Adolygiad Ffilm: The Grand Budapest Hotel (15)

Grand Budapest Hotel.jpg

Y Sêr: Ralph Fiennes, Adrien Brody, Tony Revolori, Willem Dafoe, Jason Schwartzmann, Bill Murray, Saoirse Ronan, Mathieu Amalric, Tilda Swinton, Edward Norton, Owen Wilson, Jude Law, Lea Seydoux, Jeff Goldblum, Tom Wilkinson, Harvey Keitel, F. Murray Abraham

Y Cyfarwyddo: Wes Anderson

Y Sgrifennu: Sgript Wes Anderson a Hugo Guinness, a ysbrydolwyd gan weithiau Stefan Zweig (1881-1942)

Hyd: 110 mun

Adolygais The Grand Budapest Hotel ar raglen Heno ar S4C ar nos Wener, Mawrth 21ain, 2014. Cliciwch yma i wylio eto.

A gofiwch chi’r hwyl o ganu Franz o Wlad Awstria yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog? A’r wefr o gael eistedd ger traed T Llew Jones wrth iddo rannu ei weithiau â ni?

Llifodd atgofion lu o’r fath wrth fwynhau The Grand Budapest Hotel –  chwyrligwgan ddiweddara Wes Anderson. Wedi cyfres o chwedlau hamddenol, lo-fi gan yr auteur, dyma antur chwedlonol i’w chofio.

Cyflwynir stori o fewn stori, sy’n deyrnged o fath i’r awdur mawr o Awstria , Stefan Zweig.

Gosodir y ffilm yng ngweriniaeth ffuglennol Zubrowka toc cyn toriad yr Ail Ryfel Byd. Saif gwesty mawreddog ym mynyddoedd Mitteleuropa, gan gynnig adlais o gyfnod a fu.

Brenin ei fyd ydyw’r bytler o fri,  Gustave H – a chwareir â chryn asbri gan Ralph Fiennes. Tra’n hyfforddi’i gynorthwy-ydd, cyhoeddir marwolaeth hen farwnes, sydd yn gadael ei miliynau iddo ef.

Dan amheuaeth o’i llofruddio, rhaid i Gustave ddianc am ei fywyd, yng nhwmni Zero (Tony Revolori), ei protégée. Er mwyn sicrhau cyfiawnder, rhaid dibynnu ar frawdoliaeth; cymdeithas gudd o concierges cyfandirol.

Yn eu mysg mae Bill Murray, Jason Schwartzmann ac Owen Wilson – rhai o ffyddloniaid y cyfarwyddwr Wes Anderson.

Dangosir union yr un teyrngarwch i Gustave H; bonheddwr mewn bydysawd honco bost. Tra fo grymoedd tywyll Ffasgiaeth yn bygwth troi’r byd ar ei ben, mae e’n symbol o synnwyr cyffredin – a chryn steil.

Dyma gynhyrchiad gorau eto’r cyfarwyddwr Americanaidd, sydd yn bensaer ar fyd o fanylion. Hudwyd holl elfennau gorau ei weithiau i gyd ynghyd, i greu ffantasi epig ac eofn.

Yn weledol, croesir The Shining â The Addams Family, tra’n gerddorol dibynnir bron yn llwyr ar y balalaica. Ceir cyffyrddiadau celfyddydol o Fiena’r 19eg Ganrif ynghyd ag eiconograffeg Art Nouveau. Ychwanegir at hynny deisennau godidog mewn lliwiau pastel hardd, a golygfa gynhyrfus o naid sgio ddychrynllyd.

Wrth adlewyrchu ar hyn oll rhaid dweud bu mhrofiad o The Grand Budapest Hotel yn donic yn wir – a dygwyd pleserau pur blentynaidd i’r cof.

Fel yn achos holl westai pum seren y byd, bu f’arhosiad yn un i’w sawru am sbel.

Sgôr Terfynol*

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 4 Cookie yn cyfateb i 8 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s