Beirniadaethau Llyfr y Flwyddyn 2014

Eurig Salisbury Lowri Cooke Gareth Miles gan Rhys Llwyd(Llun gan Rhys Llwyd)

Cliciwch yma i wrando ar raglen arbennig Llyfr y Flwyddyn 2014 ar BBC Radio Cymru, a cliciwch yma i wylio rhaglen Pethe ar S4C. Ceir oriel luniau o’r noson ar wefanau BBC Cymru Fyw, a’r ffotograffwyr Iestyn Hughes a Rhys Llwyd – a cliciwch ar wefan Golwg 360 i weld cyhoeddiad yr enillydd.

Barddoniaeth – Eurig Salisbury

Dim ond chwech o lyfrau barddoniaeth a oedd yn gymwys eleni. Mewn cymhariaeth â nifer y llyfrau sy’n gymwys ar gyfer y ddau gategori arall, bychan yw nifer y llyfrau barddoniaeth o flwyddyn i flwyddyn. Mae hynny’n aml yn adlewyrchu’r ffaith fod cynnyrch blynyddoedd lawer o farddoni rhwng cloriau cyfrol o farddoniaeth – ond mae hynny’n wir hefyd am rai cyfrolau yn y categorïau eraill, yn arbennig y ffeithiol-greadigol.

Pam, felly, fod categori i farddoniaeth ar restr fer Llyfr y Flwyddyn? Pam fod union hanner y llyfrau cymwys yn y categori hwn eleni yn cael eu cynnwys ar y rhestr fer, tra mai dim ond tua deg y cant o’r llyfrau ffeithiol-greadigol niferus sy’n cael sylw, a phymtheg y cant o’r llyfrau ffuglen? Go brin ei bod hi’n sefyllfa ddelfrydol ond … dwi’n fardd. Ac, fel bardd, dwi’n gwybod pa mor werthfawr yw unrhyw beth sy’n rhoi sylw cenedlaethol i farddoniaeth. Dyma her, felly, i feirdd i gyhoeddi eu gwaith, a her hefyd i’r gweisg i hwyluso hynnny. Ond nid wrth nifer, wrth reswm, y mae mesur safon. Ac ry’n ni’n tri, fel beirniaid, yn gytûn fod safon y cyfrolau barddoniaeth a ddaeth i’r brig eleni, fel safon barddoniaeth Gymraeg yn gyffredinol y dyddiau hyn, yn uchel iawn.

Rhwng y Llinellau

Yn ôl ei rhagair i’w chyfrol, rhwng y llinellau, daeth Christine James o hyd i’w llais fel bardd yn ystod gaeaf 2002–3. Yn ei geiriau hi, a hithau’n dioddef o salwch difrifol, dechreuodd ‘ymateb i’r byd mewn ffordd a oedd yn hollol newydd’ drwy ‘ymateb i brofiadau annisgwyl bywyd, a dod i delerau â hwy, trwy fentro ysgrifennu amdanynt.’ Nid yw mentro bob tro’n esgor ar fenter, ond dyna’n union a geir yn y gyfrol hardd hon. Go brin y byddai cyfrol o gerddi sy’n ymateb i weithiau celf yn llwyddo heb gynnwys y gweithiau hynny ochr yn ochr â’r farddoniaeth. Gogoniant rhwng y llinellau yw bod modd mwynhau’r profiad hwnnw’n llawn, gan ddod o hyd i ystyron yn y geiriau ac yn y lluniau fel ei gilydd. Yn ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, cyflwynodd Christine James inni gasgliad chwareus a di-ildio o gerddi mentrus iawn.

Lon Fain

Y gair sy’n crynhoi orau ysbryd ail gyfrol Dafydd John Pritchard o gerddi, Lôn Fain, yw tynerwch. Mae’n cerdded yn bwyllog i lawr y lôn fain honno, gan oedi’n hir i fyfyrio ar bob fforch yn y lôn. Nid bod yr hyn sy’n cael ei drafod yn y gyfrol bob tro’n dyner – nid o bell ffordd. Mae’r cerddi hyn yn aml yn ein harwain i lawr lonydd sy’n ymddangos i ddechrau’n rhai digon cyfarwydd, cyn i’r bardd ein plymio’n sydyn i’r dŵr oer sy yn nyfnderoedd ffydd ac yn ymwneud pob dydd pobl â’i gilydd. Mae’r cysurus yn aml yn troi’n anghysurus, yng nghysgod rhyw anniddigrwyd sy’n llercian ar gyrion y geiriau. Ond ni ellir ond teimlo’n gartrefol yng nghwmni Dafydd John Pritchard, ein tywysydd tyner ar lôn fain sy’n werth ei throedio.

Trwy Ddyddiau Gwydr

Aderyn prin o gyfrol yw Trwy Ddyddiau Gwydr gan Sian Northey, yn yr ystyr ei bod yn mynd i’r afael â phrofiadau merch, a gwraig, a mam. Yn hynny o beth, mae’r casgliad hwn o gerddi’n chwa o awyr iach. Mae’r cerddi’n aml yn gignoeth o onest ac yn trafod tor-perthynas a thrais yn y cartref gydag aeddfedrwydd di-flewyn-ar-dafod. Ond nid ysgrifennu er mwyn codi gwrychyn yn unig yw’r nod yma, ond cyfleu gydag arddull gynnil iawn y gwaith o gynnal cartref, o fyw mewn cymuned ac o fod yn rhan o genedl. Camp Sian Northey yn y gyrfol hon, ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, yw llwyddo i roi llais i rannau o gymdeithas nad ydyn nhw’n aml yn cael eu clywed, gan wneud hynny gyda llond tŷ o hiwmor chwareus yn ogystal ag urddas tawel.

Bu’n bleser darllen y tair cyfrol, a bu’n bleser hefyd trin a thrafod y cyfrolau gyda fy nghyd-feirniaid. Ry’n ni’n tri’n gytûn mai cyfrol fuddugol y categori barddoniaeth eleni, am ei hamrywiaeth cyffrous a’i mentergarwch, yw rhwng y llinellau gan Christine James.

Christine James gan Rhys Llwyd(Llun gan Rhys Llwyd)

Ffuglen – Lowri Haf Cooke

Daeargryn ym Môn, clwb darllen Kate Roberts, a’r fampir olaf yng Nghlydach . Na, nid cip ar linell amser ‘Twitter’ Golwg 360, ond rhai o themâu’r adran ffuglen eleni. O nofelau i straeon byrion, cawsom ugain cyfrol eleni am lu o gymeriadau cyffrous; o stelcwraig y sêr, i lofrudd lluosog sosiopathig, i’r ‘Godfather’ newydd, Gruffudd ap Brân – i enwi ond tri.

Crwydrwyd  Cymru benbaladr i ddiddanu’r darllenwyr a chafwyd sawl antur gyfandirol. A bu trafodaethau cyson rhyngof i a Gareth ac Eurig, wrth ymateb yn frwd i’r holl weithiau hyn. Hoffwn achub ar y cyfle i grybwyll rhai ffefrynnau o’r categori hwn na chyrhaeddodd y rhestr fer, er iddynt roi pleser mawr i ni – Gabriela gan John Roberts, Y Teyrn gan Gareth W. Williams, Aderyn Brith gan Rhiannon Gregory, Edau Bywyd gan Elen Wyn a Breision gan Jon Gower yn eu plith.

Er gwaethaf y ffaith fod chwaeth personol gwahanol iawn gan y tri ohonom ni, saethodd hufen y gystadleuaeth i’r brig. Mae tair cyfrol y rhestr fer yn weithiau hollol wych gan lenorion sy’n feistri o fri .

Paris

Ar ôl dotio at Petrograd, roedden ni’n eiddgar iawn i ail-afael yn hanes yr alltud, Alyosha, yn y dilyniant swmpus Paris. Mae’r nofel yn parhau â’r antur fawr, ac yn dilyn cast anferthol ledled Ewrop – a thu hwnt – rhwng 1925  a 1933. Er mwyn cynnal ei hunaniaeth, rhaid i Alyosha groesi ffiniau o bob math, ac  mae chwyldroadau mawr a bach yn gefnlen i’r frwydr bersonol honno. Diolch i arddull afieithus William Owen Roberts, darllenodd y tri ohonom ni Paris â’n gwynt yn ein dwrn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at y gyfrol nesaf, a fydd yn ddiweddglo epig i drioleg fawreddog.

Eneidiau

Mae’r awdur toreithiog Aled Jones Williams yn llenor crefftus, ac yn giamstar ar lunio brawddegau cofiadwy. Ar y llaw arall, mae prif gymeriad ei nofel Eneidiau – yr awdur Tom Rhydderch – yn gwbl amddifad o eiriau, ac yn dioddef yn wael o’r ‘writer’s block’ bondigrybwyll. Mae’r nofel yn ymdrin yn drylwyr  â  llu o themâu, o salwch meddwl, i effaith y mewnfudo ar gymunedau Cymraeg. Dyma opera sebon chwaethus o gyfrol gyda chast o grachach Cymraeg – wedi’r cyfan, hon yw’r unig nofel eleni sy’n cynnwys cyfeiriad at wobr Llyfr y Flwyddyn! Mae’n berl o nofel dyner, delynegol.

Dewis

Yn Dewis dilynwn hynt a helynt teulu cyfoes sy’n byw yng Nghaerdydd, ond cyffyrddir â themâu sy’n gyffredin i ni gyd . Archwilir effeithiau galar, rhywioldeb, ysgariad a salwch terfynol ar deulu Cymraeg, a hynny ym merw prysurdeb eu bywydau bob dydd . Mae arddull ffres a thafodiaith goeth yr awdur Ioan Kidd yn pendilio o’r dwys i’r digri megis ar amrantiad. Fe’n hysgogir i ystyried cymhlethdod hardd ein bywydau ni ein hunain. Dyma nofel ddyneiddiol, ac mae ei gonestrwydd ingol yn cyffwrdd  i’r byw.

Mae’n bleser gen i gyhoeddi, ar ran y tri ohonom ni, mai enillydd y categori Ffuglen eleni yw Dewis gan Ioan Kidd.

Ioan Kidd gan Rhys Llwyd(Llun gan Rhys Llwyd)

Ffeithiol Greadigol – Gareth Miles

Eleni, mae’r categori hwn  yn cynnwys cofiannau, hunan-gofiannau, llyfrau yn croniclo hanes ymgyrchoedd, mudiadau  a sefydliadau, ysgrifau, beirniadaeth lenyddol, pamffled wleidyddol a thraethawd diwinyddol.

Er fod tair cyfrol eithriadol ein rhestr fer yn rhagori ar y rhelyw, yn ein barn ni,  dymunwn longyfarch hefyd  awduron y trigain neu fwy o lyfrau eraill a ddarllenwyd gennym, ynghyd â’r  gweisg a’u cyhoeddodd,  am  brofi, unwaith eto, fod yr iaith Gymraeg a’i diwylliant yn gyforiog o ddysg, dawn a deallusrwydd.

Mae gan Lowri, Eurig a minnau ein ffefrynnau  personol o blith y llyfrau na chyrhaeddodd y Rhestr Fer. Fy rhai i yw: Ryan…a Ronnie  gan Hywel Gwynfryn; Y Faciwi gan Barbara Davies; Hanesion Tre’r Cofi gan T. Meirion Hughes; Be Nesa? gan Dafydd Wigley; Pygiana gan Mihangel Morgan; Rhagfarnau  gan Robyn Lewis; a Dafydd ap Gwilym gan Gwyn Thomas..

Y tri llyfr sydd ar ein rhestr fer, fel y gwyddoch, yw Bob, Cofiant R.Williams Parry 1884-1956 gan Alan Llwyd; Y Brenhinbren, Bywyd a Gwaith Thomas Parry 1904-1985 gan Derec Llwyd Morgan; a Ffarwel i Freiburg, Crwydriadau Cynnar T.H. Parry-Williams gan Angharad Price.

Bydd yn ofynnol, o hyn ymlaen, i bawb sydd â diddordeb gwirioneddol yn niwylliant Cymraeg yr ugeinfed ganrif i ddarllen pob un o’r cyfrolau hyn o leiaf unwaith, ac i droi atyn nhw, bob hyn a hyn, wedi hynny…

Bob

Dengys yr ymchwilydd dyfal a diflino ag yw Alan Llwyd sut ddyn oedd Bardd yr Haf  – prif fardd y Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif, ym  marn llawer. Disgrifia yn fanwl ac yn ddifyr y gymdeithas a’i lluniodd a’r  amgylchiadau, y dyheadau a’r profiadau a ysgogodd ei gerddi mwyaf ysbrydoledig.  Bydd Bob yn adnodd beirniadol tra gwerthfawr i ddarllenwyr cyffredin ac ysgolheigaidd.

Brenhinbren

Mae llyfr Derec Llwyd Morgan, fel y ddau arall, yn gampwaith o ysgolheictod darllenadwy. Mae’n deyrnged deilwng i wr a wnaeth gyfraniad enfawr ac amhrisiadwy i ddiwylliant ein cenedl. Serch hynny,  nid yw hoffter yr awdur  o’i wrthrych na’i edmygedd ato yn ei rwystro rhag  dadlennu‘r croestyniadau a flinodd y cenedlaetholwr Cymreig a gyfetholwyd yn aelod o’r Sefydliad Prydeinig.

Ffarwel i Freiburg

Nid dilorni ond canmol ysgolheictod Angharad Price yr ydwyf  wrth ddweud fod ei llyfr hi yn debyg iawn i  nofel. Ni fydd neb a’i darlleno yn gweld bywyd a gwaith  ‘Parry Bach’ fel o’r blaen. Cofiant ‘Tom’, bardd ifanc modernaidd a chwyldroadol, gwladgarwr, dyneiddiwr, heddychwr arwrol, cyfaill  Niclas y Glais a rhagflaenydd Syr Thomas Herbert Parry-Williams, yw hwn.

Pleser yw cyhoeddi, ar ran fy nghyd-feirniaid a minnau, mai’r enillydd yn y categori hwn yw: Bob, gan Alan Llwyd

Alan Llwyd

 Llyfr y Flwyddyn 2014

Cafwyd gwledd o lyfrau eleni – dros hanner cant o gyfrolau Cymraeg –  a phleser o’r mwyaf oedd cyd-feirniadu ag Eurig a Gareth. Trodd y pentwr ar erchwyn y gwely yn dŵr sylweddol wrth i’r flwyddyn garlamu yn ei blaen, a phenderfynwyd yn fuan mai cyfarfod yn gyson fydda’r ffordd orau o goncro’r cyfrolau i gyd.

Cawsom felly flwyddyn unigryw o ymweld â chaffis ledled Cymru i gael rhannu’n barn yn blwmp ac yn blaen. Fel aelodau brŵd o glwb llyfrau ecsgliwsif, roedd y tri ohonom yn rhyfeddol o gytûn . Bu’n brofiad tra dadlennol wrth i ni ystyried cyfrolau na fydden ni wedi eu darllen fel arall, a chawsom berspectif gwahanol ar bob llyfr wrth rannu ein barn.

Llechodd Llyfr y Flwyddyn eleni ar waelod y pentwr am hir yn fy achos i, tan i nghyd-feirniad fy annog  i’w ddarllen gyda’r geiriau, ‘mae’n wych’. Daliodd yr enillydd ei dir yn dawel wrth i gyfrolau eraill syrthio o’r golwg dros amser.

Yn achos y tri a gododd i’r brig, dyma’r llyfrau roddodd bleser mawr i ni, gan daenu golau newydd ar y ddynoliaeth trwy’r iaith Gymraeg . Fe’n lloriwyd yn llwyr wrth lygadu Y Llwynog  yng nghwmni Alan Llwyd  ; gyda Christine James, cawsom rannu ym mawredd cusan Rodin. Cawsom hefyd deimlo cynhesrwydd cwmni cymeriadau Ioan Kidd, wrth iddynt wynebu treialon bywyd gydag urddas tawel.

Mae Llyfr y Flwyddyn 2014 yn gampwaith diymhongar, sy’n gafael yn yr enaid a gwrthod gadael fynd. Dyma gyfrol ddyneiddiol, sydd o gysur i bawb, ac sy’n tyfu’n fwy grymus ar bob darlleniad. Ein neges eleni?  Da chi, darllenwch hi.

Y mae’r tri ohonom ni yn hapus i gyhoeddi mai Llyfr y Flwyddyn 2014 yw Dewis gan Ioan Kidd.

Llyfr y Flwyddyn 2014 gan Iestyn HughesIoan Kidd Llyfr y Flwyddyn 2014 gan Iestyn Hughes(Lluniau gan Iestyn Hughes)

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Llenyddiaeth, Llyfrau. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s