Adolygiad Theatr: My People (Clwyd Theatr Cymru & Invertigo Theatre)

My People

Ar lwyfan Clwyd Theatr Cymru tan ddiwedd yr wythnos y mae drama honco bost; addasiad Steffan Donnelly o My People gan Caradog Evans, a gythruddodd y Cymry union ganrif yn ôl.

Dyma’r casgliad o straeon byrion a sbardunodd y Western Mail i’w ddiddymu, a chyfeirio ato fel  ‘llenyddiaeth y garthffos’. Byrlyma’r gyfrol o gasineb tuag y Gymru anghydffurfiol, ac mae’n dal i gorddi’r dyfroedd hyd heddiw.

Brodor o Rydlewis oedd Caradog Evans, a ddilynodd yrfa fel newyddiadurwr yn Llundain. Ffynhonell ei lid oedd camdriniaeth ei fam gan ei chymuned yng Ngheredigion; yn wraig weddw â phump o blant, trodd ei theulu a’i chymdogaeth eu cefnau arni hi, am iddi briodi â dyn ‘amhriodol’, yn eu tyb nhw.

Yn y gyfrol, ceir portread o’r Cymry fel rhagrithwyr rhonc, wedi’u llethu dan ormes y Capel. Ceir popeth rhwng ei chloriau, o losgach i lofruddiaeth, felly tybed a fyddai’n llwyddo ar y llwyfan? Yn bwysicach efallai, a fyddai stori ganrif oed yn denu cynulleidfa gyfoes?

Rhaid dweud i mi ryfeddu at niferoedd y dorf ar nos Lun, wedi diwrnod o dywydd ffiaidd. Roedd Theatr Emlyn Williams bron iawn yn llawn, a phawb yn awyddus am dihangfa.

Llwyddwyd i’n denu ni fewn i hanesion pentre ‘Manteg’, wrth fframio’r cyfan mewn cyd-destun cyfoes. Yno’n aros i’n croesawu oedd gweinidog (Hugh Thomas) diaconiaid ac aelodau o gapel, a osodwyd yn ein cyfnod ni.

Siaradodd ef â’r dorf o’r pulpud o’n blaen, gan gyfeirio at hen lyfr yr oedd newydd ei darllen; My People gan Caradog Evans. Dyma gyfrol, medde fe, wnaeth gam mawr â ‘ni’; yn waeth na dim, meddai, ‘the writing isn’t very good’. Fel un a geisiodd ddarllen y llyfr, ond a roddodd y gorau iddi ar ôl tair pennod, allwn i ddim anghytuno ag ef.

Roedd y ddrama ar ei hennill gyda’r actor comig hwn, ac fe angorodd y cyfan o’r cychwyn; yn gwmni hollbresennol iddo oedd yr actores Valmai Jones, sydd wastad yn bleser i’w gwylio. Portreadodd hi ei wraig, ac yno’n rhannu’r sedd fawr oedd dau ddiacon tipyn iau (Michael Geary a Rhys Meredith) a phâr ifanc ar fin priodi (Sion Alun Davies a Roanna Lewis).

Yn sydyn, wrth iddo ddechrau adrodd enghreifftiau o’r bennod gyntaf, trodd y criw digon sidét yn ellyllod hyll, gan ddychryn yr aelod diweddaraf – y ddarpar briodferch – i’w seiliau. Camodd pawb, ar unwaith, i sgidiau cymeriadau’r gyfrol, gan gywasgu pymtheg o’r straeon i ddrama ddwyawr o hyd.

Nid cyd-ddigwyddiad mo dewis Steffan Donnelly a’i gyd-gyfarwyddwr Aled Pedrick i benodi’r ferch fel dolen gyswllt rhyngthom ni â’r ddrama, gan mai’r ‘ferch’ – ar bynnag ffurf y’i chynrhychiolir yn yn y gyfrol – sy’n dioddef waethaf yn y gymdeithas dan sylw.

Tanlinellir hyn o’r cychwyn gyda hanes trasig pennod gynta’r gyfrol, sy’n dilyn Achsah (Valmai Jones) – mam i wyth o blant gaiff ei chloi yn llofft y sgubor gan Sadrach (Michael Geary) ei gŵr, am iddi fynd o’i chof.

Serch erchylldra’r testun – sy’n cyffwrdd ag iselder ôl-enedigol, fel y deallwn erbyn hyn – cyflwynir y cyfan ar ffurf comedi, a hynny yn bur llwyddiannus. Yn hytrach nag wyth o blant ar lwyfan, caiff Sadrach y lleiaf ei bortreadu gan Rhys Meredith, a’r gweddill gan gynhwysion bocs tegannau’r ysgol Sul , gan gynnwys Care Bear, Rug Rat, Troll a My Little Pony.

Mae’r straeon mor dywyll nes fod y comedi’n angenrheidiol, er mwyn tanlinellu’r elfennau trasig. Benthyca’r set, yn ogystal, amryw gyfleoedd i bwysleisio gorffwylledd y pentref a’i phobol, dan gochl gymdeithas waraidd gapelyddol.

Rhaid canmol gwaith y cynllunydd, Cécile Trémolières o Baris, sy’n llwyddo i drawsnewid y gofod o gapel mawr cyfoes, llofft gwair hyd at draeth a glan y môr. Coeliwch chi fi; mae’r olygfa olaf honno, gyda’r cast i gyd yn eu siwtiau nofio, yn cynrhychioli coup de théâtre go iawn.

Gweithredai’r cast fel ensemble cryf, gan arddangos haelioni mawr at ei gilydd; caiff pawb y cyfle i ddisgleirio mewn rhannau amrywiol. Byddai’n amhosib dewis goreuon o’u plith, ond rhaid dweud fod presenoldeb Hugh Thomas a Valmai Jones yn chwistrellu dôs pellach o ddireidi i’r cyfan.

Roedd gweld y ddau yn arfogi’u hunain yn erbyn mewnfudwraig o Loegr (Roanna Lewis) â brwsh toilet ac antiseptic yn ddoniol tu hwnt, gan ffurfio atgof y gwnaf i sawru am sbel. Cyfoethogwyd yr ennyd fach honno â chyffyrddiad ysgafn gan Dyfan Jones, a gyflwynodd chwa o gerddoriaeth organ, a blethodd arswyd The Exorcist â’r gyfres gomedi Carry On.

Doeddwn i ddim am barhau i ddarllen y gyfrol, wedi dehongliad mor atgas o’r Cymry gan yr awdur, ond mae ysgafnder y ddrama lwyfan yn ein hatgoffa ni ei bod hi’n llesol i chwerthin am ein pennau’n hunain. Mae hefyd yn ein hatgoffa i fod yn hynod wyliadwrus o’r rheiny y dibynwn arnynt am arweiniad; hyd yn oed mewn cymdeithas oleuedig, dyw tywyllwch byth yn bell i ffwrdd.

Mae cynhyrchiad My People i’w gweld yn Clwyd Theatr Cymru tan yr 21ain o fis Tachwedd, 2015. Cliciwch yma am wybodaeth pellach.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Theatr. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Adolygiad Theatr: My People (Clwyd Theatr Cymru & Invertigo Theatre)

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s