Adolygiad Theatr: Nansi (Theatr Genedlaethol Cymru)

Nansi_small

Fe’n tywyswyd yr wythnos dd’wetha gan Melangell Dolma i fyd y tylwyth teg. Cawsom gwmni lodes leol, dalentog tu hwnt, oedd ymhell o flaen ei hamser.

Fel nifer mae’n siwr, delwedd archif ddu a gwyn o Delynores Maldwyn, Nansi Richards, fu gen i yn fy meddwl . Ond yng nghynhyrchiad llawn asbri Theatr Genedlaethol Cymru o Nansi, cawsom gip ar ei hieuenctid amryliw.

Diolch i’w chefndir werinol, a roddodd bwys ar y pethe, ar fferm Penybont, Dyffryn Tanad, datblygodd Nansi yn delynores a deithiodd y byd, gan hudo’r dorf a thorri calonnau. Ond o gofio iddi gael ei geni ym 1888, roedd hi’n ferch anghonfensiynol, ac fe’i beirniadwyd nid yn unig am ddilyn ei breuddwydion, ond am feiddio byw bywyd fel y mynnai.

Fe nghyffyrddwyd i’n ddwfn gan y stori gyfoes hon, a adleisiodd Cyfaill / Te yn y Grug (gan Theatr Bara Caws), am hanes yr awdures Kate Roberts yn 2013 . Yr un elfennau oedd yn nrama Cyfaill Francesca Rhydderch ag oedd yn hollbresennol yn y driniaeth hon gan Angharad Price; cynildeb di-rodres, tafodiaith goeth, a stori dra ddyneiddiol.

Roedd y llwyfaniad ei hun yn ddigon o sioe, wrth i’r gyfarwyddwraig leol, Sarah Bickerton, drefnu noson lawen iawn ar ein cyfer. Cynhaliwyd y noson dan drawstiau hynafol y Stiwt, ym mhentre Llanfair Caereinion; gyda tanceri diodydd ar y byrddau bar o’n blaen, fe ddigwyddodd y ‘ddrama’ o’n cwmpas.

Brechdanwyd y cynhyrchiad gan ddwy olygfa o noson briodas Nansi Richards a Cecil Jones (Carwyn Jones), mewn stafell westy yn Aberdaron.

DSC_0409

‘Roedd na dri yn ein perthynas’, chwedl Diana, ’slawer dydd, a’r un mae’n siwr fu cri ’rhen Cyril ar un adeg. Thema gyson yn y ddrama oedd cariad Nansi at ei thelyn; testun obsesiwn tebyg i Ann Griffiths am Iesu Grist.

Ar y dechrau, ceisiodd Nansi ei gorau i osgoi hualau cymdeithas – a dymuniadau, naturiol, ei gwr, ar noson eu priodas. Ond nid ‘prude‘ ’mo Nansi yn sicr, fel y gwelsom yn glir; yn hytrach, porthmon ei phenrhyddid. O’r fan honno, cafwyd cyfres o ðl-fflachiadau difyr i hanes ei bywyd tan hynny, a daenodd oleuni disglair ar ei natur unigryw hi.

Pa ryfedd iddi osgoi priodi am gyhyd , yn sgil esiampl ei rhieni hi? Bu tensiwn am hir rhwng ei meddwyn o dad (Gwyn Vaughan Jones), codwr canu ac arweinydd corau lleol, a’i mam (Siw Huws), a oedd yn bianyddes ac yn flaenor yn y capel.

Diddanodd Gwyn Vaughan Jones y dorf gyda’i giamocs llawr gwlad, gyda’i bresenoldeb carismataidd; denodd Siw Huws ein hedmygedd ar hyd y darn, wrth ddatgelu’n raddol gwir aberth y fam.

DSC_0269

Yn wir, cyflawnodd Siw Huws – ynghyd a Carwyn Jones – sawl camp ar hyd y cynhyrchiad, wrth i’r ddau gynrhychioli cyfres faith o gymeriadau, a ffurfiodd sawl pwyth ym mrodwaith bywyd Nansi.

Roedd Siw Huws ar ei gorau fel ‘Happy’ Fanny Fields – seren bantomeim fawr Americanaidd a berfformiodd ar y cyd â Nansi yn West End Llundain – a’i hathrawes delyn ffroenuchel yng ngholeg cerdd y Guildhall, Margaret Arnold.

DSC_0180

Gwyrodd Carwyn Jones, ar amrantiad, o ddidwylledd athro cyntaf Nansi, Tomos Lloyd – Telynor Ceiriog – i afiaith awchus y Prif Weinidog o Gymro, David Lloyd George.

DSC_0169

Ond seren y sioe, heb os nag ini bai, yr oedd Nansi.

Sgipiodd Melangell Dolma ar hyd ‘llwyfan’ y Stiwt yn ysgafndroed, fel y lodes benchwiban ifanc. Ond dangosodd ddychnwch, a direidi, y delynores deires wrthi iddi esgyn i uchelfannau ei gyrfa.

DSC_0278

Cyfeiriwyd fwy nag unwaith at hud y tylwyth teg; yn wir, i nifer Benybontfawr roedd hi ‘ar goll gyda’r tylwyth teg’, yn byw ei breuddwydion mewn byd o ffantasi. Ond nid chwedlau oedd ei champau ar lwyfannau mawr y byd, a phortreadwyd ei rhwystredigaeth â disgwyliadau ei chymdeithas yn ddeheuig.

DSC_0209

Mae stori gyfnod Nansi yr un mor berthnasol i hanes merched heddiw, yn y frwydr gyfoes i ‘gyflawni popeth’, a phwyslais Sheryl Sandberg – prif reolwraig Facebook – ar ‘briodi’r dyn cywir’ (os o gwbl) i sicrhau gyrfa eich breuddwydion. Dyna’n union, mewn ffordd, bron i ganrif ynghynt, wnaeth Nansi ei hun, wrth briodi Cyril wedi iddi sefydlu ei gyrfa ei hun, wnaeth ei chefnogi a’i derbyn yn union fel yr oedd hi.

Dangoswyd hefyd yn y ddrama y newid cymdeithasol mawr a fu rhwng cenhedlaeth Mam Nansi a hi, a thrwy hynny, fe glywson ni gyd ein stori ni.

Cynhelir taith genedlaethol o Nansi yn 2016. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Theatr. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s