Ddyddiau’n unig ar ôl profi’r ffilm olaf yng nghyfres The Hunger Games, darllenais lyfr am hanes cyffrous Mari Owen – y Katniss Everdeen Cymreig. Fel yn achos yr Americanes eofn, mae’r Gymraes yn giamstar gyda bwa saeth; ond yn wahanol i Katniss, nid y dyfodol sy’n denu Mari, ond hanes ei theulu hi.
Gosodir nofel swmpus Linda Davies ym milltir sgwâr ei magwraeth hi; ym Mannau Brycheiniog, ar fferm Nanteos yng nghysgod y Castell Du. Dyma gartref cyfoes Mari Owen, sy’n ddisgynydd i linach faith o fridwyr merlod Cymreig. Fel pob un o’i chyn-deidiau, mae hi’n meddu ar ddawn; mae hi’n feistres y bwa hir.
Mae hi hefyd yn ffrindiau gyda’r bachgen drws nesaf, sydd wrth ei fodd yn chwarae pêl droed. Yr unig broblem gyda James yw mai ef yw Arglwydd y Castell Du – cartref arch-elynion ei theulu hi.
Tra’n crwydro ffin eu tiroedd, mae Mari’n canfod trysor cudd ; un o geinciau colledig y Mabinogi , sy’n cynnwys rhybudd o’r gorffennol iddi hi. Aiff y llyfr â Mari ar antur hanesyddol, a gwynebai beryglon lu. Rhaid dilyn ei rhawd, a chyflawni ei ffawd, er mwyn achub ei theulu hi.
Llwydda’r awdures i’n denu ni fewn i’r nofel hon â phortread o arwres anarferol; Cymraes gyfoes, bymtheg oed, sy’n hawlio’i hunaniaeth wrth afael yn dynn yn ei gwreiddiau hi. Ydy, mae Mari yn dal ac yn denau, â chanddi wallt euraidd hir, ond y peth pwysicaf amdani yw ei bod yn feistres ar eich champ ac yn heiny ac yn gryf.
Nodwedd arall, anghyffredin, amdani yw mai dim ond un llygad sydd ganddi hi; plethir hyn yn ddeheuig, ond di-ffwdan, o fewn stori sy’n cydio yn niddordeb y darllenydd tan y diwedd.
Mae’r antur yn deillio o’i diddordebau hi – marchogaeth a’r bwa hir – ac mae angerdd yr awdures am y meysydd hyn yn daearu’r elfen o ffantasi. Ceir hefyd bortread o deulu clos, sy’n wynebu argyfwng credadwy; dan bwysau ariannol, gwêl Mari ei siawns i achub ei hetifeddiaeth hi.
Cynigir hefyd ddarlun crefftus o’i hardal gwledig hi; rhanbarth brydferth ond gwyllt o Gymru. Dyma ardal na chynrhychiolir yn aml mewn llenyddiaeth Gymraeg, felly rhaid llongyfarch y penderfyniad i addasu’r nofel hon o’r Saesneg. Braf iawn yw cael sawru elfen o hanes y Bannau, sy’n benthyg ei hun yn naturiol i driniaeth ffantasïol. Ac er y pwyslais ar y cysylltiadau brenhinol, ceir hefyd flas o gyfoeth byd natur, ynghyd â hanes meddyginiaethiau amgen y fro.
Un o themau amlycaf y nofel yw traddodiad y bwa hir, y mae iddo hanes anrhydeddus yma yng Nghymru. Yn ôl chwedl deuluol, roedd cyn-daid i mi yn un o saethwyr y Tywysog Du , ond gwn i ddim llawer mwy na hynny. Braf iawn yw gweld awdures yn perchnogi’r hanes hwn, mewn ffordd sy’n addysgu a diddanu. Synnwn i ddim na fydd nifer o ddarllenwyr am gydio yn y gamp hynafol hon eu hun – a minnau yn eu plith.
Mae’r nofel Meistres y Bwa Hir gan Linda Davies (addasiad Cymraeg gan Efa Mared Edwards) ar werth yn eich siop lyfrau leol a gwefan Gwales am £6.99.
Hi Lowri Wyn Williams sy ma o’r nifer fawr o AKAs, shwt wyt ti? Ddim yn gwerthu ads i Radio Ceredigion mwyach ond serch hynny mae yna fusnesau yng Nghaerdydd sydd am hybu yn ddwyieithog, yn fwyaf oll yr wythnos hon bwyty newydd Turtle Bay sy’n agor ar Stryd y Santes Fair [St Mary’s St felly!] yfory yn arbennig i flogwyr bwyd. Felly, dere draw pan fod gen ti amser yn sbar a fe wna i geisio neud siwr eu bod nhw’n eich disgwyl. Os am wybodaeth bellach / gwahoddiad hefyd i noson VIP nos iau yna cysylltwch a mi ar pancymru AT dailingual DOT com Diolch Wyn W [ ar Caerdydd / dim dau naw dau dim saith zero saith pedwar chwech nawr ar hyn o bryd ] x ON atebol yn neud yn dda iawn – cwmni o’r tir rhwng Talybont a’r Dole…yng Ngheredigion wrs gwrs