Fi, JFK a Gareth Edwards

Texas School Book Depository

Yn gynharach eleni ces i’r cyfle i deithio i ddinas Dallas, i is-gynhyrchu rhaglen ddogfen i S4C am yr actor o Gaerdydd, Ioan Gruffudd. Ar fore fy ymadawiad, roedd gen i gwpwl o oriau rhydd, felly es i ymweld â’r Sixth Floor Museum, a leolir yn adeilad y Texas School Book Depository ger Dealey Plaza.

Ro’n i’n aros ar gyrion pella Dallas, nid nepell o’r maes awyr, ac felly bachais dacsi gan ddyn o Ethiopia ben bore Sul. Wrth basio’r gwastatiroedd gwyrddion fe ddechreuon ni gyfnewid ein argraffiadau o’r ddinas. Er i mi fwynhau BBQ bendigedig i swper y noson cynt, rhannais fy syndod â’r gyrrwr na welais i’r un Stetson am ben neb, a chlywais i mo’r acen adnabyddus yn ystod fy arhosiad chwaith. Ei ateb i hynny oedd mai prifddinas ariannol oedd Dallas, a dinas gosmopolitaidd dros ben, yn cynnwys clystyrau o gymunedau rhyngwladol erbyn hyn.

Ffermwr defaid oedd ef, ’nol yn Ethiopia, a sicrhaodd waith fel dyn tacsi yn Dallas yn dilyn newyn mawr y 1980au. Pan ofynnais, yn fy naîfrwydd dinesig, os oedd modd pori defaid ar y milltiroedd o dir ffrwythlon o’n cwmpas, chwarddodd yn braf gan ddweud mai cig eidion oedd yn teyrnasu tir Texas.

Fe gynghorodd i mi ymweld ag efeilldref Dallas, Fort Worth, os oeddwn i am brofi blas o’r Texas go-iawn.

Diolchais am ei amser wrth i ni neshau at adeiladau brics cochion rhanbarth hanesyddol y dre, sy’n prysur edwino wrth i’r nengrafwyr dyfodolaidd luosogi, a la The Day of the Triffids.  Fe ngollyngwyd i ar Elm Street, fetrau’n unig o’r man lle brofodd yr Unol Daleithiau un o’i hunllefau gwaethaf  erioed.

Ro’n i hanner awr yn gynnar cyn i’r amgueddfa agor ei drysau, ac felly ges i gyfle i archwilio Dealey Plaza ar droed . Diolch i holl atgynhyrchiadau’r  Ugeinfed Ganrif o ddienyddio JFK, gan bawb o Andy Warhol i Oliver Stone,  profiad hynod swreal oedd gwylio cerbydau cyfoes yn rhuthro heibio, dros y groes wen lle darodd yr ergyd farwol , tra’n teimlo glaswellt y ‘Grassy Knoll’ dan fy nhraed.

The Grassy Knoll

Dealey Plaza

Yr hyn a’m trywannodd i – wedi’r holl ddamcaniaethau, a’r amheuon am allu Lee Harvey Oswald i saethu  JFK o bellter, a hynny ar ei liwt ei hun – oedd pa mor agos oedd ffenest agored chweched llawr y Book Depository i’r groes wen sy’n cofebu’r dienyddiad.

JFK Monument, Dealey Plaza

Wedi ymweld â’r gofeb goncrid i’r Arlywydd gan yr artist Philip Johnson yng nghanol Deale Plaza, sy’n cynrhychioli enaid rhydd John Fitzgerald Kennedy, ymunais â’r rhes fawr o dos gant o bobol o bob oed oedd eisioes wedi ymgasglu i fyned yr arddangosfa erbyn deg y bore. Serch yr ychydig fân siarad, roedd yr awyrgylch yn brudd, a naws o barchedig goffawdwriaeth yn drwch o nghwmpas.

Cefais fy nhywys mewn lifft  i chweched llawr yr adeilad, gan dderbyn cyfarwyddiadau’r clustffonau am fy mhen. Dros yr awr nesa, profias arddangosfa aml-haenog, ddirdynnol dros ben, gyffyrddodd pob un ymwelydd mewn ffordd fydysawdol.

Yn gyntaf, rhoddwyd cyflwyniad i gyd-destun hanesyddol yr Unol Daleithiau, gan egluro’r tro ar fyd cymdeithasol fu yn sgil yr Ail Ryfel Byd – gan gynnwys tŵf yn y mudiad hawliau sifil ar y cyd â’r bytheirio a fu am y bygythiad Comiwnyddol – ac a sicrhaodd etholiad yr Arlywydd ieuengaf erioed ym 1960. Cyflwynwyd y wybodaeth mewn modd aml-gyfrwng gyda phosteri a deunydd ffilm  llawn gwybodaeth, ar y cyd ag arteffactau a sain argraffiadau haneswyr ymhleth ag atgofion pobol gyffredin o’r cyfnod.

Ymhelaethwyd ar y râs gâs fu rhwng Nixon a JFK i ennill etholiad 1960, a’r hanen o golur ar gyfer y ddadl deledu gyntaf un, a fu’n rhannol gyfrifol am fuddugoliaeth JFK o drwch blewyn. Ymhelaethwyd ar hanes y teulu o Americanwyr Gwyddelig o ddinas Boston, dan arweiniad uchelgeisiol y bootlegger craff Joe Kennedy. Rhannwyd wreiddiau siwgwrllyd y rhamant rhwng Jackie a JFK – a fu’n sylfaen gadarn i chwedloniaeth Camelot a luniwyd i leddfu galar y genedl – ond cawsom hefyd gip ar gampau’r godinebwr.

Yn fwy na dim, aethpwyd â’r ymwelydd i fanylder fforensig am hanes un diwrnod o Dachwedd yn ninas Dallas, a lwyddodd i wneud rhywfaint o synnwyr o ddigwyddiad hollol orffwyll.

Roedd na gymaint o resymau pam na ddylai JFK fod wedi ymgymyryd â thaith cyhoeddus o’r fath yn ninas Dallas ar Dachwedd yr 22ain, 1963 – cymaint, yn wir, nes bron i’r digwyddiad ei hun brofi’n gwbl anochel.

Roedd taleithiau Deheuol yr Unol Daleithiau yn ferw o deimladau cryfion yn erbyn y Boston Yankee, fisoedd yn unig wedi iddo gefnogi deddf i sicrhau pleidlais i bawb – bethbynnag eu hil – a basiwyd  yn gynharach y flwyddyn honno.

Gadawodd ffiasgo Bae’r Moch ym 1961 – pan brofodd ymosodiad ar luoedd Castro yng Nghiwba yn fethiant, ac a arweiniodd at dro pedol ym mholisi JFK at yr ynys a’i chefnogwyr Sofietaidd yn sgil Argyfwng Taflegrau Ciwba 1962  – flas cas yng nghegau gwrth-Gomiwnyddion ac alltudion o Giwba, oedd yn teimlo wedi’u bradychu’n llwyr ganddo, heb sôn am aelodau’r Maffia, fu’n gyfrifol am ‘sichrau’ ei lwyddiant etholiadol ym 1960, ac a oedd bellach yn destun erledigaeth cyfreithiol gan JFK a’i frawd Bobby.

Yn dilyn y blerwch diplomyddol, oedd yn achos o embaras mawr, sicrhaodd yr Arlywydd gyfres o ddiswyddiadau am ei gamarwain ynglyn â gallu lluoedd Castro i amddiffyn eu hunain. Ymysg yr enwau  a ddiddymwyd o’u swyddi oedd dirprwy-gyfarwyddwr y CIA, y Cadfridog Charles Cabell – neb llai na brawd i Faer dinas Dallas ar y pryd.

Yr oedd dinasyddion Dallas wedi mynegi eu dicter at y Democrat, dros y mis a ragflaenodd ei ymweliad. Wythnosau ynghynt, poerodd wrthwynebwyr i wyneb yr Is-Arlywydd Lyndon Johnson a’i wraig ‘Lady Bird’, a cafodd y Llysgennad i’r Cenhedloedd Unedig, Adlai Stevenson, ar ymweliad a’r ddinas,  ei daro ar ei ben gan ddynes leola gafael gadarn ar ei phlacard..

Am y rhesymau hyn oll, dosbarthwyd pamffledi ymysg aelodau’r dorf oedd yn ei ddisgwyl,  yn cyhuddo’r Arlywydd o deyrnfradwriaeth. Ar ben popeth, cyhoeddodd  grwp o ddynion busnes mwyaf dylanwadol y ddinas hysbyseb amlwg ym mhapur newydd y Dallas Morning News ar fore’r ymweliad, yn datgan â dicter y dylai Kennedy osgoi Dallas fel y pla.

Ymgasglodd rhai o’r dynion hynny, a’u gwragedd, ymysg y gwahoddedigion yng Nghyfnewidfa Fasnach Dallas, lle roedd yr Arlwyydd a’i wraig i giniawa am 12.30pm. Neilltuwyd tri chwarter awr i gynnal taith ddeng milltir tra hamddenol rhwng glanio ym maes awyr Love Field am 11.40am a’r Gyfnewidfa Fasnach, heibio tyrfaoedd o bobol groesawgar, gan gynnwys dau stop ‘annisgwyl’ i gyfarch rhai aelodau o’r dorf. Serch y cannoedd o fygythiadau ar ei fywyd y derbyniodd JFK dros y flwyddyn a fu, wfftiodd yr Arlywydd gyngor aelodau y wasanaeth gudd i osgoi cyfathrachu â’r cyhoedd yn llwyr, ac i deithio mewn cerbyd saffach na’r Lincoln Continental di-do.

Yr oedd yr Arlywydd  bum munud o’u cyrchfan pan drodd y car yn raddol ar gornel Houston & Elm, pan basiodd y Texas Book Depository Buliding dan gysgod dryll y Lee Harvey Oswald dichellgar uwchben.

Ry ‘ni gyd yn gwybod yr hanes –  neu yn meddwl ein bod; yn wir, onid ydym wedi wedi profi’r hanes  drosom ni ein hunain droeon, diolch i’r 26.6 eiliad o ffilm amatur a gofnodwyd gan Abraham Zapruder?  Ond ar fy ymweliad a’r amgueddfa, cefais deimlo mod i’n rhan o’r dorf , diolch i ddehongliad cwbl drylwyr o’r digwyddiadau.

Yr oedd clywed geiriau’r rheiny gafodd sgwrsio ac ysgwyd llaw â’r Arlywydd y bore hwnnw, a’r rhesymau pam ddaethon nhw i’w gefnogi, yn wyneb yr holl aniddigrwydd mawr , yn ddirdynnol tu hwnt. Yr oedd profi harddwch Jackie Kennedy yn ei siwt Chanel binc a’i  pillbox hat yn freuddwyd o brofiad i lu o ferched; roedd hi’n awen i gynifer ohonynt a’u patrymau Butterick di-ri, fel bod gweld y ddau yn y cnawd o’u blaenau,  a hynny mewn Technicolor, yn brawf byw o’r newid mawr a deimlai pawb yn eu bywydau ar y pryd.

Un diwrnod o Dachwedd yn Dallas

Mae’r cyfres o luniau a ffilm amatur amryliw a gipiwyd ar ran cynharach o’r daith – a dynnwyd gan aelodau’r dorf ar y diwrnod- yn cyfleu’r bwrlwm a’r llawenydd a brofwyd gan bawb toc cyn y digwyddiad.  Maent yn helpu i ddod â’r profiad yn gwbl fyw i ymwelwyr yr arddangosfa, ac mae’n brofiad dirdynnol gan wybod beth sydd ar droed.

Gwingwn yn llawn ing wrth ddarllen geiriau gwraig Llywydd Texas, Nellie Connally, a fu’n eistedd o flaen JFK yn y Lincoln Continental, wrth iddynt  wynebu cymal olaf eu taith; ‘Mr President, you can’t say Dallas doesn’t love you.’

Serch ein gwybodaeth, mae rhan nesa’r arddangosfa yn adlais o’r dryswch a fu, ac yn tanlinellu’r teimlad i’r byd gael ei tharo o’i hechel am eiliad neu ddwy. Twy gyfrwng cyfres o stills a gipiwyd o bob ongl,  ynghyd â fframiau du a gwyn Abraham Zapruder, a darllediad tonfedd radio yr heddlu ar y pryd,  profwn  sioc, a siom – a diffoddir ein delfrydau yn llwyr.

Y cam nesaf yw gwynebu’r gornel wydr lle saif y ‘sniper’s nest’, a ail-grewyd yn berffaith yn sgil sefydliad yr amgueddfa ym 1990. Estynnir gwahoddiad i bawb yn eu tro i sefyll nesaf at y nyth i gael dychmygu taith y dair bwled a saethwyd o reiffl Carcano 6.5mm Lee Harvey Oswald, tuag at y groes wen sy’n amlwg i’w gweld tu fas. Yr awgrym a geir yw y cawn benderfynu drosom ni ein hunain ai dyna, mewn gwirionedd, a fu.

Mae gweddill yr arddangosfa yr un mor ddiddorol, wrth archwilio hanes, a chymhelliad Lee Harvey Oswald. Ro’n i’n gwybod i’r Americanwr, a fu’n gymysg oll i gyd, gael ei ddienyddio ei hun, gan reolwr clwb nos o’r enw Jack Ruby tra’n cael ei hebrwng i garchar Dallas. Ond doedd gen i ddim syniad y cafodd ei lofruddiaeth ei gofnodi a’i ddarlledu’n fyw gan un o gamerau rhaglen deledu’r newyddiadurwr Walter Cronkite. Digwyddiad yr un mor ddychrynllyd ac anghyfiawn i’r gwyliwr, wrth osod atalnod llawn ar ganol cwestiwn mawr.

Mae’r arddangosfa yn prysuro i ddehongli a chrynhoi – mewn ffordd deallus a dealladwy-  holl ganfyddiadau yr archwiliadau a ddilynodd y dienyddiad, ac sy’n dal i daenu  cysgod dros yr Unol Daleithiau hyd heddiw.

Llwyddodd archwiliad y Comisiwn Warren, a gymerodd 10 mis rhwng 1963-64, i brofi y gweithredodd Lee Harvey Oswald ar ei liwt ei hun ac am ei resymau ei hun yn unig, ac na fu’r un cynorthwy-ydd ar gyrion y ‘Grassy Knoll’ – ond dilynwyd hynny gan gyfres o ymchwiliadau eraill. Agoriad llygaid i mi oedd darganfod, yn dilyn archwiliad gan bwyllgor dethol ar ddienyddiadau ym 1978, i wyddonwyr ymgymryd â chyfres o brofion sain yn lleoliad marwolaeth JFK, er mwyn archwilio’r holl sîon a fu am bedwaredd ergyd yn drylwyr.

Daethpwyd i’r casgliad, bryd hynny y bu i JFK farw o ganlyniad i gynllwyn ehangach, ond ni chafwyd unrhyw awgrym o pwy arall fu’n gyfrifol. Dim rhyfedd i bôl piniwn diweddar  awgrymu fod 59% o Americanwyr yn grediniol i’r Arlywydd gael ei ddienyddio gan fwy nag un person – wedi’r cyfan, y mae’r wlad yn dal i geisio dygymod ag ergyd mor hegar i’w psyche.

Fel ymwelydd i’r wlad a’r ddinas- ac arsylwraig gwrthrychol yn y bôn- ces fy nghyffwrdd i’r byw gan yr arddangosfa bwerus hon. Sicrhaodd y clustffonau brofiad personol tu hwnt, ac arsylwais lygaid llaith, a gruddiau gwlyb, gan nifer fawr o’m cyd-ymwelwyr. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn Americanwyr ar bererindod o fath – a nifer ohonynt erbyn diwedd y daith yn sefyll yn llonydd ac yn edrych allan o’r ffenestri, yn ail-brosesu ergyd fwya’i hieuenctid yn eu hamser eu hunain.

Mae’n swnio’n rhyfedd, ond fel Cymraes a fu’n rhy ifanc i brofi trychineb fel tirlithriad glofaol Aberfan, alla i ’mond cymharu’r teimlad grymus a brofias yn ystod yr arddangosfa o ddyrchafu gŵr ifanc, llawn addewid, i lefel uwch-ddynol , i’r tueddiad ymysg cenhedlaeth fy rhieni  i eilun-addoli sêr rygbi’r 70au – a Gareth Edwards yn bennaf yn eu plith.

Fel cynifer o’m cyfoedion mae’n siwr, ces fy llusgo yn fy mhram gan Mam i un o sesiynau llofnodi Gareth Edwards ar gyfoeddiad ei hunangofiant ym 1979. Bob tro y cerddais  i a fy chwiorydd lawlaw â’n gilydd heibio siop Mothercare yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant yn blant bach, bu’n rhaid oedi wrth y gofeb i Gareth ac ateb dau gwestiwn Mam: ‘Pwy ydy o?’ a ‘Be oedd o’n neud?’. A does dim modd gwylio clip o gais athrylithgar Edwards ar ran y Barbariaid yn erbyn y Crysau Duon ym 1973 yng nghartre fy rhieni heb weld llaw Dad yn llusgo deigryn yn llechwraidd o gornel ei lygaid, cyn gwrando arno ef a Mam yn crochlefain mewn llawenydd ‘Roedden ni yno!’.

Tra’n gweithio gyda BBC Radio Cymru, ’nol yn 2004, ges i’r pleser o holi perfedd Gareth Edwards am bron i deirawr o’r bron fel ymchwilydd rhifyn arbennig o Beti â’i Phobol. Braint o’r mwyaf,  gyda llaw, oedd gweithio am flynyddoedd fel ymchwilydd y raglen arbennig honno,  gan siarad am oriau maith yn holi pobol am bob agwedd o’u bywydau cyn crynhoi’r cyfan ar ffurf naratif ar gyfer y cyflwynydd  – sylfaen gadarn i unrhywun sydd â gwir ddiddorodeb mewn seicoleg pobol.

Tua diwedd ein sgwrs ddifyr, lle fu Gareth yn eithriadol o onest am ei brofiadau ef , ro’n i bron ag embaras wrth holi cwestiwn oedd o ddiddordeb mawr i mi. Gofynais iddo sut oedd modd iddo ef a’i gyd-chwaraewyr ddelio, o ddifri, ag ymateb eithafol y rhan fwyaf o’i gyd-Gymry sy’n dod ar ei draws;  sut oedd modd cadw’i draed ar y ddaear, a chadw  perspectif ar sefyllfa o’r fath?

Dychwelodd ei ymateb graslon ac ystyriol  i’m meddwl y p’nawn hwnnw yn gynharach eleni, i rannol-egluro’r teimlad oedd yn drwch o nghwmpas, bron i hanner can mlynedd wedi marwolaeth JFK.

“Y ffordd y fi’n edrych ar y sylw yw, dyw e ddim amdana i; roedden ni fel tîm yn symbol o obaith, o lewyrch ac o ddelfrydau Cymru gyfan. Pan fydd pobol yn edrych yn ôl ar hynny, ma nhw’n edrych nol ar adeg hapus iawn o’u bywyd, a ry’ ni rhywsut yn cynrhychioli holl freuddwydion eu hieuenctid. ’Na pam ’na i wastad shiglo llaw unrhywun sy’n dod lan ata i;  dyw e ddim amdana i, ma fe amdanon ni gyd, a phopeth a fu.”

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Chwaraeon, Dihangfa o'r Ddinas. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s