Cylchgrawn Barn: Steddfod ar Blât

Barn Gorffennf Awst 2015

Efallai fod yr Eisteddfod yn cynnig bwyd i’r meddwl ond mae bwyd go iawn yn bwysig hefyd, i’ch cynnal drwy’r fath farathon o ddiwylliant a chymdeithasu. Ble ddylech chi fynd eleni i hel yn eich bol y tu hwn i’r Maes – a chael gweld tipyn ar yr ardal yr un pryd? Dyma rai awgrymiadau…

The Checkers, Trefaldwyn

Bu’r diweddar John Rowlands, fel beirniad bwytai o fri, yn ddylanwada mawr arna i, a chefais y fraint yn ddiweddar o gael dilyn yn ôl ei droed, fel un a gyfrannai erthyglau blynyddol gwych am fwytai bro’r brifwyl i rifynnau Eisteddfod y cylchgrawn hwn.

I ffwrdd â mi felly i’r Canolbarth, i ddarganfod fod Sir Drefaldwyn yn goblyn o le mawr, gan fod yno faint fynnir o gaffis a thafarndai, bistros a bwytai, a bod yr holl ardal yma ar y ffin a’r tu hwnt iddi yn gyrchfan wych os ydych yn barod i grwydro. Er hynny, ceisiais gadw at ddalgylch rhesymol o’r Maes ar fferm Mathrafal, o fewn pellter cyrraedd ugain milltir o Feifod.

Cychwynais fy mhererindod gyda chinio yn y Drenewydd, lle’r enillodd fy Nhaid, W.D. Williams y Gadair am yr awdl ‘Yr Ymchwil’ ym mhrifwyl 1965. Yno mae Oriel Davies, canolfan gelf gyfoes o fri, a chartref i gaffi ardderchog Relish. Pendronais yn hir dros y dewis gwych, sy’n amrywio o rolyn selsig gourmet a chawl y dydd i fwydlen tapas a saladau diddorol, gan fodloni ar hen ffefryn, brechdan Ploughman’s gyda’r gorau yng Nghymru.

Relish, Oriel Davies, Y Drenewydd

Ymlaen am Drefaldwyn a chyrraedd y brig, o ran bwytai’r fro, gyda The Checkers a’i seren Michelin. Rhowch heibio eich rhagfarnau am fwytai haute-cuisine ffroenuchel; dyma le hamddenol braf gwerth mynd yno. Agorwyd y bwyty yn 2010 gan y cogydd Stéphane Borie o Agen yn ne-ddwyrain Ffrainc, a hyfforddodd dan adain Michel Roux yn Bray. Mae’r gyn-dafarn hynafol yn cynnwys bar dymunol iawn , sy’n gweini’r cwrw crefft lleol Monty’s, a thra mae pwyslais y fwydlen gyfoes ar gynnyrch lleol, Cymreig, paratoir pob saig yn y dull Ffrengig clasurol.

Yn hytrach nag archebu’r fwydlen flasu saith cwrs am £75, archebais dri o’r cyrsiau hynny am bris dipyn rhatach. Doedd dim angen poeni am frathiadau bach posh a phitw; ro’n i’n orlawn ymhell cyn diwedd y pryd bwyd.

Gallaf argymell y ffiled samwn wedi’i fygu a salad asbaragws wedi’i grilio, saig cyntaf llawn blas, a daenwyd a coulis persli hynod ysgafn.

The Checkers, Trefaldwyn

Fe’i ddilynwyd gan brif gwrs bendigedig; bol porc Neuadd Fach (o Landinam) wedi’i rostio, gyda thatws mousseline a’r sudd brwysio (sef yr hylif y bu’r cig yn coginio ynddo) a gyfoethogwyd â gellyg wedi’u carameleiddio .

The Checkers, Trefaldwyn

Er ’mod i’n gwegian erbyn hynny, doedd dim dewis ond profi’r pwdin: soufflé crymbl riwbob, oedd yn gwbl anfarwol, ac yn llawn haeddu’r seren aur.

The Checkers, Trefaldwyn

Ceir sawl bwyty lleol arall yn The Good Food Guide, a’r lle i’m denu y tro yma oedd bistro bach Seeds yn Llanfyllin. Galwais i fewn am ginio cartrefol, a chefais groeso gan y chef, Mark Seager, a Felicity ei wraig, sy’n cynnal y bwyty dymunol ers 1991. Mi ges i rac cig oen â chrwst perlyiau, wedi’i weini gyda sudd cyrains cochion, llysiau’r tymor a saws mintys.

Seeds, Llanfyllin

Ac yna, i bwdin, poset lemwn penigamp,a finiogwyd i’r dim gan haenen o saws cyrains duon.

Seeds, Llanfyllin

Ar f’ymweliad nesaf â’r fro, carwn amseru’r daith i’r dim, i gael swpera yn The Old Vicarage ym mhentre Dolfor, ychydig filltiroedd i’r de o’r Drenewydd. Un eisteddiad a gynhelir, am 7.30 yr hwyr, i brofi bwydlen unigryw Tim Withers a’i wraig Helen. Fe symudodd y ddau i’r ardal o Wiltshire ’nol yn 2005, ar ôl creu argraff fawr ar goginio Lloegr yn y 1970au a’r 1980au. Y mae’r pwyslais ar gynnyrch lleol – gan gynnwys llysiau o’r ardd gefn – a bu i’r cogydd adnabyddus Simon Hopkinson gyfri eu coginio ‘gyda’r gorau ers Le Gavroche’ . Ag ysytried mod i’n bleidiol i’w rysait cig oen ef (gaiff ei rostio â garlleg, rhosmari, brwyniaid a gwin gwyn), pwy ydw i feiddio anghytuno ag ef? Fyth ers cau Tŷ Siarad Pontdolgoch- lle gwych oddi ar yr A470 – dyma’r dewis gorau am fwyd ar gyrion Caersws.

Ar begwn arall y sbectrwm fwyd at enillydd Gwobr Tŷ Cyri Cymru 2013: Bengal Spices yn Llanymynech, ddeng milltir o’r Maes. Bob nos Fercher ceir swper chwe chwrs am £9.95. Os am flas tra gwahanol i’r arlwy eisteddfodol, ewch am y cyw iâr tra sbeislyd Murgh-e-bahar, ac mae cwrs cyntaf poblogaidd y Prawn Puree yn werth ymweliad ar ei ben ei hun.

Bengal Spice, Llanymynech

Yn yr ardal hyfryd hon y treuliais hafau braf fy mhlentynod, gan mai yn Llanymynech y magwyd fy nhad a’i frawd.

Ar ôl croesi’r ffin i Groesoswallt cefais gygor am fwytai lleol gan Lowri Roberts, perchennog siop Gymraeg Cwlwm yn y farchnad yno. Os am bryd bwyd arbennig yn ‘Soswallt, meddai, ewch am fwyty Sebastians sydd ar ‘Stryd Wylw’, chwedl Tudur Aled, lle y bu cartref William Llŷn, a man geni Wilfred Owen a Walford Davies. Mae’r hen goetsiws amryliw, gyda’i drawstiau’n dyddio’n ôl i’r 16g, yn llawn croeso a chymeriad. Cynigir dwy fwydlen gyfoes gan y cogydd-berchennog Mark Sebastian Fisher – un chwe chwrs am £44.50 ac un dri chwrs am £22.50 – gyda’r botel rataf o win, o Chile, am £19. Mae pwyslais yr arlwy ar seigiau o Ffrainc, a dewis difyr, llawn dychymyg, i lysieuwyr. Os am goctel cyn y wledd, neu digestif ar ei hôl, ewch i’r Townhouse gerllaw; bwyty arall uchel ei glod yn y dref.

Roedd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Beryl Vaughan, a’r artist o Lanerfyl Christine Mills yn awyddus i ddenu fy sylw at bistro Dim ond 3 Diferyn yn Llanfair Caereinion, bwyty a bar cartrefol ac unigryw ar Stryd y Bont. Mae’r perchennog Ruth Kempe, a ddaw o Bermwda’n wreiddiol, wedi bod yn gefnogol iawn i’r Eisteddfod drwy gyd-drefnu gyda’r Pwyllgor Apêl nifer o nosweithiau gwerin ac ati yn y bwyty. Mae’r fwydlen yn un wahanol, gyda dylanwadau rhyngwladol, ac yn cynnwys cyris Thai a tapas, lasagne a chaserôls – i gyd â thro Cymreig yn y gynffon. Bydd angen i chi archebu bwrdd os am fwyta yma yn ystod wythnos yr Eisteddfod gan y bydd yn siwr o fod yn orlawn.

Castle Kitchen, Trefaldwyn

Wrth frecwasta ar frechdan facwn benigamp y Castle Kitchen yn Nhrefaldwyn, dechreuais sgwrsio a phâr o Gymry Cymraeg oedd yn mwynhau paned a sgon ar ôl galw yn yr ocsiwn leol ben bore. Fel nifer o bobol eraill, roedd Gaeth a Margaret o Lanbrynmair yn llawn clôd i gaffi a bwyty Dyffryn yn y Foel ger Llangadfan, ar briffordd yr A458. Es i yno ar f’union a chanfod stafell orlawn o gwsmeriaid, wrth eu bodd gyda bwydlen eang a thraddodiadol Mandy Jones. Ganol yr wythnos cewch bopeth, o lasagne cig eidion neu sgampi a sglodion i darten ffrwythau a Knickerbocker Glory.Ond uchafbwynt yr wythnos heb os, yn ôl y son, yw’r cinio Sul, felly archebwch fwrdd i arbed siom y ganrif. Be well na llond bol o fwyd cartre go iawn, a golygfa wych o Ddyffryn Banwy islaw?

Dyffryn Banwy

Nid nepell oddi yno mae Cann Office Llangadfan, a brofodd gryn weddnewidiad yn ddiweddar. Mae’r diolch am hynny i weledigaeth y perchnogion newydd, Rob Thomas a Rachel Watkin o Feifod, a welodd gyfle i osod eu stamp eu hunain ar y dyfarn hynafol, sy’n dyddio o 1310.

Cann Office, Llangadfan

Y mae’r dafarn ei hun, gyda’i stafelloedd amrywiol, yn cynnig gofod goleuach nag a fu, a cheir clamp o ardd braf yn y cefn. Ymysg y diodydd a gynigir y mae sawl cwrw lleol – Cwrw Cader o Ddolgellau a Chwerw Staion o Fragdy Stonehouse, Croesoswallt, yn eu plith – a bwydlen eang o brydau bar poblogaidd. Gyda chyn lleied o dafarndai sy’n lleol i faes y brifwyl eleni bydd y ‘Cian’ yn dipyn y ganolfan i ymwelwyr; mae Rachel a Rob yn barod amdanynt, ar ôl llywio’r Kings Head ym Meifod yn llwyddiannus iawn adeg Steddfod 2003.

Kings Head, Meifod

Siom i nifer fydd darganfod nad oes tafarn ym Mhentre’r Beirdd, a does dim gobaith am dorri’ch syched yn Sycharth! Ond os am bryd bwyd a pheint â golygfa wych o Ddyffryn Tanat, ystyriwch dafarn The Green Inn yn Llangedwyn. Yn bwysicach i rieni, ceir yno fwydlen i blant, gan gynnwys selsig lleol Cymreig, ddeng milltir i’r gogledd o Feifod.

I’r Trallwng y bydd nifer yn heidio fin nos, diolch i wasanaeth bws gwennol o Faes yr Eisteddofd i’r orsaf reilffordd. Y gyrchfan amlycaf i ymwelwyr o bob oed ydi gwesty’r Royal Oak, gyda’i gaffi poblogaidd, ei dafarn braf a dau fwyty gwahanol sy’n cynnig arlwy amrywiol fydd yn siwr o blesio pawb . Rhaid dweud, fe’m denwyd innau gan fwydlen Bistro 7 gerllaw, sy’n cyfuno cynnyrch Cymreig a seigiau o Fôr y Canoldir; dyma fwyty a bar dymunol, sy’n gweini cwrw crefft gan gwmnïau lleol, gan gynnwys bragdy Salopian Amwythig a Monty’s Trefaldwyn.

Ond beth am baned a chacen, neu damaid i aros pryd? Yn y Trallwng, does unman gwell na becws The Pinewood ar ganol y stryd fawr; mae’r ffenest yn oriel drawiadol o deisennau danteithiol, i’ch denu chi fewn ar eich union. Bum milltir i’r de-orllewin ym mhentre hyfryd Aberriw, mae Lychgate Cottage Tearoom yn croesawu ymwelwyr lu, ger rhaeaeadrau hardd afon Rhiw . Lai na milltir i ffwrdd, yng Ngerddi Neuadd Glansevern, mae caffi rhagorol The Potting Shed, sy’n gweini pob math o ddanteithion, fel meringue caul lemwn a leim, ac Eton Mess gyda siwgwr brenhinllys.

The Potting Shed Cafe, Glansevern Hall Gardens

Mae Cwpan Pinc, Llangadfan, caffi a siop cymunedol, yn gwerthu copïau o bapurau bro Plu’r Gweunydd a’r Blewyn Glas i’w mwynhau gyda’ch paned o de. Ac yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, yng ngogledd y fro, mae’r Gegin Fach yn gaffi braf ar sgwâr y farchnad, ond anodd curo’r te prynhawn a’r olygfa a geir yng ngwesty Llyn Efyrnwy ger Llanwddyn.

Wrth ymlwybroam adre tua’r A470, roedd hi’n anodd peidio â galw ym Machynlleth yng ngorllewin pella’r fro; cefais groeso hynod braf yng nghaffi Siop Alys, sydd wedi ennill ei blwy nesaf at Ganolfan Glyndŵr ar Heol Maengwyn y dre. Ychydig yn nes at dŵr y cloc cefais ginio wrth fy modd ym mwyty Number Twenty One; risotto cwningen, caws Parma a garlleg gwyllt, a ddilynwyd gan hufen iâ diliau mêl. Da chi, peidiwch â cholli’r cyfle i brofi’r bwyty hwn, sydd wedi’i ddodrefnu’n syml iawn yn null ‘Scandi-chic’, sy’n adlewyrchu chwaeth y cogydd lleol, Sam Vaughan, sy’n rhedeg y bwyty gyda’i gymar Laura.

Number Twenty One, Machynlleth

Gwn fod degau o lefydd eraill i’w darganod ym mro’r Brifwyl. Gobeithio y gellwch chithau fanteisio ar y cyfle am antur newydd sbon, gan wyro oddi ar y llwybr cyfarwydd – y ffordd orau, o bell ffordd o ddarganfod eich Sir Drefaldwyn eich hun. A dechreuwch sgwrs gyda’ch cyd-fwytawyr; does dim byd gwell , dros y medd a’r wledd, na derbyn argymhelliad personol, a chanfod ffrindiau cyffredin, perthynas o bell, neu enaid hoff cytûn.

Mae rhifyn arbennig Prifwyl 2015  Cylchgrawn Barn ar werth am £6.99 ar y we, neu yn eich siop Gymraeg leol.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Bwyd, Caffi, Cylchgrawn Barn, Tafarn/ Bar. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Cylchgrawn Barn: Steddfod ar Blât

  1. Dywedodd Carl Morris :

    Es i i’r Cann Office am y tro cyntaf ar brynhawn dydd Sul. Hollol wych!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s