BBC Cymru Fyw: Pethe at Ddant Pawb – Pigion Celfyddydol Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2015

Dewi Glyn Jones 1

(Llun; Dewi Glyn Jones)

Gyda’r wenwisg wedi’i smwddio, y cerdyn Clwb Carafanwyr Cymru’n sgleinio’n braf, a’r ddolen i we-dudalen rhagolygon y tywydd yn ffefryn mawr ar hyn o bryd, mae ’na siawns da eich bod yn dal heb gael cip ar raglen yr Eisteddfod Genedlaethol, i gael dewis a dethol rhai o bigion celfyddydol a gynhelir ar y Maes a thu hwnt.

Wedi oriau o ymchwil trwyadl a ngadawodd i’n swp o post-its amryliw, dyma fy mhigion i o’r ‘pethe’ eraill i’w profi, y tu hwnt i gigs Maes B a chlwb rygbi Meifod (lleoliad nosweithiau Cymdeithas yr Iaith), y Pafiliwn a’r Babell Lên, ac i’ch denu chi ffwrdd, dros dro, o far y Maes…

Gan ddechrau felly â maes llunyddiaeth, ga i’ch herio chi gyd i fynychu’r Lle Celf eleni, a hynny fwy nag unwaith yn ystod yr wythnos – ac ie, efallai ‘rôl slochian peint neu ddau.

Dyma’r unig fan ar faes y brifwyl sy’ ddim yn syllu ar ei bogail ei hun, sy’n edrych allan ar y byd yn hyderus, gan gynnig gwaith celf cyfoes o safon rhyngwladol. Dyma’n MOMA teithiol ni, sy’n creu cynnwrf yn flynyddol wrth gyfareddu a chythruddo cynulleidfaoedd bob yn ail.

Dewi Glyn Jones 2
Eleni, bydd y bardd Arwyn Groe yn ymateb i’r gweithiau dethol – sy’n cynnwys enwau lleol fel Christine Mills o Lanerfyl a Shani Rhys James o Landgadfan, ar y cyd â chyn-enillwyr y Fedal Aur fel Carwyn Evans ac Aled Rhys Hughes.

Ac os ydych chi wir angen cymorth cyntaf i ddeall be ’di be, beth am glustfeinio ar sgwrs rhwng Angharad Pearce Jones ac Arwyn Groe, fydd yn dehongli’r gwaith mewn amryw sesiynau trafod ar hyd yr wythnos.

Yn ogystal, Bydd Mererid Hopwood yn cyplysu cyhoeddi enw enillydd Gwobr Josef Herman – Dewis y Bobl gyda theyrnged i’r arlunydd Osi Rhys Osmond o Wattsville, Dyffryn Sirhywi.

Yn sgil llwyddiant y Stomp lenyddol flynyddol, cynhelir Stomp Artistiaid Cymru eleni, er mwyn penderfynu pwy yw artist gorau Cymru – byw neu farw – ers 1945. Y ddiddanwraig leol Myfanwy Alexander, Stompfeistres o fri, fydd yn cadw trefn ar yr holl gystadleuwyr. Ond yn nhraddodiad y Stomp, nid y beirniaid sydd i benderfynu, ond y bobol sy’n dewis enw’r enillydd. Mae hon yn gaddo’n sesiwn hwyliog dros ben, ym Mhabell y Cymdeithasau 1 am 1 o’r gloch ar b’nawn Iau 6 Awst.

Ac os fyddwch chi’n galw ym Machynlleth ar eich ffordd i Feifod, cofiwch alw yn Oriel MOMA Cymru ar Heol Penrallt y dre, i gael cip gwahanol iawn o’r Brifwyl.

Dewi Glyn Jones 3

Dros y bum mlynedd diwethaf bu’r ffotograffydd Dewi Glyn Jones o Bontllyfni yn tynu lluniau o’r Eisteddfod Genedlaethol; mynwch gip ar ei ddetholiad personol ef o’r gwaith, sydd heb eu gweld o’r blaen.

Dewi Glyn Jones 5

O’r oriel gelf i’r theatr , ac yn syth ar sodlau perfformiad promenâd a ‘phrofiad theatrig’ Patagonia 150 ger Aberdâr, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig drama draddodiadol; sy’n deyrnged i Delynores Maldwyn, Nansi Richards, yn y ddrama newydd Nansi gan Angharad Price, a fydd i’w gweld yn y Stiwt yn Llanfair Caereinion rhwng 3 – 7 Awst.

Nansi

Wedi cyfnod yn yn portreadu’r Angharad dwyllodrus ar Parch ar S4C bydd hi’n ddifyr gweld Melangell Dolma yn codi’r llen ar gyfnod cythryblus yn hanes y delynores unigryw. Gyda chast cadarn o’i chwmpas, yn cynnwys Siw Huws, Gwyn Vaughan Jones a Carwyn Jones, a chyfarwyddo gan y lodes leol Sarah Bickerton, mae cynhyrchiad yn argoeli’n un o uchafbwyntiau’r wythnos fawr.

Cofiwch hefyd am sioe glybiau fasweddus Theatr Bara Caws, No Wê, fydd i’w gweld yn Neuadd Bentref Meifod rhwng 4 – 7 Awst; pastiche James Bond, gyda Maldwyn John fel Jâms Bondage, Catrin Mara fel Miss Moneyshot, a Gwenno Ellis Hodgkins, sy’n dwyn y sioe dan drwynau pawb fel Shirley Classy, gyda’i hanthem i’r menopôs. Ceir cyfle euraidd yn ogystal i brofi partneriaeth Llyr Evans ac Iwan Charles, y ddeuawd gomig orau ers Ryan a Ronnie a’r Ddau Frank ; fy nghyngor i yw archebwch docynnau i weld y ddau gynhyrchiad o flaen llaw, rhag profi siom y ganrif.

No We

Cofiwch hefyd am y Pentref Drama, a leolir ar y Maes, sy’n cynnig arlwy gan gwmnïau theatr a leolir ledled Gymru, gan gynnwys perfformiadau o Mimosa (a sgrifennwyd gan Tim Baker) gan ieunctid o Gymru a Phatagonia, a gyflwynir gan Clwyd Theatr Cymru sawl gwaith yn ystod yr wythnos.

Mae’r un cwmni hefyd yn cynhyrchu’r prosiect Pwy Ydan Ni’n Feddwl Ydan Ni? ar y cyd â Chwmni’r Fran Wen; gwaith datblygol sy’n herio’r hunaniaeth, a fydd i’w weld yn y Cwt Drama ar brynhnawn dydd Mercher, y 5ed o Awst.

Yn yr un man ar b’nawn Sul cyntaf y Brifwyl ar yr 2il o Awst, bydd Ysgol Theatr Maldwyn yn perfformio Noson Lawen Nansi gan Penri Roberts, Linda Gittins a Siân James, cyn cyflwyniad y Theatr Gen ac Angharad Price o’u Nansi Richards nhw yn y Cwt Drama ar brynhnawn dydd Mawrth.

Yn syth wedi hynny am 2.30yp, bydd perfformiad Oes Rhaid i Mi Ddeffro? gan Theatr Arad Goch wrth fodd plant bach a’u rhieni, wrth gynnig gwibdaith i fyd o freuddwydion, a goreograffwyd yn grefftus gan Eddie Ladd.

Bydd y ddawnswraig ei hun ar y Maes i gyflwyno cip o Dawns Ysbrydion – cynhyrchiad nesaf y Theatr Genedlaethol – a hynny yn y Cwt Drama ar b’nawn Sadwrn yr 8ed o Awst.

Sesiwn arall fydd yn sicr at ddant y plant rhwng 4 – 7 oed fydd sioe bypedau Drwg gan Theatr Bara Caws; fe’i chynhelir am 11.30 ar fore Llun yn Theatr y Maes.

Manteisiwch hefyd ar y cyfle i brofi drama fuddugol Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, La Primera Cena gan Dewi Wyn Williams, sy’n adrodd stori dyn yn cyfarfod â’i dad am y tro cyntaf ers 30 mlynedd. Bydd i’w gweld yn y Cwt Drama bob nos am 6.00pm rhwng nos Lun a nos Wener.

Y Lolfa Len

Nid nepell i ffwrdd yn y Lolfa Lên, cynhelir sgwrs am Pum Cynnig i Gymro – y ddrama rymus gan Theatr Bara Caws a deithiodd Cymru yn gynharach eleni, am hanes hynod John Elwyn Jones yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a hynny yng nghwmni Dyfan Roberts, Meilir Rhys a Betsan Llwyd am 1 o’r gloch ar ddydd Llun.

Pum Cynnig i Gymro

A sôn am Parch yn gynharach, bydd nifer yn falch i fynychu’r sesiwn a gynhelir toc cyn hynny ar y dydd Llun, am ddrama deledu boblogaidd diweddar Fflur Dafydd. Bydd yr awdures yn trafod y profiad o’i chreu, ynghyd ag ateb cwestiynau’r dorf.

Bydd ’na hefyd gyfle am drip i sinema’r Lolfa Len, yn y y tipi amryliw ar ddydd Sadwrn 1 Awst. I lansio wythnos o arlwy amrywiol, neilltuir diwrnod cyfan i ddathlu Llên y Sgrin, yng nghwmni sêr fel Kate Roberts, Waldo Williams a T H Parry Williams, Twm Morys ac Iwan Llwyd – i enwi dim ond rhai!

Ac i ffans y ffilm Y Dylluan Wen, a seiliwyd ar nofel fuddugol y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Abergele 1995, cynhelir sesiwn i gofio’r awdures Angharad Jones yng nghwmni Geraint Løvgreen , Siân James ac eraill yn y Babell Lên ar brynhawn dydd Sadwrn 1 Awst.

Yn wir, dyma un o nifer fawr o sesiynau teyrnged a gynhleir yn y Brifwyl eleni, wedi i Gymru – a’r celfyddydau – brofi cymaint o golledion dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys Alun ‘Sbardun’ Huws, Derec Williams, John Rowlands, Dr John Davies, Gerallt Lloyd Owen a Merêd. Mae mynychu sesiynau torfol o’r fath yn y Babell Lên wastad yn brofiad dirdynnol, felly cyrhaeddwch yn gynnar i sicrhau eich sedd.

Cofiwch hefyd am symbolau gweledol amlycaf y Brifwyl eleni; y Goron, a luniwyd gan y cyn-athro crefft o Fachynlleth John Price, sy’n cynnwys carreg a godwyd o draeth Porth Madryn, Patagonia; a’r Gadair a ysbrydolwyd gan y tirlun lleol, a gan y crefftwr ifanc Carwyn Owen o bentre’r Foel, Dyffryn Banw.

Mae’n union hanner can mlynedd ers i Nhaid innau W.D. Williams , ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol y Drenewydd 1965, a dros y blynyddoedd fe’i defnyddiwyd fel dodrefnyn a hyd yn oed storfa degannau! Mae’n sefyll yn ’stafell fyw teulu fy Mam yn y Bala, yn drosiad weledol gref o’r berthynas gadarn rhwng celfyddyd a’r iaith Gymraeg.

Y Prifardd WD Williams Cadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 1965

Da chi, mynwch gip ar yr arlwy anhygoel sydd yn aros amdanom ym Meifod; ewch, mwnhewch, a chyfranwch i’r sgwrs, i gael dathlu – a beirniadu – ynghyd. Does dim byd tebyg ar wyneb y ddaear, felly ‘steddfod dda’ i chi gyd.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Celf, Ffilm, Llenyddiaeth, Theatr. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i BBC Cymru Fyw: Pethe at Ddant Pawb – Pigion Celfyddydol Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2015

  1. Dywedodd lowrihafcooke :

    Dal i chwilio am llun syl ben tan marchnad Trallwm Dewi Glyn Jones. Welais hi heb dot coch ac wedyn efo’r dot cyn imi gallu cyrraedd fy cerdyn credid. Hefyd, amlwg bo prisiau Glyn Baines wedi dyblu toc ar ol ennill y medal aur!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s