Adolygiad Ffilm: The Two Faces of January (12)

The Two Faces of January

Y Sêr: Kristen Dunst, Viggo Mortensen ac Oscar Isaac

Y Cyfarwyddo: Hossein Amini

Y Sgrifennu: Addasiad Sgript Hossein Amini o’r nofel The Two Faces of January gan Patricia Highsmith (1964).

Hyd: 96 mun

Mae’n bymtheng mlynedd ers i’r thriller seicolegol The Talented Mr Ripley danio dychymyg cynulleidfaoedd y sinema, wrth i we o gelwyddau gau yn dynn am driawd deniadol.

Bu’r ffilm yn enghraifft o addasiad llwyddianus o nofel gan Patricia Highsmith, ac eleni cawn ddilyniant o fath yn The Two Faces of January.

Gyda gwyliau’r haf ar y gweill, pa ffordd well o edrych ymlaen nag wrth ymgolli’n llwyr mewn drama danbaid wedi’i gosod yng nghysgod y Acropolis yn Athen ac ynys Creta ym 1962?

Mae Kristen Dunst yn chwarae Hitchcock Blonde hardd sy’n briod â masnachwr stoc tra golygus (Viggo Mortensen), ac mae’r pâr yn denu sylw tywysydd teithio  o’r enw Rydal (Oscar Isaac, Inside Llewyn Davies).  Caiff ef ei hudo gan y ddau Americanwr – ei gyfoeth yntau, a’i harddwch hithau – ond ymhen dim aiff pethau o chwith, gan gymeryd tro tywyll.

Ond pwy yn union sy’n twyllo pwy, a phwy yw cymeriad mwyaf dauwynebog y ffilm? Rhaid aros yn eich sedd tan yr eiliad olaf un i ddarganfod yr ateb.

Plethir pob math o gyfeiriadau yn ystod y ffilm , o ddrama Oedipus i chwedl hynafol y Minotaur yn Knossos. Ar ben hynny, ceir gwisgoedd, goleuo a choreograffi cain.

Dyw’r stori ddim mor amlhaenog ag astudiaeth gynharach Highsmith o obsesiwn pur, ond ceir digon o amwysedd i ddenu’r sylw tan y diwedd . Dyma ffilm o berfformiadau gwych, a golygfeydd llawn ystyr a thensiwn.

Y Sgôr terfynol* cookie_law_eucookie_law_eucookie_law_eubite- 010

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 3 Cookie a hanner yn cyfateb i 7 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Adolygiad Ffilm: The Two Faces of January (12)

  1. Hysbysiad: Adolygiad Ffilm: Maleficent (PG) | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s