BBC Radio Cymru : Ffilmiau’r Nadolig

It's a Wonderful Life

Yng nghanol prysurdeb aruthrol yr ŵyl, gwnewch amser i’ch hoff ffilm Nadolig. Boed yn Elf, Home Alone neu Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig, mae’n ffordd wych o brofi ysbryd yr ŵyl. Mae pob ffilm Nadolig – hyd yn oed y Muppets a Die Hard – yn cynnwys moeswers sy’n ein hatgoffa i ystyried eraill, neu i gwestiynnu llwybr ein bywyd.

Fel adolygydd ffilm, rhaid gweld pob ffilm Nadolig, ac eleni Nativity 3 yw’r un i’w hosgoi. Mae Get Santa, ar y llaw arall, yn cynnig stori dwymgalon a pherfformiad gwych gan Jim Broadbent fel Siôn Corn.

Ond mae’n well gen i archwilio’r archif pan fydd gen i awren yn sbâr, tra’n addurno neu’n lapio anrhegion. Gall pawb, siawns, uniaethu â rhwystredigaeth y penteulu Charles Griswald yn National Lampoon’s Christmas Vacation.  A beth am y foment hudolus yn Meet Me In St Louis, pan glywn Judy Garland yn canu wrth y goeden Nadolig? Daw’r dagrau bob tro wrth glywed ei fersiwn hiraethus hi o Have Yourself a Merry Little Christmas.

Un o fy ffefrynnau personol i yw Scrooged gyda Bill Murray, addasiad o ddameg Charles Dickens, A Christmas Carol. Mae’r diddanwr gwynepsyth yn chwarae sinig o fri, sy’n dod i ddeall gwir ystyr yr ŵyl.

Ond rhaid gwibio’r holl ffordd nol i 1946 ar gyfer y ffilm Nadolig orau erioed, gaiff ei dangos mewn sinemau yn flynyddol. Mae’n ddigon posib mai hon yw’r ffilm Nadolig dywyllaf erioed, am ddyn da dan bwysau mawr.

Wedi bywyd o wneud cymwynas â phawb arall ond ef ei hun, gwyneba George Bailey greisis mawr ar Noswyl Nadolig. Diolch i angel o’r nef, a hud Hollywood, fe’i achubir o’i iselder dwys. Trwy gymorth ei garedigion yn nhre Bedford Falls daw George i werthfawrogi mai ‘rhodd enbyd yw bywyd’, gan sylweddoli, It’s a Wonderful Life.

Teulu It's a Wonderful Life

Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized a'i dagio yn . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s