Gan fod Eisteddfod Genedlaethol 2016 wedi ei lleoli ym ‘Meca’ bwyd-garwyr Cymreig, dyma, o bosib, yw’r cyfle gorau ers tro i sawru’r gorau o Gymru ar blât.
O fewn cyrraedd i’r Fenni mae dau fwyty safon seren Michelin a phum bwyty a enillodd gymeradwyaeth The Good Food Guide, gyda changen o Waitrose lai na chanllath o’r Maes. Ond does dim rhaid gwario fortiwn i brofi bwytai bro’r brifwyl, ac mae tafarndai a chaffis gwerth chweil yn yr ardal.
O’r Maes trowch eich golygon at afon Wysg gyda mynydd y Blorens o’ch blaenau. Ar ochr ddeheuol y bont hynafol saif tafarn The Bridge Inn, gyda’i golygfa o Ddolydd y Castell o’i gardd gwrw.
Ymysg y dewis o gwrw crefft mae cynnyrch gwobrwyol Bragdy Tudor – yn wreiddiol o’r Fenni, cyn symud i Lanheledd, Blaenau Gwent – a Chwrw’r Afr Serchog gan Fragdy Twt Lol o Drefforest.
Ond os am beint a phryd bwyd, trowch i’r dre heibio gerddi Linda Vista ger y Maes. Gyda bwydlen sy’n brolio cynnyrch lleol Cymreig, mae The King’s Arms yn dafarn fwyd i gystadlu gyda’r gorau, mewn sir sydd yn orlawn ohonynt. O’r sewin tymhorol, salad Cesar neu granc, i’r gateau llysiau rhost a chaws Pant Ysgawn, mae’r fwydlen yn un helaeth, a’u platiad o ’sgod a ’sglods yn boblogaidd iawn.
Gerllaw, ar Stryd Fflanel mae tafarn Brains yr Hen & Chickens, drws nesaf i gigydd gwobrwyol H J Edwards.
O Stryd Fflanel, trowch i’r dde i wynebu neuadd y Farchnad, sy’n dyddio o’r 13g. Yno cynhelir Gŵyl Fwyd y Fenni bob mis Medi ers 1999, ac mae miloedd o ymwelwyr yn parhau i dyrru iddi. Ni ellir pwysleisio digon y fath les a wnaeth y ‘Brifwyl Fwyd’ hon i ddatblygiad Cymru fel cyrchfan gastro-dwristiaeth ryngwladol, yn sgil dyddiau du argyfyngau BSE a’r clwy traed a’r genau . Yn 2008, yn yr Observer Food Monthly, cymharwyd perthynas y Fenni â bwyd ag un Cannes â’r sinema. .
Gerllaw mae Iard y Bragdy, gofod cyhoeddus a ddodrefnwyd gyda chasgenni llechi a meinciau derw o waith Howard Bowcott, yr artist o Benrhyndeudraeth, a naddodd eiriau adleisiol Menna Elfyn i’r colofnau. Lle cynt y safai bragdy’r dre (tan 1960) ceir y geiriau ‘Gwag yw’r bragdy heb wres yr eples’, ond mae’r lle yn orlawn dros benwythnos yr Ŵyl.
O Iard y Bragdy trowch at hen Gapel Bethania am baned a thamaid i fwyta.
Yng nghaffi The Art Shop & Chapel, gweinir coffi cwmni rhostio Carvetii o Cumbria – cwmni Gareth Kembel o Nanmor, sydd hefyd yn cyflenwi caffi’i fam Meg a’i frawd Tomos, sef TH Roberts, Dolgellau.
Ceir yno fwydlen hyfryd o fore gwyn tan nos, er enghraifft brechdan facwn neu gaws pob a ‘sôs coch’ rhiwbob i frecwast neu gawl dulys a phersli ginio. Ceir dewis diddorol i lysieuwyr neu gig-garwyr, a lloches o firi’r Maes.
Yr un teulu sy’n rheoli gwesty’r Angel ar Stryd y Groes, gyda’i far chwaethus am goctel min nos. Ac os am gynnal aduniad yn ystod yr wythnos, beth gip ar eu bwydlen te prynhawn? Yn 2011, cipiodd yr Angel wobr yr Urdd Te am y Te Prynhawn Gorau ym Mhrydain. Am £21.80 yr un, gweinir detholiad frechdanau, sgon a chacennau, a baratoir bob bore gan y pobydd Sally Lane. Gyda’r Maes mor gyfagos, beth am wydraid o fizz, i nodi’r achlysur mewn steil?
Dihangwn o’r dref ar gyfer ein cyrchfan nesaf, ac anelu am Landdewi Ysgyryd ar y B4521, bedair milltir o’r Fenni. Yma, yng nghysgod yr Ysgyryd Fawr saif The Walnut Tree, bwyty a enillodd seren Michelin iddo’i hun.
Cafodd ei sefydlu yn y 1960au gan yr Eidalwr Franco Taruschio a’i wraig Ann. Daeth clod a bri i’w ran, gwobrau lu a theithwyr bwyd o bell, tan i’r ddau ymddeol yn 2001. Ond yn 2004 profwyd hunllef cysylltiadau cyhoeddus go-iawn, wrth i’r perchennog newydd estyn gwahoddiad i’r cogydd-gyflwynydd Gordon Ramsay ffilmio ei gyfres Kitchen Nighmares. Pa ryfedd i’r bwyty gau ar ôl hynny! Ond dechreuodd cyfnod newydd ffyniannus eto yn 2008, pan ail-agorodd dan arweiniad cadarn y cogydd Shaun Hill, sy’n parhau wrth y llyw heddiw.
Sut le sydd dan gangau’r ‘Gollen Ffrengig’ hon felly? Rhowch eich rhagfarnau am fwytai seren Michelin fel llefydd oeraidd a ffroenuchel o’r neilltu; mae i’r bwyty â’i ddarluniau amryliw, gan William Brown, naws hamddenol serch y llieiniau gwynion. Ac mae’r cynnig amser cinio – dau gwrs am £25 neu dri am £30 – yn rhodd i eisteddfodwyr.
Ar ymweliad diweddar, ces i wledd a hanner, gan ddechrau â ffrwydriad o liw; draenog y môr blas tanbaid tandoori gyda raita ciwcymbrr i’w dawelu.
Dilynwyd hynny gan y prif gwrs sef cwningen a chorizo mewn saws mwstard Ffrengig ysgafn.
Ac i bwdin cyfosodwyd cynhesrwydd pwdin reis saffron euraid â ias sorbet oren lliw gwaed – dymunol dros ben.
Tua’r gogledd-dwyrain yng Nghroes Onnen, mae coetsiws hynafol 1861, bwyty a enillodd gymeradwyaeth Michelin. Hyfforddodd y cogydd Simon King dan oruchwyliaeth y brodyr Roux cyn treulio cyfnod yn y Waterside Inn at Bray; yna aeth gyda Kate ei wraig i weithio gerllaw yn Llansantffraed Court, cyn sefydlu 1861 yn 2010. Ceir pwyslais ar wneud defnydd o gynnyrch lleol Sir Fynwy gan gynnwys llysiau o ardd tad Kate yn Nant y Deri. Rhoddir tro cyfoes ar seigiau clasurol, fel yn achos y tart tatine a gyflwynir ar y cyd â sorbet sinsir.
A sôn am Llansantffraed Court, ymgollwch yn llwyr yn rhamant y maenordy crand y gosodwyd ei seiliau ’nol yn y 14g. Pan ymwelais â’r lle ganol haf roedd y fynedfa o ffordd fawr yr A40 yn fôr o flodau menyn.
Wrth nesáu at y neuadd, gwelir ei fod wedi ei adfer yn null y Frenhines Anne; gwnaed hyn ar droad yr 20g.
Mae enw da iawn i fwyty The Court, gyda’i de prynhawn a’r olygfa braf at y llyn. Llogwch eco-gar ‘Tipyn’ i grwydro’r ystad, sy’n cynnwys ugain erw o dir; neu os fyddwch ar ras wyllt i ddychwelyd i’r Maes, anelwch am yr helipad.
Am beint yn yr haul, gwta filltir i ffwrdd, mae tafarn hynod braf y Clytha Arms.
Dyma enillydd teitl ‘Tafarn Wledig Orau’ gwobrau CAMRA unwaith eto eleni. Mae’r Clytha ar dudalennau The Good Beer Guide ers dros ugain mlynedd bellach, a chynhelir gwyl seidr a pherai bob mis Mai. Diweddarir y dewis o gwrw’n gyson, ond un o’r ffefrynnau mawr yw’r cwrw aur Sundown gan fragdy lleol Untapped yn Rhaglan.
Wedi awren yn crwydro parc Clytha drws nesaf ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol byddwch yn ysu am lenwi’ch bol. A choeliwch chi fi, chewch chi ddim cystal bwyd tafarn yn unman yn Sir Fynwy, cartref ysbrydol y gastro-pub. Gellir barnu bwydlen dda ar sail ei dewis llysieuol, ac mae’r Clytha yn pasio’r prawf gydag anrhydedd. O’r risols cennin a bara lawr, neu soufflé llyrlys a chaws gafr, dyma fwydlen wirioneddol ddiddorol. Ystyriwch y Clytha am ginio Sul, sy’n £21 am 3 chwrs, fydd yn siwr o godi’r galon ar ddiwedd yr wythnos.
Os am anelu’n uwch na hynny, ond am gynnal naws hamddenol, trowch yn syth ’nol o Clytha ar hyd yr A40 at fwyty The Hardwick rhwng Penpergwm a’r Fenni.
Trawsffurfiwyd hen dafarn The Horse and Jockey gan y cogydd serennog (Michelin) Stephen Terry, a hyfforddodd dan adain Marco Pierre White a Michel Roux Jr.
Datgela wreiddiau ei hyfforddiant clasurol yn nifer o seigiau’r fwydlen, ynghyd â llu o ffefrynnau cyfarwydd. Ar f’ymweliad â’r Hardwick es i’n syth am y stecen; golwyth llygad-yr-asen 8 owns o fferm Johnny Morris, Willersley Court, ar lannau’r afon Gwy.
Cafodd ei weini’n syml â menyn garlleg gwyllt a sglodion a goginiwyd deirgwaith. Nefoedd i gig-garwraig fel fi; mae gyda’r gorau yng Nghymru.
Byddai’n bechod dirwyn hyn o lith i ben heb grybwyll ffefryn arall yn y fro, chwe milltir o’r Fenni yn nhre Crughywel.
Mae tafarn glyd The Bear yn glasur o’i bath, gyda bwydlen sylweddol iawn trwy gydol y flwyddyn.
P’run ai’n frechdan ham a mwstard, neu’n blatiad o ffagots a phys, mae arlwy bar yr Arth yn plesio ar bob ymweliad.
A pheidiwch, da chi, â gadael heb brofi pwdin – neu ddau ! Mae’r hufen iâ bara brown yn brofiad a hanner, a’r crymbl afal a llus yn taro deuddeg.
Gair hefyd i’ch annog i flasu gwinoedd y fro tra byddwch yn ciniawa yn y cyffiniau. Gwin pefriog ystad Ancre Hill ger Trefynwy a weinir fel aperitif yn y Walnut Tree a’r Hardwick. Sefydlwyd y winllan yn 2006, a dilynwyd canllawiau bio-ddeinamig Rudolph Steiner ers 2011. Ymgorfforir grawnwin Albariño, Chardonnay a Pinot Noir, ac ar ymweliad â’r winllan, cewch flasu’r gwin dros blatiad o gawsiau Cymreig.
Yn nes at y Fenni, mae Gwinllan Sugarloaf ar lethrau Pen-y-fâl yn cynnig caffi sydd â chwip o olygfa; blaswch dri gwin am bedair punt, neu gall y sawl sy’n gorfod gyrru gael paned a chacen!
Dewis arall fyddai ymweld a gwinllan White Castle wrth odre’r Ysgyryd Fawr, sydd, fel y dywedodd colofnydd gwin y cylchgrawn hwn rai misoedd yn ol, yn canolbwyntio ar rawnwin Almaenig sy’n ffynnu mewn tywydd oer (er nad tywydd felly fyddwn ni’n ei ddymuno ar gyfer y Brifwyl wrth gwrs).
Ac yn olaf, wedi teithio yr holl ffordd i Fynwy am wythnos o greu atgofion, beth am brofiad bwyd bythgofiadwy? Y tu hwnt i Drefynwy, yng Ngwenffrwd, y mae’r goron ar wythnos o wledda. Gyda’m llaw ar fy nghalon, ni chefais erioed y fath noson â’m hymweliad â bwyty The Whitebrook.
Ceir yno groeso cyfeillgar, decor cynnes cyfoes braf a naws sy’n ymlaciol dros ben. Mae prisiau’n rhyfeddol o resymol, o ystyried y safon, gan ddechrau â £25 am ginio dau gwrs. Am £67 cewch brofi bwydlen flasu saith cwrs sy’n hawlio seren Michelin i Chris Harrod. Fe’m gadawyd yn gegrwth gan ansawdd y bwyd wrth sawru blasau newydd sbon.
Anghofiwch Noma Copenhagen; gwneir defnydd yma o flasau Dyffryn Gwy a fforiwyd o’r caeau a’r coed o’ch cwmpas, fel berwr y torlannau a bara caws y cog i gyd-fynd â chig carw rhagorol.
Ond yr uchafbwynt i mi oedd y mouuse mafon a parfait fioled, yn atalnod gwych ar brofiad cwbl drosgynnol.
Beth bynnag fo’ch dileit ar hyd yr wythnos fawr, neilltuwch gyfle am wibdaith i’r synhwyrau. Mae ’na fwyty gerllaw i siwtio pob poced, felly ‘amdani’ yn ardal y Fenni!
Mae rhifyn Gorffennaf / Awst 2016 o gylchgrawn Barn ar werth yn eich siop lyfrau leol.