Adolygiad Theatr: Triptych (DeOscuro / Canolfan Mileniwm Cymru / Chapter)

Triptych De Oscuro

Peth cyffredin yw mynychu’r theatr a phrofi cynhyrchiad heriol, ond yn aml, mae dramodwyr yn pregethu i’r cadwedig. Anaml y gwela i gynhyrchiad Cymreig sy’n cyfathrebu’n uniongyrchol â chynulleidfa newydd, ond yr wythnos hon, ces i brofiad pur wahanol.

Ydych chi’n adnabod rhywun gyda PTSD? Dydw i ddim, rhaid dweud. Ond dwi wedi darllen digon am Anhwylder Straen Wedi Trawma, i wybod y caiff bellach ei gydnabod fel cyflwr ddifrifol sy’n effeithio miloedddd – a chyn-filwyr yn arbennig.

Ro’n hefyd i’n gwybod digon am gynhyrchiad aml-blatfform Triptych gan gwmni DeOscuro, i ddeall y byddai’n cyffwrdd â’r maes cymhleth hwn, trwy gyfrwng gwaith fideo, drama a dawns. Ond doedd gen i ddim syniad y profwn â’m llygaid fy hun yr effaith uniongyrchol ar ddioddefwyr a’u caredigion.

Collais y perfformiadau cynnar yn ninas Caerdydd – a dweud y gwir, do’n i ddim yn ymwybodol o’u bodolaeth. Ond wedi clywed canmol mawr, archebais docyn ar ddiwedd y daith, yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu.

Rwy’n falch i mi wneud; roedd yn brosiect pwerus iawn a’m haddysgodd ymhellach, ac am cyffyrddodd mewn amryw ffyrdd. Ond hefyd yn y dorf yr oedd aelodau o Gylch Cymorth Cyn-Filwyr Swydd Henffordd, a gyfranodd eu hanesion i’r darn.

Rhannwyd profiadau dirdynnol, ac onest dros ben, i bytiau fideo Triptych I ar ddechrau’r noson. Nid cyn-filwyr yn unig, ond eu gwragedd a’u cariadon, sy’n cyd-fyw â hunllef byw PTSD.

Fframiwyd y cyflwyniadau cignoeth, a gyflewyd mewn du a gwyn, gan weiren bigog rhyfel. Tanlinellwyd yr oriau a dreuliwyd ar hyfforddiant i’r brwydro ar faes y gâd – nid nepell i ffwrdd o Ben y Fan, canolbwynt cwest milwrol i dri marwolaeth, yn ddiweddar.

Ond pwysleisiwyd hefyd na chafodd yr un ohonynt eu harfogi i ddelio â bywyd wedi profi trychiolaethau enbydus.

Symudwyd o stiwdio’r gosodwaith fideo i theatr hanner llawn, ar gyfer drama Triptych II gan Judith Roberts a Gwyneth Glyn, a archwiliodd effaith y cyflwr ar deulu Cymraeg o gwm cyfagos. Llywiwyd y cyfan gan driawd o filwyr (a chwaraewyd gan Rhys Downing, Dan Rochford a Ioan Gwyn), a weithredodd fel corws Roegaidd, ac a symudodd y setiau yn ddeheuig.

Triptych De Oscuro

Canolbwynt y ddrama oedd cymeriad Rhys (Gareth ap Watkin), milwr 34 mlwydd oed; tad i bedwar oedd ar fin dychwelyd i Afghanistan, ’rol treulio’r gwyliau Nadolig ym mynwes ei deulu. Roedd absenoldeb ei gyn-wraig a’i ferched yn amlwg yn boenus dros ben, ond yno’n gwmni oedd Mair (Rebecca Harries), ei fam, a Dylan (Ceri Murphy) ei frawd iau. Yn gysgod dros bawb oedd ei lys-dad Jim (Rhys Parry Jones), cyn-filwr yn y Falklands a Gogledd Iwerddon, chwarter canrif ynghynt.

Triptych De Oscuro

Tra roedd Rhys yn ymarferol am ddychwelyd i ‘i gyflawni’r job’, yr oedd Jim yn amlwg yn gragen o Gymro. Ag yntau’n gaeth i gyfundrefn, ac yn teyrnasu dros bawb, gadawyd ei wraig i fyw ar ei nerfau yn llwyr. Yno i gysuro’i fam, gyda’i wobr BAFTA Cymru, oedd Dylan, y ‘media wanker’ yng Nghaerdydd; ei ddiffiniad yntau o ‘hunllef’ oedd traffig yr A470.

Cyfeiriwyd at Dad-cu a Hen-Dadcu – y gwelsant hefyd faes y gad – a datgelwyd y creithiau rhyfel a adawyd ar bawb.

Datblygodd stori ddirgelwch, yn sgil marwolaeth Rhys, yn dilyn ffrwydrad IED. Cyrhaeddodd Alice (Catrin Morgan), cyn-gariad Rhys, i grwybro llwybrau’r cof, ac i gorddi’r dyfroedd ymhellach.

Triptych De Oscuro

Dadorchuddiodd y ddrama wirioneddau mawr; rhai a guddiwyd am genedlaethau – er parch i’r meirw, ond ar draul y byw. Tanlinellwyd rwystredigaeth – a phwysigrwydd – rhannu artaith y PTSD, wrth droi am gymorth at eraill; yr unig obaith, ymarferol, o geisio canfod ffordd ymlaen.

Cynigodd bawb berfformiadau a oedd yn rymus dros ben – Rhys Parry Jones a Rebecca Harries, yn arbennig, fel rheini Rhys.

Triptych De Oscuro

Cydbwyswyd y pwysau a’r tensiwn llethol â hiwmor du-bitsh, gan bresenoldeb Ceri Murphy fel dafad ddu, gariodd faich unig ‘civvy’ gwrywaidd y teulu. Roedd Gareth ap Watkin – enw newydd i mi – yn bresenoldeb amheuthun, fel squaddie tyner ond cadarn, a symudodd ar brydiau fel ysbryd ar draws y llwyfan. Dan ei wyliadwraeth ef, lluniodd Rhys ei dynged ei hun, gan gyfnewid anesmwythyd ei deulu – a’i feddwl aflonnydd ei hun – er lles anfarwoldeb arwrol.

Cafwyd tro tywyllach fyth yn hiwmor y ddrmam pan adunwyd Rhys a’i gatrawd yn ‘Afghan’, dros gêm o gardiau.

Triptych De Oscuro

Atebodd y sgwrs nifer o gwestiynau a allai fod wedi’u gadael yn amwys, ond a gynigodd gatharsis i wylwyr a chyn-filwyr y dorf.

Os oedd gwendid yn perthyn i’r ddrama bwerus hon, yna’i hymrwymiad i ddwyieithrwydd oedd hynny. Raison d’être cwmi theatr DeOscuro yw cyflwyno gwaith aml-ieithog, a hynnymewn modd  mor naturiol â phosib. Llwyddodd y sgript, ar y cyfan, i gyfleu ‘Wenglish’ y teulu, trwy gyfrwng tafluniadau ac uwch-deitlau ar wal o bryd i’w gilydd; ar brydiau eraill, trwy ystumiau’r actorion yn unig.

Ond ar adegau, collwyd ystyr – a grym – y geiriau hynny ; ai dyfais, i efelychu dryswch PTSD oedd hyn? Wedi profi gwaith The Other Room Theatre eleni, a ymatebodd i’r un her yn bur lwyddiannus, fe darodd y cymhlethdod yma yn lletchwith ar adegau.

Wedi ysbaid, ar ddiwedd y ddrama, llwyfannwyd gosodwaith dawns yn y stiwdio gyntaf, lle fynegwyd brofiad PTSD mor huawdl trwy gyfrwng geiriau’r fideos ar ddechrau’r noson. Yma, tro’r corff ydoedd i gyfleu’r cyflwr dwys, a cafwyd cyflwyniad hypnotig, dan arweiniad coreograffi cain Gwyn Emberton.
Cyflwynwyd cywaith o berfformiad gan Albert Garcia a Gwyn Emberton, fel dau ‘squaddie’ ifanc mewn dillad milwrol, a’u cyhyrau yn tasgu o chwys.

Triptych De Oscuro
Cychwynnodd y darn fel pe bai’r milwyr ar dân, neu wedi’u fframio mewn ffrwydriad anfarwol. Yn unigolion ar y dechrau, daeth y ddau ynghyd ar gyfer perfformiad ar y cyd.

Ar adegau, cyflewyd y cyflwr ar ffurf clefyd cyd-ddibynnol, fel ysglyfaeth yn bwydo ar bryder ei brau. Weithiau’n llethu a mygu, droeon eraill yn cysuro a chofleidio – yn hollbresennol, er gwell ac er gwaeth.

Dim ond wrth wylio’r dawsnwyr celfydd, sylweddolais cymaint o ddelweddau sy’n danwydd i’n bodolaeth, i’n gyrru ni ymlaen, fel rolodex gweledol yn chwyrlïo’n barhaol trwy’r ymennydd. O atgofion difyr a melys, i eiliadau o embaras, cywilydd a thor-calon – profiadau ffurfiannol, un ac oll. Yr un ydy’r profiad i filwyr maes y gad; ond unwaith i chi weld, ni allwch ddad-weld erchyllderau.

Tua diwedd y darn, wrth i grynu’r dawnswyr leihau, cerddodd y milwyr yn raddol i ffwrdd. Nid gormdeithio’n gefnsyth, yn hyderus a golygus, ond llusgo’u traed ar ffurf meirw byw.

Gwaith grymus tu hwnt gan y ddau ddawnsiwr ifanc – a Gwyn Emberton, y coreograffydd. Cododd y dorf ar ei thraed i gyfarch y ddau, ar ddiwedd noson a ryddhaodd cymaint o emosiynau, i bawb.

Fe drois at gyn-filwr, a welais yn un o’r fideos, oedd yn eistedd nesaf ata i. ‘Was it all right?’,  gofynnodd yntau, yn llawn diniweidrwydd.

Trois hefyd ar ei bartner, oedd yn ddynes ganol oed, a gofynnais i beth oedd ei hymateb hithau. ‘This is the third time I’ve seen it. It’s so true to life. Too true to life. But each time I’ve seen it,  I’ve felt a bit lighter.’

Cliciwch yma i ddarganfod rhagor am y cynhyrchiad.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Theatr. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

  1. Hysbysiad: Adolygiad Theatr: Goreuon Gŵyl Caeredin 2015 | Lowri Haf Cooke

  2. Hysbysiad: Adolygiad Theatr: Hogia Ni – Yma o Hyd (Theatr Bara Caws) | Lowri Haf Cooke

  3. Hysbysiad: Adolygiad Theatr: Perthyn / Belonging (Re-Live | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s