Adolygiad Ffilm: Mr Calzaghe (15)

Mr Calzaghe

Y Sêr: Joe Calzaghe, Enzo Calzaghe, Chris Eubank, Mikkel Kessler, James Dean Bradfield, Matthew Rhys a mwy

Y Cyfarwyddo: Vaughan Sivell

Y Sgrifennu: Vaughan Sivell

Y Gerddoriaeth: Ceiri Torjussen

Hyd: 90 mun

Bydda i’n adolygu Mr Calzaghe ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru ar fore Llun, Tachwedd 23ain, 2015.

Wel am brofiad oedd treulio dwyawr yng nghwmni Mr Calzaghe – y ffilm ddogfen sy’n croniclo gyrfa’r ‘Ddraig Eidalaidd’ o Drecelyn, a’r paffiwr a lwyddodd i gynnal ei enw fel Pencampwr Pwysau Uwch Ganol y Byd.

Gadewch i mi gyfaddef yn y fan a’r lle i mi ddisgwyl mai biopic arall, am gadeirydd Apple, Steve Jobs, a phennod ola’r Hunger Games; Mockingjay Part 2 – fyddai’r ffilmiau i’m cyffroi i fwyaf yr wythnos hon. Ond y cynhyrchiad mewn gwirionedd a’m lloriodd i’n llwyr oedd ffilm am Gymro cwbl ddieithr i mi. Yn yr ysbryd hynny, dwi’n annog pawb – yn enwedig rhai fel fi, sydd â dim diddordeb mewn bocsio – i fynd i weld Mr Calzaghe. Mae’n cynnwys stori emosiynol am frwydr ddynol, sy’n cynnig ergyd go hegar i’r enaid.

Nid, deallwch chi, nad yw’r ddwy ffilm arall yn werth eu gweld; yn achos y gyntaf, gwahoddir Oscars galôr wrth ei gwylio. Mae Michael Fassbender yn drydanol fel y bwli o fos, a newidiodd ein byd am byth, tra fod Aaron Sorkin yn cadarnhau, unwaith ac am byth, nad oes neb cystal ag ef am lunio sgript fel Steve Jobs. Mae Jennifer Lawrence hefyd yn llwyddo i hudo’r dorf wrth ffarwelio â Katniss Everdeen yn Hunger Games. Ond byddwch yn ymwybodol fod trais dystopaidd Mockingjay 2 yn gadael blas cas braidd yn gas yn y geg, wedi wythnos o ddelweddau dychrynllyd y newyddion.

Yn bur annisgwyl felly, y ffilm i’w sawru’r penwythnos hwn yw ffilm ddogfen cymharol fechan, sy’n dathlu cawr o Gymro a gyrhaeddodd y brig, gan gipio coron ei gamp ‘am byth’. Am bwy ydw i’n sôn? Wel , Joe Calzaghe wrth gwrs, a ymddeolodd yn 2009, ar ôl ennill 46 gornes baffio proffesiynol, heb golli unwaith ar hyd ei yrfa.

Ond mae teitl y ffilm yn un amwys dros ben, gan nad enwir Joe yn benodol; yn wir, y mae Mr Calzaghe yn gymaint o deyrnged i Enzo ei dad, ag ydyw’n fywgraffiad ohono ef.

Mae’n cychwyn ar achlysur mwyaf bywyd Joe Calzaghe – yr ornes fawr yn Madison Square Garden i amddiffyn ei deitl yn erbyn yr Americanwr Roy Jones Jr; honno, yn ddiarwybod i bawb, fyddai ei her fawr olaf yn y gamp.

O fewn dim, mae’r ffilm afaelgar yn ein tywys ni ’nol mewn hanes – i gyn-hanes Joe a dweud y gwir – wrth lanio yn Sardinia yng nghwmni Enzo, sy’n datgelu’i wreiddiau â ni.  Yn ei acen Cocni-Eidalaidd, gyda thwtsh o sain y Cymoedd, mae’n taenu’i hudlath drostom ni. Er mai pêl-droediwr oedd Enzo am fod, cafodd ei berswadio gan ei dad Giuseppe, i fynd yn gerddor fel ei ewyrth, ac yn wir, fel dyn ifanc, dyna a wnaeth; rhedeg i ffwrdd, a theithio Ewrop fel chwaraeydd bâs mewn band, cyn syrthio’n glep am Jackie yng Nghaerdydd, a phriodi â hi cyn diwedd y mis!

Wrth fagu’i deulu yn Nhrecelyn – sef Joe a’i ddwy chwaer fach– daeth yn amlwg i Enzo fod gan ei fab ddawn anhygoel wrth daro clustogau y soffa gyda’i ddwylo. Roedd yntau hefyd awydd mynd yn bêl-droediwr – ar ran Cymru neu Juventus – ond roedd ei ddwylo’n gynt o lawer na’i draed. O 9 oed ymlaen, treuliodd oriau pob dydd yn hyfforddi yng nghampfa rydlyd – a hynod rewllyd – Trecelyn, gan arddangos yr un agwedd broffesiynol a wnaeth yn hwyrach fel dyn.

Cymaint oedd ei hunan-grediniaeth fel llanc, roedd yn gwybod y gallai gyrraedd y brig; llwydda’r ffilm i adrodd hanes ei ffawd , gan adael y gwyliwr ar ar ymyl y sedd, yn geg-agored.

Dangosir, yn ddeheuig – gan blethu archif amrhisiadwy – sut enillodd Joe wobrau lu yn ei arddegau, ond gwynebodd hefyd fwlio ciaidd ei gyd-ddisgyblion. Yn fachgen swil, ond golygus, denodd Joe genfigen mawr, heb sôn am ragfarn yn erbyn ei wreiddau estron. Gwelwn yn glir, trwy sgyrsiau â’r pencampwr a’i deulu, sut y prosesodd Joe ei wewyr trwy ergydion corfforol y gamp.

Dilynwn yn raddol yrfa anhygoel Joe, ac mae Enzo yn hollbresennol ar hyd y ffilm; yn wir, mae’r ffilm yn cynnig astudiaeth seicolegol hynod ddiddorol am berthynas y tad a’r mab.

Fel y dywed un sylwebydd – o blith nifer yn y ffilm – dyletswydd tad yw dysgu mab sut i fyw; dysgu paffiwr sut i ymladd yw gwaith hyfforddwr. Ond roedd Enzo yn cyfuno’r ddau –  sefyllfa ryfeddol, ag ystyried na chafodd Enzo ei hun erioed hyfforddiant yn y maes, ond efe, heb os, oedd cyfrinach fawr llwyddiant Joe.

Enzo Calzaghe Joe Calzaghe

Wedi’r cyfan, fel y cydnabu Chris Eubank yn y ffilm, wnaiff tad ddim twyllo, na chamarwain, na gochelu rhag dweud y gwir – ac yn achos Enzo, roedd ganddo gefndir cerddorol, gan annog Joe i baffio’n unigryw, i guriadau cerddorol.

Mae’r elfen gerddorol hon yn codi ar hyd y ffilm, wrth i sylwebwyr, a ffans (yn cynnwys James Dean Bradfield, Michael J Fox a Matthew Rhys), gymharu gwylio Joe yn ymladd i wylio ballet neu wrando ar jazz. Fel dywed Gareth A Davies – sylwebydd boscio’r Telegraph, sydd yn ddewin gyda geiriau – wrth grynhoi yr ornes rhwng Calzaghe a Jeff Lacy yn 2006; ‘He painted the masterpiece he knew that was there.’

Ac fe welwn ni hyn i gyd gyda’n llygain ein hunain, gan fod archif yr holl ornestau mawr – a bach, o gyfnod ei blentyndod – yn rhan o’r ffilm, wedi’u golygu’n slic, sy’n sicrhau cyffro, ac amrywiaeth mawr.

Mae’r momentwm yn cynyddu, o’r ornes fawr gyntaf ym 1997 yn erbyn Chris Eubank, yna yn erbyn Jeff Lacy yn 2006, Mikkel Kessler yn Stadiwm y Milenim yn 2007, Bernard Hopkin ger Las Vegas yn 2008, yna Roy Jones Jr yn hwyrach yn 2008. Yr hyn sy’n ennyn cydymdeimlad – ac yn creu tensiwn mawr – yw’r ffaith am gyfnod sylweddol o gyfnod hwyrach ei yrfa – ag yntau’n benderfynol o amddiffyn ei goron – profodd ysgariad, a dioddefodd  o anafiadau difrifol i esgyrn ei ddwy law, a’i adawodd yn amau ei hun yn fawr.

I rywun fel fi, oedd yn gwybod braidd dim am hanes Joe, roedd bron yn amhosib gweld sut y gallai oresgyn hyn oll, i gyflawni ei uchelgais fawr.

Mae’n werth oedi am ennyd, i ganmol y gerddoriaeth – gan y  Cymro Cymraeg, Ceiri Torjussen o Gaerdydd – sy’n llwyddo i gynnal momentwm y ffilm. Golyga hyn, erbyn y diwedd, ein bod ni yn ein dagrau’n llwyr!

Mae’r agoriad  ‘arlywyddol’ llawn llinynnau ac offerynnau pres (sy’n dwyn arwyddgan y gyfres House of Cards i gof) yn benthyg statws a chynnwrf seremonïol i’r gornestau paffio, sy’n gwrthgyferbynnu’n llwyr a’r darnau piano adlewyrchol, a chynildeb tyner y delyn yn Nhrecelyn tra’n crwydro llwybrau’r côf. Ond rhaid dweud fod y dewis o chwarae clasur techno gan The Prodigy ar achlysur yr ornes olaf yn athrylithgar. Mae’n chwistrellu dôs anhygoel o adrenalîn, sy’n ein gosod ni’n blwmp ac yn blaen yn y sedd flaen yn Madison Squre Gardens, Efrog Newydd.

Coeliwch chi fi, doedd gen i ddim gronnyn o ddiddordeb mewn paffio, na chwaith yn gwybod rhyw lawer am Joe Calzaghe cyn gwylio’r ffilm. Ond mae’r ffilm yn bortread pwerus o Gymro sy bellach yn aelod o oriel yr anfarwolion; un annisgwyl o annwyl, a dyn teulu i’r carn – serch strach Strictly, a’r sgandal cyffuriau mwy diweddar.

Denwyd gwneuthurwyr ffilm ers blynyddoedd mawr i greu campweithiau sinematig am fyd bocsio; yn amlach na pheidio, fe adroddir union yr yr un hen stori. Y paffiwr ar ei din, ar fin colli’r cyfan, cyn codi ar ei draed drachefn ac ennill y dydd – fel yn Rocky, Raging Bull a Southpaw, i enwi dim ond tri. Nid yw Mr Calzaghe yn ceisio cystadlu â chyfarwyddo celfyddydol yr un o’r rheiny, ond yr un galon a chwys ac enaid a geir ynddi – os nad mwy.

Yn rhyfedd ddigon, mae’r Mr Calzaghe yn llwyddo yn yr un modd yn union â’r biopic Steve Jobs, wrth ganolbwyntio ar yr un llinnyn aur dynol; y berthynas unigryw sy’n bod rhwng rhiant a phlentyn. Nid ffilm am focsio, welwch chi, mo Mr Calzaghe yn y bôn, ond cynhyrchiad sydd yn dathlu’r cariad trosgynnol hwnnw. Os fyddwch chi’n gall, fe ewch chi â bocs mawr o hancesi  â chi.

Y Sgôr terfynol*

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 4 Cookie a hanner yn cyfateb i 9 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Adolygiad Ffilm: Mr Calzaghe (15)

  1. Hysbysiad: Adolygiad Ffilm: Goreuon 2015 | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s