Dihangfa o’r Ddinas: Sgrifennu Bwyd yn San Francisco

A Feast For The Eyes : Gastronomy and Fine Print

Ers rhai blynyddoedd bellach bum yn ymchwilio hanes Cymro gwych a fu farw union hanner can mlynedd yn ôl yn ystod mis Tachwedd. Ganed Idwal Jones ym Mlaenau Ffestiniog yn 1888, a’r cynllun oedd dilyn ôl traed ei dad i’r chwarel. Ond trwy hap, neu ffawd, dilynodd ei drwyn i dalaith Califfornia, lle gwnaeth ei enw fel arloeswr ym myd sgrifennu bwyd a gwin California Cuisine.

High Bonnet - Idwal Jones

Enillais ysgoloriaeth y llynedd i deithio i Galiffornia i agor archifau Idwal ym Mhrifysgolion Los Angeles, Santa Barbara a Berkeley, gan gyhoeddi deg o flogbostiau cynhwysfawr yn datgelu hanes y daith. Mae na gymaint i ddweud am y chwedl o ddyn, gan fod neb yma’n gwybod amdano – fy ngobaith mawr yw sgrifennu cofiant o ryw fath.

Ond mae’n deg i ddweud i’r flwyddyn a fu gynnig heriau pur annisgwyl – canser fy rhieni, damwain car cas a marwolaeth diweddar fy Mam – a olygodd i mi neilltuo’r gwaith ymchwil am Idwal am y tro. Dwi’n ddiolchgar tu hwnt i mi gael cyfle go iawn i ganolbwyntio ar bethau mawr bywyd, a threulio amser â theulu a ffrindiau yma yng Nghymru.

Ro’n i’n gwbod ers tro, fodd bynnag, fod hannercanmlwyddiant marwolaeth Idwal ar y gweill, a thrwy gyd-ddigwyddiad llwyr, darllenais am gynhadledd i ail-danio’r awen ar Twitter.  Trefnwyd deuddydd o drafodaethau gan The Book Club of California ym maes dylunio a sgrifennu bwyd, o dan y teitl A Feast For the Eyes: Gastronomy and Fine Print – i’w gynnal yn San Francisco ar ddiwedd mis Hydref.

Fel awdur a beirniad ym maes sgrifennu bwyd denodd yr amserlen ddŵr i’m dannedd, o sesiynau’n cofiannu enwau mawr y maes – Julia Child ac MFK Fisher, y ddwy o Galiffornia – i drafodaethau am ddatblygiad dylunio llyfrau coginio, ynghyd â chyfraniadau gan haneswyr bwyd a diod, a blogwyr poblogaidd sydd bellach yn awduron.

Ond yr hyn wnaeth selio’r fargen i mi oedd sesiwn am arloeswyr cynnar California Cuisine, gan gynnwys  fy arwr Idwal – y ‘Welsh gastronome’.

Cefais fodd i fyw yng nghwmni’r holl gyfranwyr angerddol, gan ddysgu am wreiddiau cynnar y llyfr coginio; y mae’r ddyled yn fawr i fynachod, meddygon, ac amaethwyr yr Oesoedd Canol – sef awduron cynta’r genre – a cafodd y llyfrau cynnar eu cadw’n saff mewn llyfrgelloedd llychlyd Lloegr a’r Almaen yn hytrach na cheginau mawreddog Ffrainc a’r Eidal.

Rhannwyd hanes hynod y ‘Celebrity Chef’ cyntaf, y Ffrancwr Marie-Antoine Carême (1783-1883), a fu’n goglais gloddestwyr, o Tsars Rwsia i Frenhinoedd Lloegr  gyda’i allu anhymig yn y gegin. Roedd paratoi gwleddoedd mawrion, yn null cynadleddoedd G8 heddiw, yn ail natur iddo ef, fel yr eglurodd yr arbenigwraig bwyd Anne Willan wrthom ni.

Diolch i’r llyfrgellydd diddan Gary F. Kurtz, cawsom gip ar rai o’r ryseitiau cynharaf a gofnodwyd yng Nghaliffornia – talaith a gyfeiriwyd ato ganddo fel ‘the centre of the culinary arts in the world’, i gymeradwyaeth wresog! Ond serch ei bri ym myd gastronomi cyfoes, diolch i Thomas Keller o The French Laundry a’i debyg, gwreiddiau hynod werinol sydd i sgrifennu bwyd y dalaith.

Daeth hynny’n glir wrth glywed cyfres o ryseitiau a gofnodwyd adeg y Gold Rush, wrth i gogyddion y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg flaenoriaethu problemau pob-dydd dros haute cuisine . Roedd olew salad yn wych, mae’n debyg, i waredu pryfaid o’r glust, ac roedd cyflwyno llysywen fyw i’r ddiod gadarn yn foddion effeithiol i feddwdod! Hysbysebwyd sawl rysait i lenwi’r bol ac i waredu plorod; ‘… and cures corns and colic too!’ Cafwyd cyfres o lyfrau yn y 1850au gan ferched i hudo cariad trwy goginio; gwerthodd ‘The Bride’s Cookbook’ fel slecs diolch i ymgyrch farchnata lwyddiannus;

‘Since through a man’s stomach his heart is won, obtain this book and the work is begun; try  its recipes and set a good dinner, and every lass is sure to be a winner’!

Pwysleisiodd Tom Ingalls – dylunydd labeli gwirod a gwin yn dilyn gyrfa gyda Rolling Stone – bwysigrwydd chwedloniaeth yn esblygiad y coctel, a datgelodd hanes Jerry Thomas (1830 – 1885), ‘the father of American Mixology’.  Ymhelaethodd hefyd ar effaith Prohibition ar werthiant alcohol, wrth i nifer o’r diodydd gael eu marchnata fel ‘horse remedies’ , a rhannwyd hanes y ddadl dros hawlfraint y Mai Tai, rhwng Don the Beachcomber a bwyty Trader Vic’s – sy’n dal i rygnu mlaen hyd heddiw.

Roedd hefyd yn wefreiddiol clywed awduron angerddol yn trafod llenyddiaeth bwyd, fel y darlithydd Jeanette Ferrary o Brifysgol Stanford, wrth gyfeirio at ‘Her Royal Amazingness, MFK Fisher’.

The Gastronomical Me - MFK Fisher

Dyma ddynes unigryw wnaeth ei gyrfa fel sgwenwraig bwyd yn ystod yr Ugeinfed Ganrif; fe’i thrysorir hyd heddiw yn yr Unol Daleithiau fel ‘poet of the appetites’, chwedl John Updike. Mewn maes mor wrywaidd roedd ganddi ‘lais’ sgrifennu cryf, ac mae ei rhyddiaith goeth yn dal i ennyn edmygedd ac eiddigedd. Roedd yn rhyfeddol deall fod bod yn fenyw ym maes sgrifennu bwyd dal yn beth anghyffredin heddiw.

Arweiniodd trafodaeth frwd am ei bywyd a’i gwaith at gwestiwn pur anochel; a ddylai awdures fel Mary Frances Kennedy Fisher gael ei hystyried mewn cyd-destun llenyddol, neu gastronomaidd yn unig – beth, yn ei hanfod, yw’r gwahaniaeth rhwng sgrifennu a sgrifennu bwyd? Does dim gwahaniaeth, oeddd ateb di-gyfaddawd Anne Zimmerman, awdur An Extravagant Hunger: The Passionate Years of M.F.K. Fisher, hefyd o Brifysgol Stanford;  yn syml, meddai, ‘A good writer is a good writer.’

Ei chyngor i unrhywun sydd erioed wedi clywed amdani fyddai darllen The Gastronomical Me‘You go home, you get a glass of wine and you engage with the book.’

Ro’n i eisioes yn gwybod am MFK Fisher trwy fy ymchwil am Idwal Jones – roedd MFK yn un o gefnogwyr mwyaf ei waith.

The Vineyard - Idwal Jones

A galla i ddweud yn sicr, mae hi’n hoff awdur gen i, wrth iddi grisialu grym bwyd yn ei geiriau. Fe ddywedodd MFK unwaith, ‘Since we must eat to live, let’s do this intelligently and thoughtfully’ . Cyfeiriodd yn syml at yr orchwyl o bobi bara mewn termau Bwdistiaeth Zen; ‘No chapel or yoga class will leave you feeling so at peace’.

Afraid dweud, roedd y gynhadledd yn llwyddiant ysgubol, ac yn ysbrydoliaeth llwyr – ac roedd mor wych clywed y Cymro Idwal Jones yn cael ei drafod ymysg y mawrion. Ond yr hyn ddaeth yn amlwg wrth wrando ar y gwybodusion oedd yr union beth sy’n wir yma yng Nghymru ;  doedd neb yno’n gwybod am un astudiaeth o fywyd a gyrfa Idwal Jones. Ces fy annog ymhellach gan gyfeillion newydd – gan gynnwys Lucey Bowen, o dras Cymreig – i fwrw mlaen â’r ymchwil, a gwahoddiad i letya tra’n sgrifennu cyn datgelu ffrwyth fy llafur.

Yn aml iawn wrth gymeryd y daith hon dwi’n synhwyro fod y planedau yn eu lle, a dwi’n edrych ymlaen i gael cyfle i ddechrau arni go iawn. Mae gen i doreth o waith ymchwil am Idwal o ‘mlaen i a’r cam cyntaf fydd erthygl i rifyn mis Rhagfyr o gylchgrawn Barn, i gael nodi bywyd a gyrfa Idwal Jones ag urddas.

Nes i adael y gynhadledd â phentwr o lyfrau, a nifer o’r rheiny’n lyfrau ryseitiau newydd sbon, fel llyfr pasta Flour + Water a beibl pobi Tartine – y ddau yn deillo o fwytai llwyddiannus yn San Francisco. Ond fy ffefryn heb os, yr es i’r holl ffordd i siop lyfrau bwyd Omnivore yn Noe Valley i’w brynu, oedd Huckleberry gan Zoe Nathan.

Huckleberry - Zoe Nathan

Huckleberry , heb os, yw fy hoff gaffi a bwcws yn y byd, a treuliais sawl bore yno’n brecwasta yn Santa Monica y llynedd. Ceir cyfuniad gwych o ryseitiau sawrus a melysion daneithiol ben bore – a dwi’n benderfynol o ail-greu Fresh Blueberry Brioche y clawr!

A sôn am ailgreu, bu’n rhaid talu teyrnged i glawr un o’m hoff lyfrau; Trout Fishing in America gan Richard Brautigan. Mae un o fy hoff ddyfyniadau o’r straeon byrion swreal yn cyffwrdd â’r maes sgrifennu bwyd, a tynnwyd llun y clawr o’r awdur a’i gariad yn Washington Square, North Beach (lle briododd Marilyn Monroe â Joe DiMaggio yn ogystal) gan fod nifer o’r straeon â chysylltiad â’r parc braf yn San Francisco.

Yn addas iawn, mae’r awdur yn gorffen y llyfr gyda’r linell, ‘I always wanted to write a book that ended with the word Mayonaisse’.

Trout Fishing in America

 

Lowri Cooke

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Bwyd, Caffi, Idwal Jones, Llenyddiaeth, Llyfrau. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Dihangfa o’r Ddinas: Sgrifennu Bwyd yn San Francisco

  1. Hysbysiad: Dihangfa o’r Ddinas: Sawru Bwyd a Diod San Francisco | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s