Dihangfa o’r Ddinas: Sawru Bwyd a Diod San Francisco

San Francisco

Heb hollti blew, bu bywyd yn wallgo dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf, ac felly roedd profi dihangfa i San Francisco yn gyfle i ail-wefru ac ymlacio. Ond gan fod fy ngwaith yn bleser, ces f’ysbrydoli ymhellach, gan bobol, sgyrsiau, ymarfer corff ac awyr iach – a phrydau bwyd cofiadwy.

Yn gwmni i mi ar y daith hyfryd hon oedd fy nhad, yr Athro Phil Cooke, ac roedd hi’n bleser cael ei gwmni wedi cyfnod eithriadol o anodd i’r teulu.

Phil Cooke Lowri Cooke San Francisco

Tra roedd Mam yn derbyn triniaeth arbrofol am ei melanoma hi, derbyniodd Dad ei ddiagnosis ei hun – canser gwahanol iawn, a olygai driniaethau llawer mwy creulon mewn ffordd. Ag ystyried pob her, dwi’n falch i ddweud fod Dad yn gwneud yn wych ar hyn o bryd. Yn wir, wrth i mi sgrifennu hwn, mae fy nhad yn Norwy, lle mae e’n Athro Ymweliadol ym Mhrifysgol Bergen.

Estynnais wahoddiad iddo ymuno â mi er mwyn cael ysbaid mewn dinas oedd yn gyfarwydd i ni’n dau.

Fe deithion ni fel teulu i San Francisco fwy nag unwaith dros y blynyddoedd, ac roedd hi’n braf cael ail-ymweld â hen ffefrynnau. Ond roedd hi hefyd yn gyfle i fwynhau profiadau newydd, a dal i fyny go-iawn gyda’n gilydd.

Lai na thri mis sydd ers marwolaeth Mam, a bu’n gyfle i anadlu ac adlewyrchu, mewn man lle rannwyd cymaint o hwyl gyda’n gilydd. Dwi eto i wynebu gwir fawredd y golled – y mae’r tristwch yn fy nharo ar ffurf tonnau. Mae nhw’n gyson ond cymharol fychan ar hyn o bryd, a dwi’n ofni cael fy nharo gan tsunami, a byd o boen. Mae’n anodd trafod galar heb swnio’n fyfïol ac ystrydebol i eraill mae’n siwr, ond yn ogystal â phrofi ing ei habsenoldeb, ces fy llenwi â chariad Mam yn ystod y daith.

Os yw pererindod bwyd i bendraw’r byd yn swnio’n honco bost o dan yr amgylchiadau, yna roedd yn gam hollol naturiol i mi, gan fod bwyd a choginio yn rhan greiddiol o’n teulu ni. Fyth ers colli Mam, dwi wedi ymgolli mewn coginio wrth fynd ati i ail-greu ei ryseitiau hi , a’m ffefrynnau innau, a’u haddasu’n ogystal er mwyn creu atgofion newydd. Mae’n bleser pur paratoi pryd o fwyd i eneidiau hoff cytun; y mae’n broses synhwyrus sydd yn deffro’r dychymyg yn syth. Yn sylfaenol, mae coginio gyfystyr â chariad i mi, ac mae’n bwydo’r corff a’r enaid; os ydw i’n gwbl onest hefyd, dyma un rhan o mywyd sy’n llwyr dan fy rheolaeth i.

Oes na un arogl, tybed, sy’n cyfleu ‘Adre’ yn gryfach na nionod yn ffrio yn y gegin? Yn fy mhrofiad i, mae’n sail i bob gwledd ganol-wythnos. Efallai gwynt cawl wrth gerdded trwy’r drws , neu Spag-Bol yn ffrwtian yn y cefndir, a sain chwerthin, direidi a thensiwn ‘Too Many Cookes…’ yn y gegin.

Fu bron i mi gael haint yn ddiweddar wrth ddechrau un o gaserôls Mam, ond hebddi hi yn cyfarwyddo yn y cefndir, ar ôl arllwys y stoc, a joch o win gwyn, do’n i ddim yn gwybod be i wneud. Trois yn reddfol at ddrôr llawn nialwch teuluol a ffeindio gwyrth o becyn cudd yn y cefn; bag plastic llawn ryseitiau yn llawysgrifen Mam, a’r cyfarwyddiadau cywir o’m mlaen.

Yn absenoldeb coflaid gariadus ganddi hi, roedd hynny wir yn ‘gwtsh’ i’r galon .

Cynigodd felly daith i San Francisco – yna ‘mlaen i Doronto am dridiau – gyfle am ysbaid o’r gegin, a darganfuais flasau newydd, tra chyffrous. Islaw y mae cip o’r seigiau sawrus a lwyddodd i’m trawsblannu i fyd arall – byd o bleser anhygoel lle blethwyd y gorffennol, presennol a’r dyfodol yn un…

Press Club

Press Club San Francisco

Wedi deuddeg awr yn yr awyr cyn gwynebu gwep sarrug dyn tollau maes awyr San Francisco, y cyrchfan callaf oedd fy ngwely, ar fy mhen. Ond na, wedi cyrraedd y gwesty canololg (The Herbert Hotel, ger Union Square) , aethom allan i herio’r drefn. Gamau’n unig i ffwrdd o’r gwesty ar Yerba Buena, ychydig fetrau o Market Street, saif bar gwin a chwrw gorau’r ddinas, sef Press Club.

Gerllaw y mae swyddfa’r San Francisco Chronicle, lle roedd testun fy ymchwil, Idwal Jones, yn feirniad ffilm a theatr cyn troi ei law at sgrifennu bwyd.

Yno cafwyd goleuo isel, cerddoriaeth hypnotig- Daft Punk, Faithless ac MGMT yn eu plith – a chyfle i flasu amrywiaeth o gwrw a gwin o Galiffornia a thu hwnt. Tra aeth Dad am botel o’r IPA lleol, dewisais i ‘flight’ o dri gwin coch gwahanol yn nheulu Pinot Noir; fersiwn ysgafn iawn o Napa, Bwrgwyn ffrwythog o Ffrainc, ond aeth y wobr i’r gwin blodeuog o Bethel, Oregon. Fe asiodd yn wych â’r cnau melys rhost a thameidiau bach o Brie o Minnesota. Croeso hynod dwymgalon i ddinas San Francisco…

Brecwast: Sweet Maple a Dottie’s True Blue Café

Swedish Buttermilk Pancakes, Sweet Maple San Francisco

Gwell sefydlu hyn i ddechrau; fy mrecwast arferol i yw paned o de a darn o dost brown gyda marmaled oren neu jam mafon, a dyna ni.

Es i felly ‘amdani’ go iawn gyda phryd pwysica’r dydd, gan hepgor fy nghinio’n aml – a hynny am resymau ddaw’n hollol glir. Uchafbwynt i mi, o ran brecwast y gwyliau, oedd y Swedish Buttermilk Pancakes yn Sweet Maple, Pacific Heights – fersiwn denau (diolch byth) o’r pancos gordew, fflwfflyd a geir, yn ddi-eithriad, ym mhobman yng Ngogledd America. Fe’u cyflwynwyd ar y cyd â ffrwythau ffres y tymor – mefus a mwyar duon llawn blasau’r hydref – a’u taenu’n ysgafn â surop masarn, a gwasgiad da o oren ffres.

Ar fwydlen yr un bwyty ar fore dydd Sul, cynigwyd hefyd eggs over easy gyda’r saig unigryw Millionaire’s Bacon – sef cig moch hynod drwchus wedi’i ffrio mewn surop masarn a pherlysiau Cajun poeth – dewis fy Nhad.

Millionaire's Bacon Sweet Maple

Os yw hynny’n swnio’n ffiaidd i chi, allai’ch sicrhau, roedd y bacwn yn wych. Mae na reswm paham i’r bobol ar ein holau giwio am awr a mwy – fe gyrhaeddon ni mewn da bryd toc ‘rol 9, diolch byth. A hithe’n ddiwrnod mawr i dîm pêl fâs lleol y Giants wrth gystadlu yn y World Series y prynhawn hwnnw, roedd angen llenwi boliau ar bawb cyn y loddest anochel nes ymlaen.

Sweet Maple

A sôn am giwio am awr, dyna’n union a wnaethom yn achos Dottie’s True Blue Café, oddi ar Market & 6th ger ardal y Tenderloin.

Dottie's San Francisco

Yn wahanol i Gymru, mae’r Americanwyr yn gweld ciw, a meddwl ‘dyna’r lle i mi’. Gwibiodd yr amser, diolch byth, wrth siarad â Rachel a Ross (ie wir!) – brawd a chwaer o North Carolina, a fu’n ddigon caredig i ateb pob cwestiwn gen i am fanylion lleiaf eu cinio Thanksgiving ymhen y mis. Twrci, cranberries – digon cyfarwydd i ni – ond mae tatws melys wedi’u rhostio â marhamllows gam yn ormod i mi… Serch hynny, fe ymdrechaf i ail-greu’r ffieiddfelysfwyd, i finiogi rhywfaint ar fy chwaeth!

Wedi sgwrs bwyd o’r fath, roeddwn yn awchu am frecwast a hanner; i fod yn deg, dyna’n union a gefais, diolch i omlet ‘Southwestern’ Dottie’s True Blue Café gyda’i blasau Hisbaenaidd, oedd y nesaf peth at pizza American Hot.

Dottie's Southwestern Omlet

Llwyddais i goncro’i dri chwarter, cyn i’r mynydd o home-fries fy nhrechu a’m gadael yn ysu am ocsigen. Blasus iawn, ond blincin hec, ma’r platiau brecwast yn anferthol (newsflash!).

Tra’n esgyn yr omlet, clustfeiniais yn gegrwth ar sgwrs rhwng Mam a merch oedd yn trafod yn frwd wrth fy ymyl. Roedd y fam wedi ariannu ‘start-up’ newydd y ferch, oedd yn ymateb i fwlch yn y farchnad. Tai bach pren wedi’u hail-gylchu a’u peintio’n ddel, i gathod wneud eu busnes yn y tŷ; addas iawn i anifeiliaid sy’n byw mewn fflat high-rise (sydd ar gynnydd ym mhob dinas, mae’n debyg),  a dim gobaith am ardd neu lwybr gerllaw. Bu’n rhaid i mi ofyn pa mor llwyddiannus oedd y cynllun; dywedodd y ferch fod ganddi bopeth ond y teitl. Cynnig Dad oedd ‘Tabby Chic’, felly da chi, gwyliwch y gofod…!

Hops & Hominy

Mescal Margarita Hops and Hominy

A sôn am start-up… Dyna lle oeddwn i, yn meindio musnes fy hun mewn bar o’r enw Hops & Hominy, pan ddenwyd fy llygaid gan hyfrydbeth leimwyrdd , oedd yn agoriad i sgwrs ddifyr iawn.

Mescal Margarita oedd y ddiod dan sylw, a Jared oedd ei berchennog – awgrymodd â gwên y dyliwn i archebu un fy hun. Dros ddiod a sgwrs, darganfuais iddo sefydlu ap  Chef’s Feed – sy’n cynnig argymhellion bwytai a bars gan gogyddion rhyngwladol o fri, wedi iddynt gwblhau eu shifft hwyrol ac awydd gwledd eu hunain.  Golygai hyn fod Jared yn teithio rownd y byd gyda’i waith, ac yn mynychu bars a bwytai gorau y byd. Mae’n werth nodi yma fod cymaint o bobol ifanc San Francisco yn sefydlwyr aps neu’n gwireddu eu breuddwydion diolch i nawdd gan Venture Capital. Roedd hi’n hollol ysbrydoledig siarad â rhai o’r bobol hyn, mewn bar – neu gaffi ben bore.

Ond nol i’r Mescal Margarita, a dyna i gyd sydd angen i chi wybod yw ei fod y gwirodyn yn cynnwys mêl o’r planhighyn maguey, yn hytrach na blue agave sy’n sylfaen i tequila. Yn wahanol i Margarita tequlia arferol, roedd gan hwn flas myglyd braf. Afraid dweud, wnaeth yr hyfrydbeth melys y tric yn llwyr wedi llwnc neu ddau yn unig. Ceir dywediad yng nghynefin y planhigyn Mescal, rhanbarth Oaxaca yn Ne-Orllewin Mecsico; ‘para todo mal, mezcal, y para todo bien también’ ; ‘i bopeth gwael; Mescal – i bopeth da, run fath!’

Dychwelais i’r bar hwnnw ar derfyn y gynhadledd ysgrifennu bwyd, am glasur o goctel, Old Fashioned – sy’n ffefryn gyda mi, diolch i Don Draper, cyfres ddrama Mad Men

Old Fasioned Hops and Hominy

Ond beth am bryd bwyd go-iawn?

Wel, ag ystyried fy niddordeb mewn coginio rhanbarthol, diolch i’m ymchwil maith i hanes Idwal Jones, dewisais ymweld â thri bwyty amlwg yn San Francisco i gael chwa o California Cuisine; dwi’n falch i ddweud, chefais i mo fy siomi.

Bar Tartine

Bar Tartine

Soniais eisioes yn y blogbost diwethaf am y beibl pobi a brynais yn San Francisco; llyfr ryseitiau teisennau Tartine yn ardal Hisbaenaidd y Mission. Wel nid nepell o’r becws hwnnw (sy’n cyrraedd y brig mewn rhestrau rhyngwladol), y mae’r brawd-fwyty anodedig Bar Tartine. Mewn gofod golau braf llawn lleisiau llawen ar nos Iau, cawsom bryd o fwyd gwahanol iawn i’r disgwyl…

Sefydlwyd y becws gwreiddiol yn 2002 gan Chad Robertson ac Elisabeth Prueitt – dilynwyd hynny gan agoriad y bwytyyn 2005. Ers 2010, pan ymunodd Nicolaus Balla o Hwngari â’r tim, mae pwyslais  y fwydlen ar gyflwyno seigiau o Ddwyrain Ewrop trwy ddefnyddio cynnyrch lleol San Francisco.

Dechreuwyd ein pryd â glasied yr un o gwrw Black Lager, Moonlight Brewing ‘Death & Taxes’, Sonoma ger Dyffryn Napa – cyn gael glasied o win coch Sangiovese/ Merlot o Santa Barbara. Cawsom ar ddeall gan Donny ein gweinydd y byddai blasau cadarn ein diodydd yn gweddu’n berffaith â’r bwyd dan sylw, a gychwynodd gyda’r dorth surdoes orau erioed.

Eplesir y toes – dŵr, blawd gwyn a gwenith cyflawn – â halen Guérande o Ffrainc, i greu crystyn gwydn a bara hynod sawrus; sôn am fanna o’r nefoedd, a diolch byth, roedd digon ar ôl ar gyfer fy mrecwast drannoeth.

Dau salad a ddilynodd – i ddechrau, platiad blasus tu hwnt o datws melys o Siapan (nid anhebyg, rhaid dweud, i dato newi Sir Benfro!) â chaws feta ac afocado a gyfosodwyd gan gnau Ffrengig gwyrdd hynod grenshlyd.

Sweet potato avocado green walnut salad Bar Tartine

Yna bowlen fawr o ddail shicori ffres, dresin brwyniaid (anchovies) a marchruddugl gwyrdd.

Chicories with anchovy dressing and green horseradish Bar Tartine

Roedd y cyfuniad hwnnw yn rhy chwerw i mi, gan saethu fyny fy ffroenau ar bob un cegaid, ond roedd Dad – sy’n caru blasau ar begwn pella’r sbectrwm sawrus -wrth ei fodd.

Fel prif gwrs y noson, dewisais y saig sydd fwyaf nodedig i Bar Tartine – beef tartare on oat porridge toast with tonnato sauce – a rhaid dweud, dwi erioed wedi mwynhau cig eidion amrwd mor ysgafn yn fy myw. Ychwanegodd y saws pysgod, a’r bara ceirch, ddeimensiwn oedd ar unwaith yn felfedaidd ac yn grenshlyd, a toddodd y cyfan yn hyfryd yn y geg.

steak Tartare Bar Tartine

Cyfuniadau heriol, ffres ac unigryw, na flasais i erioed o’r blaen – cyflwyniad gwych i sîn swpera San Francisco.

Sons and Daughters

Sons & Daughters San Francisco

Wedi i mi fwynhau pryd bwyd anhygoel yn Sons and Daughters y llynedd, penderfynais rannu’r profiad gyda nhad.

Wrth gerdded i’n cyrchfan ro’n i’n falch i weld bod y Nude Male Show:Touch Our Junk dal ar agor, ger y bwyty ar Bush Street, ar y ffin ‘TenderNob’ rhwng y Tenderloin a Nob Hill! Ond wedi profiad trosgynnol yn y bwyty Michelin, dim ond siom fyddai shew o’r fath…

Ice plant, purslane, tokyo turnips, ollalieberries a bee balm;  detholiad yn unig o’r deugain o gynhwysion a hysbysebwyd ar ein bwydlen blasu. Rwy’n eitha siwr y byddai René Redzepi ei hun yn gegrwth yn wyneb cynnyrch sy’n deillio o fferm Dark Hill y  bwyty uwchben mynyddoedd Santa Cruz.

O’r fforch i’r fforc a’r gât i’r plât, a bwyta pen-i-gynffon – ar ben hynny, taflwch gastronomi moleciwlar i’r pair yn ogystal. Mae Matt McNamara a Teague Moriarty – a sefydlodd y bwyty yn 2010 – yn cyfuno’r cyfan yn chwareus, ond mewn awyrgylch hynod gartrefol. Coeliwch chi fi, does dim owns o ryfyg ffroenuchel yn perthyn i’w bwyty bychan.

Cychwynnwyd ein pryd bwyd gyda brathiad bendigedig a blas o fae San Francisco ; boliau brithyll, créme fraîche a draenog y môr.

Scallop Quinoa and limequat - Sons and Daughters

Dilynwyd hynny gan y saig ddeliaf erioed; betys rhost gyda hadau mwstard, a gyfoethogwyd gan flasau cynnes perlysiau cyri Ffrengig Vadouvan, a’u cyflwyno ag arddangosfa o flodau bwytadwy.

image

Profiad newydd sbon a ddilynodd, sef Sunchoke Sweetbreads – cawl eirin oen gyda madarch chanterelle, cyfuniad amheuthun, rhaid dweud. Diolch byth am enw pert i guddio’r gwir dros dro, gan mai ceilliau oen yw Sweetbreads yn y bôn.

Sunchoke Sweetbreads, Sons and Daughters

Cawson ddau ‘brif gwrs’; cig moch gydag afal a bresych cyrliog – kale – i gychwyn , oedd yn wych. Cafodd y cig ei weini mewn tair ffurf gwahanol, gan gynnwys ham hock hynod sawrus,  a’r bol porc melysaf a sawrais i erioed.

Pork Apple and kale Sons and Daughters

Yna cyw iâr â saws cyfoethog gwin coch Bwrgwyn, a gyfosodwyd â chloron duon, a gyflwynwyd eto mewn tair rhan; roedd croen yr adennydd yn llawn blasau hallt, a’r frest megis cwrlid, roedd mor feddal.

Chicken Sons and Daughters

Granita gellyg oedd y cyntaf o dri melysfwydd , a gyflwynwyd gyda sorbet leim a brenhinllys, a saethodd i frig bwydlen fy mreuddwydion.

Bartlett Pear Granita Sons and Daughters

Ond yn dilyn hyn oll, roedd y gorau eto i ddod, teisen gaws persimmon  – neu ffrwyth Saron, sy’n deillio o’r Canol Oesoedd –  gyda hufen iâ yr un ffrwyth , a thaffi a mintys.  Sôn am wibdaith nol mewn amser cyn cael fy hyrddio i’r dyfodol ar amrantiad.

Persimmon Sons and Daughters

Ac os nad oedd hynny’n ddigon, gorffenwyd ein pryd ar nodyn o berffeithrwydd; mefus Alpaidd, siocled a thaffi’r un blas â chyflaith Nos Calan Gaeaf Mam.

Toffee Sons and Daughters

Gwledd i’r llygaid a’r synhwyrau, a thaith berffaith wnaeth anelu’n syth at y galon.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Bwyd, Caffi, Dihangfa o'r Ddinas, Tafarn/ Bar. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s