Adolygiad Theatr: Patagonia 150 (Theatr Genedlaethol Cymru / National Theatre Wales / S4C)

Adolygiad Patagonia 150

Y peth gorau am gynhyrchiad Patagonia 150 oedd y lleoliad rhyfeddol, stordy anferth y Tŷ Opera Cenedlaethol. Pwy wyddai fod y fath drysordy yn bodoli ar gyrion Abercwmboi? Dewiswyd y lleoliad i gywasgu stori Cymry Patagonia mewn cyd-gynhyrchiad uchelgeisiol iawn, gan fod 66 o’r fintai wreiddiol yn hannu o Aberdâr ac Aberpennar,

Mae’r hanes hynod yn hysbys i nifer fawr o Gymry Cymraeg, ond yn llai cyfarwydd i gynulleidfaoedd di-Gymraeg. Ym 1865, hudwyd 162 o bobol gan y pregethwr Michael D Jones i sefydlu Cymru newydd ym Mhatagonia; y canlyniad oedd twyll a dadrithiad, ond hefyd dycnwch a dyfalbarhad.

Er nad ydw i erioed wedi ymweld â’r Wladfa, dwi’n teimlo mod i’n gwybod cryn dipyn am hanes, diolch i’r fintai gyfoes o Gymry a fu yno ‘ar ein rhan’.

O bortreadau olew Kyffin Williams, ffilmiau Endaf Emlyn, Marc Evans a Dyl Goch, cerddoriaeth Gruff Rhys ac MC Mabon, heb sôn am raglenni gan Huw Edwards, Beti George, Aled Sam a Matthew Rhys – i enwi dim ond rhai. Hudwyd pawb gan elfennau o’r fenter fawr, gan gymeryd ffeithiau oddi yno, cyn eu gwyro i siwtio’u agenda eu hun (yn debyg iawn i hanes sefydlu’r Wladfa). O’r Gauchos, y Tehuelche, a chwedl Butch Cassidy a’r Sundance Kid – mae nhw i gyd yn chwarae rhan yn y felysgybolfa fawr, neu’r ‘gangbang diwylliannol‘, chwedl Gruff Rhys.

Yr enw diweddaraf i ymweld â’r art-industrial-complex hwn, yw’r gweledydd Marc Rees, ar ran cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, National Theatre Wales ac S4C, a hynny i nodi 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa yn 1865.

Fel yr artistiaid eraill o’i flaen, cymerodd  Marc Rees rannau o’r stori fawr, a’u cyflwyno ar ffurf pytiau trwy gyfrwng perfformiad promenâd. Cafwyd cynhyrchiad aml-gyfrwng, yn cyfuno gwaith dawns a theatr a ffilm yn sboncio rhwng 1865 a nawr, yng nghwmni arwyr arloesol, dihirod, ac anturiaethwyr heb eu hail.

Symudwyd y dorf yn gyson i rannau amrywiol o’r stordy fawr, o awditoriwm anferth i goridorau o silffoedd aruthrol, llawn dillad, a dodrefn a props, a efelychai cargo gwerthfawr yng nghrombil llong.

Canlyniad hyn oll oedd gwledd ryfeddol i’r llygaid ond hunllef llwyr i’r glust, a olygai mai profiad digon anesmwyth ges i ar adegau.

Roedd hi bron yn amhosib deall y rhan fwyaf o’r cyflwyniadau byw, mor erchyll oedd y system sain – a hynny serch presenoldeb uwchdeitlau Saeneg, wnaeth mond ddwyshau y dryswch, yn fy achos i. Paham na roddwyd clustffonau i aelodau’r dorf, fel yn achos Coriolan/us (NTW), a gynhaliwyd mewn horwth o ‘hangar’ nid anhebyg yn Sain Tathan? Sicrhaodd y cyrn clustiau hynny brofiad personol a dwys a hoeliodd ein sylw drwyddi draw, mewn cynhyrchiad llawn digwyddiadau, oedd yn ffyrnig o ffrenetig.

Mewn cynhyrchiad mor gyforiog o elfennau â Patagonia 150 – c’mon, taflwyd popeth ond sinc y gegin atom ni – dylai’r sain fod wedi bod yn grisial glir o’r cychwyn. Collwyd grym aruthrol geiriau’r pregethwr Michael D Jones (Dafydd Emyr) – a bortreadwyd fel ellyll goruwch ar y dechrau – fel yn achos cymeriad Eluned Morgan (Eddie Ladd), i gyd-fynd â’i chyflwyniad dawns ysgubol.

Pan gawson ni’n arwain at berfformiad arall, mwy personol y tro hwn, gan yr actor Dafydd Emyr ar ffurf John Daniel Evans o Aberpennar, diolchais i’r nefoedd am gyflwyniad mor huawdl, a gydiodd yn fy nychymyg, ac a nghyffyrddodd i i’r byw. Doedd dim angen meicroffôn i glywed hanes hynod El Bacqueano – enw newydd o’r hanes i mi – mor ystwyth, ac agos atoch (yn llythrennol) oedd y cyflwyniad y tro hwn.

Mwynheais yn aruthrol hefyd lais melfetaidd Billy Hughes, a deithiodd 8000 o filltiroedd i gymeryd rhan, gan gyfrannu cân werin am y wennol yn y Sbaeneg, a pherfformiad pwerus o’r emyn Bryniau Caersalem ar ddiwedd y sioe. Eto, prin oedd angen meicroffôn yn ei achos ef.

Cafwyd cyffyrddiad swreal yn ‘Eisteddfod Abercwmboi’, cyflwyniad comig gan ddisgyblion Ysgol Rhydywaun ac aelodau Adran Bro Tâf; darlith hanesyddol am ddatblygiad rhanbarth Chubut, i gyfeiliant arwyddgan y gyfres Black Beauty, a gynlluniwyd gan Llinos Mai.

Cafwyd hefyd bytiau ffilm, a bupurwyd trwy gydol y cynhyrchiad, o ffug-hanes yr actores Elizabeth Fernandez-Navarta (sy’n portreadu cymeriad Gabriela ar Pobol y Cwm); Archentwraig o Gaiman, o gefndir di-Gymraeg, a aeth ati i ddysgu’r iaith cyn teithio i Gymru.

Er i’r pytiau hyn o’r ffilm bara am rhy hir yn ystod y cynhychiad, cafwyd ynddynt ymgais deg i dynnu’n sylw at y modd y mae cymaint o Gymry cyfoes (yma yng Nghymru ac yn y Wladfa) yn ymelwa ar bobol Patagonia, gan drin y trigolion fel cymeriadau uwch-real o Disneyworld, neu esiamplau da a ‘role-models’ i eraill. Cynrhychiolwyd hefyd y tensiwn sy’n bodoli rhwng hunaniaeth y Cymry Cymraeg a’r cysyniad o ‘ddysgwyr’ a newydd-ddyfodiaid i’r iaith.

Cyfosodwyd hyn yn llwyddiannus gan ddeunydd archif o ddisgynyddion i sefydlwyr gwreiddiol y Wladfa, a efelychai gymeriadau o oes yr arth a’r blaidd, mewn cymhariaeth â’r ffilm gyfoes (gan Roger Williams, fydd i’w gweld yn llawnach ar S4C).

Llai llwyddiannus, yn fy marn i, oedd cyflwyniadau hunan-gyfeiriadol yr artist-gyfarwyddwr Marc Rees, a’i gyd-deithwraig Sian Thomas, er mor ddifyr oeddent ar brydiau. Tynnwyd hunluniau, adroddwyd jôcs, cymharwyd paned o Maté a te Glengettie – a hynny ar draul naratif cliriach o hanes y Wladfa i newydd-ddyfodwyr i’r cyfan.

Ar y cyfan, yr elfennau gweledol a gipiodd fy anadl i – ac wrth lwc, roedd na ddigon o’r rheiny. Fel yn achos y gosodiad Adain Avion (y bu Marc Rees yn Gyfarwyddwr Artistig arni hi, i gyd-fynd â’r Olympiad Diwylliannol yn 2012), cafwyd cyd-weithrediad llwyddiannus â chwmni Melin Tregwynt, wrth ymgorffori patrwm y garthen gyfoes a grewyd yn benodol ar gyfer y cynhychiad, ar ffurf aml-haenog.

Adeiladodd Marc Rees hefyd ar lwyddiant Tir Sir Gâr yn 2013 , wrth gynnig sawl elfen hynod wefreiddiol, a blesiodd y dorf, gan ein cadw ar flaenau bysedd ein traed. Un engraifft yn unig oedd y merched trawiadol mewn gwisgoedd traddodiadol, a gynrhychiolodd yr ecstasi crefyddol a gydiodd yn nifer fawr, i ymgymeryd â ffwlbri taith mor faith dros y paith yn y lle cyntaf.

Mewn un olygfa fe’u cynrhychiolwyd ar ffurf croes rhwng parti cerdd dant a ninjas League of Shadows yn y ffilm Batman Begins, pe bai Ra’s al Ghul (Liam Neeson) yn giamstar ar hyfforddi dawns y glocsen. Nes ymlaen, mewn gwisgoedd tebyg, fe’m gwelson nhw’n dawnsio fel derfisiaid chwyrlîol, ac yn rêfio yn rhydd i happy-house clwb nos yn Buenos Aires.

Roedd na lawer iawn i fwynhau am y cynhyrchiad uchelgeisiol hwn, ond mor bytiog – a dryslyd – oedd nifer yr elfennau i mi, nes i mi golli fy amynedd lawer gwaith ar hyd y daith. A coeliwch chi fi, wnes i ddim gwerthfawrogi cael fy ngheryddu am dynnu llun di-fflach o un ddelwedd ysgytwol (o blith nifer) wedi i bawb arall fynd heibio, gan ‘clipboard Nazi’ mewn du!

Mewn oes ddigidol, lle mae sioeau torfol o’r fath yn croesawu croes-hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol gan y gynulleidfa, mae’r fath agwedd yn rhyfeddol, a dweud y lleia. Tynnais rai lluniau o’r blaen o wleddoedd gweledol Marc Rees, a sawl cynhyrchiad promenâd y Theatr Gen ac NTW – a hynny’n ddilyffethair. Bydd sawl delwedd o’r sioe yn aros gyda mi am byth – ond nid ar ffurf lluniau i gyd-fynd â’r adolygiad hwn, gwaetha’r modd.

Ar ddiwedd y sioe, cafwyd delwedd ysblennydd i’n croesawu ni ‘nol i’r Gymru gyfoes, a gynrhychiolodd y tyndra rhwng y gorffennol a’r presennol i’r dim. Ond ar y cyfan, yr argraff a ges i o’r cynhyrchiad oedd mai sioe sleidiau y cyfarwyddwr Marc Rees o gynhyrchiad oedd Patagonia 150 – ac un weledol wych, i fod yn deg. Ond dyna bit i na chawsom ni, aelodau’r gynulleidfa, brofiad mwy personol.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am y cynhyrchiad theatr Patagonia 150. Bydd y ffilm Galesa i’w gweld ar S4C ar nos Fercher y 29ain o Orffennaf, 2015.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s