Adolygiad Teledu: Y Gwyll – Cyfres 3

img_2334

‘The only thing necessary for the triumph of evil is for good men to do nothing’ – Edmund Burke

Dynion gwan a merched cryfion; arwyr tawel a chyfiawnder i’r meirwon. Dyma, yn ei hanfod, brif gynhwysion Y Gwyll, a ail-ddiffiniodd dirlun Ceredigion – a Chymru – ar deledu rhyngwladol.

Bu’m yn anobeithio braidd am ddiweddglo Y Gwyll, wedi iddi gefnu am gyfnod maith ar stori’r cartref plant, a hoeliodd fy sylw o’r bennod gyntaf un. Roedd unrhyw gyfeiriad amwys at gartre sinistr Pontarfynach yn ddigon i’m cynnal ar hyd y gyfres gyntaf. Ond wrth i’r ail gyfres fynd rhagddi, fe’m dadrithiwyd yn llwyr, gan y dewis i ganolbwyntio ar ‘lofruddiaeth yr wythnos’.

Dwi’n derbyn fod pob achos, am unigolion ar y cyrion, yn taenu golau ar yr anghyfiawnder mawr; o gymdeithas ar chwâl, diolch i lywodraethu llwgr gan sefydliadau pwdr. Cafwyd hefyd gip dyngarol ar ‘ddihirod’ yr ymylon, a chydymdeimlad tuag atynt yn sgriptiau Debbie Moon. Ond er fod nifer o achosion – a delweddau cryfion –  y gyfres gyntaf dal yn yn y cof, mae manylion yr ail gyfres wedi diflannu’n llwyr – gan egluro fy apathi. Do, cafwyd ambell gip symbolaidd ar y Prosser (Aneurin Hughes) llechwraidd; ond heb fymryn o gyd-destun, fe ddatblygodd y cymeriad yn ‘gif that just keeps on gifing’, nes oedd bron yn barodi ohono’i hun.

Ond fel yn achos llinell fawr Al Pacino yn The Godfather Part III; ‘Just when I thought I was out, they pull me back in’! Fe’m rhwydwyd i ’nol i’r Gwyll gan wythfed bennod y drydedd gyfres – yn benodol, ei chwarter awr olaf gorchestol. Dim amharch o gwbl i Owen Arwyn a Sharon Morgan – dau actor a gynigodd berfformiadau gwych, fel llofrudd ar ffo gyda’i fab, a’r hen wraig a ddihangodd, funud olaf,  o’i grafangau.  Fel dd’wedodd Gwynfryn Hughes ar Twitter ‘Ar ôl dros ddwy gyfres o aros, ma #ygwyll di dachre poethi o’r diwedd! Fel y chwarter awr dwetha na dyle fe fod bob wthnos’ .

Wedi marwolaeth pur annisgwyl Iwan Thomas (Geraint Morgan) ar ddechrau’r drydedd  gyfres – a ddenodd floedd o fraw o’m genau – gobeithiais am ragor, ond aros fu’n rhaid tan y bennod allweddol hon. Yn y cyfamser, cyflwynwyd cymeriad newydd, yr Arolygydd John Powell (Richard Lynch), a mawr fu nghroeso  innau tuag ato; nid yn unig yr actor (all gynnig cymaint mwy na Garry Monk, fel y tystia ei gastio diweddar fel Macbeth flwyddyn nesa), ond fe ddyfnhaodd ei gyflwyniad fy nealltwriaeth o DI Mared Rhys (Mali Harries), a nghydymdeimlad tuag ati hi ac Elin, ei merch. Hawdd cynnau tân ar hen aelwyd, medde nhw; dyfais handi mewn cyfres deledu…

img_2337

Ynghyd â hynny, datblygodd  atyniad rhwng Mathias y meudwy a Manon (Sian Reese-Williams) ei landledi newydd; menyw fydol, gymharol gredadwy mewn cyfres sy’n sianelu gweithiau  Edward Hopper yn weledol ac o ran ei naws noir. Ni lafuriwyd eu perthynas yn ormodol; wedi’r cyfan, mae pawb angen cwmni ar adegau, ond braf oedd gweld na beryglwyd ei chymeriad, fel yn achos cymeriad Nia Roberts (cyfres 1).Gadawyd eu huniad yn benagored, am unwaith, ac nid drwg o beth mo hynny…

Ond yn ôl at chwarter awr olaf pennod  rhif 8, pan benderfynodd y gyfres godi sawl gêr, o’r diwedd…

Srthiodd popeth i’w lle gyda chymeriad John Powell, wrth i’w ymchwilad i farwolaeth y cyn-heddwas Iwan Thomas ei arwain at gyfarfyddiad dyngedfennol. Ar ddiwedd y sgwrs lawn tensiwn hwnnw gyda’r cyn-Brif Arolygydd  Robert Owen (William Thomas), fe’i adawyd yn wynebu diawl o gyfyng gyngor; o oedd am agor ei geg a chwalu ei deulu – serch llygedyn o siawns o wneud yn iawn am y gorffennol –  neu bod yn hunanol ac aros yn dawel fel gwas bach da i’r awdurdodau?

Mewn cyfres lle mai DCI Tom Mathias (Richard Harrington) sy’n deyrn, ymddengys mai un o ‘good men’ Edmund Burke, gwaetha’r modd, ydoedd John Powell. Fe’n hatgoffwyd trwyddo ef, am y celwyddau gwenwynig sy’n arwain at dawelwch systematig, sy’n galluogi anghyfiawnderau mawr.

img_2333

Mae na reswm paham mai’r stori hon a’m denodd i o’r cychwyn – a’r cynhyrchwyr i fframio’r gyfres ‘Cardi Noir’ o’i chwmpas; fyth ers achos mawr Clywch, tan garcharu diweddar Gordon Anglesea, ceir tystiolaeth mawr o ddiwylliant tawelwch gwenwynig yng Nghymru – a thu hwnt – am achosion o gamdrin plant. Does dim ond angen ystyried Jimmy Saville, a’r byd pêl droed – sy’n hawlio’r penawdau i gyd ar hyn o bryd –  i brofi sgil effeithiau aruthrol y gaseg eira hon.  Diwylliant endemig o ddynion gwan, jobs for the boys, a dyrchafiadau, ar draul dioddefaint. Fel y dywed cymeriad Paul Webbb (Aled Pugh) yn syml, ym mhennod olaf cyfres 3, yn dawel, ond yn danllyd o ddidwyll.  ‘Ma’r pethe n’ethon nhw i ni… Shwt ma na’n gallu digwydd? Plant o’n ni.’

Hanfod nofelau a chynyrchiadau Nordic Noir, yw i godi’r llen ar sgandalau mawr, trwy gyfrwng poblogaidd cyfresi ditectif. Prun ai’n tyrchu i gefndir Natsîaidd y gwledydd Llychllynaidd yng ngwaith Camilla Lackberg a Jo Nesbo , neu gam-drin plant yn nhrioleg fawr Stieg Larssen, fe esgorir ar drafodaeth ehangach o fewn y diwylliant. Ac wrth i boblogrwydd y rhain groesi ffiniau rhyngwladol, fe ysbrydolir weithiau eraill sy’n perchnogi eu hunaniaeth eu hunain. Yn achos Cymru, a’r Gwyll, esgorwyd ar y label ‘Cardi Noir’, a gwyrdrowyd symbol cartrefol, cyfarwydd, fel darlun Salem . Trwy dorri trwy’r tabŵ, gall gelfyddyd llên a llun greu lles, gan gynnig y potensial am gyfiawnder – a rhyddhad.

Rhyddhad gaiff Mathias ar ddiwedd y gyfres, serch diweddglo rhywstredig tu hwnt, wedi iddo yntau a Mared gyrraedd at y gwirionedd heb golli gronnyn o’u dynoliaeth.   Cafwyd cymorth cryf gan eu cynorthwywyr iau; DC Siân Owens (Hanna Daniel) a DC Lloyd Ellis (Alex Harries) . Gwych oedd gwylio’r bennod olaf, a gwylio’r ffeithiau moel yn gwawrio yn raddol ar bawb.

img_2338

Ar ryw bwynt, fe hoffwn i  ddilyn y gyfres o’r cychwyn i ddeall sut y cymerodd yr achos hwn gyhyd; yn sicr, bu dylanwad haearnaidd y bos ar bawb yn glir o’r dechrau’n deg . Yn hynny o beth, bu’n ddiddorol gweld Aneurin Hughes yn cael diosg mwgwd Uwch Brif-Arolygydd Prosser o’r diwedd; cawsom lygedyn o syniad o’i sefyllfa deuluol ef, wrth iddo ddadelfennu o’n blaenau,  gan ddenu elfen o gyd-ymdeimlad i’w gymeriad ef.

img_2336

Ond tybed  oeddwn i ar ben fy hun yn gweiddi ar fy sgrin wrth ei weld yn tagu’r gwir ddihiryn? Wedi dweud hynny, dwi’n derbyn mai felly mai cyfiawnder yn gweithio yn nifer o’r achosion hyn, gan gynnig ‘diweddglo’ chwerwfelys i bawb. Dyna’n sicr  a geir ym mydysawd di-drugaredd Y Gwyll, fel yn achos diweddglo cyfres ddiweddar The Fall.

Rhaid canmol, yn wir, gyfraniad Aled Pugh – a hefyd rhan fechan Gaynor Morgan- Rees, fel y fam a fu ar goll yn y tywyllwch yn dilyn diflaniad disymwth ei mab, Huw Vaughan – meddyg y cartref, y pardduwyd ei enw am rhy hir. Aled Pugh i, i mi, fel unig oroeswr y dioddefaint, wnaeth ddwyn y bennod dan drwynau pawb, wrth gynnig golwg gynnil ar ddyn dan gysgod mawr. Yn hynny o beth, cynigodd adlais o berfformiad Rhodri Evan ar ddiwedd cyfres 1.

img_2332

Ond mae’n hawdd canmol enwau actorion achlysurol, wedi i ni arfer â’r ddau brif heddwas enigmataidd. Fe feddwodd y gyfres ar dawelwch y ddau, ac roedd hi’n  braf eu gweld o’r diwedd yn cael gweithredu gyda’i gilydd. Llongyfarchiadau i Richard Harrington a Mali Harries ar dday berfformiad didwyll dros ben.

img_2335

Cynorthwy-wyd hyn oll gan  ffotograffiaeth a goleuo ffantastig, a chyfarwyddo crefftus iawn. Ac fe’m hannifyrwyd ymhellach yn ystod y ddwy bennod olaf gan gerddoriaeth adleisiol, a seiniau sain a ddanfonodd ias lawr fy nghefn.

Mae’n drueni i gyfieithiadau sgriptiau Saesneg Debbie Moon fynd dan groen nifer fawr o wylwyr Cymraeg. Ro’n i yn eu plith, ac mae na rewm am hynny; yn syml, mae’n difetha’r hud, tra yn weledol, fe swynwyd llawer .  Alla i gredu fod ‘ti a chi’-gate yn gyrru’r cynhyrchwyr yn benwan, ond mae’r pethau bychain hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr. Fel derbyn omnishambles o out-of-office reply yn Sgymraeg, mae’n tanseilio’r ewyllys da. Ac os nad oes sgriptwyr digon da i gyhoeddi sgript wreiddiol yn y Gymraeg (sgersli bilif…?),  yna ewch i’r eithaf i addasu (a chlustfeinio ar yr actorion) yn graff.

Ond serch hyn oll, dwi’n andros o falch i mi diwnio ’nol fewn i un o’r cyfresi gorau a grewyd  trwy gyfrwng y Gymraeg. Ry’ ni Gymry yn rhai garw am am feirniadu ein hunain, ond  fe allwn ymhyfrydu yn llwyddiant rhywnglwadol Y Gwyll. Rwy’n deall mai’r pwysau gan ochr ariannu’r gyfres (yn rhyngwladol)  a arweiniodd at steil ‘murder of the week’. Fe hoffwn i feddwl y gallai Ed Thomas a’r criw lynnu’n nes at y weledigaeth wreiddiol y tro nesa, yn dilyn y llwyddiant hwn. Ac fe ddylai’r modd y dychwelwyd mor ddeheuig at stori y fawr gynyddu’r ysfa am ragor o ddramau o’r fath .

A fydd arian ar gael sy’n fater arall yn dilyn omnishambles arall, Brexit. Ond mewn byd sy’n rhemp, rhwng gadael Ewrop a llwyddiant Trump, a’r cynydd yng ngrymoedd asgell-dde yn rhyngwladol, mae’n ddyletswyd ar S4C i barhau i gomisiynu deunydd sy’n herio a chyffroi, ac sy’n parhau i ddatgelu’r gwir.

Adolygiais drydedd gyfres Y Gwyll ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul ar BBC Radio Cymru ar y 18ed o Ragfyr, 2016. Cliciwch yma i wrando eto ar y BBC iPlayer. Gwyliwch Y Gwyll ar wasanaeth Clic ar S4C.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Teledu. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s