Uchafbwyntiau’r Theatr yng Nghymru yn 2013

Blodeuwedd

Estynnwyd gwahoddiad i mi sgwrsio â’r dramodydd Meic Povey yn Theatr Sherman Cymru, Caerdydd, ar gyfer gwerthusiad o’r Theatr yng Nghymru yn 2013, a hynny ar gyfer rifyn arbennig o raglen Pethe a ddarlledwyd ar S4C am 10pm nos Sul, Rhagfyr 29ain, 2013. Isod, y mae rhai o’r  nodiadau a baratoais o flaen llaw, yn rhannu rhai o fy uchafbwyntiau personol i o’r flwyddyn a fu.

Profwyd chwa o awyr iach ym myd y theatr yng Nghymru eleni,  a esgorodd ar fwrlwm a thrafodaeth ymysg ei beirniaid a’i charedigion. Yn wir, am y tro cyntaf erstalwm iawn  roedd mynychu’r  theatr Gymraeg y achos o gynnwrf mawr, ac yn destun water-cooler-conversation go-iawn .

Wedi i mi ddarllen yn ôl dros fy holl adolygiadau eleni, dwi’n credu fod na un peth go amlwg sy’n sefyll allan; blwyddyn y merched oedd 2013, diolch i gyfres o berfformiadau grymus gan actorion benywaidd o bob oed.

Pridd

Ag eithrio efallai perfformiadau trawiadol Owen Arwyn (uchod)  yng nghynhyrchiad gwrth-realaeth Aled Jones Williams, Pridd (Theatr Genedlaethol Cymru), a’i ran fel gŵr godinebus yn nrama gyfoes Meic Povey Man Gwyn Man Draw (oedd yn rhan o brosiect cyfarwyddwr newydd Rhwng Dau Fyd (Sherman Cymru/ Living Pictures / Theatr Gen),  gwaith disglair Ceri Murphy fel Trefor Beasley yn Dyled Eileen (Theatr Gen), a dehongliad tywyllach Emlyn Gomer o’i ŵr llywaeth yn ail-llwyfaniad Llanast! (Theatr Bara Caws), y merched holiodd fy sylw i trwy gydol y flwyddyn, a’u gwaith nhw sy’n neidio i’r cof.

Blodeuwedd

O’r seiren bengoch Morfydd Clarke yn Blodeuwedd, hyd at orchest ddwbwl Rhian Morgan yn Dyled Eileen a Tir Sir Gâr heb sôn am afiaith Siw Huws yn Myfanwy yn y Moorlands gan Sharon Morgan (fel rhan o brosiect Trwy’r Ddinas Hon, Sherman Cymru) a Manon Eames yn Wyneb Dros Dro (Cwmni Thatr 3D)  fel cougars Cymraeg. Rhaid hefyd grybwyll gywaith hyfryd Betsan Llwyd a Sara Harris Davies fel efeilliaid oedrannus yn Salt Root and Roe gan Tim Price  (Clwyd Theatr Cymru) a gwaith ensemble bendigedig merched Cyfaill / Te yn y Grug (Theatr Bara Caws) – Morfudd Hughes, Manon Wilkinson, Carys Gwilym a Fflur Medi Owen (ar y cyd a Rhodri Sion) – ond ble mae gosod perfformiad ardderchog Dafydd James fel Sue?!

Te yn y Grug

Ond efallai mai’r perfformiad sydd wedi aros gyda mi, yw un Ffion Dafis yn Anweledig (Cwmni’r Fran Wen) yn Y Lle Celf, fel y Gymraes ganol oed, ar goll yn llwyr yn nyfnderoedd ei hiselder dwys. Cafwyd bonllefau o gymeradwyaeth iddi pan brofais i’r gwaith, a saethodd pawb i’w traed yn dilyn perfformiad cwbl ysgytwol.

Anweledig Ffion Dafis gan Iestyn Hughes

(Llun gan Iestyn Hughes)

Efallai ei bod hi dal braidd yn gynnar i awgrymu fod ein theatr cenedlaethol wedi ‘dod i oed’, ond does dim amheuaeth y bu 2013 yn flwyddyn eithriadol yn hanes Theatr Genedlaethol Cymru. Ail-ddiffiniwyd nid yn unig ein disgwyliadau ni o beth yw theatr yn yr iaith Gymraeg, ond cawsom hefyd archwilio gysyniadau amrywiol o genedlaetholdeb.

Y Bont

O brofiadau theatrig, ar-leoliad, fel Y Bont (uchod) a Tir Sir Gâr, a llwyfaniad mwy traddodiadol fel Dyled Eileen, hyd at theatr corfforol, Ewropeaidd ei naws, yn achos Rhwydo/Vangst, a theatr Abswrdaidd Aled Jones Willias yn Pridd. Yn goron ar y cyfan, llwyfaniad fythgofidawy, awyr-agored o Blodeuwedd gan Saunders Lewis. Trwy’r rhain oll, fe gawsom ni edrych yn ôl, ac edrych ymlaen, ond yn bwysicach na dim, cawsom gyfle i edrych arnom  ni’n hunain.

Uchafbwynt National Theatre Wales i mi eleni, heb os nac oni bai, oedd Praxis Makes Perfect – cywaith boncyrs ond bendigedig rhwng Gruff Rhys, yr awdur Tim Price a’r cyfarwdydwr Wils Wilson.

image by farrows creative

Dwi erioed wedi profi ffasiwn beth yn fy myw, ac fe chwalwyd fy mhen yn llwyr. Cafwyd cyfuniad o  gig theatrig, lansiad albwm electro-pop, perfformiad promenâd a  sioe oleuadau, i gyd  yn crynhoi bywyd Eidalwr eithafol oedd yn ddyn o flaen ei amser; y cyhoeddwr gwleidyddol Giangiacomo Feltrinelli.

Er i’r Theatr Gen, eleni, gipio’r penawdau oddi wrth NTW, a hynny am y tro cyntaf erioed, cofiwch mai llwyddiant parhaol National Theatre Wales, a’i thueddiad i ailddiffinio’r cysyniad o theatr bob tro y bydd yn llwyfannu unrhyw ddarn o waith,  sydd yn herio cwmniau ledled Cymru, ac sydd yn rhannol gyfrifol am y  ffaith fod cynifer o gwmnîau bychain wedi rhagori eleni.

Yn fy marn i, Ffion Dafis gynigodd perfformiad gorau eleni yn lleoliad pur annisgwyl Y Lle Celf ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a’r cyffiniau; cynigodd Anweledig (Cwmni’r Fran Wen) gan Aled Jones Williams gywaith gwych rhwng awdur ac actores, ac edrychaf ymlaen i weld datblygiad pellach o’r gwaith.

Ffion Dafis Anweledig gan Iestyn Hughes

(Llun gan Iestyn Hughes)

O ran cyfanwaith, yna Blodeuwedd a gyfarwyddwyd gan Arwel Gruffydd ar ran y Theatr Genedlaethol aeth â hi i mi eleni – a hynny heb ronnyn o amheuaeth. Ges i bleser pur ger Tomen y Mur a phrofiad cwbl unigryw,  diolch yn rhannol i dywydd godidog a golygfeydd cyfareddol, ond yn bennaf diolch i ddehongliad  deallus a dealladwy o sgript Saunders Lewis, llawn llinellau o farddoniaeth gain a pherfformiadau wnaeth holeio fy sylw; yn syml iawn, ro’n i’n wen o glust i glust tan y diwedd.

Blodeuwedd

Dim ond wrth edrych yn ôl yn wrthrychol, wedi dadlau a thrafod, y gallaf gydnabod wendidau bychain y cynhyrchiad, a bydd yn ddiddorol iawn profi’r addasiad i’r llwyfan ar gyfer taith theatrig yn y flwyddyn newydd.

Ond bu’r dadlau a thrafod  am y theatr yng Nghymru eleni yn ddifyrrach nac erioed; edrych ymlaen yn fawr i brofi rhgor yn 2014!

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Theatr. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s