Adolygiad Ffilm: Far From The Madding Crowd (12)

image

Y Sêr: Carey Mulligan, Matthias Schoenarts, Michael Sheen a Tom Sturridge

Y Cyfarwyddo: Thomas Vintenberg

Y Sgrifennu: Addasiad David Nicholls o nofel Thomas Hardy

Hyd: 119 mun

Adolygais ffilm Far From The Madding Crowd ar raglen Heno ar S4C ar nos Lun, Mai 3ydd, 2015. Cliciwch yma i wylio eto.

Yn serennu ar y sgrîn fawr ar hyn o bryd y mae dau â chysylltiadau cryfion â Chymru; Carey Mulligan, yr actores ifanc sydd â’i gwreiddiau’n ddwfn yn Sir Gâr, a Michael Sheen, yr actor amryddawn o Bort Talbot.

Carey Mulligan a Michael Sheen

Mae’r ddau yn rhannu deuawd gerddorol yn Far From The Madding Crowd – addasiad newydd o glasur llenyddol Thomas Hardy. Mae’n werth prynu tocyn i brofi’u harmonïau’r ddau mewn stori serch sy’n cynnig digon o drasiedi.

Seren y ffilm yw’r enaid rhydd Bathsheba Everdene (Carey Mulligan), sy’n etifeddu fferm ei hewyrth ar ddiwedd y 19eg Ganrif. O fewn dim, mae’n cipio calonnau tri dyn gwhanol iawn i’w gilydd; y bugail swil ond anrhydeddus Gabriel Oak (Matthias Schoenarts) a’r hen lanc a thirfeddiannwr William Boldwood (Michael Sheen) – heb anghofio’r milwr mwstasiog, y Cadfridog Francis Troy (Tom Sturridge).

Er i Bathsheba fynnu glynnu’n daer at ei hanibyniaeth hi, mae gan ffawd gynlluniau eraill ar ei chyfer…

Fe ddotiais i at y nofel, sy’n cynnig arwres blaengar iawn – ag ystyried mai dyn a’i lluniodd ar droad y 1870au – ac mae’r addasiad hwn yn gwneud cyfiawnder â’r testun gwreiddiol.

Cydbwysir harddwch cefn gwlad â chreulondeb natur gan gyfarwyddo Thomas Vintenberg, a phortreadir stormydd o bob math – gan gynnwys y galon – yn gelfydd iawn.

Caiff Tom Sturridge gryn hwyl fel y cleddyfwr ciaidd, mewn golygfa llawn tensiwn erotig, tra fod Michael Sheen yn dorcalonnus o dda fel gŵr gaiff ei yrru o’i go’ gan destun ei serch.

Matthias Schoenarts yw’r go-to guy fel arwr hanesyddol y byd ffilm ar hyn o bryd, wedi iddo hudo Kate Winslet yn A Little Chaos a Michelle Williams yn Suite Francaise. Does dim dadlau â charisma y Belgiwr golygus, sy’n bresenoldeb cadarn fel y bugail bonheddig; trueni felly i’w acen amrywiol darfu ar rediad y rhamant ar adegau.

Y cwestiwn mawr ydy a yw Carey Mulligan yn creu cystal argraff â Julie Christie – y brydferthferch a holiodd sylw cenhedlaeth gyfan fel Bathsheba mewn addasiad cynharach yn 1967? Actores hardd arall â chanddi gysylltiad â Chymru, gan iddi gynnal fferm yn Sir Drefaldwyn am ddegawdau lu…

Yr ateb? Fe wnaiff hi’r tro fel Bathsheba’r genhedlaeth hon!

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Adolygiad Ffilm: Far From The Madding Crowd (12)

  1. Hysbysiad: Adolygiad Ffilm: Suffragette (12) | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s