Adolygiad Theatr: Hollti (Theatr Genedlaethol Cymru)

Hollti

Cafwyd tipyn o ddrama ar achlysur ‘noson y wasg’ cynhyrchiad Hollti Theatr Genedlaethol Cymru.  Bu’n rhaid gohirio’r digwyddiad chwarter awr i fewn i’r llwyfaniad, am nad oedd y brif actores, Siw Huws, yn teimlo’n dda o gwbl. Roedd yn siom, mewn un ystyr, gan i’r actores lwyddo i’n denu ni fewn i stori teulu dan bwysau mawr. Serch hynny, derbyniodd hithau (a gweddill y cast a’r criw ) gymeradwyaeth wresog, a dymuniadau gorau, didwyll,y dorf.

Gyda thaith genedlaethol o Hollti ar y gweill ar gyfer yr hydref, rhyddhad i bawb, mae’n siwr, oedd cael cadarnhad y byddai noson olaf y cynhyrchiad yn Ysgol Bodedern, yn mynd yn ei blaen. Edrychais ymlaen i ail-afael yn y stori ‘Dafydd a Goleiath’ cyfoes y profais damaid bach ohoni i aros pryd, er mod i braidd yn bryderus yn wreiddiol i weld y ddrama air-am-air hon.

Aeth pum mlynedd heibio ers llwyfaniad drama verbatim (neu ‘air-am-air’) gyntaf y Theatr Gen, sef Sgint gan Bethan Marlow yn 2012. Dwi’n cofio edmygu camp yr awdur wrth iddi blethu  cynifer o brofiadau ynghyd, wrth drafod sefyllfa economaidd Cymru – a Chaernarfon yn benodol – yn yr ‘Oes Cynni’ oedd ohoni ar y pryd, ac a ddwyshawyd fyth ers hynny. Ond wrth i lu o actorion ein gwynebu ni, teimlais mai cyfres o fonologau a gafwyd ac nid ‘drama’. Teg dweud y  lluniwyd pob cymeriad o berspectif wahanol,  yn seiliedig ar eiriau pobol go-iawn, ond roedd na elfen rwystredig, a dim digon yn ddramatig, am natur di-duedd y darn.  Yn wahanol i ffilm ddiweddar fel I, Daniel Blake,  neu ddrama  gignoeth Iphigeniah in Splott (Theatr Sherman), ni hawliwyd yr un neges ganolog, ag eithrio ‘mae bywyd yn anodd ar bawb’. Ni ddaethpwyd chwaith at gasgliad i aelodau’r gynulleidfa ei berchnogi ac i weithredu arno – o bosib – drachefn.

Dan sylw, y tro ma, gyda Hollti, oedd trafodaeth am atomfa newydd ar Ynys Môn. Comisiynwyd y dramodydd lleol Manon Wyn Williams, yn wreiddiol o Rosmeirch, i gyfweld, a chofnodi, sgyrsiau di-ri â thrigolion yr ynys, o bob pegwn i’r sbectrwm barn. Daeth â’r cyfan at ei gilydd er mwyn ffurfio sgript, gan adael i griw o actorion cyfarwydd i ddod â geiriau’r dadleuon yn fyw ar lwyfan, dan gyfarwyddyd Sarah Bickerton (Nansi).

Un peth sydd angen ei bwysleisio i unrhywun sydd â diddordeb mewn gweld y ddrama hon ar daith, yw y byddai’n talu i chi wneud ychydig o waith cartref yn gyntaf. Dwi’n gyfarwydd â’r term poblogaidd am yr atomfa bosib, ‘Wylfa B’, ac wedi gweld ambell adroddiad newyddion dros y blynyddoedd, ond rhaid cyfaddef, fel un sy’n byw dau gan milltir i ffwrdd, do’n i ddim yn gwybod digon am hanes, na’r cynlluniau am ‘Wylfa Newydd’, cyn gweld y ddrama ar Ynys Môn.

Dydy hynny ddim i awgrymu nad ydy’r stori fawr hon o bwys cenedlaethol – nac yn haeddu ymdriniaeth gan Theatr Genedlaethol Cymru; i’r gwrthwyneb yn llwyr, a dweud y gwir.

Mae’r cynhyrchiad yn eich boddi mewn ystadegauar adegau ac mae’n cymeryd yn ganiataol fod pawb yn hyddysg yn y ffeithiau moel. Rwyf felly’n tybio mai’r gynulleidfa leol a werthfawrogodd y ddrama hon fwyaf yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, a nhwythau’n byw’r drafodaeth danbaid hon bob dydd . Felly y peth lleiaf y dylech chi wneud  ydy neilltuo amser i ddarllen y rhaglen theatr o flaen llaw, sy’n cynnig cyd-destun, ychydig o hanes, a ffeithiau clir.

IMG_4382

Mae’r cynhyrchiad yn agor yn effeithiol iawn wrth i wraig fferm o’r enw Gwenda rannu ei hanes diweddar â ni. Siw Hughes, o Langefni, sy’n ei phortreadu hi, mewn ffordd gomig o agos-atoch, a ffwrdd-a-hi. Mewn hen fleece gysurus, yn raddol bach, fel petai’n rhannu’r hanes dros debotaid o de, datgela Gwenda stori arswyd go iawn; bum mlynedd ynghynt derbyniodd teulu fferm Caerdegog y newyddion bod rhaid gwerthu eu tir er budd atomfa newydd. Plethir yr hanes torcalonnus hwn gan gyfraniadau gan Richard (Gwyn Vaughan Jones), ei gŵr – yn ei overalls – a chynrhychoiolwyr cwmni rheolaeth Horizon (Siôn Pritchard a Steffan Harri), yn eu siwtiau smart a’u Brogues.

Cyflwynwyd Anna (Lowri Gwynne), y ferch, a’i babi Trystan Llyr, a chlywyd gyfraniadau gan drigolion niferus eraill y fro. Yn eu plith, un o lifers oedrannus yr atomfa wreiddiol (Siôn Pritchard) – a sefydlwyd yn 1963, ac a gynhyrchodd drydan tan 2015; hyd at ddyn PR y cwmni (Dafydd Emyr), protestiwr (Iwan Charles) a gwleidydd amlwg iawn (Steffan Harri), i beirnianwraig ifanc (Lowri Gwynne), ar fin colli’i gwaith.

IMG_4387

IMG_4385

IMG_4388

Pupurwyd y darn gan berspectifau is-gymeriadau fel dynion ifanc lleol di-waith (Siôn Pritchard a Steffan Harri), a dwyshawyd y drafodaeth gan weithiwr cymdeithasol (Iwan Charles), amgylcheddwr (Gwyn Vaughan Jones) a gwyddonydd niwclear (Siôn Pritchard).

IMG_4384

Cafwyd felly, mewn awr a hanner, gipolwg aml-haenog ar sefyllfa gymhleth iawn, wedi’i blethu a drama afaelgar am etifeddiaeth.

Ar adegau, yn ddarlith hanes, anthropoleg a chymdeithaseg, daearyddiaeth ac economeg – cyn dychwelyd yn gyson at stori bersonol y teulu go-iawn, a fynodd frwydro dros eu hawliau i gadw’u tir. Adeiladwyd yn raddol o’r  meicro i’r macro , wrth yn gyntaf drafod effaith yr atomfeydd ar batrwm iaith a gwaith y fro, cyn dirwyn i ben wrth godi amheuon amgylcheddol. Yn hynny o beth, gwnaethpwyd y gymhariaeth ryngwladol â pheryglon Wylfa Newydd â thrychinebau niwclear Chernobyl a Fukushima.

Roedd sgôp y darn yn aruthrol, gan adael y gwyliwr yn benysgafn iawn. Ar ben hynny, yn gyson, gweithredodd y cast cynorthwyol fel tîm rhedeg mewn ras gyfnewid. Poethodd pethau ymhellach wrth iddynt droelli o gwmpas ei gilydd fel atomau yn creu ffrithiant tua’r diwedd.

Defnyddir yr ansoddeiriau ‘trydanol’ a ‘gwefreiddiol’ i ganmol, o bryd i’w gilydd, ond nid yn aml i ddisgrifio effaith lythrennol ar lwyfan! Yn hynny o beth, rhaid canmol gweledigaeth Sarah Bickerton wrth gyfarwyddo’r cast, a goleuo clyfar Elanor Higgins.

Yn wir, gwnaeth yr actorion i gyd gyfraniadau gwych –  gyda’r pâr canolog, Gwenda a Richard,  yn denu cydymdeimlad llwyr, gan awgrymu tuedd amlycach na Sgint am deimladau tipyn llai amwys y dramodydd.  Gallwn ganmol cyfraniad pob actor yn y cast cynorthwyol, wrth i’r sgript gynnig showcase o’u talentau amrywiol. Ond cyfraniadau Siôn Pritchard sy’n aros yn y cof, wrth iddo wyro o chwarae hen lanc â fflach ddireidus yn ei lygaid, i ‘hoodie’ cornel stryd, hyd at boffin o wyddonydd niwclear.

IMG_4383

Adeiladwyd yn raddol at grescendo emosiynol, ac effeithiol tua diwedd y darn, y perthynai i gewri Caerdegog.

IMG_4386

Ond fel yn achos drama Sgint, cyfres o fonologau unigol oedd crynswrth y sgript,  heb lawer o ‘ddrama’ a deialog rhwng aelodaeth helaeth y cast. Tanlinellwyd yr elfen arwynebol hon gan dueddiad y cast cynorthwyol i wthio sgriniau ar olwynion wrth siarad, yn ddi-bwrpas.

Gwnaethpwyd hyn, am wn i, er mwyn cynnal y momentwm a chadw’r ‘stori’ i symud yn barhaol. Ond tanlinellu wnaeth hyn mai’r unig elfen o’r ddrama a’i gwreiddiau’n ddwfn yn  y sgript oedd hanes teimladwy teulu Williams, Caerdegog. Ac er i elfen o ddenydd ffilm gael ei ddefnyddio yn ystod y ddrama, mae’n anodd osgoi’r teimlad y gallai’r holl ddeunydd hyn dderbyn triniaeth ddwysach gan gyfres o raglenni dogfen, yng nghwmni’r ‘cymeriadau’ go iawn. Ond hawdd yw dweud hynny, heb wybod faint o waith a aeth i fewn i sicrhau cyfraniad y triglion lleol i’r prosiect personol hwn gan Manon Wyn Williams.

Yn y diwedd, ydy’r gwyliwr yn gadael yn bendant eu barn? Nac ydyn wir. Serch y diweddglo emosiynol, sy’n gefnogol i’r teulu fferm,  roedd y dadleuon economaidd – a ieithyddol, hyd yn oed –  o blaid sefydlu Wylfa Newydd yn andros o effeithiol, gan fy ngadael i wedi nrysu’n lân. Fel nifer o drigolion Môn, mae’n debyg, gwn yn iawn beth sydd yn fy nghalon, serch dadleuon rhesymegol y pen. Un peth sy’n sicr, mae pethau ymhell o fod yn ddu a gwyn.

Taenu golau ar fy anwybodaeth wnaeth y ddrama yn fwy na dim; mae’n hollbwysig fod y pwnc llosg hwn yn  derbyn sylw cenedlaethol (ac nid dim ond ymysg darllenwyr selog y Daily Post, yn absenoldeb gwasg Gymreig o unrhyw werth) , gyda phenderfyniad yn yr arfaeth – prun ai fwrw mlaen â’r cynllun ai peidio – i ddod yn hwyrach y flwyddyn hon.

A minnau wedi’m brawychu gan gyn lleied o’m cydnabod oedd yn deall fod atomfa Hinkley Point yng Ngwlad yr Hâf wedi’i lleoli lai na 15 milltir o arfordir De Morgannwg, ro’n i’r un mor ddi-glem am hynt a helynt atomfa newydd Sir Fôn. Felly wrth agor cil y drws ar drafodaeth ehangach o bwnc llosg, mae Hollti yn cadw fflam y ddadl ynghynn.

Bydd cynhyrchiad Hollti (Theatr Genedlaethol Cymru) yn teithio Cymru rhwng y 5ed a’r 20fed o Hydref, 2017. Cliciwch yma am fanylion pellach.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s