Adolygiad Ffilm: Rio 2 (U)

Rio 2

Y Sêr: Anne Hathaway, Jesse Eisenberg, Andy Garcia, Jamie Foxx, Kristin Chenoweth, Bruno Mars, will.i.am

Y Cyfarwyddo: Carlos Saldhana

Y Sgrifennu: Don Rhymer a Carlos Saldhana

Hyd: 101 mun

Adolygais Rio 2 ar raglen Prynhawn Da ar S4C ar ddydd Iau, Ebrill 17eg, 2014. Cliciwch yma i wylio eto.

Dilyniant gwell o lawer na The Amazing Spiderman 2 yw’r animeiddiad amryliw Rio 2. Ces gymaint o bleser wrth wylio’r ffilm hon, sy’n orlawn o gymeriadau gwych.

Cyflwynwyd ein arwr – deryn dinesig o’r enw Blu – yn llwyddiant mawr 2011.

Ag yntau bellach yn benteulu â thri o gywion bach , mae Blu (Jesse Eisenberg) yn fodlon ei fyd yn Rio. Mae Jewel (Anne Hathaway), ei gymar glas, awydd antur yn yr Amazon , lle mae ei theulu hi’n dal i drigo. Yno, rhaid amddiffyn eu cynefin clud rhag coedwigwyr dynol di-enaid.

Mae’r sgript yn ddi-fai, ac yn ddifyr tu hwnt, wrth gyflwyno cyfres o is-straeon llawn sbri. Ceir mwncïod milain, gor-hoff o lolipops, a chrwbanod sy’n bencampwyr capoeira. Ac mae’r stori serch seithug rhwng broga a chocatŵ yn uchafbwynt yn ystod y ffilm.

Elfen arall annisgwyl yw ambell i gân, sy’n arddangos lleisiau Kristin Chenoweth ac Anne Hathaway ar eu gorau. Yn wir, mae’r trac sain trydanol yn byrlymu o bossa nova – sain gwahanol mewn ffilm Hollywood. Mae safod yr animeiddio – a’r effeithiau 3D – yn yn sicr yn werth eu gweld.

Pan ddaw y glaw dros wyliau’r Pasg, ewch i Rio am ddihangfa dros dro.

Sgôr Terfynol*

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 4 Cookie yn cyfateb i 8 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s