Adolygiad Ffilm: The Hundred-Foot Journey (PG)

The Hundred-Foot Journey

Y Ser: Helen Mirren, Om Puri, Manish Dayal a Charlotte Le Bon

Y Cyfarwyddo: Lasse Hallstrom

Y Sgrifennu: Addasiad sgript Steven Knight o nofel The Hundred-Foot Journey gan Richard C. Morais

Hyd: 122 mun

Adolygais The Hundred-Foot Journey ar raglen deledu Prynhawn Da ar S4C ar ddydd Gwener, Medi 19eg, 2014. Cliciwch yma i wylio eto.

Dal i’w gweld yn y sinemau ddeufis a mwy ers ei rhyddhau y mae ffilm y bydd foodies yn ei ffafrio. Serch ambell elfen gawslyd a rhamant di-nod, ar y cyfan mae’n cynnig gwefr i’r synhwyrau.

Mae The Hundred-Foot Journey yn dilyn Hassan Kadam (Manish Dayal), scogydd ifanc y’n cyrraedd Ewrop o Mumbai. Fell plentyn dysgodd goginio dan arweiniad ei fam, ond yn dilyn ei marwolaeth anhymig, rhaid i Hassan a’i deulu geisio dechrau newydd.

Mae Hassan yn gogydd greddfol, sy’n deall y berthynas rhwng bywyd a bwyd, a glania’r teulu bywiog mewn pentre mynyddig yn Ne Ffrainc. Ymhen dim sefydlai’r teulu dy cyri gan troedfedd i ffwrdd o fwyty Michelin Madame Mallory (Helen Mirren) – sefyllfa sy’n denu chwilfrydedd y pentrefwyr lleol.

Mae’r teulu a’u bwyty, y Maison Mumbai yn codi gwrychyn y perchennog snobyddlyd, sy’n ffafrio ryseitiau clasurol o Ffrainc. Mae agwedd aruchel Madame Mallory yn cythruddo’r penteulu Papa Kadam (Om Puri) – oes modd pontio dau ddiwylliant mor wahanol?

Gwendid mwya’r cynhyrchiad yw rhamant anhredadwy rhwng Hassan â’r gogyddes Amelie-aidd Marguerite (Charlotte Le Bon). Ond mae’r cemeg rhwng Helen Mirren ac Om Puri yn glir i’w weld, a dwysheir perthynas dyner rhwng y ddau ar hyd y cynhyrchiad.

Mae’r ffilm ar ei gorau tra’n canolbwyntio ar fwyd, a’r delweddau a’r atgofion y gall un brathiad eu cyfleu. Pwysleisir fod y broses synhwyrus o baratoi pryd yn gwahodd ysbrydion o’r gorffennol i’r wledd.

Y mae’r ffilm yn dwyn rhai o glasuron y genre i gof – Ratatouille, Like Water For Chocolate, a Babette’s Feast i enwi rhai. Mae’n sicr yn werth nodi mai cyfarwyddwr Chocolat (Johnny Depp, Juliette Binoche) sydd wrth y llyw, ac mae’r ffilm hon o union yr un safon.

Rhaid dweud i mi ymgolli mewn coginio ers marwolaeth fy Mam, gan fynd ati i ail-greu ei holl ryseitiau hi. Saethodd dagrau i’m llygaid yn aml iawn wrth wylio’r ffilm; mewn mannau, mae hi’n gwbl hudolus ac yn rhodd i’r rhai sy’n gwirioni yn y gegin.

Serch ambell wendid fan hyn a fan draw, mae’n gynhyrchiad teimladwy dros ben; mynnwch gip os am flas go dda o siwgwr a sbeis .

Sgôr Terfynol* 

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 4 Cookie yn cyfateb i 8 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Bwyd, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s