Adolygiad Theatr: Blodeuwedd (Theatr Genedlaethol Cymru – 2014)

Blodeuwedd

‘Ces  i bleser pur ger Tomen y Mur’ oedd agoriad fy adolygiad y llynedd o gynhyrchiad bythgofiadwy’r Theatr Genedlaethol o Blodeuwedd gan Saunders Lewis. Eleni, fy mraint oedd ei phrofi am yr eilwaith, yn Theatr Sherman Cymru y brifddinas.

Gwell cyfaddef o’r cychwyn, ro’n i’n orlawn o amheuon a fyddai’r ail-lwyfaniad dan-do hanner cystal. Mae’n wir, tanlinellwyd wendid mwya’r sioe wreiddiol, ond ar y cyfan profwyd noson ysblennydd.

Roedd hi’n wych gweld Theatr y Sherman dan ei sang ar nos Fercher gyda’r dorf ddisgwylgar yn llon a llawn cynnwrf. Yn eu plith, mae’n debyg yr oedd dros gant o blant Ysgol Glantaf – rhaid canmol pawb am wrandawiad hwyliog a pharchus.

Ro’n i’n ymwybodol iawn fod i’r cynhyrchiad agoriad newydd i geisio hudo’r gynulleidfa gyfoes yn ôl mewn hanes.

Taith fws siarabang gludodd y dorf i Domen y Mur, a hynny i gyfeiliant chwedl Blodeuwedd ar ein cyrn clustiau. Eleni, tarfuwyd ar ofalwr (Owain Llŷr Edwards) hen blasty crand gan bâr o hoodies chwilfrydig a’u ci. Wrth glywed geiriau agoriadol Pedwaredd Gainc y Mabinogi, cododd yr un sain cyfareddol a fu’n gefnlen gerddorol y llynedd; llinynnau llesmeiriol opera Trystan ac Esyllt gan Wagner , yn argoeli’r trasiedi o’n blaenau.

Ystyriais neidio ar fy nhraed gan weiddi ‘bravo’; roedd yn agoriad chwareus ac eto’n hynod urddasol. Cofiwch chi, fe allen i daeru i mi glywed Saunders Lewis yn troi yn ei fedd; wedi’r cyfan, does dim sôn am ddaeargi Swydd Stafford yn y testun gwreiddiol.

Er mawr siom i rai, ail-gastiwyd rhan Blodeuwedd, gan nad oedd Morfydd Clark ar gael ar gyfer taith theatrig 2014. Byddai wedi bod yn brofiad da i’r actores ifanc droedio llwyfannau Cymru eleni yn dilyn perfformiad nwydus a nwyfus yn Nhomen y Mur.

Penodwyd actores ei chenhedlaeth yn ei lle, oedd yn benderfyniad gwych; Rhian Blythe, heb os,  oedd seren y sioe – taenodd ei hud ar hyd y cynhyrchiad. Osgodd y demtasiwn i gynnig femme fatale arwynebol; yn hytrach, cyflwynodd ddynes gyfoes gymhleth sy’n wynebu’r un angst ac ofnau oesol â ni .

Blodeuwedd a Gwydion

Amgylchynwyd y ferch o flodau gan fisogynyddion lu, oedd yn hollol ddall a byddar i’w natur hi.  Gan iddynt wrthod ei gweld ac uniaethu â hi, seliwyd ffawd pawb o’r cychwyn cyntaf. Cafwyd ganddi berfformiad naturiol, ystyriol tu hwnt, ac yn ei meddiant llifodd eiriau’r sgript fydryddol yn rhwydd.

Blodeuwedd a Rhagnell

Yn gwmni da i’r arian byw o brif actores oedd Non Haf – a ddychwelodd eleni fel Rhagnell ei morwyn deyrngar- ynghyd â Carwyn Jones  fel Llew Llaw Gyffes, ei gŵr.

Fel yn achos yr actor gwrieddiol, Iddon Jones, cawsom gip tyner ar dristwch mawr Llew; milwr a felltithiwyd nid yn unig gan hunllef o fam ond ewythr niweidiol hefyd. Yn anffodus i’r actorion, mae’n amhosib cydymdeimlo gormod â blanced wleb o gymeriad gwrywaidd, sy’n boddi mewn hunan-dosturi am y rhan fwyaf o’r ddrama.

Blodeuwedd a Llew

O flanced wleb o ŵr i gadach llawr o garwr ; ni ddarbwyllodd Rhys Bidder y dorf fel yr heliwr rhywiol a daniodd serch Blodeuwedd. Doedd dim gronnyn o gemeg rhwng ei Gronw Pebr ef a Blodeuwedd Rhian Blythe, a fu’n siom i nifer fawr yn Theatr y Sherman. I fod yn deg â’r actor, clywais bob gair ganddo’n glir o’m sedd yn rhes gefn y theatr; yn fy marn i, roedd ar ei orau yn Nhomen y Mur yng nghwmni Ms Clark.

Enghraifft arall o gymeriad  a grebachwyd braidd gan drawsblaniad o Eryri i lwyfan y theatr oedd Glyn Pritchard fel y dewin dinistriol Gwydion – pensaer problemau pawb, diolch i’w hunan-gasineb ei hun. Mwynheais ei rwyddineb ysgafn-droed dan gysgod haul tanbaid Meirionnydd ond tanseiliwyd wir ddrygioni Gwydion gan eirio aneglur ar brydiau.

Un o’r elfennau a gryfhawyd o symud y cynhyrchiad dan-do oedd cynllunio cain a chelfydd Carl Davies. Cyflwynwyd set foethus o barlwr crand gyda’r un cadeiriau a ddodrefnodd dir Eryri y llynedd. Tu ôl i’r soffa Chesterfield ymwthiai corws o bileri cadarn, drodd yn goedwig dros-dro, diolch i oeluo deheuig Ceri James. Agorodd y llawr derw  sgleiniog mewn ffordd hynod slic, ar gyfer brâd cefn-gwlad y drydedd act.

Fel un sy’n ffoli ar ffasiwn, rhaid canmol wisgoedd ysblennydd Jo Nicholls, o gyfnod y 1940au . Trawsblannwyd y chwedl o’r Oesoedd Canol i gyfnod yr Ail Ryfel Byd, gan barchu manylion milwrol y testun gwreiddiol. Meddwais yn braf ar gyfosodiadau gweledol fel lifrai garw’r milwyr a pherlau mân a deiamwntiau Blodeuwedd – manylion bychain sy’n datgelu cymaint am bob cymeriad.

Rhaid cyfaddef i mi werthfawrogi’r ffaith y parchwyd dwy actores wahanol wrth gynnig ffrog unigryw i’r ddwy cyn diwedd y darn. Roedd hi’n gwbl addas mai mewn ffrog fwstard brydferth y ffarweliodd Morfudd Clark â ni. Yn actores danbaid, a asiodd yn hardd â machlud Sir Feirionnydd, roedd yn Joan Crawford Cymreig a weithiodd yn wych yn Nhomen y Mur.

Lliwiwyd wallt Rhian Blythe yn fflamgoch hefyd, ond dewiswyd ffrog fyddai’n gweddu i oleuadau’r llwyfan; prin y gallaf ddisgrifio union liw ei gwisg urddasol hi.

Chartreuse mae’n debyg yw’r enw swyddogol ar wawr melyn-wyrdd golau y ffrog sidan bias-cut.  Mae’n deillio o wirodyn chwerwfelys a grewyd gan fynachod o Ffrainc, o dros gant o blanhigion y coed.

Mae ganddo flas go gyfoes sy’n gwella gydag oed, a lliw trawiadol sy’n gweddu’n berffaith i Blodeuwedd.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Theatr. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s