Dywedodd Mari :

    Brysia wella! xxxMari

  7. Dywedodd William Owen :

    Brysiwch wella. Dda deall nad oedd pethau cynddrwg ag a feddyliwyd ar y dechrau. Wedi clywed am eich damwain ddwyawr cyn darllen hwn – gan eich Ewyrth Iolo mewn cyfarfod o Glwb yr Efail, Bangor heno. Ddrwg gen i glywed am eich mam a’ch tad yn derbyn triniaethau. Roedd eich mam yn y 6ed pan oeddwn i’n dechrau yn Ysgol Ramadeg y Bermo, Harlech wedyn. Mi rois i fraw iddi ar y bws o Eisteddfod Casnewydd 2004 wrth ddweud fy mod yn ei chofio! Wedyn mi fues i efo Y Cymro am rhyw bum munud. Dim ond i chi ddeall pwy ydw i!!

    • Dywedodd lowrihafcooke :

      Diolch am gysylltu William – dwi’n reit siwr i ni gwrdd fwy nag unwaith yn y Babell Len, tra roeddwn i’n gweithio gyda’r BBC. Roedd yn hyfryd i weld Ync Iolo ac Anti Nesta yn Ysbyty Treforys – mam yn cofio atoch, gyda llaw! x

  8. Dywedodd Huw :

    Pob gwellhad i ti a’th rieni.

  9. Dywedodd Heledd ap :

    Flin iawn i glywed am dy ddamwain Lowri, wedi cael sioc ac ofn mawr yn darllen, ond mae dy synnwyr digrifwch yn para i ddod drwyddo – a diolch byth am hynny! Cymer ofal x

  10. Dywedodd Geraint Rees :

    Diolch o galon i ti am sgrifennu hwn. Ysbrydoliaeth ben bore. Falch iawn bo ti wedi goroesi. Ces brofiad tebyg yn 20 oed. Daeth darllen hwn ag atgofion anghyffyrddus nol, ond rhoddodd y profiad hwnnw 30 mlynedd yn ol yr ysfa i mi fyw bywyd yn llawn. Cymer ofal – a dymuniadau gore i’r llwyth cyfan. Am gyfnod yn eich teulu.

    • Dywedodd lowrihafcooke :

      Diolch yn fawr am y neges Geraint – mae’n rhyfeddol faint o bobol sydd wedi cysylltu gyda’r un hanes, flin gen i achosi unrhyw anesmwythyd. Mae bywyd yn fregus, a ry ni’n cyfri’n bendithion fel teulu – cofion gorau, Lowri x

  11. Dywedodd Elin Angharad Williams :

    Gwellhad buan i ti Lowri! Yn fy nagrau yn darllen dy flog di – atgofion yn llifo nol o ddamwain ffordd ges i rhyw 5 mlynedd yn ol. Pob dymuniad da i ti a chymer ofal
    Elin

    • Dywedodd lowrihafcooke :

      Elin annwyl, mor ddrwg gen i achosi loes, dwi’n mawr obeithio nad wyt ti ddim gwaeth ers y ddamwain honno – sawl un wedi cysylltu i ddweud yr un fath. Diolch i ti am y geiriau caredig . Cariad mawr, Lowri x

  12. Dywedodd Lowri Williams :

    Lowri druan. Mor falch i ddarllen dy fod yn iawn yn dilyn dy brofiad erchyll. Pob hwyl i ti wrth wella gyda dy deulu hyfryd. Lowri Croesoswallt xxx

    • Dywedodd lowrihafcooke :

      Hyfryd i glywed gen ti Lowri, diolch i ti am gysylltu. Siaradais a dy fodryb ar y ffordd nol o steddfod Wrecsam, ac ro’n i’n drist i glywed ei bod yn cau siop “Lowri” oherwydd siopau cadwyn y stryd fawr- gobeithio bod y busnes bythynnod yn ffynnu. Bachais fag cyn gadael, a rhoddodd hi lwyth o fagiau papur Lowriaidd i mi leinio fy nroriau! Heb fod yn Llanymynech ers tro i ymweld a bedd Taid Pant a Mamgu – bydd rhaid dychwelyd i fwynder Maldwyn yn fuan. Cofion cynnes xxx

  13. Dywedodd donna McCarthy :

    Wow Lowri, Just read all this with a combination of google translate and what I could remember from my O’level Welsh. Hope you are recovering well and that your parents are doing ok to x

    • Dywedodd lowrihafcooke :

      Diolch Donna, and go google translate! Hope to see you and Lis again soon. I’ll contact you in the near-ish future for a visit to grams with Luned – all the best with the BH photo reconstructions! Thanks very much for your kindness x

  14. O Lowri! Mor hyfryd dy fod wedi cofio enwau pawb ynghanol sefyllfa allai fod gymaint mwy erchyll – gobeithio bod blogio’r profiad yn dy helpu i wella yn gorfforol a meddyliol dŵd.

    • Dywedodd lowrihafcooke :

      Diolch i ti Sioned – ti’n llygad dy le ynglyn a sgwennu fel profiad iachaol. Methu coelio’r ymateb – na’r llu o brofiadau tebyg gan bobol eraill. Arswydus – mae bywyd mor fregus. Cofion xxx

  15. Dywedodd Elin Hefin :

    Yn fy nagrau wrth ddallen hwn- mor hyfryd clywed am garedigrwydd a sirioldeb pawb.Gobeithio dy fod yn dechre gwella’n drylwyr erbyn hyn.Dyw’r ddamwain heb amaru ar dy ddawn sgrifennu’n amlwg. Pob lwc i dy rieni- mae’n gyfnod anodd,mi wn.
    Gasglon ni dipyn o arian er cof am J rhyw flwyddyn yn ôl i nawr,a’i roi i’r ambiwlans awyr. Ma nhw’n neud gwaith mor bwysig i ni yn yr ardaloedd gwledig yma.
    Cofion
    Elin

    • Dywedodd lowrihafcooke :

      Annwyl Elin, diolch o galon am gysylltu, ac am dy eiriau caredig – ro’n i’n ffodus iawn rhwng popeth ddigwyddodd, a dwi’n cryfhau pob dydd diolch byth. Bum yn meddwl llawer amdanat ti a’r teulu dros y flwyddyn ddwethaf. Alla i wir ddim pwysleisio cymaint o ddylanwad gafodd John ar fy sgrifennu – wrth iddo rannu nodiadau trylwyr ar fy adolygiadau a thraethodau coleg . Fydda i’n meddwl amdano bob tro y byddaf yn ailadrodd fy hun mewn brawddeg, cyn golygu fy hun, ac wrth geisio fod mor wreiddiol fy nweud a phosib bob tro.. Mae’n gyfnod anodd i’r teulu, ond ry ni’n ceisio bod mor gadarnhaol a phosib, ac mae cymaint o bobol yn mynd trwy’r un peth. Dymuniadau gorau i chi gyd wrth i chi wynebu penllanw’r flwyddyn gyntaf heb wr a thad annwyl. Roedd yn un o’m harwyr, ac yn fonheddwr o fri ac mae na golled enfawr ar ei ol. Cofion, Lowri X

  16. Dywedodd Sioned Webb :

    Lowri fach – dim ond wythnos dwytha oeddwn i’n dy weld di ar y teledu a chofio’r Biennale yn Fenis. Arfon hefyd yn cofio atat. Gwn am y gornel yn iawn – roeddwn i’n troi yno bob amser i fynd i ffordd Falcondale at fy nhad a mam bedydd yn y byngalows wrth ymyl. Mor falch dy fod yn ok. Digwyddodd rywbeth tebyg i mi flynyddoedd yn ol hefo fy mab bach 6 mlwydd oed yn y car ac mae o yn dal yn cofio cael ei dynnu allan pan oedd y car ar ei do. Dwinnau hefyd wedi diolch gymaint am fy mywyd. Diolch amdanat. Bydd wych. S XXX

    • Dywedodd lowrihafcooke :

      Diolch o galon am y neges Sioned – erchyll deall i ti gael profiad gwaeth byth, gan obeithio i chi’ch dau wella’n llwyr ar ol hynny. Dwed wrth Arfon mod i’n gwynebu darlun bendigedig o Arthog y tu hwnt i’r Fawddach, hoff lun Mam, sy’n gysur mawr iddi hi mor bell o Feirionnydd erbyn hyn. Llongyfarchiadau, gyda llaw, ar eich cyfraniad arbennig i Womex, roeddech chi’n dipyn o hit efo’r Cookes! Cariad mawr XXX

  17. Dywedodd garmon ceiro :

    Blogiad bach hyfryd yn diolch i bobol chware teg… Brysia wella Lowri ‘chan!

  18. Dywedodd kathryn Gwyn :

    Mor falch dy fod yn cryfhau bob dydd- ofnadwy darllen dy hanes, ond f’edmygedd o’th cryfder a’th positifrwydd yn fawr. Cymer ofal mawr, Kath ( Rhondda ‘stalwm😉 ) xx

  19. Dywedodd sharon morgan :

    Annwyl Lowri, wyt ti wedi bod trw’ uffern! Mor falch bod ti’n iawn ar ol dy brofiad erchyll! A cofia fi at dy Dad. Do’n i ddim yn sylweddoli bod e’n dost. A dy fam hefyd! Y’ch chi yn ei chanol hi! Cofion Cynnes atot ti a llawer o gariad, Sharonxxxx

  20. Dywedodd Elin Prydderch :

    Lowri! Wedi dychryn wrth ddarllen dy flog. Sioc anferthol. Falch iawn o glywed dy fod ar wella ar ol profiad hunllefus. Cofion at dy rieni hefyd, a gwellhad buan iddynt. Oes modd galw arnat wythnos nesa? Mor falch dy fod yn iawn. xxxxxxxx

  21. Dywedodd Patricia Morgan :

    Lowri, diolch byth fod ti dal i fod gyda ni. Diolch am rhanni’r brofiad da pawb. Llawer o gariad Pat xx

  22. Dywedodd Helen :

    Lowri, brysia wella, yn wir. Mor flin i glywed am dy ddamwain ond mor falch i glywed dy fod wedi cael gofal da gan yr holl bobl wnaeth dy helpu a dy fod nawr yn gwella. Balch iawn hefyd i glywed bod Ysbyty Treforys wedi edrych ar dy ôl. Cofion cynnes o Madrid i ti ac i dy holl deulu, yn enwedig dy rhieni – pob lwc gyda’i triniaethau. Helen x

  23. Dywedodd Dafydd Pritchard :

    Lowri,

    Y fi gafodd y fraint o groesawu pawb i’r Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol y noson honno. Y neges a gawsom ni oedd iti gael damwain ond fod popeth yn iawn – drannoeth y daeth hi’n amlwg nad oedd pethau mor syml a hynny. Dwi’n falch iawn dy fod yn gwella, a diolch am sgwennu;r hanes fel y gwnest ti.

    Gobeithio y cawn ni dy groesawu i’r Llyfrgell yn fuan iawn.

    • Dywedodd lowrihafcooke :

      Diolch yn fawr i ti Dafydd, roedd yn chwith iawn gen i ddeall na drosglwyddwyd y neges yn llawn. Diolch i chi gyd am y blodau hyfryd. Byddai’n bleser cael dychwelyd i’r Llyf Gen yn o fuan- yn y cyfamser, pob hwyl gyda lansiad y gyfrol x

  24. Dywedodd Mari Eluned Edwards :

    Ooo, am brofiad brawychus, falch o glywed bod ti’n ok wan. Dwinna hefyd yn ‘nabod Geraint Rhyd y Gof, ffrind da i’r teulu, dwi’n siwr bod o ddim yn flin ogwbwl am y difrod i’w dir!!!

  25. Dywedodd Kay Holder :

    Pan ddywedwyd yn noson Y Dinesydd nad oeddet ti’n gallu dod oherwydd damwain ofnadwy, roedd yn sioc ond doeddwn i ddim yn dychmygu pa mor frawychus oedd y profiad wedi bod. Ond ti wedi sgwennu’r hysbyseb gorau posibl i’r GIG a’r Ambiwlans Awyr. A’r pwysigrwydd y Gymraeg mewn argyfwng. Brysia wella, a dy rieni hefyd.

  26. Hysbysiad: Cyfeillgarwch | Lowri Haf Cooke

  27. Hysbysiad: Adolygiad Teledu: Y Gwyll (S4C) | Lowri Haf Cooke

  28. Dywedodd Richard Timothy :

    Lowri,
    Am stori anhygoel. Allai daeru fy mod i wedi bod yn y ddamwain efo ti mae dy ddisgrifiad mor real a byw!

    Mae dy ‘blog’ parthed dy ddamwain wedi dod i’m sylw yma yn Llywodraeth Cymru. Dwi yma ar secondiad ar hyn o bryd fel Uwch-Swyddog Gwybodaeth yn yr Adran Iechyd, ond dwi fel arfer yn y Gwasanaeth Ambiwlans ble rwy’n Dirprwy Reolwr Cyfathrebu Corfforaethol. Y rheswm dwi’n dweud hyn yw dy gyfeiriadau yn dy blog at y parafeddygon, eu gofal a’r ffaith fod clywed Cymraeg ganddynt yn gymaint o gysur; ac hefyd y cyfeiriadau at staff Ysbyty Treforus.

    Mae’r stori yn anhygoel gennyt a dwi mor falch dy fod yn gwella.

    Dwi wedi danfon y linc i’r blog at fy nghymdogion yn ol yn y Gwasanaeth Ambiwlans. Oes gen ti manylion cyswllt fel bod modd iddynt gysylltu a thi os ydynt am ragor o fanylion am y stori? Hynny yw, dim ond os ti’n fodlon ac yn gysurus i drafod dy brofiad wrth gwrs.

    Pob dymuniad da iti a gwellhad buan.
    Richard (Timothy) Rhif gwaith: 02920 826954. Ebost: richard.timothy1@wales.gsi.gov.uk

    • Dywedodd lowrihafcooke :

      Diolch Richard am gysylltu, a croeso cynnes i chi basio’r cofnod ymlaen. Mae pethe dal yn emosiynol iawn i mi ar hyn o bryd, ond mi fydda i’n cysylltu’n uniongyrchol a’r rheiny fu o gymorth cyn Nadolig. Mae fy manylion cyswllt ar waelod y dudalen “Amdanaf Fi”, sydd i’w ganfod ar dop y dudalen gartre – mae na groeso i bobol gysylltu a mi yn bersonol os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny. Cofion, Lowri x

  29. Hysbysiad: Merch y Ddinas yn Oslo | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s