Cylchgrawn Barn: Ynys Ymborth – Bwytai Sir Fôn

Er gwaethaf eu henwau Saesneg, mae amryw o fwytai Môn wrth eu boddau â chynnyrch Cymreig. Ac mae digon o ddewis o fwytai o bob math ar hyd a lled yr ynys i borthi newyn eisteddfodwyr llwglyd…

Bwyd sydd wrth wraidd yr arwyddair ‘Môn Mam Cymru’, a gofnodwyd gan Gerallt Gymro yn 1188. Hawliodd, yn ei deithlyfr Itinerarium Cambriae, fodd Ynys Môn yn cynhyrchu mwy o wenith na holl ardaloedd Cymru. Pan fyddai cynhaeaf ardaloedd eraill yn methu, meddai, ‘y mae’r wlad hon ar ei phen ei hun, yn arfer cynnal Cymru i gyd â’i chnwd bras a thoreithiog o ŷd’.  A thros chwe chanrif yn ddiweddarach nododd George Borrow yn ei deithlyfr yntau, Wild Wales,  mai ‘Ceirch a Methodistiaeth’ a nodweddai’r ynys.

Y newyddion da i’r Cymry fydd yn heidio i’r Brifwyl ym Modedern ddechrau  Awst, yw bod bwyd Sir Fôn yn dal ar frig y siartiau. O gynhyrchwyr caws Rhyd y Delyn, mêl Felin, a llysiau Medwyn Williams i lwyddiannau rhyngwladol Wystrys Menai a Halen Môn, heb sôn am fwytai Michelin a’r Good Food Guide, mae yna wledd yn eich aros eleni.

Ar un adeg roedd yna hanner cant o felinau gwynt o fewn golwg i’w gilydd ar yr ynys. Wrth i un ohonynt godi’i hwyliau, gallai’r melinwyr eraill weld yn glir i ba gyfeiriad yr oedd y gwynt yn chwythu. Yr un mor gefnogol yw rhwydwaith cyflenwyr a bwytai cyfoes yr ynys, fel y canfyddais ar fy ymweliad diweddar â Sir Fôn.

Cefais y pleser o aros am dridiau yng ngwesty braf y Bull ym Miwmares, un o dafarndai gorau Cymru.Dyma le delfrydol i hel eich bol, yn cyfuno’r cyfoes a’r traddodiadol. Gwyn fyd y sawl sy’n aros yno ddechrau Awst. Mae’r dafarn ei hun, lle cefais flas ar gwrw golau Clogwyn o Gonwy, yn dyddio o 1472. Roedd hi’n werth deffro’n gynnar i gael gwledd ben bore ym mwyty cyfoes, Sgandinafaidd ei ddiwyg y coetsiws gwreiddiol a drawsnewidwyd yn ddiweddar.

Byddai’r  stwnsh afocado ac wy wedi’i botsio a’i weini ar dost surdoes yn berffaith cyn mentro i’r Maes.  Ond gwell fyth fyddai platiad o’r brecwast Cymreig â selsig a chig moch cigydd arobryn y Fali, Karl Jones.

Pa le gwell na bwyty Coach yno i gael stecen  i swper?  Mae golwyth llygad yr asen Celtic Pride yn tynnu dŵr o’r dannedd. Os am aduniad, neu ddathliad arbennig, mae naws hamddenol braf i’r bwyty uchelgeisiol ar y llofft ac yno fwydlen flasu gymharol resymol ei phris.

Andy Tabberner, o Birmingham, yw prif gogydd y Llofft, neu The Loft o roi ei enw swyddogol arno, ac mae’n defnyddio ffrwyth llafur cynhyrchwyr lleol wrth gynllunio’r fwydlen dymhorol. Wedi cyfnod gyda Will Holland yn La Bécasse yn Llwydlo, ac yna Coast yn Saundersfoot, cipiodd Andy ddau rosyn AA bedair mis yn unig wedi ei benodi. Ddechrau Mai mwynheais sirlwyn cig oen bendigedig o Fferm Dolmeinir, ger Llangefni.

Ond uchafbwynt y pryd, yn bur annisgwyl, oedd pys amheuthun Medwyn Williams o Lanfairpwll. Bu’r cogydd a’r garddwr eisioes yn trafod syniadau ar gyfer llysiau bwydlen Awst.  Cyn gorffen, cefais flasu ‘calipo’ chwerwfelys granadila, un o nifer o gyffyrddiadau chwareus y cogydd ifanc. Yn goron ar y cyfan cafwyd Melba eirin gwlanog blasus.

Wrth grwydro Sir Fôn, cefais aml i sgwrs â gloddestwyr lleol parod eu cyngor Roedd amryw yn daer dros ddau fwyty tapas ym, Mhorthaethwy a Biwmares. Mwynheais bryd ysgafn o blatiau bychain y Freckled Angel ar stryd fawr Porthaethwy. Agorwyd y bwyty yn 2016  yn sgil llwyddiant cwmni arlwyo Mike Jones a Debbie Owen, ac fe’i crybwyllir yn The Good Food Guide. Ro’n i’n ysu i flasu’r cimwch, ond roedd y creaduriaid yn gyndyn o gael eu dal y diwrnod hwnnw. Yn hytrach, fe fwynheais figwrn cig oen mewn saws sbeislyd wedi ei weini â stwnsh moron a salsa. Blasais hefyd gyw iâr, corgimychiaid a chorizo mewn saws india-corn melfedaidd.

Gan fod nifer yn canu clodydd y Freckled Angel, bu’n rhaid ei gymharu â bwyty lliwgar  y Midland ar Stryd y Castell ym Miwmares. Fe’i haddaswyd o hen fanc ar Stryd y Castell, a chyn-beiriannydd yng ngorsaf Wylfa yw’r perchennog, David Owen.

Mae’r Cymro Cymraeg yn groeso i gyd, a’i frwdfrydedd wrth gyfuno cynnyrch lleol a seigiau o Sbaen yn heintus.  Yn ystod wythnos fy ymweliad, cychwynnodd cogydd newydd yno,  Damian Illade Gómez o Alicante. Wedi ei fwydo mewn saws soy a tsili sawrus, ni fwyteais erioed fol porc mor flasus, a’r cyflenwr oedd neb llai na chigydd y Fali.  Roedd gwydraid o sieri Fino sych â blas almwnd, o bodega Gutiérrez Colosia Cádiz, yn ddiod berffaith gyda’r saig.

Blasais hefyd blateidiau bychain o gorgimychiaid mewn sambuca du, a patatas bravas mewn aioli paprika. A minnau’n deyrngar i far pintxos Curado yng Nghaerdydd,  rhaid dweud, roedd  fy ymweliad â’r Midland werth bob cam o’r daith dau gan milltir.

Symudodd y cogydd o Sbaen i’r Midland o fwyty Dylan’s ym Mhorthaethwy, un o lwyddiannau arlwyol diweddar Môn. Sefydlwyd y bwyty anffurfiol yn 2012 gan David Evans a Robin Hodgson,  y ddau o Swydd Efrog yn wreiddiol, cyn i ganghennau eraill yng Nghricieth a Llandudno gael eu hagor ganddynt. Dyma gwmni cadwyn teuluol sy’n frwd o blaid cynnyrch gorau gogledd Cymru.

Ar bob ymweliad gen i â’r pencadlys, mae’r bwyty nenfwd isel wedi bod dan ei sang ac felly’n swnllyd. Ond ar ddiwrnod braf o haf ar lannau’r Fenai, does nunlle gwell i fwynhau llymaid o Gwrw Llŷn a thoreth  o fwyd y môr.

Fel sy’n arferol mewn bwytai teuluol o’r fath, ceir tacos, byrgers a phizzas, ond y saig fwyaf poblogaidd yw’r cregyn gleision afon Menai. Y tro hwn, archebais ‘Dyl’s Drunken Mussels’, mewn saws cennin , hufen, bacwn a seidr Rosie, Llandegla.

Does dim dwywaith fod llwyddiant aruthrol cwmni Dylan’s yn cyfri’n rhannol am dwf bwytai a bariau sgleiniog gorllewin Môn. Hynny, ac wrth gwrs fewnlifiad blynyddol ymwelwyr ariannog o gyffiniau Lerpwl, Manceinion a Chaer. Mae nifer o’r bwytai hyn yn werth ymweld â nhw; mae’r White Eagle yn Rhoscolyn, yn yr un modd â Dylan’s a’r Loft ym Miwmares, yn hawlio sêl bendith ‘Bib Gourmand’ Michelin, sef bwytai o safon, rhesymol eu prisiau.

Yn perthyn i’r un cwmni â bwyty’r White Eagle (sef ymerodraeth Timpson’s, Manceinion) mae’r Oystercatcher trawiadol yn Rhosneigr. Saif yr adeilad gwydr (a ddyluniwyd gan gwmni cynaliadwy Huf Haus o’r Almaen) rhwng Llyn Maelog a thwyni tywod Traeth Llydan. Yn ogystal â bar a bwyty poblogaidd mae’n ysgol brofiad i gogyddion addawol. Roedd yn orlawn pan biciais yno ar brynhawn Mawrth, a nifer o’r cwsmeriaid yn Gymry Cymraeg.

Ceir yno gynnyrch  nifer o fragdai gogledd Cymru, yn eu plith gwrw Wrecsam, Great Orme a Chonwy, a fydd yn atyniad ddechrau Awst.

Yn nes at Faes yr Eisteddfod mae yna ganmol mawr ar hufen ia caffi’r Sea Shanty ym Mae Trearddur. Ond i eraill,  hufen ia Red Boat,  Biwmares, sy’n hawlio’r clod.  Cofiwch hefyd, os bydd hi’n chwilboeth, am hufen iâ Môn ar Lwy gan Helen Holland o Fodorgan. Cipiodd Helen amryfal wobrau Gwir Flas er 2008, a’r fanila clasurol aeth â hi yn 2016. Yn Nhrearddur hefyd mae bar a chegin y Morlo Du lle ceir teras atyniadol uwchlaw’r traeth, a bwydlen gin boblogaidd.

Yn nes fyth at Fodedern y mae Brasserie Catch 22, gyferbyn â thafarn y Bull yn y Fali. Dyma fwyty newydd sbon, a agorwyd fis Ebrill gan y cogydd Neil Davies, Porthaethwy.

Wedi ei feithrin ym mwyty Laguna gwesty’r Park Plaza Caerdydd, dychwelodd gartre i fod yn brif gogydd Dylan’s. Mae ei fenter newydd yn cyfuno’r cynnyrch lleol gorau â dylanwadau o Asia a Môr y Canoldir.

Cefais flas ar y calamari i ginio, ond braidd yn hallt oedd y paté cegddu – nodwedd gyffredin mewn sawl bwyty ysywaeth. Mae’r ynys yn medru ymfalchïo yng nghynnyrch penigamp Halen Mon, ond pinsied sydd ei angen wrth goginio. Serch hynny, carwn ddychwelyd i brofi byrger Catch 22, sy’n cynnwys cig eidion y cigydd gwobrwyol lleol, Karl Jones.

Nid oedd tridiau o droedio’r fro yn ddigon i brofi holl arlwy Ynys Môn, wrth reswm.  Edrychaf ymlaen i brofi brechdan granc, neu gimwch ffres, y Lobster Pot ger traeth hyfryd Porth Swtan yn Awst.

Mae’r Llew Du yn Llanfaethlu yn gyrchfan bwyd a diod mawr ei fri. Clywais dipyn o ganmol ar ginio Sul tŷ hynafol Lastra ar gyrion Amlwch, sy’n dyddio o’r 17g.

Mae yna frolio hefyd ar Noelle’s, Tre-Ysgawen, Llangefni.

Ganol bore neu brynhawn, gallaf argymell un o gaffis gorau’r ynys, oedd yn bleser ei gynnwys yn fy nghyfrol Caffis Cymru. Melin Llynnon yn Llanddeusant ydi unig felin wynt weithredol Môn bellach, ac mae ymweliad â chaffi Blas Llynnon – lai na phum milltir o’r Maes – yn anhepgorol.

Mae’r olygfa o’r felin wynt yn rhyfeddod ynddo’i hun, ond mae’r sgons o flawd y felin, ffres o’r popty, yn selio’r profiad. Mae’r rheolwyr, Annest Rowlands a Gwenan ei mam,  hefyd yn gyfrifol am gaffi Blas Mwy yn Oriel Môn, Rhosmeirch. Wedi orig yn Oriel Kyffin Williams yno – atyniad cenedlaethol, a’r mynediad yn rhad ac am ddim– beth well na phaned o goffi crefft Poblado a theisen Berffro?

Caffis eraill sy’n werth eu profi yw Ann’s Pantry ym Moelfre a Thŷ Te Beau’s ym Miwmares, lle gweinir te prynhawn traddodiadol.

Ceir golygfa gyfareddol o Eryri dros sgons yn Château Plas Rhianfa, Porthaethwy.

Neu beth am gaffi’r Pilot House ar ymweliad heddychlon â Phenmon?

Mae tafarn y Ship yn Nhraeth Coch, nid nepell o Fenllech yn nywrain yr ynys, yn dafarn o fri sy’n darparu dewis dyddiol o bysgod ffres.

Ychydig gamau i ffwrdd, mae cawl pysgod bistro hamddenol y Boat House yn plesio bob tro, ac ym mharc carafanau Dewi Sant gerllaw mae teuluoedd yn hoffi’r Tavern on the Bay.  Yna yng nghanol yr ynys, gall tafarn S.A. Brains y Bull, Llangefni, dorri syched eisteddfotwyr y tu hwnt i’r Maes.

Lle penigamp yw bwyty bychan Sosban a’r Hen Gigydd, Porthaethwy. Cipiodd Stephen a Bethan Stevens seren Michelin gynta’r ynys am weini’r gorau o gynnyrch tir a môr Môn yn 2016. Gwaetha’r modd, mae’r byrddau oll wedi’u neilltuo tan fis Medi.

Lle bynnag yr ewch, ry’ch chi’n siwr o gael gwledd, ond mae un argymhelliad olaf gen i. Toc cyn gadael yr ynys, cefais ginio bendigedig yn y Marram Grass ym mhentref Niwbwrch. Dau frawd o Lerpwl sydd wrth y llyw yn hen gaffi canolfan arddio Lôn Filltir, sef Ellis a Liam Barrie. Bydd dilynwyr y gyfres deledu The Great British Menu ar BBC 2 yn gyfarwydd iawn â’r cogydd, Ellis, a saethodd i’r brig yn ystod mis Mai wrth iddo dalu gwrogaeth i gynnyrch Môn.

Yn dilyn platiad o wystrys ffres o’r Fenai, ges i ’sgodyn a sglodion gorau Cymru.

Mae cynlluniau ar y gweill i ehangu’r Marram Grass, ac fe dalai i brofi arlwy’r brodyr yn ystod wythnos y Brifwyl . A chydag encil Santes Dwynwen, Ynys Llanddwyn, gerllaw, dyna ben draw teilwng i’r bererindod fwyd.

Mynwch gopi o Gylchgrawn Barn o’ch siop Gymraeg lleol, neu tanysgrifiwch yma.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Bwyd, Caffi, Caffis Cymru, Cylchgrawn Barn, Tafarn/ Bar. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

2 Ymateb i Cylchgrawn Barn: Ynys Ymborth – Bwytai Sir Fôn

  1. Dywedodd Huw :

    Mae’r cyfuniad cytbwys o lunie a sgwennu yn gwneud dy flog yn fwynhad i’w ddarllen.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s