Adolygiad Ffilm: Inside Llewyn Davis (15)

Inside Llewyn Davis

Y Sêr: Oscar Isaac, Carey Mulligan, Justin Timberlake, John Goodman

Y Cyfarwyddo: Joel Coen ac Ethan Coen

Y Sgrifennu: Joel Coen ac Ethan Coen

Hyd: 105 mun

Ym 1961, bu bron iawn i gwrcath sinsir ddwyn Breakfast at Tiffany’s dan drwyn ei seren, Audrey Hepburn. Roedd yr anifail anhysbys yn drosiad amlwg o’r it-girl di-wreiddiau Holly Golightly.

Defnyddir union yr un dechneg yn Inside Llewyn Davis – ffilm a osodir yn myd bohemaidd Efrog Newydd yn ystod yr un flwyddyn. Dilynwn wythnos ym mywyd cerddor gwerin, sy’ bron â danto a’i yrfa fethiannus. Yn gwmni ar ei daith o amgylch tai coffi cerddorol Bleecker Street y mae cath hardd lliw marmalêd.

Y gwahaniaeth rhwng y gath â Llewyn Davis yw fod un ohonynt yn anifail annwyl dros ben. Y mae’r llall yn greadur di-gartref sydd hefyd yn gwbl ddi-gyfeiriad, gan adael eraill i glirio’i lanast ar ei ôl.

Un o’r dioddefwyr hynny sy di blino arno’n llwyr yw ei gyn-gariad beichiog, Jean (Carey Mulligan). Mae hi’n byw mewn cytgord hyfryd gyda’i phartner canu Jim (Justin Timberlake), sy’n ddigon craff i gerfio hit ar ôl hit. Y mae llwyddiant yn anathema i’r trwbadwr truenus , sy’n gweld hygrededd yn ei frwydr barhaus.

Ond mynna ddyfalbarhau , yn y grêd y caiff ei haeddiant, gan goelio’n llwyr yn ei dalent ei hun.

Does dim amheuaeth fod gan Llewyn Davis (Oscar Isaac) lais, ond ceir gwahaniaeth rhwng dycnwch di-flino nifer a dawn di-ymdrech ambell un. Dyna yn ei hanfod ydy prif neges y ffilm hon, ynghyd â phryd ddylai rhai roi’r gorau i’r freuddwyd fawr.

Fel nifer o gynyrchiadau gan y brodyr Coen, ffilm am gollwr llwyr yw Inside Llewyn Davis. Ei unig achubiaeth yw ei ymrwymiad arwrol at gath sydd ar ei siwrne ei hun.

Addasiad yw’r ffilm o hunangofiant Dave Van Ronk, un o hoelion wyth sîn werin Efrog Newydd y 1960au, tan i Bob Dylan gyrraedd i hoelio sylw’r byd.

Serch eu cefndir cyffredin, does gan y brodyr Coen ddim diddordeb mewn dathlu llwyddiant  eu cyd-Iddew o dalaith Minnesota , er fod y ffilm yn deyrnged amlwg iddo ef . Mae pob golygfa’n adlais weledol o albwm The Freewheelin’ Bob Dylan, a ceir cyfeiriad amlwg iawn at yr enw Cymreig.

Gwell o lawer ganddynt drochi mewn ffrwd di-derfyn o schadenfreude, gan adael i alawon melys y cyfansoddwr Marcus Mumford daro tant â’u cynulledifa craidd o  sinigiaid sur.

Y Sgôr terfynol* cookie_law_eucookie_law_eucookie_law_eubite- 010

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 3 Cookie a hanner yn cyfateb i 7 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Adolygiad Ffilm: Inside Llewyn Davis (15)

  1. Hysbysiad: Adolygiad Ffilm: The Two Faces of January (12) | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s