Adolygiad Ffilm: Out Of The Furnace (15)

Out of the Furnace

Y Sêr: Christian Bale, Woody Harrelson, Casey Affleck, Forest Whitaker, Willem Dafoe, Zoe Saldana a Sam Shepard

Y Cyfarwyddo: Scott Cooper

Y Sgrifennu: Brad Inglesby a Scott Cooper

Hyd: 117 mun

Wythnosau’n unig wedi i Christian Bale o Hwlffordd dderbyn enwebiad Oscar fel Actor Gorau, dyma gyfle arall i’w weld ar dân ar y sgrîn.

Wedi iddo chwarae twyllwr boliog sy’n colli’i wallt yn y comedi American Hustle, dychwela’r actor dawnus i faes naturiolaidd wrth bortreadu arwr cyffredin dan bwysau mawr.

Mae Out of the Furnace yn cynnig drama lawn tensiwn sy’n gafael yn y gwyliwr am ddwyawr. Ar ei orau, y mae’n  groes rhwng y clasur  The Deer Hunter a Winter’s Bone, ac mae’n un o ffilmiau cryfaf 2014 hyd yn hyn.

Cnewyllyn y ffilm yw’r berthynas glos rhwng dau frawd, mewn tre yn yr Appalchians. A hithe’n 2008 y mae Braddock, Pennsylvania ar ei gliniau; gyda’r gweithfeydd rhydlyd yn bygwth cau unrhyw ddydd, does braidd dim gobaith i bobol ifanc y fro.

Ceisia Russell Baze (Christian Bale) ddilyn bywyd di-fai, gan ddilyn ei deulu i gyd i’r maes dur. Y mae Rodney (Casey Affleck), ei frawd iau, yn filwr yn Iraq- ‘yr unig opsiwn’ hyd y gwelai ef. Trwy ffawd a rhagluniaeth, glania Russell yn y carchar – a hynny am yfed a gyrru. Yn ei absenoldeb ef, aiff ei frawd ar gyfeiliorn gan ddigio’r gangsters peryglus lleol.

Wedi talu ei ddyled, a cholli pob dim, ceisia Russell i achub croen ei frawd . Ond oes modd curo’r gelyn, criw o rednecks o fri, sy’n gaeth i waeth na Hillbilly Heroin?

Serch ei strwythur gyfarwydd – a diweddglo hollol ‘rong! – ces fy nenu’n llwyr i fyd y ffilm hon. Y mae’r diolch yn bennaf i berfformiadau graenus iawn. Does dim dwywaith gen i y cafodd presenoldeb Sam Sheppard, fel ‘Uncle Red’,  ddylanwad mawr ar grefft a chynildeb Christian Bale.

Mae Casey Affleck, mewn cymhariaeth, yn belen o boen, llawn bustl a rhwystredigaeth, tra fod Woody Harrelson, fel y gelyn di-enaid Harlan DeGroat, yn ddihiryn pur ddychrynllyd.

Creir naws o ddirgelwch  gan drac sain Dickon Hinchliffe o’r Tindersticks, a ffotograffiaeth amrwd Masanobu Takanayagi (Silver Linings Playbook, yma’n dogfennu’r cyfan ar Kodak Film).

Pleser prin cael profi realaeth rust-belt cyfoes yr Unol Daleithiau, a ddogfennir yn aml gan y cyfarwyddwr John Sayles. Fe’i phoblogir gan bobol weithgar – y cyntaf i ddiodde’ ar adeg o wasgfa economaidd – gaiff eu llyncu gan fyddin y wlad, cyn cael eu chwydu allan drachefn.

Profodd y sgwennwr-gyfarwyddwr Scott Cooper lwyddiant mawr yn 2010 wrth lunio’r saga canu gwlad Crazy Heart -a gipiodd Oscar i’r actor Jeff Bridges . Tystia’r ddwy ffilm anibynnol i’w gydwybod cymdeithasol ef a’i ddawn i lunio chwip o stori dda.

Mae bywyd, i rai, yn gylch cythreulig tu hwnt; mae’r ffilm hon yn deyrnged iddyn nhw. Serch ambell ystrydeb, ac ambell fan gwan, mae wir yn haeddu cael ei gweld.

Y Sgôr Terfynol*: 

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 4 Cookie yn cyfateb i 8 allan o 10.

 

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s