Rai blynyddoedd yn ôl, tra’n gweithio gyda BBC Radio Cymru, ro’n i’n gyfrifol am drefnu slot cyson o’r enw Cerdyn Post ar raglen foreuol Nia Roberts. Ro’n i ar ganol sgrifennu’r gyfrol Canllaw Bach Caerdydd yn fy amser sbâr, ac fy syniad i o ysbaid o’r anghenfil (anhygoel!) hwnnw oedd trefnu travelogues wythnosol ar y radio.
Clywais gymaint o gyfweliadau gan Gymry oddi cartre dros y blynyddoedd, ac roedd hi wastad yn ddifyr clywed am fywydau’r holl alltudion Cymreig. Ond sefydlais i’r slot er mwyn clywed am eu dinas personol nhw , a’u hargymhellion ar gyfer ymwelwyr o Gymru , er mwyn i wrandawyr yr orsaf gael eu hysbrydoli i ehangu eu gorwelion.
Trefnais sgyrsiau diddorol gyda phob math o Gymry gwych, sy’n byw ers blynyddoedd yn Nulyn, Paris a Berlin – i enwi dim ond tair prifddinas ryngwladol. Ond efallai mai’r sgwrs arhosodd gyda mi fwyaf, ac a wnaeth fy ysbrydoli i ymweld â dinas newydd sbon oedd cyfraniad gan John Elwyn Jones o Aberystwyth, sy’n byw yn Oslo ers dros ddegawd.
I fod yn deg gydag Elwyn, roedd ei dips yn rhai gwych, ond rhaid cyfaddef i mi gael fy hudo yno hefyd gan Harry Hole. Pwy medde chi, yw hwnnw? Wel fy arwr llenyddol mawr, sef prif gymeriad nofelau ditectif Jo Nesbø.
Yn gynharach eleni, penderfynais drefnu ymweliad ag Oslo tua adeg y Nadolig, gan roi digon o gyfle i mi arbed bach o arian ar gyfer un o ddinasoedd drytaf y byd.
Wedi i ni fwynhau ymweliadau Scandi-chic diweddar i Copenhagen, Stockholm a Helsinki, soniodd fy chwaer fach Lleucu y carai hi ddod gyda mi. Yr eisin ar y gacen oedd deall fod na ffasiwn beth â thaith gerdded Harry Hole – ffordd wych i geeks Jo Nesbø ymgyfarwyddo â dinas Oslo!
Yn naturiol, effeithiodd y ddamwain car a brofais ychydig dros fis yn ôl a thriniaethau canser diweddar fy rhieni yn bur annisgwyl ar y cynlluniau hyn. Ond wedi edrych mlaen cyhyd – a thalu eisioes am bob dim – penderfynais i ganolbwyntio ar wella digon i gael mynd.
Roedd ein ymweliad ag Oslo yn hyfryd dros ben, ac roedd cael cerdded yn yr awyr iâch mewn dinas mor drawiadol yn wir yn falm i’r corff a’r enaid. Dilynom nifer o argymhellion John Elwyn Jones, oedd yn berffaith ar gyfer penwythnos hir, ac a gyfranodd yn sicr at ein mwynhad o ddinas anhygoel.
Diolch yn fawr, gyda llaw am gwmni difyr fy chwaer Lleucu a gymerodd cynifer o’r lluniau gwych islaw.
Hanes Oslo
Os mai iaith y nefoedd yw’r Gymraeg, yna maes y nefoedd yw Oslo, gan fod yr enw’n deillio o’r geiriau Norseg Ås (Duw) a lo (porfa). Sefydlwyd y ddinas yn gyntaf gan y brenin Harald Hårdrada (Harald Gadarn) yn y flwyddyn 1049 O.C. a sefydlodd ei fab a’i olynydd Olav Kyrre (Olav Heddychlon) esgobaeth yno wedi hynny. Yn ystod y 13eg Ganrif, adeiladwyd castell Akerhus er mwyn amddiffyn trigolion Oslo rhag ymosodiadau cyson gan luoedd Sweden.
Cafodd y pla du, a chyfres o danau mawrion, effaith andwyol ar boblogaeth y ddinas yn ystod yr Oesoedd Canol, ac o 1397 llywyddwyd Norwy gyfan o ddinas Copenhagen yn Nenmarc. Bu bron i Oslo lithro i angof llwyr tan i’r brenin Norwyaidd Christian IV ail-gipio’r awennau ym 1627, gan ail-godi’r ddinas yn nes at amddiffynfa Akerhus, ac ail-enwi Oslo yn Christiania.
Ym 1814, lluniwyd cyfansoddiad a ailsefydlodd Christiania fel prif-ddinas Norwy, tan i Sweden ddod â’r ddwy wlad ynghyd. Daeth yr uniad hwnnw i ben ym 1905, ac ugain mlynedd yn ddiweddarach ym 1925 adferwyd enw’r brifddinas, Oslo.
Bron i hanner canrif yn ddiweddarach, ar droad y 1970au darganfuwyd olew ym Môr y Gogledd, a drawsnewidiodd economi’r wlad yn llwyr. Cyfranodd hynny’n helaeth at gyfoeth eithriadol gwladwriaeth Norwy, ac erbyn heddiw y mae Oslo yn ail yn unig i Tokyo fel dinas gyfoethoca’r byd.
Brecwast
Wedi noson dda o gwsg yn hostel chwaethus Citybox Oslo, sydd dafliad carreg o’r orsaf ganolog a’r tŷ opera byd-enwog, dechreuais i a Lleucu ein diwrnod cyntaf mewn cangen o Kaffebrenneriet – un o siopau coffi mwyaf poblogaidd y ddinas. Un o fy hoff bleserau tra’n ymweld â’r gwledydd Llychlynaidd yw gwledda ar doesion neu bestri blas cardomom neu sinamwn i frecwast gyda phaned ewynnog o Latte neu Cappuccino.
Cip ar y Ddinas
Dinas gymharol fechan yw Oslo, ag iddi ymdeimlad hamddenol braf, mewn cymhariaeth â phrifddinasoedd rhyngwladol eraill, ac felly mae modd croesi’r ddinas ar dram neu droed, a gweld cymaint mewn ychydig oriau.
Bu’r Operahuset trawiadol a naddwyd o farmor carrara gwyn , yn rhan o ymgyrch i adnewyddu dociau Bjørvika yn 2007. Lleolir yr adeilad onglog ar lannau aber yr Oslofjord, gan ddwyn delwedd o fynydd iâ i’r côf, ac mae modd dringo’r holl ffordd fyny i’r to.
Deg munud i ffwrdd ar droed y mae ardal Akerhus, a gymherir (yn hael iawn) â Bae Caerdydd, ond fersiwn cryn dipyn mwy soffistigedig. Yno, mae pob math o fwytai crand i’w canfod, a chanolfan Gwobr Heddwch Nobel. Yno hefyd, mae llongwyr yn gwerthu pob math o bysgod yn ffres o’r môr.
Ymlaen i ganol y ddinas, dafliad carreg i ffwrdd, lle mae rhodfa ragorol Karl Johans Gata yn arwain yn syth at Slottet, neu’r Palas Brenhinol, sydd ar agor i’r cyhoedd; fe’i gomisiynwyd gan y Brenin Karl III ac fe’i gwblhawyd ym 1849.
Ar y stryd fawr hon ceir rhai o siopau crandia’r ddinas, oedd yn llawn addurniadau Nadolig .
Yno yn ogystal y mae adeilad y Brifysgol, a’r Julemarked (marchnad Nadolig) flynyddol lle cawsom Elgburger a chŵn poeth cig carw gyda nionod a saws lingonberry hyfryd.
Lai na phum munud o ganol y ddinas, wrth neidio ar dram mae modd cyrraedd un o ardaloedd mwyaf cŵl dinas Oslo, sef Grünnerløkka. Fe’i lleolir yn nwyrain y ddinas, ac oddi ar barc canolog Olaf Ryes Plass ceir sawl stryd llawn caffis, bwytai a bwtics bach unigryw.
Cawsom bizza marchysgall hyfryd iawn yn Villa Paradiso, sef un o argymhellion John Elwyn Jones am ginio rhesymol.
Ar ddiwedd y 1990au, profodd yr economegydd, cyn-beldroediwr ac un o gerddorion enwoca Norwy (prif leisydd y band di Derre) Jo Nesbø lwyddiant ysgubol pan drodd ei law at sgrifennu cyfres o straeon ditectif ffuglennol.
Mae ei wrth-arwr Harry Hole yn ddyn cymhleth tu hwnt; yn dditectif disglair a chanddo dueddiadau hunan-ddinistriol, gan gynnwys gor-ddibyniaeth ar alcohol a merched deallus. Yn skinhead tal a thenau o ran pryd a gwedd, mae e gan amlaf i’w ganfod mewn crys-t Joy Division, a’i lygaid gleision golau yn go gochlyd ar brydiau. Mae ganddo alergedd eithafol i gociau wyn mewn awdurdod, sydd fel arfer yn ei weld fel gwastraff amser llwyr. Ond mae e’n archwiliwr heb ei ail, yn deall pobol yn iawn, ac yn mynnu darganfod y gwir ar draul pob dim.
Yn frodor o Oslo, mae’r nofelau’n frith o gyfeiriadau at leoliadau dinesig; testun perffaith felly am daith gerdded wahanol iawn o amgylch y ddinas.
Llwyddodd ein arweinydd, Lene, i’m hysbrydoli i ail-ddarllen y gyfres o ddeg nofel o’r cychwyn. Mor fanwl oedd ei hymchwil , roedd na gysylltiad rhwng pob cornel stryd ag anturiaethau amrywiol Ditectif Hole.
Ymysg uchafbwyntiau’r daith, cawsom gip ar gyfeiriad Harry Hole, yn rhif 5 Sofies Gata – a chyfle am lun ger ei hoff le am beint, Restaurant Schroeder.
Roedd yn ddifyr clywed Lene yn disgrifio’r parch sydd gan bobol Oslo at yr awdur diymhongar, sy’n sgrifennu bob dydd yn ei gangen lleol o Kaffebrenneriet. Yr hyn sydd yn ddifyr am ei waith yw ei ymdrech di-flino i ddatguddio’r tywyllwch cudd sy’n llechu wrth wraidd cymdeithas mor flaengar â Norwy. Mae effeithiau’r Ail Ryfel byd yn dal i daenu cysgodion dros y gymdeithas, oherwydd y berthynas amwys fu rhwng Norwy a’r Natsîaid.
Yr oedd hefyd yn ddiddorol clywed hanes Lene, sy’n gyn-economegydd ei hun, a’i hargrafffiadau personol hi o ddinas ei magwraeth. Wrth basio’r ardal ganolog a fomiwyd gan Anders Breivik yng Nghorffennaf 2011, cyn iddo achosi’r fath gyflafan ar Ynys Utøya – lle saethodd 77 o bobol ifanc yn farw- cawsom fyned y llysoedd barn lle cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes. Mae cymdeithas eangfrydig Norwy yn ceisio’i gorau i ddeall y fath drais, ond yn ôl Lene, mae pawb yn dal mewn sioc, ac yn methu uniaethu o gwbl â’r fath falais.
Yn hynny o beth, mae nofelau Jo Nesbø yn mynnu codi’r llen ar wirioneddau tywyll un o ddinasoedd “hapusa’r” byd.
Barn Lene ei hun oedd fod Norwy wedi newid cryn dipyn ers ei phlentyndod hi; fod na bwyslais cynyddol ar hunanoldeb ac ariangarwch, ac fod pobol gryn dipyn mwy anfoesgar nawr nag y buont flynyddoedd yn ôl. Mae ganddi hi, fel cynifer o Norwyaid eraill, le i enaid gael llonydd – caban gwledig i gael cysylltu â natur, heb drydan na dŵr. Wrth i’r wlad dyfu mewn cyfoeth, collwyd y cysylltiad allweddol hynny â’r tir a’r môr, sydd mor greiddiol i’r diwylliant Llychlynaidd.
Roedd yn bleser treulio dwyawr yn ei chwmni hi a Harry Hole, a chael cip ar yr Oslo wahanol sy’n llechu dan yr wyneb.
Alla i ddim canmol cyfres Harry Hole ddigon – mae’r nofelau’n ddarllenadwy iawn, gyda straeon aml-haenog sy’n cydio o’r cychwyn cyntaf.
Tra roedd trwyn Lleucu yn sownd yn y wythfed nofel Harry Hole, sef The Leopard, bachais ar y cyfle tra y Oslo i brynu’r nofel ddiweddaraf i gael ei chyfieithu i’r Saesneg – a’r ail yn y gyfres – chwip o antur gynnar gyda Harry Hole yn Bangkok, sef Cockroaches.
Os rhywbeth mae’r llyfrau hyn hyd yn oed yn dywyllach na thrioleg Millenium ardderchog Stieg Larsson o Sweden (sy’n dechrau gyda The Girl With the Dragon Tattoo), ac mae Harry Hole yn cystadlu ag arwr Henning Mankell, Kurt Wallander, am deitl y ditectif mwyaf dirfodaethol fuodd erioed.
A sôn am brofiadau dirfodol…
Y Sgrech gan Edvard Much
Un o brif argymhellion John Elwyn Jones oedd ymweliad â’r Oriel Gelf Genedlaethol, lle mae darlun mynegiannol adnabyddus The Scream yn llechu ers tro. Os mai Jo Nesbø yw awdur y foment, wrth godi creithiau cymdeithas Norwy a chynnig drych i’w rhagrith rhonc , roedd Edvard Munch yn ragflaenydd celfyddydol – fel Henrik Ibsen ym myd y theatr – dros ganrif yn ôl.
Der Schrei der Natur, neu Sgrech Natur, yw’r teitl gwreiddiol ar bedwar argraffiad Much o’r darlun eiconig hwn a grewyd ym 1893, ac mae’n cyfleu argyfwng oesol dyn i’r dim – diolch i Lleucu am fodelu hyn yn berffaith…
Syrpreis pleserus iawn oedd darganfod mai dim ond 50 Krone (tua pumpunt) oedd y pris mynediad i gael darganfod rhai o drysorau’r oriel gelf genedlaethol. Fel yn achos oriel y Chwiorydd Davies yn Oriel Genedlaethol Caerdydd, ceir yno weithiau trawiadol gan artistiaid argraffiadol ac ôl-argraffiadol y 19eg Ganrif, gan gynnwys Paul Cezanne, Claude Monet a Vincent Van Gogh .
Ond pleser o’r mwyaf oedd cael edmygu gweithiau gwych gan artistiaid cynhenid i Norwy; Christian Krohg, Bjarne Engebret a Ludvig Karsten, ymysg eraill.
Mae’r modd y cyflwynir y cyfan, ar waliau o wahanol liwiau ym mhob un oriel, yn cynnig gwefr ychwanegol, a hwb eithriadol i’r enaid.
Holmenkollen
Wedi sawru awen ysgubol yr oriel gelf genedlaethol roedd hi’n amser am ddihangfa bach dros dro, gan neidio ar y metro i gael chwa o awyr iâch. Un o eiconau amlycaf prifddinas Norwy yw naid sgio Hollmenkollbakken, sydd i’w gweld yn glir uwch awyrlun Oslo yn ardal Hollmenkollen.
Ers 1892, cynhelir cystadlaethau lleol a rhyngwladol yn y gamp ryfeddol hon, lle mae modd gweld unigolion yn hyrddio lawr y bryn ar gyflymder rhyfeddol, cyn esgyn i’r awyr, sythu eu cyrff a hedfan am gryn bellter am brofiad cwbl trosgynnol.
Andreas Kofler o Norwy sy’n hawlio’r record swyddogol ar hyn o bryd, wedi iddo esgyn i’r awyr am bellter o 141 metr.
Ag ystyried angerdd y Norwyaid at y gamp eithafol o oedran cynnar iawn, pwy ar wyneb y ddaear fyddai’n breuddwydio lluchio eu plentyn lawr y bryn? Galle’r Norwyaid ofyn yr un peth, mae’n debyg, am ddanfon Cymro ar ei brifiant i ardal y dacl!
O frig y naid-eira, mae modd sawru golygfa wefreiddiol o Oslo a’i hynysoedd islaw, ac ar lawr gwaelod y ganolfan y mae amgueddfa ddiddorol am hanes sgio, a thaith Amundsen a’i griw i Begwn y Gogledd – a’r hanes trist am ei brif gystadleuydd Capten Scott a’i griw a fu farw yno wedi gadael Caerdydd.
Wedi crafu arwyneb Oslo, a phrofi cymaint o ryfeddodau, a phenderfynu fod yn rhaid dod ‘nol i ddarganfod rhagor yn fuan iawn, roedd hi’n bryd am sgwrs gyda’r dyn ei hun – nid Harry Hole, ond John Jones, Aberystwyth. JJ i’w gydnabod yn Oslo, Cochyn i’w ffrindiau adre, ac Elwyn i’w deulu, ac ymwelwyr Cymraeg o Gymru!
Wed hyfforddi fel nyrs, ac yn dilyn wyth mlynedd yn gweithio ym maes sgîo yr Eidal, denwyd Elwyn i Oslo gan gariad, ac yno mae e’n byw ers dros ddegawd, fel tad sengl bellach ond rhiant hynod falch i’w ferch fach sy’n ddeuddeg mlwydd oed. Bu’n reolwr ar holl ganghennau siop goffi Kaffebrenneriet gan lywio’r cwmni i lwyddiant mawr, tan iddo gael ei headhuntio yn gynharach eleni gan gwmni tra chwaethus Åpent Bakeri.
Cysylltais ag ef ar ein bore cyntaf ni yno, gyda’r bwriad o brynu coffi bach cyflym i ddyn mor eithriadol o brysur, er mwyn diolch iddo am ei holl argymhellion gwych. Atebodd ei ffôn ar unwaith, ac er ei fod yn dychwelyd i Gymru drannoeth ar gyfer y gêm rygbi rhwng Cymru ac Awstralia, estynodd wahoddiad i mi a Lleucu ymuno ag ef yn y gangen wreiddiol o Åpent Bakeri ger y Palas Brenhinol.
Sôn am gaffi nefolaidd, llawn arogleuon gwych o holl gynnyrch blasus y becws, gan gynnwys fy hoff ddanteithyn â phaned, Kardemommeflette.
Eglurodd fod perchnogion y cwmni yn awyddus i ddatblygu eu cwmni bychan yn gwbl organig, a’u bod nhw’n chwilio i esblygu’n raddol i feysydd eraill, ond heb golli’u gweledigaeth greiddiol, sy’n seiliedig ar gydwybod cymdeithasol gref.
Yn hynny o beth, cyflwynodd Elwyn , sy’n Brif-Reolwr Gweithredol y cwmni, y syniad o gynnig becws gyda choffi gorau Oslo, yn ogystal â chynnyrch tymhorol – fel bisgedi sinsir Nadoligaidd wedi’u pecynnu’n bert – a chynllun cyfewid gyda becws yn Haiti.
Cawsom bowlenaid yr un ganddo o gawl tymhorol, a rhaid dweud, dwi erioed wedi sawru’r fath hyfrydbeth i ginio; cawl moron a choriander gyda blas cyfoethog oren a tsili, gyda’r bara surdoes mwya blasus i mi brofi ers tro byd. Wedi hanner awr dda yn ei gwmni, cynigodd ein bod ni’n dod am wibdaith rownd Oslo ag ef, gan arwain at brynhawn a noson arbennig o dda.
Wrth ddeall ein bod yn ffans mawr o nofelau ei gyfaill Jo Nesbø, aeth e â ni i’w hen gangen Kaffebrenneriet, lle fydd yr awdur yn sgrifennu ar ei liniadur bob dydd. Er nad oedd e na pan gyrhaeddom, cawson baned arbennig o goffi a llun go gawslyd ger hoff fwrdd ein awdur hoff!
Yna, cawson ein gwibio i fwyty led-newydd y cwmni Åpent Bakeri, sef Tranen; lleolwyd y gofod hardd mewn ardal sy’n profi adfywiad ar hyn o bryd, a hynny ar lawr gaelod un o crackhouses mwyaf drwg-enwog dinas Oslo. Tan yn ddiweddar iawn, bu’r adeilad hynafol, sy’n dyddio o 1921, yn dafarn dywyll oedd wedi hen fynd i’r gwellt, a derbyniodd adfywiad hynod chwaethus ar droad y flwyddyn.
Mae’r wladwriaeth yn gyfrifol am ofalu am y ganolfan uwchben, sy’n hafan i’r rheiny sy’n gaeth i alcohol a chyffuriau, ac yn darparu swyddogion a chamerau diogelwch i sicrhau fod pawb yn ddiogel. Nid mater o gefnu ar y trueniaid, neu eu gorfodi nhw allan o’u cartref, yw’r syniad o agor un o fwytai gorau Oslo yn y lleoliad dwyreiniol hwn, ond ceisio creu hwb i ddenu rhagor o fusnesau a mentrau cymdeithasol i agor yn lleol.
Aeth Elwyn â ni i fyny’r grisiau gan ddenu’n sylw at holl fanylion cynllunio’r gofod eang, sy’n cynnwys ffenestri o’r llawr i’r nenfwd sy’n gwynebu prysurdeb Alexander Kiellands Plass tu fas. Cawsom ein tywys i ystafell ddirgel, sy’n gartref i bar speakeasy mwyaf cŵl dinas Oslo, Morgenstierne, ac yno cawsom sawl coctel gan y dewin diodydd Benjamin.
Yna, a hithe’n neshau at cwech o’r gloch, mynnodd Elwyn ein bod yn brofi bwydlen Tranen, sy’n cyfuno seigiau traddodiadol o Norwy wedi’u paratoi mewn dull Ffrengig cyfoes – afraid dweud, dyma oedd y swper gorau i mi brofi ar fy ymweliad ag Oslo .
Yn hytrach nag archebu dau brif saig, awgrymodd Elwyn y dyliem archebu sawl platiad bach – ffordd wych o brofi amrediad o seigiau lleol a thymhorol.
Cyflwynwyd darnau o gig carw sawrus gyda chaws a saws lingonberry – y gravet hjort – ond rhaid dweud mai fy ffefryn o bell ffordd oedd y rakfisk, sef brithyll amrwd wedi’i eplesu’n naturiol yn ei sudd ei hun, a’i weini ar y cyd â thatws a salad ysgafn. Roedd y cyfuniad o’r cig cyfoethog, chwerw – a doddodd fel breuddwyd ar fy nhafod – gyda’r salad hufennog yn bleser pur annisgwyl, ac yn flas hollol newydd i mi.
I orffen y pryd, a lenwodd ein boliau, archebodd Elwyn goffi’r carte ar ein cyfer, a gyflynwyd â darnau bychain o siocled Valrhona; comisiwynwyd y melysion yn arbennig gan y cwmni i ddyfnhau ein pleser o’r baned fendigedig.
Dyma Elwyn yn cymharu’r siocled coco 67% a chyffuriau’r gyfres Breaking Bad; rhaid dweud, rwy’n dal i sawru’r blas caramel melys hyd heddiw!
Ro’n i’n credu mod i’n boncyrs am fwyd a diod, ond dwi erioed wedi cwrdd â Chymro Cymraeg sydd mor angerddol a gwybodus am goffi da. Roedd hi’n bleser cael cwmni mor ddifyr, a hael gyda’i amser. Yn nturiol, ry’ ni wedi pwysleisio wrtho’r angen am gangen o’r cwmni hyfryd hwn yng Nghaerdydd. Gwyliwch y gofod, a cofiwch yr enw John Elwyn Jones, da chi!
Os am ddarllen adolygiad cyflawn o’r pryd bwyd bendigedig hwn, croeso cynnes i chi glicio yma i gael darllen fy nghyfraniad cyntaf i wefan Trip Advisor.
Ymwelais a Oslo haf y llynedd. Mae’n atgoffa fi o sut le gall Caerdydd fod, gan y byswn yn dweud bod tebygrwydd o ran maint a llefydd gwyrdd agored.
Cytuno efo ti Huw!
Hysbysiad: Adolygiad Teledu: The Bridge (BBC4) | Lowri Haf Cooke
Hysbysiad: Hygge | Lowri Haf Cooke