Adolygiad Ffilm: The Other Woman (12)

`The Other Woman

Y Sêr: Cameron Diaz, Leslie Mann, Kate Upton a Nicolj Coster-Waldau

Y Cyfarwyddo: Nick Cassavetes

Y Sgrifennu: Melissa Stack

Hyd: 109mun

Byddaf yn adolygu The Other Woman ar Prynhawn Da ar S4C ar ddydd Gwener, Ebrill 25ain, 2013.

Mae’n sbel faith ers i mi weld ffilm mor atgas a dibwynt â’r anti-rom-com The Other Woman.

Y rhyw deg sydd flaenllaw yn ystod y ffilm, sy’n dilyn ôl traed llwyddiant Bridesmaids. Ond ynddi mae merched yn dioddef cam mawr – gan ei chynhyrchwyr yn fwy na neb.

Mae’r ffilm yn dilyn tair merch sydd wedi mopio’n llwyr â snichyn o’r enw Mark (Nikolaj Costau-Wilder, Headhunters, Game of Thrones); ei wraig ffyddlon Kate a’i ddwy gariad hardd, sy’n gwbl ddal i’w dwyll. Pan ddaw’r dair i ddeall iddynt ymserchu â sosiopath, nid cefnu arno y gwnant. Rhaid dod at ei gilydd i gynllwynio ynghyd ac i ddial arno – unwaith ac am byth.

Serch y ffaith mai Cameron Diaz yw enw mawr y ffilm, rhaid bod yn ffan o Leslie Mann (Knocked Up, Funny People, This is 40) i’w dioddef. Diolch i briodas strategol â Judd Apatow, aeth actores anobeithiol yn andros o bell â llais main a chorff bwgan brain.

Hi yn anffodus gaiff rhan fawr y ffilm fel gwraig gwynfanllyd, gor-ddibynnol. Mae hi’n stelcian y lleill er mwyn deall paham nad yw hi’n ddigon da i’w gwr golygus – a hynny, heb oedi unwaith i ystyried ei ffaeleddau ef fel dyn a dyngodd lw iddi hi .

Mae Cameron Diaz yn llawer mwy ffodus wrth chwarae rôl y gyfreithwraig gadarn.

Lowri Cooke Prynhawn Da

Mae ei chymeriad hi’n arsylwi’n graff ar orffwylledd priodas gyfoes.  Ond aiff synnwyr, yn anffodus, mas o’r ffenest yn syth, wrth iddi ymuno â’r cynllwynio dwl.

Gwibia gweddill y ffilm heibio ar ffurf montages lu sy’n amrywio o’r arwynebol i’r sgatolegol. Pibo , chwydu, cachu ci – maent oll yn chwarae eu rhan, a hynny mewn gwrthgyferbyniad llwyr ag ElleDeco-porn yr Hamptons a dinas Manhattan.

Heb anghofio’r sylw mawr gaiff fronnau Kate Upton a phen-ôl Nikki Minaj. A rhaid cynnwys bach o twerk-io i blesio’r dorf sy’n addoli ger tîn Kim Kardashian.

Y mae’r ffilm yn debygol o ddenu merched yn eu miloedd i fwynhau dwyawr o fisogynistiaeth pur. Ac mae’r ffaith fod modd i ferched mor ifanc â deuddeg fynd i’w gweld yn peri pryder pellach.

Gwnaeth The Witches of Eastwick, Les Diaboliques a hyd yn oed The First Wives Club gymaint mwy a deunydd o’r fath  ugain mlynedd yn ôl. A rwy’n clywed sgrech o du hwnt i’r bedd yn achos Nora Ephron.

Lle mae Katharine Hepburn heddiw i ferched – a dynion – gael deall mai’r un yw’r frwydr ddynol yn y bôn? Chewch chi ddim o’r fath neges mewn ffilm mor ddi-ddim; osgowch , da chi, fel y pla.

Y sgôr terfynol*: 

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 1 Cookie yn cyfateb i 2 allan o 10.

 

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s