Adolygiad Ffilm: Boyhood (15)

Boyhood

Y Sêr: Patricia Arquette, Ellar Coltrane, Lorelei Linklater ac Ethan Hawke

Y Cyfarwyddo: Richard Linklater

Y Sgrifennu: Richard Linklater

Hyd: 166 mun

Adolygais Boyhood ynghyd â Dawn of the Planet of the Apes a How to Train your Dragon 2 ar raglen Prynhawn Da ar S4C ar ddydd Gwener, Gorffennaf 18ed, 2014 am 1pm. 

Wythnos yn ôl, ro’n i’n un o dri beriniad a gyflwynodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2014 i Dewis gan Ioan Kidd. Yn gampwaith diymhongar, mae Dewis yn nofel ddyneiddiol sy’n dilyn teulu cyfoes wrth iddynt wynebu treialon bywyd.

Afraid dweud , rwy’n argymell i bawb ei darllen dros wyliau’r haf.

Gallwn ddefnyddio union yr un geiriau iddisgrifio Boyhood gan Richard Linklater , sydd wedi aros gyda mi fyth ers ei gweld. Mae’n ffilm fechan, anibynnol, sy’n delio â themâu mawr bywyd mewn ffordd cynnil a dirdynnol dros ben.

Yn fras, dilynwn fywyd Mason Jr (Ellar Coltrane), bachgen bach chwe mlwydd oed tan iddo adael am y coleg yn ddeunaw. Dilynwn hynt a helynt ei fywyd teuluol, a stormydd geirwon y glasoed, hyd at groesffordd fawr ansicr gweddill ei fywyd.

Nid ffilm ddogfen mo Boyhood; yn wir, mae’n ffilm unigryw mewn ffordd, gan i’r cyfarwyddwr benderfynu dilyn yr un actorion am ddeuddeng mlynedd. Adunodd union yr un criw i barhau â’r stori bob blwyddyn, ac mae’r canlyniad yn un grymus dros ben.

Sefydlir o’r cychwyn mai teulu ar chwâl yw un Mason, ei chwaer Sam a’u mam Olivia (Patricia Arquette) yn nhalaith Texas. Ar gychwyn y ffilm mae’r tad,  Mason Sr (Ethan Hawke), i ffwrdd yn Alaska yn ‘darganfod ei hun’, yng ngwmni’r eirth, ei Gran Torino a’i gitâr.

Does dim dicter ar ran Olivia, dim ond dyfalbarhad, gan symud o ddyn i ddyn, ac o le i le. Ceisiai’r fam ei gorau glas i wneud yn iawn ar ran y plant, ac mae’r un peth yn wir am Mason Sr. Does dim amheuaeth fod y ddau yn caru eu plant, ond mae bywyd yn cynnig sialensau niferus. Tanlinellir ar hyd y ffilm pa mor ddi-arweiniad yw bywyd pawb, ac nid dim ond i bobol ifanc yn eu harddegau yn unig.

Os oes neges gan y ffilm, yna camgymeriad hardd yw bywyd pob un; wedi’r cyfan, does dim cyfrinach fawr, dim ond torri cwrs ein hunain wrth ddilyn ein greddf.

Mae’n ffilm drugarog iawn yn ei hagwedd at gymeriadau a gwylwyr y ffilm.

Camp fawr y cyfarwyddwr oedd sicrhau ymrwymiad actorion cystal i ymgymryd â phrosiect mor bersonol am gyhyd. Alla i ddim ond dychmygu mai profiad chwerwfelys iawn oedd clywed y geirau ‘that’s a wrap’ ar ddiwedd y cyfnod ffilmio.

Yn achos Richard Linklater ei hun, mae’n ddogfen deuluol tu hwnt, gan mai ei ferch Lorelei sy’n chwarae’r chwaer fawr hynod hoffus, Sam. Ddeuddeg mlynedd yn ôl, roedd Patricia Arquette ac Ethan Hawke yn enwau mawr; mae’r ffilm yn brawf o dalent digamsyniol y ddau, ac yn cynnig gwers mewn hubris Hollywoodaidd i nifer. Ond os oes un seren fawr sy’n disgleirio ar hyd y ffilm, yna Ellar Coltrane fel Mason Jr yw hwnnw.

Anaml iawn y mae actio plant yn taro deuddeg, ond mae’r llanc hwn yn ein llorio’n llwyr. Fel merch yn ei thridegau, sydd dal yn gymysg oll i gyd, ces fewnwelediad i benglog bachgen ar ei brifiant. Diolch i natur byrfyfyr yr actio a’r sgript, uniaethais i yn llwyr gydag ef.

Mae prif ‘gimmick’ amserol y ffilm yn gweithio’n dda wrth gynnig drych i’r deuddeng mlynedd a fu. Cofnodir y broses o heneiddio mewn ffordd hynod gynnil; does dim angen colur na phrostheteg yn Boyhood. Gellir crynhoi technegau ‘peiriant amser’ y ffilm i dri maes penodol; cerddoriaeth, technoleg, a steiliau gwallt amrywiol.

Fel yn achos pob ffilm gan Richard Linklater, ceir trac sain hynod drawiadol; mae’n agor ag anthem gyntaf Coldplay, gan fownsio o Britney i Lady Gaga gan orffen mewn maes mwy lo-fi Arcade Fire, Yo La Tengo a Family of the Year.

Mae’r ffilm wedi’i golygu yn hynod ddeueig – gan olygu fod pawb yn heneiddio’n naturiol. Does dim stori fawr ddramatig, ond ceir eiliadau ysgytwol y bydd nifer yn uniaethu â nhw.

Fel sgwennwr-cyfarwyddwr, mae Richard Linklater yn deall didwylledd i’r dim, gan ganolbwyntio ar gerrig milltir bywyd – rhai mawr a bach. Gyda thrioleg Before Sunrise, dilynodd undod dau gariad dros ugain mlynedd, ac yma mae’n dychwelyd i gyfnod cyfnewidiol Dazed and Confused.

Ymdriniwyd â themau cyffelyb mewn cynyrchiadau fel Cinema Paradiso, American Graffiti, Parenthood a Toy Story 3. I mi, mae’r ffilm Boyhood gystal, os nad gwell, na’r un o’r rhain. Mewn ffordd tawel, ac ingol o onest, mae’n cynnig gobaith a galarnad, wrth ffarwelio’n dyner gyda’n hanes ni ein hunain.

Y Sgôr terfynol*

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 5 Cookie a hanner yn cyfateb i 10 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s