Adolygiad: Deffro’r Gwanwyn (Canolfan Berfformio Cymru)

FullSizeRender (63)

Roedd gwres The Gate yn danbaid ar noson gyntaf  Deffro’r Gwanwyn; cynhyrchiad tymor olaf myfyrwyr Canolfan Berfformio Cymru ,Y Drindod Dewi Sant. I gyfri am hyn oedd cyfuniad o’r tywydd tesog, hormonau’r dorf, a pherfformiadau’r cast – oedd ar dân y noson honno.  Wrth i bawb wyntyllu eu rhaglenni o’u blaenau,  ffeindiais fy hun yn cenfigennu wrth gobanau ‘babydoll’ merched y cast…  Yn wir,  ni allai Tenessee Williams fod wedi trefnu noson fwy synhwyrus ar gyfer y camp a rhemp o’r fath  yn Y Rhath!

Mae’n ddegawd a mwy ers i’r sioe gerdd wreiddiol, Spring Awakening (gan Steven Slater a Duncan Sheikh) daro Broadway  yn 2006 – cynhyrchiad a ddisgrifwyd gan feirniad y New York Times ar y pryd, yn syml, fel ‘pure sex’.  Ac fe aeth pum  mlynedd heibio ers taith y Theatr Genedlaethol o’r addasiad Gymraeg gan Dafydd James, a berfformiwyd gyntaf ganddynt yn 2009. Bues i’n ddigon anffodus i golli’r cynyrchiadau hynny, ac felly ro’n i’n wyryf llwyr i’r sioe cyn ei brofi yn The Gate.

Ond serch y cynnwys ‘masweddus’, mae’n addas mai mewn hen gapel y llwyfanwyd y cynhyrchiad yma, dan gyfarwyddwyd  dyfeisgar Angharad Lee . Peidiwch a gwaredu; ni ddiosgir yr un dilledyn ar lawr, a does dim eiliad o noethlymundod i’w weld.  Ond teg dweud fod yna gryn dipyn o halio, hunan-leddfu a mwdlwasgu, a’r holl eiriau boncyrs o wych am hunan-bleseru yn y Gymraeg… Digon yw dweud i mi glywed chwerthin ac ‘ughhh… that’s disgusting!’ gan ferch ysgol yn y rhes o’m mlaen. Ond erbyn diwedd y cynhyrchiad, saethodd hithau a’i ffrindiau i’w traed, wedi’u heintio gan yr hud a’r hwyl.

FullSizeRender (60)

Fe seiliwyd y sioe gerdd wreiddiol ar ddrama ddadleuol Frank Wedekind o’r Almaen, a gyhoeddwyd yn 1891. Mae’n dilyn criw o arddegwyr ym mlodau eu dyddiau,  wrth iddynt ddelio â gormes o bob math; gwewyr y glasoed, a phwysau cymdeithas – gan gynnwys rhieni ac athrawon, sydd ar blaned arall. Tra’n disgwyl i’r ‘plant’ ufuddhau i’r hen drefn, mae’r oedolion yn ddall i’w chwyldro mawr. Ac er y gosodwyd y ddrama ar ddiwedd y 19eg Ganrif, mae’r themau a grywbyllir ynddi yr un mor addas i’r genhedlaeth Youtube a Snapchat Cymraeg.

Dyna sy’n egluro steil trawiadol y cynhyrchiad hwn, sydd – rhwng y colur a’r dillad (a gynlluniwyd gan Becky Davies) – yn cyfuno elfennau amrywiol Kabuki a Steam-Punk.  Glynnir at enwau gwreiddiol Almaenig y cymeriadau, sy’n cynnwys Melchior (Josh Morgan), sef dreamboat arweiniol y cast. Ond nid Danny Zuko o ionc mo’r cyfaill hwn – dyma feddyliwr dwys sydd ymhell ar y blaen i bawb. Yn wahanol i’w gyfoedion, cafodd ryddid gan ei rieni i gwestiynnu, a herio’r drefn. Yn ddarllenydd brwd o waith Goethe, mae e’n anffyddiwr mawr – tipyn o safiad yn wyneb cymdeithas Lutheraidd y pryd. Ac mae’n  deall mwy am Virgil na’i athro sadistaidd (Steve Williams), sydd â’r grym i lywio’i ffawd.

Mae’ gyfaill Moritz  (Sion Emlyn Parry) yn wynebu dipyn o strach;  dan bwysau i  lwyddo ym mhob maes, caiff ei blagio gan drychiolaethau fin nos. Daw’n amlwg mai beuddwydion gwlyb yw’r rhain, a caiff ei gysuro i glywed fod pawb o’i gwmpas yn profi’r un fath. Ond am ba hyd y gall y Moritz mwyn osgoi siomi ei deyrn o dad?

Un o’u cyfeillion bore oes yw’r Wendla (Jemima Nicholas)  dlos, sy’n fodryb am yr ail waith; mae hi’n ysu i gael gwybod sut yn union y creir babanod, ac yn awchu i gael teimlo rhywbeth’ . Ond gwrthod datgelu hanfodion natur wna ei mam (Lois Elenid), ac mae’i hanallu hithau – a’r oedolion eraill –  i drin pryderon eu plant gyda pharch,  yn arwain at drasiedi i’r tri…

FullSizeRender (62)

O eiliadau cynta’r sioe chwareus a hynod hyderus hwn, trywanwyd pawb yn y dorf gan don o egni mawr. A dan arweiniad John Quirk, y cyfarwyddwr cerdd, aethpwyd ati i godi’r to. Chwaraeodd y band roc yn y pulpud ran ganolog yn y sioe, wrth lywio’n hemosiynau drwyddi draw.  Adeiladwyd yn raddol at uchelfannau orgasmig erbyn diwedd yr hanner cyntaf, cyn dychwelyd i’r ddaear yn yr ail ran gyda chlep. Mewn sioe o 23 o ganeuon, cafwyd anthemau a baledi di-ri; o’r caneuon protest  Bitch yw Bywyd a Totally Fucked, hyd at farwnadau hardd Cân y Gwynt  a Sisial Fwyn. Cynigodd y cast ddosbarth meistr yn y grefft o aml-dasgio, wrth redeg a rasio a sboncio tra’n canu  a dawnsio. Gwerthfawrogais y wledd weledol yn fawr, ond ar adegau, ni allwn glywed popeth yn glir. Yng ngofod The Gate, y darnau tyner a’m hudodd i,  wrth i’r band roc gwffio â chantorion yr anthemau mwy tanllyd.

Ar nodyn gyffelyb, rhaid ail-adrodd yr un gwyn ag y profais wrth wylio Macbeth y Theatr Genedlaethol. Mae addasiad  rywiog Dafydd James  o’r sgript Saesneg yn rhodd i Gymry Cymraeg , gan gynnig potensial i’r geiriau lifo fel arian byw; hawdd deall sut gallai actorion feddwi’n llwyr ar berlau deallus o’r fath. Ond mae na dueddiad gan rai actorion ifainc i lyncu’r geiriau euraid hyn, ar garlam, i gyd-fynd â naws ffrenetig y sioe. Fel yng Nghastell Caerffili gynt, mae’n amhosib dilyn pob gair, yn enwedig mewn gofod theatrig ‘anarferol’. Collwyd ystyr nifer o’r llinellau wnaeth i mi golli rhediad y plot, gan droi fy sylw at y tes a’r gwres, yn hyntrach na’r sioe.

Dwi’n deall mai’r bwriad gwreiddiol  oedd llwyfannu’r sioe yn Stiwdio Weston, yng Nghanolfan y Mileniwm Bae Caerdydd, ac yn sicr, byddai gofod o’r fath, ag acwsteg gwell, wedi rhannol ddatrys problem o’r fath.  Ond rhaid datblygu ciwed o actorion all addasu’n hwylus mewn gofodau theatrig ledled Cymru – a thu hwnt, i yngangu a thaflu eu geiriau’n glir. Wedi dweud hyn oll, roedd y lleoliad yn addas i elfennau eraill y sioe. Yn sicr, roedd naws gableddus i’w phrofi mewn cyn-ofod ‘sanctaidd’ o’r fath,  oedd yn fêl ar fysedd nifer yn y  dorf. Caniatwyd i’r actorion dorri trwy’r ‘pedwerydd wal’, wrth wibio heibio’r cyhoedd,  a ‘chwarae a thân’ wrth droedio’n fregus ar hyd gwefusau’r hen falconîau.

FullSizeRender (58)

Ymysg y perfformwyr a hoeliodd y sylw, creodd Josh Morgan (Melchior) argraff fawr. Mae e’n seren breuddwydiol o fachgennaidd, sy’n  dwyn yr  Iwan Rheon  ifanc i gof.  Mwynheais hefyd waith Jemima Nicholas yn fawr, wrth iddi gynnig perfformiad  amlhaenog, fel y Wendla chwilfrydig, sy’n awchu i gael teimlo rhywbeth,  ac i gael dechrau byw.  Ar y naill llaw roedd ei Wendla hithau yn Lolita bur ddrygionus, yna’n ddol borslen fregus – nid anhebyg i Lucy Fallon (Bethany Platt) o Corrie ar hyn o bryd (ac mae hynny’n gompliment, gyda llaw!).  Gair i ganmol yn ogystal leisiau unigol Lloyd Macey a Lleucu Gwawr;  mewn rhannau cynorthwyol, fe llwyddodd y ddau  i oresgn rhwystredigaethau sain yr adeilad yn fwy nag eraill.

FullSizeRender (59)

Ond teg fyddai dweud i’r ensemble cyfan gyd-weithio’n wych i greu gloddest o gynnwrf y glasoed, gan gyffwrdd ar angst a chywilyddd ynghyd â phleserau erotig y cnawd. Rhyfeddol yw meddwl i’r ddrama ddadleuol wreiddiol ragflaenu gwaith Sigmund Freud ar rywioldeb pobol ifanc; mewn cymdeithas mor grefyddol, roedd yn dipyn o beth i Frank Wedekind  agor blwch Pandora o’r fath. Gwnaeth Dafydd James (a’r comisiwn gwreiddiol gan y Theatr Gen) gymwynas fawr â’r iaith Gymraeg, wrth sicrhau sioe gerdd i apelio’n benodol at bobol ifanc. A diolch i fyfyrwyr Canolfan Berfformio Cymru, ro’n i’n dyst i rywbeth anarferol yr wythnos hon; theatr lawn Cymry dan ugain oed, wedi’u cyfareddu gan sioe ystyrlon o’r fath.

Gwefr, yn wir, i’r enaid ar noson wresog o Orffennaf, ac awgrym clir o addewid mawr – llongyfarchiadau i bawb.

FullSizeRender (61)

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Theatr. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s