Adolygiad Ffilm: Muppets Most Wanted (U)

Muppets Most Wanted

Y Sêr: Kermit the Frog, Miss Piggy, Fozzie Bear, Gonzo, Animal, Sam The Eagle, Swedish Chef, Ricky Gervais, Tina Fey, Trey Burrell, ac eraill.

Y Cyfarwyddo: James Bobin

Y Sgrifennu: James Bobin a Nicholas Stoller

Hyd: 113mun

Byddaf yn adolygu Muppets Most Wanted ar raglen Prynhawn Da ar S4C ar ddydd Iau, Mawrth 27ain, 2014. Cliciwch yma i wylio eto.

Chi’n gwbod beth yw’r broblem gyda rhan fwyaf o ffilmiau’r Muppets? Gormod o blincin pobol. Yn amlach na pheidio mae’u presenoldeb di-ddim  yn tanseilio hygrededd byd o bypedau boncyrs.

Diolch i reboot hyfryd yn 2011, ail-gyflwynwyd y sêr retro mewn steil. Pwysleisiwyd nad oes modd i bwped a dyn fyw’n gytûn, a cafwyd cyfres o ganeuon gwych.

Yn anffodus i ni, dyw’r sgwennwr gwreiddiol Jason Segel ddim yn rhan o’r dilyniant diflas hwn. Aberthwyd annwyldeb mawr er lles cameos crap gan Ray Liotta, Celine Dion a Lady Gaga.

Pe bawn i’n dymuno gweld Ricky Gervais yn canu ar sgrîn fawr, mi fydden i’n mynd yn syth at ddoctor o ngwirfodd. Ac er cymaint dwi’n edmygu dawn comig Tina Fey, mae hi’n siomedig iawn yn Muppets Most Wanted.

Yr unig beth sy’n achub y ffilm  yw presenoldeb nid un, ond dau Kermit the Frog – un commitmentphobe cyfarwydd â chanddo hoffter o gig moch,  a’r llall yn  fwystfil o froga dan-dîn.

Mae’r doppelgänger dieflig o’r enw Constantine yn ddoniol iawn; piti garw fod rhaid iddo rannu golygfeydd â Ricky Gervais. A ceir un montage hyfryd – i gystadlu â deg munud cyntaf Up!- sy’n cynnwys plantos bach dyfodol Miss Piggy a Kermit.

Ceir cyfeiriad, yn wir, at wendid y ffilm yng nghân agoriadol Muppets Most Wanted. Dyfernir bod dilyniannau ffilm fel arfer yn siom; pam trafferthu o gwbl i fynd amdani felly?

Y sgôr terfynol*:

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 2 Cookie yn cyfateb i 4 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s