Proffil: Brigyn

brigyn4_portrait

Mae gwrando ar Brigyn 4 fel gwylio Cyw; mae’n goflaid gerddorol i’r galon. Pecynnwyd yr albwm yn chwaethus iawn, a dyluniwyd y clawr amryliw gyda fersiynau cartŵn o Ynyr ac Eurig, ar y cyd â chywion a cheirw. Portreadir y ddau â’u llygaid ynghau, a gwên lydan yr un yn ogystal. Dyma gip dros dro o’r bywyd braf yng nghwmni brodyr Brigyn.

Mae’r fath ‘adolygiad’ ar achlysur pob lansiad yn gyfarwydd i’r cerddor Ynyr Roberts. Dros baned yng Nghaerdydd, nid nepell o’i swyddfa, llunia’r ymateb arferol ar lafar; Cryno ddisg arall o gerddoriaeth melodig gan y brodyr clên o Eryri…’

O leia mae hynny’n well nag ymateb beirniad anhysbys yn yr Herald yn 2004 i albwm gyntaf Brigyn.‘Mae’n gas gen i’r synau electroneg ‘ma sy’n honni bod yn gerddoriaeth…’

Mae Ynyr, a’i frawd Eurig, yn athronyddol iawn wrth ystyried adwaith eraill i’w cerddoriaeth;

Da ni ddim yn cymryd be ma’r critics yn ei ddeud i galon. Da ni wedi profi sawl gwaith dros y blynyddoedd, fod “adolygwyr” yn defnyddio’r platfform i fynegi eu barn am be mae nhw’n licio – neu ddim yn licio wrth gwrs – yn hytrach na dadansoddi’r gwaith sydd o dan sylw. Ac eto dwi’n siwr bod na ryw elfen ynddan ni o licio profi pobol yn ‘rong’ hefyd, neu yn syml, jysd profi i bobl be da ni yn gallu ei wneud’.

Mae’n ddegawd ers i mi gwrdd am sgwrs gydag Ynyr ac Eurig, ar gyfer rhaglen i BBC Radio Cymru. Roedd 2014 yn gorwynt o flwyddyn i’r ddau, a goronwyd â lansiad Brigyn 4. Fe basiodd dengmlwyddiant sefydlu’r grŵp, bron iawn heb iddyn nhw sylwi. Yn ôl Ynyr ei hun, ‘Dyma’r adeg iawn i edrych ‘nol, cyn symud ymlaen i’r dyfodol.’

I grynhoi’r ddegawd ddiwethaf mewn ystadegau moel; dwy briodas, tri o blant, pedwar albym, pum sengl – yn cynnwys un aeth i’r stratosffêr Cymreig. Heb anghofio am y casgliad cysyniadol Ailgylchu ddenodd kudos gan sêr y SRG.

Ond wrth balu’n ddwfn at wreiddiau Brigyn, ni all Ynyr lai nag ysgwyd ei ben;

‘Doedd hi ddim yn fwriad o gwbl i sefydlu band; damwain oedd Brigyn, mewn ffordd. Ddaru ni fethu’n llwyr i gyflawni’r hyn oeddan ni di’i obeithio’i neud, sef creu albym o ‘elevator music’ i Ceefax! Dyna oedd y bwriad, y basa ni’n dod yn artistiaid ‘cŵl’, enigmatig a dirgel, a fysa neb yn gwbod pwy oeddan ni. Ond oherwydd pwy ydan ni, doedd ganddon ni ddim gobaith o ddianc, a bod yn enigmatic dudes.’

Chwerthin yn braf wnaiff Eurig ei frawd ar ddyfarniad Ynyr o’u ‘methiant’. Mae gan yntau berspectif gwahanol ar union yr un sefyllfa, sy’n egluro llwyddiant Brigyn.

‘Da ni wastad di bod yn hapus efo pwy ydan ni, a da ni rioed di trio bod yn bobol gwahanol. Ella mai dyna sy’n egluro pam bo ni dal i fynd, achos bo ni ddim di gorfod byw i fyny i ryw act.’

Brigyn 8

Dim ond 14 oed (‘undeg pedwar a hanner!’) oedd Eurig pan ymunodd o â ‘band ysgol’ ei frawd a’u ffrindiau o Lanrug – Epitaff. Profiad ‘gwallgo’ i fachgen ifanc oedd gigio ledled Cymru, a pherfformio’n fyw ar raglenni fel i dot ac Uned 5. Ond cyn hynny, yn ôl Ynyr, mi gymerodd rai blynyddoedd i’r band ifanc ffeindio’u traed, cyn i un gân brofi’n hit annisgwyl.

Daeth y cyfle cynta i ni gael ein chwarae ar y cyfryngau gan Owain Gwilym yn 1997, a hynny, rhywsut, i berfformio sesiwn fyw ar ‘Lein Hwyr’. Doedd sesiynau byw ddim yn rywbeth fysa’n digwydd yn aml y dyddiau hynny ar Radio Cymru fel maen nhw heddiw ‘ma – heb sôn am i fand oedd heb ryddhau unrhywbeth eto – felly roedd hynny wir yn wahoddiad a hanner.

Dilynodd dwy neu dair blynedd o ganeuon cynnar, oeddan nhw’n ok ‘llu ond doedd y recordiad ddim yn grêt, a doedden ni ‘rioed di cael ein cynhyrchu o’r blaen. Oedd bob dim yn eitha ‘average’, a dwi’n meddwl mai dyna oedd disgwyliad Radio Cymru eto pan gerddon ni fewn i stiwdios Bangor efo EP newydd sbon yn 2000.

Oedd y DJ Owain Gwilym yn ddigon clên i fwydo’r gerddoriaeth i fewn i’r system, ond oedd hi’n amlwg nad oedd ganddo fo lawer o amser i ni’r dwrnod hwnnw – a do’n i’m yn gweld bai arno fo chwaith. Oedd na ryw hanes di bod, oedd Epitaff di bod i fewn i neud ail sesiwn fyw i ‘Lein Hwyr’ yn y cyfamser, a ddaru ni neud llanast llwyr ohoni. Doedd y sesiwn ddim yn grêt, ac yn waeth na hynny, oeddan ni di dod â rhywun efo ni oedd di tynnu llun mwstash ar wynab Hywel Gwynfryn yn y cyntedd!

Ond beth bynnag, pan oedd Owain ar fin cerdded allan o’r stafall, ddoth y gân gyntaf o’r EP newydd (Geiriau) ymlaen, nath o stopio yn ‘i dracia – fatha, ‘be di hwn?’. Ddoth o ’nol i ista lawr i wrando efo fi, ac air-drummio trwy’r hanner awr cyfan o’r EP!’ Oedd o’n ‘beautiful moment’!’

Dyfnhau wedi hynny wnaeth y berthynas â BBC Radio Cymru, a daeth y band yn ffefryn mawr gyda gwrandawyr yr orsaf. Chwaraewyd yr anthem Geiriau yn rheolaidd gyda’r prynhawn ar raglen Jônsi, a Champion FM yn ogystal. Ond yr eironi o bosib yn hyn i gyd, oedd mai cân wedi ei chyfansoddi ar gyfer cystadleuaeth Cân i Gymru oedd Geiriau yn wreiddiol, er na chafodd hi ei derbyn ar gyfer 8 olaf y gystadleuaeth.

‘Swn i’n disgrifio Epitaff fatha band roc oedd yn trio bod yn yr un mold â Celt neu Sobin a’r Smaeliaid. Oedd na gymaint o fandia’ gwahanol o gwmpas bryd hynny, fatha Big Leaves, Topper, Pep Le Pew, Anweledig a Meinir Gwilym. ‘Band y bobol’ oeddan ni mewn ffordd, achos pan fasa ni’n deud ‘Da ni isio bod ar raglenni fel Sesiwn Hwyr’, oedd ein label ni [Gwynfryn Cymunedol] yn cadw deud ‘tha ni, ‘Fedrwch chi ddim bod yn boblogaidd ac yn cŵl!’

Oeddan ni’n trio’n gora ac oedd na wastad ddadla yn y grŵp, achos oedd y cynhyrchydd Bob Galvin yn neud ni’n mainstream iawn. Mae ganddon ni berthynas dda efo Bob hyd heddiw, ond oedd ei ddylanwad o’n gry ar y recordiad, a phan oeddach chi’n mynd i’r stiwdio ato fo oedd o’n neud bob dim yn fwy slic, ac yn ‘Galvinized’, so doedd dim llawer o le i gymryd risg.’

Yn dilyn rhyddhau yr EP ‘Un Cynnig’ yn 2001, rhyddhaodd Epitaff yr albwm ‘Angel’ yn 2003 a werthodd dros fil o gopîau. Ond wedi hynny, aeth aelodau’r grŵp i gyfeiriadau gwahanol. Ar fin gorffen cwrs sylfaen mewn Celf ym Mangor oedd Eurig ar y pryd, tra roedd Ynyr newydd raddio mewn Dylunio o brifysgol yn Sheffield.

Oedd na gyfnod rhwng 2003 a Haf 2004 lle oeddan ni’n dau yn dal i neud lot o gigs ein hunain, ac yn y pendraw nath hynny neud i ni feddwl, be am i ni jyst neud rwbath efo’n gilydd? A doeddan ni ddim rili yn gallu cario mlaen o dan enw Epitaff, allan o barch i’r hogia eraill.

Oedd Brigyn mewn ffordd yn bob dim oedd Epitaff ddim. Ddaru ni ddim cyfyngu’n hunain i sŵn roc gitâr, bass, a dryms confensiynol, – oedd o’n brosiect fwy penagored, ac yn fwy creadigol ella.’

Daeth dewis y brodyr i ddilyn gyrfaoedd ym myd dylunio i chwarae rôl allweddol yn eu cerddoriaeth, wrth i’r ddau ddod yn fwyfwy dibynnol ar dechnoleg, fel yr eglura Ynyr;

Dyna’r adeg oeddan ni’n ffeindio’n traed efo pob math o tools newydd mewn ffordd, ac oedd hynny’n gyfnod pan oedd laptop Mac yn dechrau dod yn fforddiadwy iawn. Yn sicr, yn y byd oeddan ni ar y pryd, oeddan ni’n dechra byw a bod ar gyfrifiaduron. Oedd hi hefyd yn oes yr iPod, a gwrando ar gerddoriaeth wahanol, mewn ffyrdd gwahanol. 

Dwi’n cofio cyfarfod â rhyw bobol mewn sioe ddylunio yn Llundain; Airside oedd enw’r cwmni graffeg, ond oedd ganddyn nhw fand hefyd, o’r enw Lemon Jelly. Nes i gyfarfod â nhw yn rhinwedd eu swyddi fel dylunwyr, ac wrth i’r prif leisydd ddechra siarad am ei fywyd, rhyw deimlo nes i ‘felna dwi hefyd’.

Oedd y dylunydd ma’n byw a bod ar ei Apple Mac, ac oedd Apple newydd ryddhau’r feddalwedd GarageBand, sy’n rwbath mor hawdd i’w ddefnyddio wrth sgetsio syniadau. Ac ar y pryd, doedd na’m lot o bobol yn defnyddio laptops a ballu ym maes cerddoriaeth Gymraeg, heblaw’r sîn electronica a Jakokoyak ella.

Ar yr un pryd hefyd, oedd gena ni gasgliad o DVDs gan gyfarwyddwyr fel Michel Gondry, Spike Jonze a Chris Cunningham – cyfarwyddwyr ffilm oedd hefyd yn creu music fideos, ac yn troi cerddoriaeth yn gelfyddyd. Nath hwnna neud i fi feddwl, waw, sa ni’n gallu bod yn rwbath gwahanol fel Brigyn heblaw am fynd rownd yn chwara gitar.’

Ond nid pawb yng Nghymru oedd yn deall ysfa’r brodyr i newid steil eu cerddoriaeth. Nid peth hawdd chwaith oedd cefnu ar boblogrwydd caneuon radio-friendly

‘Dwi’n meddwl oedd na ofn ynddan ni i bechu mewn ffordd, achos oedd na lot o bobol yn ein nabod ni fel ‘Ynyr ac Eurig Epitaff’, oedd ddim yn hapus, a ddim yn siwr iawn be oeddan ni’n trio neud; yn gofyn, ‘I be da chi’n neud hyn?’ a ‘Pryd da chi’n mynd i neud y peth Epitaff nesa ta?’. Oedd na lot o bobol ella’n ‘stuck in their ways’, a ddim isio clywad rwbath gwahanol ganddon ni.

Yn naturiol, ti’m isio i unrhywbeth fflopio, ond dwi’n meddwl o achos hynny bo ni di derbyn, ‘Wel, neith na’m byd ddod o hyn’, felly oeddan ni’n benderfynol o’i lawnsio fo, heb heipio fo i fyny o gwbl. Doedd hi ddim yn fwriad gena ni i chwarae y caneuon ma yn fyw o gwbl. ‘Recording artists’ yn unig oedda ni isio bod efo’r prosiect yma.

Yn rhyfedd iawn, roedd Owain Gwilym yn allweddol ar ddechrau’r daith eto – gan mai fo oedd un o’r rhai cyntaf i glywed y recordiad newydd, a fo wnaeth awgrymu’r enw ‘Brigyn’ ar gyfer y prosiect, wrth sylwi fod y gair yn cynnwys rhannau o’n enwau (euRIG YNyr).’

Cafwyd ymateb syth i sain newydd y brodyr ar albwm cyntaf Brigyn, a ddisgrifiwyd fel ‘cymysgedd o gerddoriaeth werin fodern, curiadau electronig, a samplau cerddorfaol’. Fe’u cymharwyd gan rai beirniaid – ond nid adolygydd yr Herald – i weithiau gan Röyksopp, Brian Eno a Björk.

Defnyddiwyd eu seinluniau breuddwydiol gan gynhyrchwyr radio a theledu, i gyfleu hyder cyfoes, Cymreig. Yn wir, mewn erthygl yng nghylchgrawn Barn yn 2005, awgrymwyd y gallai plaid wleidyddol fuddio o fabwysiadu’r un trac sain; ‘Byddai’r gerddoriaeth yn gallu dylanwadu ar naws digwyddiad heb yn wybod bron iawn i’r gynulleidfa.’

‘Ti’n gallu edrych yn ôl rwan a gweld bod o di bod yn gam enfawr ymlaen, yn hytrach na cham yn ôl’; yw dyfarniad Eurig am y penderfyniad i esblygu.

Brigyn 1

‘O’n i newydd symud lawr i Gaerdydd ar y pryd, ac oedd na lot o gyfleoedd ‘juicy’ yn y cyfryngau. Doeddan ni byth di bod ar Bandit a rioed di cael gwahoddiad i chwarae yng Nghlwb Ifor Bach fel Epitaff, felly dwi’n meddwl oedd ganddon ni ryw uchelgeisiau bach fel’na, Efo Ynyr newydd symud i lawr o Sheffield, roedd y ddau ohonan ni’n byw yng Nghaerdydd ac awydd i greu rwbath newydd, mwy dinesig.’

Galluogodd y rhyddid newydd hyn iddynt ryddhau dau albym mewn cyfnod o lai na blwyddyn. Esgorwyd ar ganeuon poblogaidd fel Diwrnod Marchnad, Os Na Wnei Di Adael Nawr a Disgyn Wrth Dy Draed. Fe’u chwaraewyd yn ddyddiol ar raglen Owain a Dylan ar BBC Radio Cymru, mewn ymateb i geisiadau gwrandawyr.

Syrffedodd rhai o’u clywed rownd rîl, ond daeth cais annisgwyl iawn i’w canlyn.

Ddoth Llwybr Llaethog aton ni, ac oeddan nhw isio ail-gymysgu dwy gân – Os Na Wnei Di Adael ac Addewid Gwag. Oeddan nhw di ebostio Rhys Mwyn, ‘Who’s this Brigyn da ni’n glywad ar Radio Crymi?’!   ’Sa ni di isio cydweithio efo nhw beth bynnag, ond oedd y ffaith bo nhw di dod ar ein hola ni… odd o fatha, waw! Ond eto, doedd rhai pobol yn y sîn dal ddim yn sicr ohonan ni.

Oedd Gareth Potter yn un nath gymryd yn hir i ddeud rwbath da amdanon ni – mi oedd o wastad yn ffeindio ei hun yn adolygu stwff Epitaff a Brigyn ar raglenni Radio Cymru neu Croma ar S4C a petha fel ‘na. Dwi’n siwr efo albyms Brigyn 1 a 2 hyd yn oed oedd o’n dal i deimlo, ‘Ma hwn ‘run fath ag Epitaff’. Ond unwaith ddaru ni ryddhau Buta Efo’r Maffia, yna’r albym o remixes Ailgylchu – oedd yn lot mwy eithafol o ran sŵn electronica caled – nath o ddeud petha neis amdanon ni.’

Y gwahaniaeth mwyaf rhwng Epitaff a Brigyn yw mai Ynyr ac Eurig sy’n llwyr gyfrifol am lywio’u sain eu hunain, er fod y ddau wedi glynnu’n driw at eu label gwreiddiol, Gwynfryn Cymunedol.

‘Cynhyrchu di nghryfder i yn y bartneriaeth’, meddai Eurig,‘ tra mai Ynyr sy’n sgwennu fwyaf.’

Yn ôl Ynyr, ‘Y sylfaen a’r waliau dwi’n neud ac Eurig sy’n neud y decor. Ma Eurig wastad yn gallu deud os di rwbath ddim yn swnio’n iawn. Mae ganddo’r dealltwriaeth, rhywsut, i dynnu dau guriad allan o drum loop er enghraifft, a’i wneud o i swnio’n lot gwell.

Da ni di newid lot yn y deng mlynedd dwytha, a ma safon y perfformiadau’n lot  gwell. Da ni’n lot mwy beirniadol o be da ni’n recordio, achos efo Brigyn 1 a Brigyn 2 naethon ni jyst fynd ati i recordio rwbath, a jyst i roi o allan. Oeddan ni’n ofnadwy o hyderus efo Brigyn 2, achos nath o ddilyn o fewn llai na blwyddyn. Ella bo ni’n fwy particular rwan o ran ansawdd, efo profiad’.

Wrth ryddhau Brigyn 3 yn 2008, datganodd y brodyr uchelgais pellach, ac fe deithion nhw Gymru gyfan i gydweithio â beirdd a chantorion o bob math.

Aethon ni i bob math o stiwdios i gasglu darnau gwahanol, ac yn hytrach na sampls naethon ni recordio cerddorion go iawn yn chwarae offerynnau. Yn hytrach na bod yn albym synthetig, oedd Brigyn 3 yn lot mwy real’.

Ymysg enwau eraill, cafwyd gyfraniadau gan Rhys Iorwerth, Siân James a Steve Balsamo – heb anghofio David Wrench ar organ Euros Childs.

Oedd o fatha cawl o’r sîn roc Gymraeg – unrhywbeth i neud efo Cymru! Oedd Brigyn 3 yn waith caled, ond mae’n eithaf epig mewn ffordd, naethon ni indulge-io’n hunain lot erbyn hynny yn y gwaith recordio. Aethon ni ‘beyond’ i’w roi o at ei gilydd mewn gwirionedd, ond eto dydy hynny ddim yn beth gwael. Oedda ni di cyrraedd ryw bwynt lle oedda ni’n sylwi fod pob record yn mynd i fod yna am byth, ac oeddan ni isio bod yn falch o’r gwaith, a trio creu’r albym perffaith.’

Wedi iddynt gyrraedd copa Brigyn 3 a’u gwynt yn eu dwrn, profwyd llwyddiant annisgwyl pellach;

‘Ddaru ni gyfieithu a recordio cân Leonard Cohen, Hallelujah, yn ystod cyfnod Brigyn 2 yn 2005, ac mi dreulion ni dair blynedd, mae’n siwr, yn dilyn yr hawliau hynny. Ddaru ni sicrhau’r hawl i’w rhyddhau ddiwedd Tachwedd 2008, ac ar union yr un dwrnod oeddan ni’n danfon y sengl i’r siopau dyma ni’n gweld cyhoeddiad yr X Factor yn y cyfryngau ar y we, yn deud mai cân Nadolig y rhaglen fasa Hallelujah.

Ein ymateb ni ar y pryd oedd ‘O na! Geith ein Haleliwia ni byth sylw felly, achos fydd pawb yn siarad am yr X Factor’. Ond i’r gwrthwyneb yn llwyr oedd hi mewn gwirionedd – daeth na gymaint o sylw i’n fersiwn Gymraeg hefyd.’

Ymhen llai na mis, archebwyd mil o gopîau ar siop eu gwefan, Brigyn; sefyllfa swreal gadwodd Eurig yn brysur am rai misoedd…

‘O’n i’n mynd i’r swyddfa bost efo dros ugain archeb pob dydd, o’r Ffindir, Awstralia, yr Unol Daleithiau – dros y byd i gyd. Ddaru ni werthu tri mil o gopîau yn ystod y mis cynta ’na rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr, a bosib bod 4,000 di mynd erbyn hyn. Ti’n gwbod bod na lot di mynd achos does na’m lot ar ôl yn y tŷ!’

Mae Haleliwia yn parhau i fod yn gais poblogaidd, a does gan Ynyr ddim problem â hynny.

‘Ma na lot yn licio Kings Queens Jacks oddi ar Brigyn 3 a Diwrnod Marchnad da ni’n cael yn reit rheolaidd, ac Os Na Wnei Di Adael Nawr hefyd. Y rhai mwya cyfoes sy di taro tant, y ‘people pleasers’ ydy’r rhai mwya poblogaidd.’

Ond wedi dweud hynny, dydy’r un o’r ddau yn teimlo eu bod nhw erioed wedi taro ar fformiwla berffaith. Mae’n anodd rhagweld pa ganeuon gaiff eu dewis i’w chwarae ar y cyfryngau – fel y profodd Ynyr wrth hyrwyddo Brigyn 4.

‘O’n i’n meddwl ma Tlws fasa’r un mwya mainstream, i’w chwarae ar yr y playlist, ond dwi’m ‘di chlywad hi’n aml ar y radio; ddaru nhw ddewis Deffro ar gyfer Trac yr Wythnos ar Radio Cymru. Gath Fflam ei playlistio ar Capital FM am bythefnos, a glywson ni bobol yn deud wrthan ni ‘bob tro dwi’n troi’r radio ar, da chi on!’’. 

Dyna’r un peth ti methu ei reoli, a’r ‘bottom line’ mewn ffordd, mai pobol eraill sy wastad yn mynd i benderfynu i le mae’r caneuon yn mynd, a be ma nhw’n mynd i glywad am byth – a da ni wrth ein boddau efo hynny. Ac er bo ni’n gneud hyn ers blynyddoedd, da ni’r un mor chwilfrydig ag oeddan ni ddeg mlynadd yn ôl. Dim bo ni ‘on a mission’ i sgwennu’r gân orau erioed, ond yn y pendraw, mi wyt ti’n anelu i greu rwbath newydd sbon, er mwyn i fwy o bobol glywed amdanat ti.’

6PP_DVF_1_POCKET_STRAIGHTEDGE

Mae’r ddau wrth eu bodd ers rhyddhau Brigyn 4 wedi seibiant o recordio o chwe mlynedd. Yn y cyfamser datblygodd y ddau eu gyrfaoedd fel dylunwyr, a phriodi, symud tai a chael plant. Mae Ynyr yn dad i Deio, sydd bellach yn dair oed, a Casi yn flwydd a hanner, tra fod Ifan – mab Eurig – yn ddwy. Ar ben popeth, mae Eurig yn cymudo’n ddyddiol i’r brifddinas o’i gartre yn Llangennech, Sir Gâr.

Dim ond wrth gigio erbyn hyn y cai’r brodyr gyfle i ymarfer, arbrofi a chyfnewid eu syniadau. Ond fel y cadarnha Ynyr, eu bodlonrwydd  teuluol sy’n gyfrifol am sain llawen Brigyn 4.

‘Mae’n albwm cynhesach na Brigyn 3, oedd dipyn mwy dwys, ac mae’n hapusach o ran y gerddoriaeth. A gan fod na gymaint o amser di pasio, dwi’n meddwl bo ni di cael cyfle i gamu ‘nol, a chychwyn eto mewn ffordd. Ma na frwdfrydedd newydd yna, fel oeddan ni efo’r Brigyn cynta – heb unrhyw ddisgwyliadau, ac ella bo ni di mynd ‘back to basics’ mewn ffordd.’

Gyda babi arall ar y ffordd eleni, mae ffocws Eurig ar ei deulu, ond gydag Ynyr yn braslunio casgliad o ganeuon am Y Wladfa, fe ddaw na alw amdano cyn bo hir.  Mae’r ddau yn mwynhau’r gofod anadlu am y tro, ac yn rhyfeddu wrth y ddegawd a fu.

‘Mae’n fantais  i ni bo ni ’rioed’di cael ein hype-io, ac ella dyna pam da ni’n dal i fynd. Da ni dal efo’n dyheadau i neud rwbath ffres, oherwydd dydy’r pwysau na erioed di bod arna ni. Ma bob dim da ni di’i gyflawni, da ni di’i gyflawni ar ein termau ein hunain, heb ddylanwad neb ond ni, a dyna sy’n parhau i roi y pleser i ni o greu cerddoriaeth fel Brigyn.’

Mae albwm Brigyn 4 ar werth o siop Brigyn ar-lein, a bydd cyfle i brofi’r gigs byw canlynol;

Clwb Tenis Caernarfon, 7pm – Chwefror 22ain, 2014

Canolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd, 1pm – Chwefror 28ain, 2014

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s