Cofio Mam: Nia Powys Cooke (1939 – 2014)

Mam Capel Caersalem y Bermo 1973

Mae na gefnfor maith o wahaniaeth rhwng ystyr y geiriau ‘roedd’ a ‘mae’; mae’n anodd trafod Mam yn nhermau y gorffennol.

Mam a Lowri

Roedd cael bod gyda hi fel teulu, ar yr eiliad olaf un, yn fraint eithriadol o drist. Wrth afael yn ei llaw, cawsom rannu’n cariad a’n diolchgarwch am rannu’r daith gyda hi. Wrth wasgu’n dynn cyn gadael fynd fe wnaeth hi’r un gymwynas â ni.

Ganwyd Nia Powys Cooke yn Llangollen ym 1939, yn chwaer fach i Iolo Wyn ac Iwan Bryn, ac yn ferch i Anna a WD Williams, oedd yn fardd ac ysgolfeistr yn Ysgol y Sarnau, Meirionnydd, ac ym byw ym mhentre Carrog.

Mam yn Carrog - Iwan Bryn, Nia Powys a Iolo Wyn

Dwy flynedd yn ddiweddarach ym 1941, symudodd y teulu i Harlech yna i Twyni, eu cartref yn y Bermo ; rhannodd hi nifer fawr o hanesion gwych â ni am ei phlentyndod ym mro Ardudwy a’i llawenydd ger y lli.

Roedd Nia yn brif ferch yn Ysgol Ardudwy, ac aeth ymlaen i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Ar droad y Chwedegau rhoddodd ei bryd ar ddinas Caerdydd, lle bu’n ddinesydd balch am hanner canrif a mwy. Yn y ddinas hon hyfforddodd fel athrawes, gan ddechrau gyrfa faith o ddysgu’r iaith Gymraeg, yn Ysgolion Glyn Derw, Cardiff High, ac Ysgol Radyr.

Cyrhaeddodd ddinas Caerdydd ar gyfnod o gynnwrf mawr a deffroad ieithyddol, a bu’n aelod brwd o Aelwyd yr Urdd ar Conway Road. Bu’n byw bywyd rhydd fel merch yn ei hugeiniau gyda’i ffrindiau mewn cyfres o dai ym Mhontcanna; cawsom flas o’r hanes hynny’n ddiweddar iawn. Un atgof gan gyfeilles wnaeth ein rhyfeddu ni yn llwyr, oedd ei rôl fel aelod o grŵp gwerin Y Telêdis. Crewyd y grŵp mewn ymateb i wahoddiad gan Meredydd Evans, ar gyfer y darllediad cyntaf erioed yn y Gymraeg ar deledu BBC Cymru, hanner can mlynedd yn ôl ym 1964.

Y Teledis

Teithiodd Mam i Ganada, Siapan a’r Unol Daleithiau gyda Chôr Poliffonig Caerdydd, a fwydodd y wanderlust a’i heintiodd ar hyd ei hoes.

Ym 1970, yn Ocean Club Tremorfa, yn un o gigs mawr Plaid Cymru gyda Heather Jones, cyfarfu hi â Phil Cooke o’r Porth yna Llanymynech, oedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Dair blynedd yn ddiweddarach fe briododd y ddau yng Nghapel Caersalem y Bermo, cyn cael gwledd i’w gofio a golygfa dros y Fawddach a Chadair Idris yn Bontddu Hall, ger Dolgellau.

Dad a Mam Capel Caersalem y Bermo1

Fe greon nhw gartref yn Nanmor, Penylan – enw a ysbrydolwyd gan Dafydd Nanmor, a fudodd i’r Deheubarth i greu bywoliaeth iddo’i hun fel bardd. Bum mlynedd yn ddiweddarach, ym 1978, yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, fe nganed i, Lowri, yna’r efeilliaid Catrin a Lleucu, ym Medi 1979.

Genedigaeth Lleucu a Catrin

Bu blynyddoedd ein plentyndod yn rhai hapus dros ben, ac ry ni’n tair yn dal i fyw yn yr un filltir sgwâr ger Parc y Rhath. Roedd coginio yn rhan fawr o’n magwraeth ni, ac mae rysetiau Cegin Nanmor ar gof a chadw.

Mam Cegin Trefdraeth

Roedd Mam wrth ei bodd yn darllen – fe fwynheodd hi Awst yn Anogia (Gareth F. Williams) ac Y Gwylliaid (Bethan Gwanas) yn ystod ei misoedd olaf. Carai’r sinema a’r theatr hefyd, a gwyliai chwaraeon o bob math ; ymysg ei harwyr mawr oedd Gareth Edwards, Björn Borg a Roger Federer. Wedi iddi ymddeol fel athrawes ym 1999, fe barhaodd i darganfod llefydd a phrofiadau newydd; yn fwyaf ddiweddar cafodd hwyl ar yr iPad, a enillodd mewn cystadleuaeth ar raglen Heno. Darganfuon ni lwyth o lawrlwythiadau cerddorol arno – roedd caneuon gan Meic Stevens, The Beatles, The Dubliners, Bryn Fôn, Alan Stivell, Geraint Lovgreen a Dafydd Iwan yn eu plith.

Fe deithion ni’n pump gyda’n gilydd dros y byd, ond roedd y gwyliau gawson ni yng Nghymru y llynedd yn arbennig.

Gwyliau ym Meirionnydd

Dair blynedd yn ôl clywodd Mam fod canser arni hi, ac fe ledodd o’i llygad dde i’w hafu; ymatebodd Mam yn ddi-gwyn, a gydag urddas tawel.

Buom yn ffodus i dreulio blwyddyn a hanner ychwanegol gyda hi, diolch i driniaeth canser arloesol. Yn dilyn y triniaethau y llynedd cawsom ddau wyliau bendigedig ym Meirionnydd a Phen Llŷn – ardaloedd oedd yn agos i’w chalon – a cafodd Mam a Dad ddathlu eu pen blwydd priodas ruddem ym Mhlas Bodegroes, Pwllheli  gyda’r teulu.

Mam a Dad

Byddwn yn dychwelyd cyn hir i Feirionnydd i wasgaru llwch Mam ger traeth y Bermo a glannau’r Fawddach. Roedd hi’n caru Caerdydd ond hiraethai am fro ei mebyd.

Tra’n beirniadu cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni, ces fy nghyffwrdd i’r byw gan gerddi R. Williams Parry yn y cofiant buddugol Bob gan Alan Llwyd. Roedd copi o Yr Haf a Cherddi Eraill ar erchwyn gwely Mam, a fedrai ddim peidio meddwl amdani wrth ddarllen Mae Hiraeth yn y Môr a’r Mynydd Maith. Yn ôl Alan Llwyd, ‘mae’r bardd yn ymglywed â’r hiraeth sydd wrth wraidd ac yng nghraidd popeth a phobman trwy’r byd… Y mae’r bardd paganaidd, yr addolwr natur, yn rhan o bob ddoe ac echddoe a fu erioed.’

Byddwch yn falch i glywed does gen i mo’r nerth i’w chanu yn ei hangladd heddiw, ond mae fersiwn gynnar gan David Lloyd, ar yr alaw gan Dilys Elwyn Edwards o Ddolgellau yn anfarwol o hardd.

Mae Hiraeth Yn Y Môr

Mae hiraeth yn y môr a’r mynydd maith,                                                                                                           

Mae hiraeth mewn distawrwydd ac mewn cân,                                                                      

Mewn murmur dyfroedd ar dragwydd daith,                                                                           

Yn oriau’r machlud, ac yn fflamau’r tan:                                                                              

 Ond mwynaf yn y gwynt y dwed ei gwyn,                                                                                 

A thristaf yn yr hesg y cwyna’r gwynt,                                                                                  

Gan ddeffro adlais adlais yn y brwyn,                                                                                     

 Ac yn y galon atgof atgof gynt.                                                                                               

 Fel pan wrandawer yn y cyfddydd hir                                                                                        

Ar gân y ceiliog yn y glwyd gerllaw                                                                                        

Yn deffro caniad ar ol caniad clir                                                                                            

O’r gerddi agos, nes o’r llechwedd draw                                                                                     

Y cwyd un olaf o’i leferydd ef,                                                                                                 

 A mwynder trist y pellter yn ei lef.

R. Williams Parry

Mam i ni gyd oedd ein canol llonydd distaw, a’n enaid hoff, cytûn. Fe adawodd ei chariad a’i chadernid a’i Chymraeg – fe wnaiff hynny barhau trwyddon ni.

Serch ein galar dwys ry ni dal yn ‘deulu dedwydd’ gan y bydd hi gyda ni am byth.

Cofio Mam

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

  1. Dywedodd llinosrowlands :

    Annwyl Lowri,

    Mae hwn yn deyrnged hyfryd. Ddrwg iawn gennai glywed.

    Llinos

    Date: Tue, 19 Aug 2014 10:32:51 +0000
    To: llinosr@hotmail.com

  2. Dywedodd siantirdu :

    Diolch, Lowri, am rannu’r deyrnged wresog hon. Rwy’n teimlo’n gyfoethocach ar ôl ei darllen.
    Cofion atoch fel teulu,
    Siân xx

  3. Dywedodd Heledd ap Gwynfor :

    Hyfryd iawn Lowri. Cofion at y teulu i gyd xx

  4. Dywedodd Dylan Wyn :

    Arbennig iawn Lowri. Teimladwy, twymgalon, sy’n cyffwrdd bob un wan jac ohonom aeth drwy’r profiad brawychus o golli rhiant neu rywun annwyl arall yn ddisymwth. Bydd yr atgofion melys yn para am byth.

  5. Dywedodd Iwan ap Huw Morgan :

    Diolch am rhannu Lowri. Cariad a chofion atoch chi i gyd. x x

  6. Dywedodd Siwan Rosser :

    Diolch am rannu’r deyrnged hyfryd hon, Lowri. Roedd yn fraint cael dod i adnabod dy fam a chynnau’r hen gyfeillgarwch a fu rhyngddi a’m mam innau yn Ardudwy. Gyda chydymdeimlad a chofion annwyl atoch fel teulu

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s