Gwobrau’r Cookies – Ffilmiau Gorau 2013

Estynnwch am eich escort a gafaelwch yn dynn – a gweddïwch y bydd chwistrelliadau Botox eich ceseiliau’n para trwy’r nos. Mae’n amser am ecstrafagansa fwya’r byd ffilm, Gwobrau’r Cookies, yn fyw o ddinas Caerdydd!

Cawsom wledd, yn wir, yn y sinema yn 2013 – cymaint, a dweud y gwir, nes i mi orfod ehangu fy neg uchaf. Dim ond pedair ffilm hawliodd 5 Cookie* gen i eleni, ond wrth wibio yn ol trwy fy holl adolygiadau , cefais fy atgoffa i mi weld llwyth o ffilmiau gwych.

Islaw, ceir rhestr gronolegol o’r ffilmiau hynny a hawliodd 4 Cookie neu fwy* – a chrynodeb o fy ymateb i bob un. Os hoffech ddarllen ymhellach, yna cliciwch ar enw’r ffilm, a cewch fwynhau yr adolygiadau llawn.

Mae’n wir na welais i bob ffilm a ryddhawyd ym Mhrydain eleni, ond mae’r rhestr isod yn cynrhychioli ystod o gynyrchiadau gwahanol sydd – yn fy marn i – yn werth eu gweld . Mae rhai o enillwyr mawr tymor gwobrau 2014 eto i gael ei rhyddhau yma ym Mhrydain; y mae’r wythnosau nesaf yn yn gaddo Cookies galôr, ac edrychaf ymlaen i gael rhannu fy marn yma ar y blog, ac ar BBC Radio Cymru ac S4C.

Ystyriais, yn ogystal, lunio rhestr o ffilmiau gwaetha’r flwyddyn, ond ma bywyd yn rhy fyr i wastraffu amser ar y tyrcwn hynny; os am bleser masochistaidd, croeso i chi glicio ar yr adolygiadau, ond digon yw dweud na welwch chi To The Wonder, The Guilt Trip, na’r erchyllbeth One Chance ar gyfyl y restr isod!

Afraid dweud, mae James Corden yn barred o’r after-after-party…

Co ni off!

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf.

Django Unchained (18) 

Django Unchained

Treisgar, gwaedlyd, a gwleidyddol anghywir; dyna dri ffordd o ddisgrifio Django Unchained– ond mae hefyd yn ffilm wefreiddiol. Fel yn achos ffilmiau eraill gan Quentin Tarantino, dyma antur anachronistaidd sy’n epig ei sgôp, sy’n mynnu gwyrdroi ein disgwyliadau o’r genre; yma, y Spaghetti Western sy’n derbyn y driniaeth. Ceir ynddi haenau hynod, straeon di-ri, trac sain sy’n croesi hip-hop cyfoes ac Ennio Moriccone – a thro newydd ar chwedl Almaenig. Serch ei hyd rhyfeddol- mae bron yn deirawr o ffilm- does dim cicio sodlau cyn sefydlu’r brif stori. Yn wir, prin grwydrodd fy meddwl yn ystod y ffilm- hoeliwyd fy sylw o’r cychwyn cyntaf. Os am ddrama afaelgar a difyr tu hwnt sy’n cynnig adloniant o’r radd flaenaf,  gair o gyngor; rhowch gynnig ar Django.

The Sessions (15)

The Sessions

Perfformiad anhygoel gan yr actor Americanaidd John Hawkes (Deadwood, Winter’s Bone), a ddylai fod wedi cipio Oscar iddo, yn fy marn i. Mae’r ffilm yn dilyn ymdrechion un dyn i ganfod rhyddid llwyr tra’n gaeth i’w gorff ei hun.Y pwnc dan sylw yw anabledd a rhyw, a’r broblem yw fod y prif gymeriad, Mark, dal yn wyryf yn ei dridegau. Yn llawn chwilfrydedd i ddarganfod mwy, caiff gymorth gan ei offeiriad, ac ymhen dim, mae e wedi cytuno i chwe sesiwn dwys â therapydd rhyw o’r enw Cheryl (Helen Hunt). Rhaid pwysleisio fod The Sessions, ar adegau, yn ffilm ddoniol iawn, ond nid The 40 Year Old Virgin gan Judd Apatow a’i griw mohoni. Mae’n ffilm amrwd ac annwyl, dirdynnol tu hwnt, sy’n cynnwys perfformiadau perffaith gan y ddau brif actor. Mewn cymhariaeth â Les Miserábles, mae The Sessions yn ffilm fechan iawn, ond mae hi’n cynnwys cymaint mwy o emosiwn na’r bolgi barus hwnnw sy’n mynnu dagrau di-sail gan ei gwylwyr niferus. Nid fod hynny’n awgrymu fod The Sessions yn nawddoglyd wrth drin person anabl- na, dim byd o’r fath; mae hi’n ffilm sydd yn cynnig dathliad o fywyd.

Robot and Frank (12)

Robot & Frank

Cês fy swyno’n llwyr gan gyfeillgarwch Robot a Frank, a hynny’n bur annisgwyl. Serch y testun gwyddonias dyma ffilm ddynol iawn am ddal gafael mewn byd hynod ddryslyd. Mae’r ffilm wedi’i gosod yn y dyfodol lled-agos lle mae robotiaid yn bresenoldebau cyffredin. Y mae’r robot dan sylw yn rhodd gan fab i’w dad anghofus, sy’n arddangos arwyddion cyntaf dementia. Mae’r ffilm ddifyr hon yn cynnig  llawer iawn mwy na bramant rhwng hen ddyn a pheiriant. Mae’n farwnad hardd i fywyd a fu, ac mae na droad torcalonnus yn ei chynffon. Mae Robot & Frank yn wahanol iawn i Amour, a gipiodd wobrau lu am ei thriniaeth gelfydd o dementia. Mae hi’n debycach o ran naws i’r cynyrchiadau Eternal Sunshine of the Spotless Mind a Moon. Ond yn union fel Amour, mae’n cynnig perfformiad wych gan actor yn ei oed a’i amser, sef Robert Langella. Cydbwysir y testun dirdynnol â sgript hynod ffraeth, i greu ffilm sy’n benderfynol o aros yn y côf.

Stoker (18)

Stoker

Ffilm wreiddiol o rywiol, synhwyrus tu hwnt yw Stoker gan Chan-wook Park o Dde Corea. Ceir testun dadeuol ac awyrgylch afreal, sy’n eich denu chi fewn o’r cychwyn. Mae arwres y ffilm,  yn ferch deunaw mlwydd oed, ac un peth sy’n sicr; dyw India (Mia Wasikowska) ddim fel merched eraill. Nid fampir mohoni, na seicig chwaith, ond mae hi’n medru synhwyro’r hyn nad yw eraill yn gweld na chlywed. Nid merch gyffredin mo India, a nid ffilm gyffredin mo Stoker chwaith- mae popeth amdani’n wyrdroedig o brydferth. Gellid ei chymharu â’r clasur iasoer  Carrie, neu ffilm gan David Lynch, ond y gwir yw fod Stoker yn gwbl unigryw. Mae iddi naws arbennig, a sglein hynod iawn sy’n ffrwyth llafur eithriadol o gelfydd. Mae’r Awstraliad ifanc Mia Wasowskia (Alice in Wonderland, Jane Eyre), sy’n portreadu India, wedi dod yn dipyn o arbenigwraig wrth bortreadu misffits breuddwydiol o brydferth. Yma, mae hi’n chwarae merch arall ar drothwy ei deffroad rhywiol, a coeliwch chi fi, welsoch chi erioed y fath ddeuawd piano yn eich byw na honno sydd i’w phrofi yn Stoker. Mae nwyd niweidiol ei ffantasiau tywyll iawn yn tasgu oddi ar y sgrîn fawr, diolch i berfformiad ysgubol Wasowskia.

Compliance (15)

Compliance

Does dim sgrechian na golygfeydd o drais a gwaed yn perthyn i’r ffilm hon, ac eto dyma un o’r ffilmiau mwyaf arswydus i mi ei phrofi ers peth amser. Yr hyn sy’n gwneud y ffilm yn wirioneddol ych-a-fi yw’r ffaith fod yr hanes hynod yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn. Am gyfnod o ddegawd o ganol y Nawdegau ymlaen, plagiwyd bwytai tec-awe ledled yr Unol Daleithiau gan alwadau pranc hynod sinistr, a dinistriwyd bwyydau di-ri’. Wrth i’r stori ddatblygu, mae’r anesmwythyd yn dyfnhau; fel gwyliwr mae’n anodd credu y gall y bobol gyffredin hyn syrthio am ffasiwn sgam. Ond hedyn y cyfan yw cyfres o arbrofion seicolegol a sefydlwyd ym 1960, a brofodd pa mor wasaidd yw pobol i’r cysyniad o awdurdod. Mae Compliance yn wahanol iawn i bob ffilm arall sydd yn y sinema ar hyn o bryd; ar y naill llaw, mae’n cynnig y cyfle i ni ryfeddu wrth dwpdra ein cyd-ddyn. Ond wrth i’r hunllef ddatblygu, ry ni’n holi ein hunain beth fydden ni wedi gwneud dan union yr un amodau. Mae’r diweddglo’n un amwys, sy’n adlewyrchu’r hanes go iawn, sy’n ein gadael ni’n llawn cwestiynau. Nid drwg o beth mo hynny, ac rwy’n eich annog chi gyd i brofi ffilm sy’n datgelu ochr dywyll gwareiddiad.

Love is All You Need (15)

Love Is All You Need

Os ydych chi’n dymuno gweld rom-com aeddfed, chwerwfelys o hardd, mynnwch gip ar Love is All You Need o Ddenmarc. Mae hi’n ffilm a gynhyrchwyd yn yr iaith Ddaneg ac a osodwyd ar arfordir Amalfi yr Eidal sy’n cynnwys cyfraniadau Saesneg gan Pierce Brosnan. Sôn am wers i ni Gymry, ynglyn â chynhyrchu ffilm aml-ieithog; mae’r cyfan yn cyd-blethu’n gwbl naturiol. Mae Pierce Brosnan yn chwarae tad i’r priodfab sy’n cynnal y wledd yn yr Eidal, ac sy’n profi cariad annisgwyl yn hwyrach mewn bywyd. Gwrthrych ei serch yw Ida (Trina Dryholm), sef mam y briodferch; gwraig hyn sy’n trin gwallt wrth ei gwaith. Mae hi newydd gwblhau ei chwrs diweddara o gemotherapi dwys, a dilynwn ei deffroad hithau mewn ffordd hynod ddirdynnol. Fiw i mi ddweud rhagor- ond cerwch i’w gweld; mae hi’n ffilm dyner, deimladwy, a digri tu hwnt  sy’n denu perfformiadau arbennig gan bawb.

The Great Gatsby (12)

The Great Gatsby

Mae na un gyfrol fawr rwy’n ei hail-ddarllen yn flynyddol fyth ers canol fy arddegau; The Great Gatsby gan F.Scott Fitzgerald yw honno. Gyda threigl amser, wrth i mi fyw a bod,  rwy’n canfod ynddi haenau dwysach o wirioneddau mawr  bywyd. Dwi’n eithriadol o falch i gyhoeddi i’r byd fod The Great Gatsby Baz Luhrmann yn gynhyrchiad ardderchog, sy’n cydio yn ysbryd y llyfr yn llwyr. Mae’n wir fod ganddi ddiweddglo gwahanol i’r gyfrol, a dyw hi ddim yn gwbl driw bob tro. Ond yno, ar y sgrîn fawr yn ei holl ysblander, y mae’r gyfrol rwy’n ei charu, ac mae gan ei neges oesol ddigon i ddweud am ein diwylliant cyfoes ni heddiw ag am fywyd bron i ganrif yn ôl. Mae Leonardo DiCaprio yn ysblenydd fel y cawr ar y cyrion sydd yn awchu am adlais o’i orffennol. Mae ei harddwch bachgennaidd wedi hen ddwyn ffrwyth; dyma actor mawr sy’n benthyg sylwedd i’r ystum lleiaf. Mae Baz Luhrmann yn arwain y ddawns rhwng Gatsby a’r gynulleidfa fel coreograffydd o fri . Mae hi dri chwarter awr tan y cawn gyfarfod â’r dyn fu mond yn sî danteithiol tan hynny. Mae’r ennyd wefreiddiol y gwelwn ni DiCaprio fel Jay Gatsby am y tro cyntaf i gyfeiliant Rhapsody in Blue yn foment euraidd yn hanes y sinema. Mae modd meddwi’n llwyr ar fanylion y ffilm- mae hi’n loddest fawreddog sy’n adwaith braf i flocbysters cartwnaidd yr haf. Mae hefyd yn reswm pellach i estyn am eich sbectolau 3D , gan gynnig mwy na gofodlwch ac asteroids i lenwi’r llygaid. Ces fy nghynhyrfu, fy nghyfareddu a nghyffwrdd i’r byw gan ddehongliad Baz Luhrmann o nofel fawr Fitzgerald . Yn wyneb pob beirniadaeth hallt, ac adolygiad calon-galed, mae ei Gatsby ef yn hawlio’r golau gwyrdd gen i.

The Stone Roses – Made of Stone (15)

The Stone Roses Made of Stone

I am the Resurrection, Fools Gold, I Wanna Be Adored; yw teitlau’r caneuon hyn y golygu unrhywbeth i chi? Yn fy arddegau cynnar ar ddechrau’r Nawdegau, doedd na neb gwell na The Stone Roses yn fy marn i- ac os ydw i’n onest, dwi dal i deimlo ′run fath. Roedd na gynnwrf aruthrol yn 2011 pan gyhoeddwyd fod y band am ail-ffurfio, er mwyn cynnal cyfres o gyngherddau anferthol yn Heaton Park. Yno i’w dilyn ar hyd y daith oedd Shane Meadows (This is England) i gofnodi’r achlysur mewn steil. Mae ei ffilm , The Stone Roses: Made of Stone, yn cynrhychioli llythyr serch i i’w hoff fand erioed. Mae e’n cynnwys ei hun yn y ffilm yn blwmp ac yn blaen, fel ffan enfawr, reit annwyl, sy methu coelio’i lwc-  gan adleisio crysh gan ferch swil yn ei harddegau. Yn wir, yr hyn sy’n ddiddorol am y ffilm hyfryd hon, yw penderfyniad Meadows i ganolbwyntio cymaint ar ymateb y dorf ag i’r pedwarawd afeithius o gyrion Manceinion. I ffan o’r band, mae’r eiliadau bach personol hyn yn golygu popeth, gan egluro’r wên lydan oedd ar fy wyneb trwy gydol y ffilm- pan nad oeddwn yn cyd-ganu â’r pedwarawd. Mae’r strwythur yn un syml, dilyn y paratadau wna Meadows cyn gorffen â sioe oleuadau ysgubol gigs mwya’u byw yn Heaton Park. Yn y bôn dyma rockumentary werth chweil heb falais nag agenda, sy’n rhodd i’r ffans, yn anad neb.

Behind the Candelabra (15) 

Behind The Candelabra

“Too much of a good thing is wonderful” yw’r linell sydd yn cloi Behind The Candelabra, ac mae’n cyfleu y ffilm i’r dim. Mae’r oferedd sydd i’w brofi yn ystod biopic Liberace bron y tu hwnt i ddirnadaeth, ond  mae’n cynnig agoriad llygaid go-iawn ar ffordd-o-fyw un o adlonwyr mwya’r Ugeinfed Ganrif. Y mae hefyd yn datgelu sut gafodd ei enaid-hoff-cytun ei draflyncu’n llwyr gan hynny, a’i boeri allan drachefn.Serch yr haenen drwchus o dristwch mawr, mae’r sgript yn llawn cyffyrddiadau difyr. A welsoch chi erioed y fath ddiweddglo dros-ben-llestri i olygfa angladd yn eich byw. Mae’n goblyn o ddiweddglo i drysor o ffilm, ac yn ffarwel hollol ffab i Steven Soderbergh.

Man of Steel (12)

Man of Steel

Wedi hir ymaros, dyma hi o’r diwedd- ffilm fwya’r flwyddyn, yn ddi-os. Fel cynifer o ffilmiau diweddar, gan gynnwys Skyfall, canolbwyntio ar y stori gefndirol wna Man of Steel ac mae’r ffilm ar ei hennill o ran hynny. Roedd penodi Zach Snyder yn gyfarwyddwr yn benderfyniad athrylithgar, gan ychwanegu dôs pellach o hygrededd i’r cyfan. Neidio y mae’r ffilm ′nol a mlaen rhwng dyddiau ei blentyndod, a chyfnod o encil fel dyn ifanc sy’n gymysg oll i gyd. Profais y ffilm ardderchog hon mewn dangosiad cyffredin, ond coeliwch chi fi, fydda i’n dychwelyd i’w gweld hi am yr eilwaith gyda fy sbectolau 3D. Mae’r effeithiau arbennig yn anhygoel mewn mannau- yn enwedig ar y blaned Krypton. Mae gweledigaeth  uwch-real Zack Snyder (Watchmen, 300) i’w brofi ar hyd y ffilm, ac yn fy marn i, mae’n rhagori ar Marvel’s Avengers Assemble. Mae Heny Cavill, o ynys Jersey, yn hynod wyliadwy fel Clark Kent; afraid dweud, mae e’n hynod olygus- yn enwedig fel pysgotwr barfog!  Ond diolch i berfformiad meddylgar ac amlhaenog, sy’n datgelu natur fregus tu hwnt, cawn ddod i adnabod y dyn yn ogystal â’r dur-ddyn.

World War Z (15)

World War Z Poster

Coeliwch neu beidio ond mae maes awyr Rhws yn chwarae troad tyngedfennol y un o flocbysters mwya’r Haf. Mae World War Z yn chwip o ffilm dda sy’n dyrchafu Cymru i statws hafan ryngwladol! Mae’r ffilm yn addasiad o nofel gwlt gan Max Brooks, am bla enbyd sy’n troi pobol yn Zombies. Ro’n i ar flaen fy sedd am ran helaeth y ffilm; mae’n gynhyrchiad llawn cynnwrf a chyffro. Mae’r effeithiau 3D yn drawiadol tu hwnt, ac yn ychwanegu haenen bellach o arswyd.Adroddir y stori yn chwim, a golygir y cyfan yn dynn- does dim amser i’w wastraffu o gwbl. Bu’n rhaid i’r cynhyrchiad aberthu’r diweddglo gwreiddiol a leolwyd ar y Sgwâr Coch ym Moscow; penderfynwyd dilyn trywydd tawelach yn lle ag iddi naws glostraffobig, ac yn fy marn i, mae’r ffilm ar ei hennill yn sicr. Does gen i ddim diddordeb mewn ffilimiau arswydus fel arfer, ond mae Brad Pitt yn cynnig rheswm da i mi ail-asesu fy rhagfarnau. Daw’r actor atyniadol â phathos i’w ran, a rheswm dilys i ni gefnogi ei ymdrechion. Wedi joio’r ffilm, bachais gopi o’r gyfrol, a’i mwynhau mewn ffordd hollol wahanol. Am unwaith gellid dweud i ffilm wyro’n llwyr o’r cynllun craidd, a chynnig dehongliad amgen, sydd llawn cystal a’r gwreiddiol.

Monsters University (U)

Monsters University

Daw cyfres Monsters Inc o′r un stabal a Toy Story ac Up! – cwmni Pixar, sydd nawr yn perthyn i Disney. Yn y ffilm gyntaf un, dros ddegawd yn ôl, archwiliwyd  bywyd cudd y bwystfil, ac eglurwyd yn fras, mai sgrechfeydd plant bach sy’n cynnal byd y bwystfilod. Yn ninas Monstropolis, dargufodd dau hen ffrind fod chwerthin yn ffynhonell egni llawer cryfach. Mae James P. Sullivan- neu Sully i bawb- yn gawr o ffwr glas llachar. Ei enaid hoff cytun yw Mike Wazowski, sef pelen bach gwyrdd unllygeidiog. Aiff y dilyniant â ni nol i’w cyfarfyddiad cynta fel israddedigion yn Monsters University. Mae’r cast cynorthwyol o anghenfilod amrywiol yn un eang, a dweud y lleia. Does dim eiliad yn wastraff- bron y ceir jôc ym mhob ffrâm, a bydd yn bleser ail-wylio’r cynhyrchiad. Fel yn achos ffilmiau gorau cwmni Pixar nid moeswers arwynebol a gawn yma. Ceir archwiliad go ddwys i faes cyfeillgarwch, na welir fel arfer mewn ffilm i blant. Daw’r ddau i ddeall mai natur cyfeillgarwch yw i rannu’u gwendidau yn ogystal â dathlu’u llwyddianau.

Alan Partridge: Alpha Papa (15)

Alpha Papa

I ddilynwyr gyrfa gyfryngau’r cyflwynydd ffuglennol Alan Partridge, dyma’r hufen ar y gacen; antur gomig yng nghwmni ‘Andy McNab East Anglia’. Afraid dweud, mae Alpha Papa yn hollol hurt, ac eto’n gwbl ysbrydoledig. Bu’n fwriad am hir i adleoli Alan i America, ond mae gosod y ffilm yn Norfolk (“The Wales of the East”, chwedl Alan) yn gwbl driw i’r cymeriad. Wedi blynyddoedd fel methiant mae’n wych cael gweld Alan yn chwarae’r arwr yn ei antur gyntaf erioed. Mae na gymaint o haenau o gomedi gwych, nes bydd rhaid gweld y ffilm fwy nag unwaith i werthfawrogi’r holl fanylder. O ddychan cymdeithasol, a sylwebaeth gwrth-gyfalafol, hyd at sgets syml sy’n dangos Alan ben ei waered heb ei bants; mae’r comedi wedi’i wreiddio’n llwyr yn realaeth ei fyd, ac yn ddrych i’n diwylliant cyfoes ni.

Blue Jasmine (12)

Blue Jasmine

Mae’r ffilm hon yn dilyn Jasmine (Cate Blanchett), sydd â’i bywyd ar chwâl, wedi cyfnod fel un o wragedd cyfoethocaf Efrog Newydd. Yn dilyn carchariad ei gwr, Hal (Alec Baldwin) am ei gafflo ariannol, rhaid i Jasmine fynd i fyw at ei chwaer fach Ginger (Sally  Hawkins, Made in Dagenham, Submarine) yn San Francisco. Mae’r ffilm yn pendilio rhwng realiti newydd Jasmine, a’i bywyd blaenorol yn Efrog Newydd – lle cawn gip ar sut aeth popeth o chwith. Fel yn achos saga Bernie Madoff, a’i wraig ef Ruth, codir y cwestiwn amlwg yn aml; “Faint yn union oedd hi’n gwybod?”. Does dim gobaith darganfod yr ateb, nag uniaethu yn llwyr â hi, gan fod Jasmine ar goll mewn niwlen o Xanax a Stolichnaya. A serch ei chwymp mewn statws mae hi’n dal i siarad lawr wrth Ginger, gan geisio chwalu ei perthynas â’i dyweddi dosbarth gweithiol, Chilli (Bobby Cannavalle). Wrth ddarllen am Jasmine mewn du a gwyn, hawdd fyddai credu mai dyma un o deips cartwnaidd Woody Allen, y byddai actores arall yn ei phortreadu mewn ffordd gomig. Ond diolch i berfformiad deallus gan Cate Blanchett, cydymdeimlir â Jasmine, wrth iddi gynnig dehongliad o ddynes gafodd ei llorio’n llwyr gan ddigwyddiadau  y tu hwnt i’w rheolaeth.

Le Week-end (15)

Le Week-End

Astudiaeth chwerwfelys o realiti perthynas, ym mhrifddinas rhamant y byd; dyna a geir yn Le Week-end. Dilynwn benwythnos hir ym Mharis yng nghwmni Nick (Jim Broadbent, Clous Atlas, The Iron Lady, The Damned United)  a Meg (Lindsay Duncan, About Time), sydd yno i nodi pen blwydd eu priodas yn dri deg oed.Wrth ail-droedio llwybrau’u hieuenctid, tanlinellir eu gwahaniaethau, ond ceir awgrym cryf paham i’r briodas barháu cyhyd. Serch eu ffraeo di-ddiwedd, ceir annwyldeb aruthrol ryngthynt sydd yn gludo Nick a Meg yn dynn at ei gilydd. Ceir cydbwysedd perffaith rhwng y llon a’r lleddf yn sgript naturiolaidd Hanif Kuireshi, mewn ffilm gomedi ddirdynnol dros ben. Yn ogystal â chynnig drych i berthynas llawer un, y mae’r ffilm yn cynnig darlun hardd o ddinas Paris. Dyw Le Week-end ddim yn cynnig profiad cwbl gyffyrddus i bawb, ond bydd ei gweld yn  gam llesol a gwerthfawr iawn.

Gravity (12)

Gravity

Yn dilyn damwain car diweddar, es i ddim ar gyfyl y sinema am fis.  Roedd y ffilm gyntaf i mi phrofi wedi hynny yn un berffaith. Union flwyddyn yn ol, ar ddiwedd 2012 fe’m hysbrydolwyd i rannu’r geiriau canlynol mewn ymateb i’r ffilm 3D, Life of Pi; ” Ceir golygfeydd rhyfeddol nas ciwpiwyd erioed o’r blaen ar ffilm diolch i effeithiau sy’n dathlu mawredd natur; o ffyrnigrwydd storom enbyd hyd at lonyddwch llyn o sêr, mae’n gynhyrchiad sydd yn rhaid ei brofi yn y sinema.” Er fod Gravity yn cynrhychioli cam anferthol ymlaen, rhaid dweud fod yr un geiriau yr un mor addas flwyddyn yn ddiweddarach. A serch y ffaith fod yr antur arallfydol wedi’i gosod yn y gofod, mae hi’n ddameg sydd a’i thraed yn sownd ar y ddaear. Mae’r ffilm yn delio, yn syml iawn, gydag argyfwng ddirfodol a wynebai’r ofodwraig Dr Ryan Stone (Sandra Bullock). Ond fel yn achos cymeriad George Bailey yn It’s a Wonderful Life, cadarnheir mai dim ond hi mewn gwirionedd all achub ei hun – a bod gobaith i ni gyd, serch bob dim.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Gwobrau’r Cookies – Ffilmiau Gorau 2013

  1. Hysbysiad: Adolygiad Ffilm: The Martian (12) | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s