Adolygiad Theatr: Ar Drywydd Cantre’r Gwaelod, Gŵyl Hen Linell Bell (Arad Goch)

FullSizeRender (69)

Mae Gŵyl Hen Linell Bell yn parhau mewn lleoliadau amrywiol yn Aberystwyth tan Awst y 5ed, 2017. Cliciwch yma am ragor o fanylion.

Mae dychwelyd i Aberystwyth yn bleser pur i gyn-fyfyrwraig y ‘Coleg Ger y Lli’. Mae ‘cicio’r bar’ ger y prom, sawru’r machlud haul a mwynhau peint mewn hoff dafarn yn rhannau o’r ddefod,  wrth gynnig tonic i’r enaid a dwyn atgofion i gof, gan atgyfnerthu rhan fawr o’m hunaniaeth.

Yn rhyfedd ddigon, dyna hefyd oedd prif gynhwysion noson ddiddan yn ystod Gŵyl Hen Linell Bell cwmni Arad Goch, sef Ar Drywydd Cantre’r Gwaelod. Profiad perffaith, mewn gwirionedd, i un a raddiodd mewn Daearyddiaeth a’r Gymraeg, cyn dilyn MA mewn Theatr, Ffilm a Theledu.

Dim ond un ‘profiad theatrig’ mewn pythefnos ohonynt oedd hwn, yn dathlu chwedl leol Cantre’r Gwaelod.  Cynhaliwyd gigs tra llwyddiannus, gweithdai llên, dawns a chelf, gyda’r pwyslais ar weithgareddau cymunedol. Mae penllanw mawr yr ŵyl – Gwledd Gwyddno, ar hyd y prom –  eto i ddod, ac yn gaddo’n noson wych.

Ond yn ’nol at gynhyrchiad annisgwyl dros ben, aeth ati i herio a chwestiynnu’r hen chwedl. Meddyliais droeon, tra’n ei hadrodd wrth ambell un, ‘stori denau yw hynt a helynt Seithenyn’. Ganrifoedd yn ôl, diolch i’r meddwyn di-raen , boddwyd teyrnas dan donnau Bae Ceredigion.  Ac ar ambell noson stormus, gallwch glywed yn glir glychau’r deyrnas, Cantre’r Gwaelod, dan y dŵr…

Ond serch symylrwydd y stori, ni’i chwestiynnais hi erioed… byddai fel holi pam fod draig goch ar ein baner. Pa bwynt mynd i hela sgwarnogod o’r fath? Mae’r chwedlau i gyd ynghlwm â’n hetifeddiaeth!  Sy’n egluro’n handi  iawn gefndir Blwyddyn Chwedlau Cymru, sbloets fawr Croeso Cymru eleni.

Chwarae teg  felly i Arad Goch am gynnig noson ‘feirniadol’  yng nghwmni beirdd a chantorion, enwogion o fri – a daearyddwyr!  Estynnwyd croeso i ymwelwyr i ymgynnull yng Ngwesty’r Richmond i gychwyn helfa drysor ddiwylliannol.  Ychydig a wyddom  mai crôl dafarn oedd hon, a honno’n un go ddadlennol…

Aweinwyd y criw gan Vivienne (Mari Rhian Owen) a Susan (Ffion Wyn Bowen) –  dwy ‘lodes leol’ – yn gwisgo pinc o’u corrun i’w sawdl. Perchnogai’r ddwy haden hon sawl swyddogaeth ar y noson; tywyswyr busneslyd, tynnwyr hun-luniau a chantorion gwerin.

FullSizeRender (65)

Yn gyntaf, fe’n denwyd i berfeddion y gwesty am gyflwyniad gan ddau Brifardd lleol; datguddiwyd gan Hywel Griffiths (a’i  gynorthwy-ydd Eurig Salisbury), wrth astudio Llyfr Du Caerfyrddin, fod cryn dipyn mwy i’r stori.

FullSizeRender (67)

Yn un peth, roedd na ferch – femme fatale  o’r enw Mererid – a chwaraeodd ran yn y pechod gwreiddiol. Cafwyd datganiad gan Eurig, yn ei Gymraeg Canol gorau, o rai o’r cerddi gwreiddiol hyn. Serch ei shorts a’i goesau noethion, ni chafwyd perfformiad  gan Eurig ohoni … efallai  syniad i’r dyfodol. Dyna’r tro ola,  a dweud y gwir, y crybwyllwyd Mererid gwaetha’r modd; hoffwn fod wedi profi triniaeth greadigol bellach ohoni, o bosib yng nghwmni’r ‘Pink Ladies’.

Pasiwyd awennau’r meicroffon i dri bardd arall – Cymraes o Lanbrymair (Nicky Arscott)  a dau ymwelydd  o India (Sampurnaa Chattarji a Subhro Bandopadhyay) , fel rhan o gyfnewidfa lên – dan nawdd asiantaethau Literature Across Frontiers, y Cyngor Prydeinig a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Yn ogystal â bardd coronog, mae Dr Hywel Griffith yn ddarlithydd  yn adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth, ag arbenigedd ym maes Llifogydd. Rhoddodd yntau  Cantre’r Gwaelod mewn cyd-destun ‘Cynhesu Byd-Eang’, gan roi cyfle i’r beirdd gwâdd ymateb yn ddiddan yn eu ffyrdd eu hunain. Clywsom am ddilyw mawr Mumbai pob tymor monsŵn, stomydd tywod trwm dinas Calcutta, a gweledigaeth o ganolbarth Cymru ’rol Dydd y Farn.

FullSizeRender (68)

Fe’n siarsiwyd ymlaen ar hyd y Prom gan y ‘Merched Pinc’, lle glywsom grawcian gwylanod ac acenion tramor. Clywais lu o Almaenwyr, a Yank crintachlyd mewn côt, yn cymharu haf Cymru â mis Hydref Efrog Newydd. Fe’n hudwyd, yn ogystal, gan osodiadau dawns yn cyfleu rhyferthwy tonnau’r môr. Yn eu plith roedd aelodau o  glybiau BlAGur ac AGwedd , perfformwyr ifanc y fro,  a hyfforddwyd gan y Cyfarwyddwr Artistig, Jeremy Turner.

FullSizeRender (70)

Ymlaen i Medina, un o gaffi-bars cyfoes y dref, lle cafwyd cyfle am lymaid ac alawon gwerin. Naws morwrol, yn naturiol, oedd i’r  canu gwych; Fflat Huw Puw a Lawr ar Lan y Môr, yn eu plith.

Cafwyd hefyd ddarlith fechan gan Sioned Llywelyn, Myfyrwraig PhD o adran Ddaeryddiaeth y Brifysgol, yn rhannu’r ffeithiau daearegol am Gantre’r Gwaelod. Yn un peth, rhannwyd hanes y goedwig tanddwr  ger y Borth, a gysylltir gan rai â Chantre’r Gwaelod. Eglurwyd hefyd  – yn rhannol – bresenoldeb gefnen Sarn Cynfelyn gerllaw, sy’n ymestyn am rai cilomedrau i fewn i’r môr. Er mor ddifyr oedd y ffeithiau dadlennol hyn, clowyd â chasgliad cywir, ond killjoy-aidd braidd o wyddonol; ‘Heb dystiolaeth archaeolegol falle bod rhaid i ni dderbyn mai chwedl yn unig yw Cantre’r Gwaelod’ . Boo-his!!  Ond digon teg…

Hefyd, rhaid i mi ddweud – ac mae hyn yn wir am y prif arweinwyr i gyd  – does dim yn waeth gen i na chyfieithu air-am-air. Mewn digwyddiad mor greadigol, rhaid meddwl mor aml-ddeimensiynol â phosib, rhag diflasu crynswrth y Cymry Cymraeg. Mater o gynnig elfen bach ychwanegol yn y Gymraeg yw hyn, i heolio sylw’r dorf a hawlio cydymdeimlad pawb. Dioddefais artaith faith o araith briodas  un waith i’w wneud yn deal-breaker ym mhob achlysur erbyn hyn. Mae bywyd yn rhy fyr o lawer!

Serch hynny, roedd pawb yn eu hwyliau wrth adael am dafarn Yr Hen Llew Du, lle roedd band gwerin yr Armagh Rhymers wrthi’n diddanu ger y bar – a adeiladwyd oddeutu’r flwyddyn 1700 . Tybed ai yma, neu rywle arall, roedd Seithennyn slawer dydd, yn slochian tra roedd ei gantref yn boddi?  Neu tybed a gafodd y porthmon ei bardduo ‘n llwyr gan yr enigma o ferch, Mererid?

Ni archwiliwyd ‘chwaneg o’r chwedl yn Yr Hen Llew Du, a fu’n ’chydig o siom – mae’r gofod yn berffaith am hel rhagor o glecs dros chwisgi bach a thanllwyth o dân ger yr aelwyd!  Ond pwy a wyr; efallai mai dyna fydd dan sylw yng Ngwledd Gwyddno ar nos Sadwrn y 5ed o Awst, a gynhelir ar hyd y prom.

Cafwyd casgliad o’r cerddi sy’n rhan o’r gyfnewidfa lên, gan gynnwys teyrnged i lymeitiwr arall, Dafydd ap Gwilym, gan Eurig Salisbury, a chwip o gerdd  dyner am y Treiglad Meddal gan Nicky Arscott, aeth ati i ddysgu’r Gymraeg. Plethwyd y noson ynghyd gan gerdd glo hyfryd iawn, gan Hywel Griffiths i’w ferch gyntaf-anedig. Fe rannodd ei ddyhead didwyll â ni i’w gwarchod rhag pob mewnlifiad.

FullSizeRender (71)

Rhaid canmol crefft a dawn y foneddiges Sampurnaa Chattarji wrth swyno’r’r dorf, ac Eurig Salisbury yn ogystal. Rhaid meddu ar gryn hyder, pinsiad o hud a phersona, i gyfarwyddo ac arwain noson o farddoniaeth . Daw hynny, wrth reswm, â phrofiad dros y blynyddoedd, ond nid pawb sydd yn meddu ar y sgiliau hynny. Bron iawn fod y cyflwyniadau yn bwysicach na’r geiriau ar noson o’r fath, fel a brofwyd mewn sawl Stomp  – a Bragdy’r Beirdd – dros y blynyddoedd.

Ond serch ambell wendid – ac absenoldeb Seithenyn gan Cwrw Llŷn (doh!) –   profodd y noson yn llwyddiant, wrth gynnig cymaint o haenau gwahanol. Agorwyd y llifddorau i wledd o lawenydd, a lluniaeth i’r ymennydd.

FullSizeRender (64)

Mae Gŵyl Hen Linell Bell yn parhau mewn lleoliadau amrywiol yn Aberystwyth tan Awst y 5ed, 2017. Cliciwch yma am ragor o fanylion.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Caffi, Caffis Cymru, Cerddoriaeth, Theatr. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s