Cyfeillgarwch

Cyrmit a Ffon Dic, Kate Woodward

(Llun gan Kate Woodward)

Hoffwn ddiolch, yn gyntaf, i bawb a gysylltodd yn dilyn y cofnod a gyhoeddais yn sgil y fy namwain car bythefnos yn ôl.  Dwi wedi fy rhyfeddu a nghyffwrdd  gan ymateb pawb, a bu’r negeseuon o gymorth wrth i mi raddol gryfhau.

Mae bron i dri mil o bobol wedi darllen fy mlogbost, ac nifer wedi estyn allan, nid yn unig i ddymuno gwellhad buan, ond i rannu eu profiadau eu hunain o drawma o’r fath.

Mae gen i brofiad helaeth o weithio ar raglenni radio a theledu go ingol, ac yn deall cymaint o gysur sydd i gael wrth rannu  a gwrando ar brofiadau dirdynnol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, ond doedd gen i ddim syniad y gallai cofnod blog gael effaith yr un mor rymus. Fy mwriad wrth sgrifennu, oedd gwneud teilyngdod â’r rhai fu o gymorth; os wnaeth unrhywbeth arall daro deuddeg â’r darllenydd, yna mae hynny’n galondid mawr.

Wedi dros wythnos o ganolbwyntio’n llwyr ar ba mor ddiolchgar a ffodus yr oeddwn, daeth y dilyw pan adawodd fy nghorff i bopeth fynd. Fe’m lloriwyd yn llwyr gan flinder mawr, wrth i nghorff weithio’n galed i ddod ato’i hun. Mae’n swnio’n rhyfedd, ond serch y dagrau, ro’n i’n falch i gael fy atgoffa fod angen stopio’n gyfangwbl; gwneud dim byd, er mwyn dechrau gwella’n llawn.

Er hynny, roedd na un gorchwyl oedd yn rhaid ei wynebu, sef gwagio’r car, sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes. Wedi trafod â’r cwmni yswiriant, bu ′nhad yn ddigon caredig i gynnig fy nhywys yr holl ffordd i Geredigion, lle ges i gyfle,  yn bur annisgwyl, i gau pennod ar gyfnod  ffurfiannol o fy mywyd.

I’r rheiny ohonoch sy’n darllen fy mlog ers ei sefydlu ar ddechrau 2012, efallai i chi sylwi ar gofnod bach digon gwirion – teyrnged o fath i ′nghar cyntaf.  Yn y cofnod hwnnw, rhestrais brofiadau di-ri ges i a’r car leim-wyrdd llachar a fedyddiwyd yn Cyrmit, oedd yn borth i ryddid fy ugeiniau a ′nhridegau cynnar.

Ni hoffwn feddwl faint o filltiroedd a dreuliais yn gyrru ′nol a mlaen ar hyd yr A470 i ymweld â nghariad cyntaf ym Mryncir a Chaernarfon. Daeth diwedd i’r berthynas, wedi blynyddoed o gynnwrf mawr – a Cyrmit yn dyst tawel i’m tor-calon.

Er iddo gael ei enwi ar ôl broga adnabyddus dros ben, o ran ei anian roedd yn debycach i gath â naw bywyd. Serch ambell i dolc – ac o leiaf un injan newydd-  mynnodd atgyfodi dro ar ôl tro.

Roedd hefyd yn gerbyd i bartïon lu, gwyliau cerddorol, eisteddfodau, ac ymweliadau â theulu a chyfeillion ledled Cymru – heb sôn am gyfarfyddiadau pur annisgwyl.

Tra’n teithio ar gyrion Garndolbenmaen un p’nawn hyfryd o wanwyn, cafodd gnoc bach gan Ceri Cunnington a’i griw, oedd yn dipyn o thrill i ffan mwya Anweledig ar y pryd. Nes ymlaen, yn 2003, collais fy mag yn Pesda Roc tra’n neidio’n lloerig i The Man Don’t Give a **** gan y Super Furry Animals. Deffrois drannoeth â diawl o benmaenmawr, heb syniad yn y byd sut i wynebu’r broga heb oriadau.  Diolch byth am y Samariaid trugarog Dyl Griff, a Bethan Morris o Sling, a ffeindiodd fy mag (ag ynddo ′ngherdyn adnabod BBC) ac a ddaeth i’r adwy ben bore.

Ond efallai mai’r cynnwrf mwyaf brofodd Cyrmit erioed oedd dod wyneb yn wyneb â’r Archdderwydd Dic Jones.  Dros benwythnos pen blwydd fy ffrind Heledd ap Gwynfor yn ddeg ar hugain  oed, a dreuliwyd mewn tîpî ar dir yr Hendre, Blaenannerch, bum yn ddigon twp â chloi drws y car a’r allweddi dal ynddo. Er mawr cywilydd i mi, daeth y Prifardd hynaws ei hun mas i helpu, cyn galw am gymorth cyntaf gan Nigel, garej Crosslyn, gerllaw.

Dic yr Hendre, Kate Woodward

(Llun gan Kate Woodward)

Yn bur annisgwyl, cafwyd tipyn o hwyl, ac roedd yn fraint  cael sgwrs a’i glywed y yn dyfynnu rhai o englynion fy Nhaid – W D Williams, a luniodd y gras o flaen bwyd, O Dad yn Deulu Dedwydd, a gadeiriwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Drenewydd, 1965, ac a fu farw ugain mlynedd yn ddiweddarach ym 1985.

Rhyfedd iawn felly oedd darganfod i’r hen Gyrmit fennu ei oes mewn canolfan ddatgymalu ceir nid nepell o’r Hendre yn Sir Aberteifi. Fe’m hysbyswyd i gychwyn mai garej yn Llanllwni a ddaeth i’r adwy, cyn y cludwyd ef i gwmni datgyweirio ceir Tanygroes.

Derbyniais neges e-bost ddechre’r wythnos, gan Eirlys Davies – chwaer Geraint Jones-Lewis, Rhyd y Gof Isaf, lle ffeindiwyd y car, a lle laniodd yr ambiwlans awyr wnaeth fy hebrwng i ysbyty Treforys – yn egluro’r hyn fyddai’n gwbl  amhosib i’r cwmni yswiriant  i’w gyfleu. Mawr yw fy niolch iddi hi a’i brawd am eu cymwynas, ac am y wybodaeth fu o gysur annisgrifiadwy;

“Roedd Geraint  wedi mynd â’r tractor i’w dynnu fyny at y ffordd i’r lori ei gludo. Cymro oedd gyrrwr y lori ac mi ddwedodd Geraint wrtho fod perchennog y car yn wyres i W D Williams, ac mi wyddai y gyrrwr yn iawn am englyn enwog dy Daid! Soniodd Geraint wrth ei weithwyr ar y fferm am yr englyn ac roedd pob un ohonynt yn cofio’r englyn wedi ei dysgu yn eu gwahanol ysgolion. Gwych ynte fod gwaddol dy Daid yn parhau.”

Ar b’nawn dydd Sadwrn, fe always i a nhad heibio garej Melfyn a Morfydd Rees Llanllwni, a symudodd y car yn wreiddiol, ac  a fu’n ddigon caredig i dynnu llawer o stwff o’r car yn dilyn glaw mawr yr wythnos flaenorol. Wrth ddiolch iddynt am eu caredigrwydd, sylwais ar boster ar y wal; fe gynhalion nhw  tractor pull wythnos yn unig cyn fy namwain – a gododd dros £1600 ar gyfer apêl elusen Ambiwlans Awyr Cymru , gwasanaeth hollbwysig yng nghefn gwlad Cymru, fel y gwn yn iawn fy hun.

Wedi diolch iddyn nhw, aethom ymlaen i gyfeiriad Tanygroes ger Aberporth, gan ffeindio Cyrmit mewn mynwent o geir, gydag arfordir Ceredigion yn gefnlen heddychlon.

Cyrmit, Tanygroes

Aeth iâs lawr fy nghefn pan welais y difrod, a chanfod gwaed wrth i mi glirio’r holl nialwch o’r car. Roedd na gerbydau eraill o gwmpas gafodd niwed gryn dipyn gwaeth – ces fy sadio ymhellach gan freuder bywyd ymysg yr adfeilion.

Bum mor ffodus i dderbyn gofal gan ddieithriaid llwyr a ffrindiau mywesol a chlywais gan gymaint o bobol dros y pythefnos diwethaf, oedd o gysur mawr. Alla i ddim pwysleisio ddigon, fodd bynnag, y cysur dderbyniais – ac rwy’n dal i dderbyn –  gan fy nheulu dedwydd, heb sôn am y ffrindiau hynny fu’n gefn i mi ar adegau heriol y flwyddyn ddiwethaf,  ac a fu’n dystion tawel i droeon bywyd o bob math.

Wrth glirio’r car a  hel pob math o atgofion, gan gynnwys y  p’nawn yng nghwmni’r hybarch archdderwydd, darganfuais gopi, llawn llwch ar lawr, o’r gyfrol Mwy o Hoff Gerddi Cymru, a meddyliais tybed oedd na gerdd ynddi gan y diweddar Dic Jones.

Mwy o Hoff Gerddi Cymru

Wrth droi at y rhestr gynnwys, ces fy nharo gan don o emosiwn wrth i mi sylweddoli beth oedd cerdd gynta’r gyfrol . Diolch yn fawr i weddw’r bardd, Siân Jones a Gwasg Gomer, am ganiatâu i mi ei dyfynnu yma, gan obeithio y cewch chithau yr un cysur o eiriau’r gerdd.

CYFAILL

Mae fy ngobeithion yn rhan ohonot,

Mae fy nioddef a’m hofnau’n eiddot,

Yn d’oriau euraid, fy malchder erot,

Yn d’oriau isel, fy ngweddi drosot,

Mae’n well byd y man lle bot, – mae deunydd

Fy holl lawenydd, fy nghyfaill, ynot.

                                                                  Dic Jones

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

2 Ymateb i Cyfeillgarwch

  1. Dywedodd Amelia Davies :

    Newydd ddarllen hwn, ac mae’r dagrau’n llifo. Diolch yn fawr i chi am rannu unwaith eto. Rwy’n sicr bydd darllen eich hanes yn ysbrydoliaeth i lawer. Dwi ddim wedi darllen eich blogiau cyn y ddamwain – yn amlwg wedi colli gwledd. Pob dymuniad da gyda’r gwellhad – fe ddaw pethe’n well yn y pen draw – dwi’n gwybod o brofiad. Ffydd gobaith cariad. Amelia xx

  2. Dywedodd Rhian Frances :

    … trio neud fy schedules yn fy nagrau fan hyn.

    Meddwl amdanat ti
    Rhian xxxxx

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s