Caffis Cymru – Lluniau Emyr Young

CaffisTafwyl_Cywir

Gyda dyddiau yn unig i fynd tan lansiad fy llyfr Caffis Cymru yn Tafwyl, Castell Caerdydd ar b’nawn Sul, dyma i chi damaid blasus iawn i aros pryd; cyfres o luniau trydanol Emyr Young, y bum yn cydweithio ag ef ar hyd y prosiect hwn.

Fel yn achos fy nheithlyfr cyntaf, Canllaw Bach Caerdydd, roedd gen i deimladau cryfion ynglyn â diwyg a ffotograffiaeth y llyfr hwn. Ddim yn aml y caiff ddelweddau ofod blaenllaw mewn llyfrau Cymraeg, ond roedd ’na gyfle euraid yma i fynd amdani go-iawn, a dangos y gorau o Gymru, yn llythrennol, ar blât.

Gyda ninnau wedi cydweithio  ar y llyfr Pobol y Cwm; Pen Blwydd Hapus 40, ro’n i’n gwybod mai Emyr  Young oedd y dyn ar gyfer y job.  Er iddo gyfaddef ei hun na chafodd gomisiwn o’r fath o’r blaen, ro’n i’n gw’bod yn reddfod  y gallai Emyr gyfathrebu yr hyn a brofwn i wrth gamu dros riniog caffis dethol y llyfr.

Erbyn i mi ddanfon testun  y gyfrol at olygyddion gwasg Gomer, roedd Emyr  a’i gamera eisioes ar daith ac ar waith.  Pan agorais y pecyn cyntaf o luniau ganddo, rhaid cyfadde i mi syllu’n gegrwth ar fy sgrin, gan lafoerio ac ochneidio mewn pleser… sôn am bornograffi bwyd go iawn!

Maddewch y gymhariaeth fasweddus, ond y gwir amdani yw fod na bleser  greddfol, cyntefig, cyn-oesol, yn perthyn i’r ysfa  am borthiant o unrhyw fath, a caiff deimladau di-ri  eu deffro wrth edmygu lluniau o’r fath!  Hiraeth, cenfigen, trachwant ,  balchder, a diolchgarwch – i enwi rhai. Dwi’n  mawr obeithio y  gwnaiff y gyfrol godi’r ysfa yn ogystal  i fynd ar wibdaith, a brathiad bach!

Wna i ddim datgelu’r lleoliadau’r ffotograffau tan y cyrhaeddiff y gyfrol fy mhawennau awchus  – sef p’nawn Sul  am 1.30pm yng Nghastell Caerdydd! Bydd na gyfle wedi’r sgwrs, gyda’r golygydd di-hafal Elinor Wyn Reynolds, i brynu copïau, ac i edmygu  lluniau Emyr dros eich hun. Ond ni fyddai un o’r delweddau’n bosib, wrth gwrs,  heb oriau o lafur cariad perchnogion y caffis, sef pensaeri bydoedd o bleserau bach pob-dydd .

Eu hangerdd a’u hysfa ddi-flino  nhw i’n trawsblannu, dros-dro,  i fyd sydd well,  a daniodd fy awen i ar gyfer Caffis Cymru , felly mwynhewch!

 

EmyrYoung_CaffiAlys_20160223_0000

 

Popty'r Dref

 

EmyrYoung_BecwsIslyn_20160224_0002

 

Medina

 

Caffi Beca

 

One Shoe Cafe

 

Ginhaus

 

Food at Williams

 

Sidoli's

 

Bara Menyn

 

Wright's Food Emporium

 

Cafe Vista

 

Ultracomida

 

photo (21)

 

EmyrYoung_CastleKitchen_20160304_0015

 

Penceunant Isaf

 

Swellies

 

Blas Llynnon

 

Castle Kitchen

 

Canna Deli

 

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Caffi, Caffis Cymru. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s