Adolygiad Theatr: Pridd (Theatr Genedlaethol Cymru)

Pridd

Dechrau â delwedd wna Aled Jones Williams bob tro, ac ar gyfer ei ddrama ddiweddaraf,  Pridd,   fe gychwynnodd â ffigwr amwys y clown.

Rhaid cyfaddef nad wyf erioed wedi cynhesu at y cymeriad trasicomig hwn , diolch yn bennaf i addasiad ffilm deledu It gan Stephen King y profais tra’n blentyn. Yr oedd gwylio – y tu ôl i nghlustog – y stori arswyd am gyfres o ddiflaniadau plant, yn ddigon i nghreithio i am byth, diolch yn fawr.

Wrth geisio meddwl yn bositif am gynhyrchiad newydd y Theatr Genedlaethol, ceisiais lunio rhestr o enghreifftiau lle cyfranodd glowniau at fy mwynhad o gelfyddyd, ond rhestr gryno ar y naw oedd honno; goruchafiaeth gwynepsyth Bill Murray fel y lleidr banc Grimm yn Quick Change, y Motown hit The Tears of a Clown gan Smokey Robinson & The Miracles, a’r ffaith hynod i’r actores Sidse Babbett Knudsen (Birgitte yn Borgen) dreulio tair blynedd  yn astudio ‘clownyddiaeth’ fel myfyrwraig ym Mharis.

Yn anffodus, amhosib fu anghofio ffaith y darganfuais yng Nghaliffornia eleni, tra’n archwilio i hanes  yr awdur o ’Stiniog, Idwal Jones. Bu’r llenor bwyd yn llythyrru am flynyddoedd, ac yn cyfnewid rhyseitiau Spag Bol â’r clown byd-enwog Polidor, cyn i’r diddanwr golli’i bwyll yn llwyr a llofruddio’i gariad â bwyell.

Dau beth oedd o blaid Pridd, ac a’m denodd i brofi’r cynhyrchiad yn dilyn damwain digon arswydus yn ddiweddar. Yn gyntaf, perfformiad  trydanol yr actor Owen Arwyn yn Rhwng Dau Fyd (Sherman Cymru) ym mis Medi, a’r ffaith i waith diwethaf yr awdur – Anweledig (Theatr Frân Wen), yn Y Lle Celf – fy nghyffwrdd i’r byw. Mae’n werth crywbyll hefyd mod i ar ganol darllen nofel diweddaraf Aled Jones Williams, Eneidiau (Gwasg Carreg Gwalch), ar gyfer cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2014.

Y mae’r ddrama wrth-realaeth yn denu’r gwyliwr i fewn yn syth â set syml sydd yn cosi’r chwilfrydedd; ystafell fyw hynod flêr a’r ychydig gelfi a geir wedi’u gosod driphlith draphlith, a’u taenu gan gawod o bridd. Yn gefnlen i’r sefyllfa tu hwnt o swreal, y mae arwynebedd anferth o rubanau lliw arian.

Fel petai o mewn syrcas, daw Handi Al (Owen Arwyn) i ruthro i’r golwg, gan gyflwyno’i repertoire o ‘hen driciau’ i’r dorf.  Sefydlir naws o anesmwythyd o’r munudau mud cyntaf wrth i’r clown luchio gwydrau chwisgi a photeli gwirodydd gweigion  i’r awyr – a’u dal. Fel yr eglura nes ymlaen, wrth gyflwynydd teledu ei ddychymyg, ‘Fedri di ddim jyglo ’run fath hefo ‘Coca Cola’ a ‘Fanta’ a ‘Tizer’, siwr dduw. Fedri di ddim jyglo hefo plastig.’

Wedi’r cyfan, er mwyn sicrhau buddsoddiad gan y dorf, rhaid cynnig perfformiad go iawn, a herio rhywbeth sy’n rhy werthfawr i’w golli.

Daw’n amlwg yn fuan mai Al ei hun sydd ar goll, yn cuddio’n ddwfn tu ôl i haenau ei golur. Ond dyw ei  hunan-gasineb fyth ymhell o’r arwyneb; yn anffodus, ei wraig oddefgar Gwenda a’r ‘gynulleidfa bethma’ sy’n ei chael hi ganddo.

Am yr awr drydanol nesa, cawn gyflwyniad amrwd i sawl ongl afiechyd meddwl, trwy gyfrwng Cymro Cymraeg canol oed.  Trodd cyn-ffitiwr ceginau i faes adloniant plant, ‘oherwydd mod i’n licio neud i bobol grio’ . Pupurir y sgript gan gymaint o gliwiau i holl triggers y  dyn sydd yn ‘tanio blancs’ sy’n arwain at ei weithred olaf un.

Ynghyd ag amnesia’r alcoholig –  sy’n anghofio pob uniad unnos efo ‘Mam Catrin’ ‘Mam Dyfrig’ a ‘Goronwy’, ymysg eraill–  cawn gip ar symptom arall, sef  mysogynistiaeth rhonc, sy’n deillio o briodas â dynes ddeallus. ‘Dwi rioed di dy daro di, naddo?’, yw’r cwestiwn sy’n crefu cyfiawnhád, ond sy’n bradychu’r bwystfil sy’n llechu islaw.

Ceir eiliadau o dynerwch wrth i Al ail-greu ei ddawns gyntaf ef a’i wraig  ac wrth rannu tynged pob godinebwr â’r dorf.  Cymherir yr atal dweud annwyl pan wawriodd ei serch,  gyda gwireb goeth, sy’n crynhoi presennol sy’n gyforiog o gelwyddau. ‘Pam fod y gwir isho llai o eiria? A chelwydd yn ’i dodwy nhw!’

Afraid dweud, y mae Pridd yn llawn llinellau i’ch llorio , cymaint yn wir nes bachais gopi o’r sgript wych. Pentyrrir y trosiadau a thanlinellir y themau, a lleferir y cyfan yn dra llwyddiannus gan Owen Arwyn.

Yn bresenoldeb bygythiol trwy gydol y darn, mae Pridd yn cadarnhau ei statws fel perfformiwr peryglus ar lwyfan. Ond weithiau, crefais dawelwch, a rhagor o funudau mud yng nghanol y monolog – er mwyn adlewyrchu ar y geiriau dirdynnol, ac i gael gweld actor ac nid adroddwr ar adegau. Yng nghyfrol ddiweddara’r awdur, Eneidiau (Gwasg Carreg Gwalch), sylfaen sawl cyfeillgarwch yw’r penderfyniad nid i lenwi gwacter â geiriau gau , ond i ddewis bod yn ddistaw ar yr eiliad dyngedfennol.

O safle fy eisteddle ces fy hypnoteiddio’n llwyr, ond mwynheais eiliadau bychain ei ystumiau annigswyl. Achubiaeth Owen Arwyn oedd ei ymroddiad llwyr i gelfyddyd cyfrwys y consuriwr . Mor ystwyth fu ei symudiadau nes i botel wydr ddiflannu’n ddeheuig o flaen fy llygaid – ynteu ai dylanwad Derren Brownaidd a brofais?

Cyflwynwyd cynhyrchiad un-dyn caboledig, diolch i waith tîm sylweddol, dan arweiniad cadarn yr actores-gyfarwyddwraig Sara Lloyd. Ddyddiau’n unig  wedi iddi waw-io’r dorf wrth gyflwyno cymeriad  cofiadwy ar Y Gwyll, profodd y gallai gyfarwyddo  gwaith bydysawdol oedd yn gwbl deilwng o Theatr Genedlaethol.

I’r rheiny ohonoch sy’n ffieiddio wrth y syniad o ddrama wrth-naturiolaidd, llawn brygowthan Becketaidd,  gan ofyn beth sydd yn Pridd sy’n dweud rhywbeth am Gymru,? Fel yng ngweithiau eraill y dramodydd, mae iaith, a’r iaith Gymraeg yn thema ganolog. Yn wir, ceir awgrym fod seiliau’r stasis sydd wrth wraidd anwhwylder Al yn deillio’n uniongyrchol o erydiad ei famiaith.

Mae balchder yn ei atal rhag apelio am gymorth, ond ceisia’n daer i gyfathrebu’i loes wrth liniaru arswyd plant y bobol ddŵad, a fu’n dystion i’w act efo python mewn festri capel; ‘Tasa nhw’n dalld Cymraeg, ’sa nhw di dalld, oherwydd os wt ti’n dalld Cymraeg ti’n bownd o ddalld.’

Weithiau, dim ond drama abswrdaidd gan awdur  sy’n dal i ymgymryd â’i therapi ei hun, allai fynd i’r afael mor grefftus â chreisis mwyaf y Gymru gyfoes Gymraeg, a  rhywbeth sy’n rhy werthfawr i’w cholli.

Mae Pridd yn parhau ar ei thaith cenedlaethol i Neuadd JP, Bangor (Tachwedd 16eg), Galeri Caernarfon (Tachwedd 18-19eg), Neuadd Dwyfor, Pwllheli (Tachwedd 20-21ain), Morlan, Aberystwyth (Tachwedd 23ain), Canolfan Gelfyddydau Pontardawe (Tachwedd 26ain), Theatr y Gromlech, Crymych (Tachwedd 27ain), Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam (Tachwedd 29ain). Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Theatr. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s