Adolygiad; Y Gadair Wag (Llenyddiaeth Cymru)

FullSizeRender (76)

Dros y misoedd a’r wythnosau diwethaf, nodwyd digwyddiad o bwys yng Nghymru; canmlwyddiant marw’r bugail Ellis Evans yn Y Rhyfel Mawr. Bu farw’r Cymro o fferm Yr Ysgwrn ar gae yn Ypres, Gwlad Belg, ar y 31ain o Orffennaf, 1917. Ond dros y ganrif a fu, fe’i anfarwolwyd ledled Cymru fel ‘Hedd Wyn’ (ei enw barddol), neu ‘Bardd y Gadair Ddu’.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Penbedw, 1917, taenwyd mantell dros y Gadair hardd wrth i Dyfed, yr Archdderwydd, gyhoeddi marwolaeth y Prifardd ar faes y gad. Yr Arwr oedd testun yr Awdl y flwyddyn honno, a fyth ers hynny, daeth y bardd o Drawsfynydd i gynrhychioli’r golled a brofwyd gan genedl gyfan.

Eleni, cyhoeddwyd cyfrolau, a darlledwyd rhaglenni di-ri amdano; un o’r goreuon oedd Hedd Wyn: Canrif o Gofio, a ddarlledwyd ar S4C, ac yn y Saesneg ar BBC Cymru. Fe’i chyflwynwyd gan y Prifardd, a Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, a blethodd yr hanes pwerus â deunydd archif dirdynnol dros ben.

Mae’r sioe farddonol, Y Gadair Wag, mewn ffordd yn gydymaith o gynhyrchiad, wrth gynnig dehongliad aml-haenog o hanes, ac etifeddiaeth, ‘Hedd Wyn’. Ond er yn sioe un-dyn ar yr arwyneb, mae’n cynnwys cyfraniadau gan feirdd di-ri. Ac mae hynny’n addas iawn, gan fod sioe Y Gadair Wag yn cynnig teyrnged i fwy nag un dyn.

FullSizeRender (75)

Ifor ap Glyn, unwaith eto, sy’n ein tywys ar hyd llwybrau niferus yr  hanes trist. Fel perfformiwr, mae’n showman ag  iddo arddull ‘yn dy wyneb’, sydd ddim o reidrwydd at ddant pawb. Ond ag yntau’n gwbl hyddysg yn ei bwnc, wedi ymchwilio yn drwyadl i’r maes, mae’n ‘gyfarwydd’ hyderus sy’n gyffyrddus yn ei rôl wrth adrodd stori sy’n croesi sawl ffin.

Yn sylfaenol, ar hyd y sioe, mae’n cynnig darlith aml-haenog , sy’n plethu cerddoriaeth, ffilm a barddoniaeth ynghyd. Cyfoethogir hyn oll gan gyfarwyddyd Ian Rowlands, sy’n ein denu ni fewn i rannu yn y wefr â synnwyr o gelf a choreograffi.

Beth yn union ydw i’n ei olygu â hynny? Wel ystyriwch y rhan fwyaf o ‘sioeau’ barddonol sy’n ‘agored’ i’r cyhoedd, o Talwrn y Beirdd a Stompiau gwahanol. Yr hyn gewch chi, ar y cyfan, yw ymryson rhwng dynion, sy’n adrodd cerddi fesul un ar y tro. Fe brofwch groen gwydd ar hyd eich corff ambell waith, os yw llinell yn ‘canu’, a chysylltu’n syth i’ch calon chi. Ond prin iawn yw’r rheiny ymysg aelodau’r dorf  sy’n ‘dallt y dalltins’ am gynganeddu, gan adael diwylliant caeth, sy’n derbyn nawdd helaeth, a fawr neb yn fodlon rhannu eu barn go iawn.

Yn 2011, gwnaeth tri bardd ifanc dinesig –  Osian Rhys Jones, Catrin Dafydd a Rhys Iorwerth – waith gwych i sefydlu nosweithiau ‘meic-agored’ poblogaidd Bragdy’r Beirdd, a hynny heb geiniog o nawdd. Cynigwyd sesiynau atyniadol, mewn lleoliadau anarferol, yn trafod pynciau cyfoes â thafod yn y boch. Ond hyd yn oed yn achos digwyddiad cŵl Bragdy’r Beirdd (sy’n cynnig gig gerddorol fel rhan o’r noson erbyn hyn), mae’n anodd osgoi’r ffaith mai rhestr o feirdd, o amryw safon, yn darllen eu cerddi yw patrwm pob noson, yn y bôn.

Difyr felly oedd profi cynhyrchiad wahanol iawn Y Gadair Wag, y mae’n deg i ddweud a dderbyniodd nawdd gan amryw ffynhonellau, ym mlwyddyn ‘Cymru’n Cofio’ Llywodraeth Cymru. Teg yw dweud yw fod derbyn nawdd, yn yr achos hwn, wedi llwyddo i wthio, a chroesi ffiniau, a chynnig profiad gwahanol, a gwerthfawr tu hwnt. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, byddai werth i feirdd Cymru dyrru i’w gweld, i hel syniadau ar sut i hudo’r dorf. Ond byddai hefyd yn talu i gynullfaoedd ledled Cymru ei phrofi, er mwyn codi eu disgwyliadau ynglyn â beth yw ‘digwyddiad barddonol’ o werth, a miniogi rywfaint ar eu crebwyll beirniadol eu hunain.

Y Gadair Wag

Sut beth felly oed y sioe? Wel yn naturiol, roedd yn ddirdynnol, ag ystyried y pwnc dan sylw, ond roedd hefyd yn ddyfeisgar, a dadlennol iawn. Tipyn o gamp, ag ystyried fod yr hanes yn gyfarwydd i nifer fawr, ond profwyd hefyd ambell wendid, gyda llaw.

Fe brofais i’r sioe, sy’n teithio Cymru a thu hwnt, yn festri capel y Tabernacl yng nghanol Caerdydd. Roedd y ganolfan yn orlawn, oedd yn syndod ar nos Sadwrn, ond eto’n ddealladwy ag ystyried natur  ‘achlysur arbennig’ y sioe. Diffoddwyd y goleuadau, a gwynebwyd sgrîn fawr ar lwyfan, a greodd naws sinematig dros ben.

Cychwynnwyd â ffilm o’r Gadair Ddu ei hun, i gyfeiliant tyner piano a feiolin. Rhoddwyd y cyfle i ni werthfawrogi’r gwaith cerflunio cain gan y crefftwr Eugeen Vanfleteren, ffoadur rhyfel o Mechelen yng Ngwlad Belg. Fe’n denwyd ni wedyn yn bellach mewn hanes â sain a geiriau cerdd ‘Atgo’ gan Hedd Wyn. Yna daeth Ifor ap Glyn i’r llwyfan, at ‘bulpud’ syml aml-bwrpas, â llyfr nodiadau mawr o’i flaen. Ond prin yr edrychodd ar y ‘sgript’ ar hyd y sioe, mor gadarn oedd ei afael ar bob gair.

FullSizeRender (77)

Creodd ddarlun eang o fywyd a marwolaeth Hedd Wyn, gan ei gysylltu â’i gyd-Gymry, a ffigurau rhyngwladol, gan gynnwys Belgiaid a bardd o Wyddel. Archwiliwyd ffeithiau hysbys am y bardd o’r Traws, ac fe’u cwestiynwyd, a’u dwyshawyd gan fanylion bach ymylol, ond dynol, am y ‘bugail’ a’r ‘breuddwydiwr’ Ellis Evans.  Rhannwyd ei gerddi’n achlysurol, wrth daflunio’r geiriau dros archif ar sgrîn, ac fe’u hadroddwyd gan actorion gwych  – Gwyn Vaughan Jones ac Owen Arwyn yn eu plith.

Ond bob hyn â hyn, rhannodd Ifor gerddi cynnil o’i eiddo ef, i atalnodi cyfnodau gwahanol Hedd Wyn, a themau a godwyd yn naturiol iawn o’r llith. Y cyntaf o’r rhain oedd Darllen Ei Grys, am y profiad o hel llau yn y ffosydd. ‘Perfformiodd’ y bardd y gerdd, mewn cydweithrediad â’r delweddau ar sgrin, a’r gwaith goleuo deheuig uwchlaw. Cerdd arall greodd argraff oedd myfyrdod hardd ar brofiad ffoaduriaid. Cydiodd Mwyara yn dyner yn nryswch plentyndod, a chysylltwyd y ddelwedd o ‘weiren bigog’ rhyfel â chael eich crafu, tra’n hel mwyar, â drain.

Rhannwyd hefyd gerddi gan feirdd eraill, Myrddin ap Dafydd a Siân Northey yn eu plith; recordiwyd lleisiau ambell un, a crewyd ffilmiau gydag eraill, a weithiodd yn dda wrth ychwanegu ‘dyfnder’ pellach i’r sioe. Rhaid canmol yn arbennig gerdd olaf Sian Northey, a gyfeiriodd at ddelwedd gyfoes o gerflun Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd. Ond llai llwyddiannus, mae gen i ofn, oedd cyflwyniad cerdd Marged Tudur am archwilio teimladau Mary Evans, mam Hedd Wyn.

Serch ei chyflwyniad gan Ifor ap Glyn, a bwysleisiodd gysylltiadau teuluol Marged â fferm Nant Fudur (Nant y Frwydr) nid nepell o’r Ysgwrn,  efallai fod angen egluro rhywfaint pellach ar gynnwys y gerdd; roedd  mynegiant moel y bardd wrth ddyfalu teimladau’r fam bron yn gwbl di-emosiwn, yn y ffilm ohoni’n eistedd ger aelwyd Yr Ysgwrn. Yn bendant, fel y gwn i’n iawn, nid yw galar yn ddagrau i gyd, ac mewn ymateb i golled mae rhywun yn colli pob teimlad. Ond  mae’n bendant o gymorth i’r gwrandawyr ddeall ystyr y geiriau’n gynt wrth gynnig cliwiau yn nhôn y llais. Gwn hefyd fod traddodiad helaeth yng Nghymru o’r ‘Fam’ a’r ‘Wraig Fferm’ fel ffigwr di-lol a diymhongar. Ond dim ond erbyn diwedd y gerdd y deallais ei chyd-destun yn llawn, sydd yn biti, gan fod potensial i’w chynildeb greu argraff fawr.

Mae’n flin gen i bigo ar fardd ar ei phrifiant – ac mewn gwirionedd, beirniadu’r cyfarwyddo y gwnaf yma, wrth i’r enghraifft yma dorri ychydig ar fomentwm naws y noson, a ddatblygwyd yn gelfydd tan hynny. Ac mae’r enghraifft yma hefyd yn codi penbleth ddiddorol ynglyn ag unrhyw noson ‘barddoniaeth byw’. Oherwydd er cystal eu geiriau, nid pob bardd sy’n actor neu ‘berfformiwr’ wrth reddf, sydd yn broblem pan fod gofyn cyflwyno o flaen cynulleidfa fyw.

I’r gwrthwyneb yn llwyr, ar achlysur arall yn ystod y sioe, rhoddodd Owen Arwyn swmp o emosiwn i’w ddarlleniad o erthygl yn Herald Caernarfon, wrth chwarae un o ddau newyddiadurwr a frysiodd i’r Ysgwrn i gwrdd â’r teulu ym mis Medi 1917, gan gychwyn traddodiad maith o ‘bererindota’. Roedd ei ddarlleniad ef bron iawn yn droedig o bruddglwyfus , ond atebwyd hynny’n syth bin gan esboniad Ifor ap Glyn, wrth iddo’i roi yng nghyd-destun datblygiad graddol ‘cwlt’ Hedd Wyn.

Ond yn hwyrach,  syrthio’n fflat wnaeth y dechneg o ddarllen geiriau Fflemeg, a Gwyddeleg, ar yr union yr un pryd ag y tafluniwyd cyfieithiad Cymraeg y geiriau ar sgrîn. Dim ond hyn â hyn gall yr ymennydd ei gymeryd ar yr un waith – byddai wedi bod yn fwy effeithiol i gyflwyno’r ddwy elfen yn olynol, ac anibynnol o’i gilydd. Fe nryswyd i’n llwyr, ar adegau diddorol dros ben, wrth i’r sioe roi’r hanes mewn perspecif rhyngwladol.

Hefyd – a wir i chi, dyma’r feirniadaeth olaf, dwi’n gaddo – a dwi’n pwysleisio mai mân frychau yw’r rhain, ond pethau a effeithiodd lif y noson, o’m rhan i. Cafwyd nifer o elfennau cyffredin yn y sioe hwn â’r rhaglenni teledu; dim byd yn bod ar hynny o gwbl  gyda llaw, gan i’r berthynas roi cyfle i’r cyflwynydd archwilio nifer o themau difyr mewn mwy o fanylder, gan gynnwys y cyfle roi cyd-destun cyfoes i argyfwng y ffoaduriaid. Ond i’r rheiny ohonom a werthfawrogodd raglen  Hedd Wyn; Canrif o Gofio, doedd dim modd y gallai actores wneud cyfiawnder â geiriau, a mynegiant Enid, chwaer Hedd Wyn, wrth iddi ddisgrifio sut glywodd hi am farwolaeth ei brawd. Rwy’n tybio mai heriau cyllidebol oedd wraidd y ffaith rwystredig na chwaraewyd y pwt archif o Enid ei hun. Cofiwch, mae’n siwr i eraill, na welodd y rhaglen, gael eu cyffwrdd i’r byw.

Mae cymaint o elfennau bychain y sioe wedi aros gyda mi. Mae’n sioe gryno iawn, lai nag awr a hanner o hyd, ac mae wir wedi’i hamseru i’r dim. Rwy’n edmygu camp y tîm cyfan am lwyddo i gadw trefn ar lu o linynnau. Mae’r ddelwedd o Bob, brawd bach Ellis, ger ei fedd, yn bendant wedi aros gyda mi; dwi’n siwr y gellid fod wedi datblygu’r elfen honno, prif destun ‘penderfyniad arwrol anhunanol’ Hedd Wyn – ond yn deall nad oedd lle i bob dim.

Wedi trafod – a beirniadu – awdl fawr Yr Arwr, daeth y sioe yn ôl at deitl Y Gadair Wag. Sylweddolwyd erbyn diwedd fod i’r teitl sobreiddiol arwyddocad ehangach na hanes ’mond un dyn. A rhoddodd y dewis naturiol i chwarae Spiegel im Spiegel gan Arvo Pärt dros restr o enwau gyd-destun pellach i’r hanes trist.

Roedd  y sioe yn enghraifft wych o beth ellir ei gyflawni, wrth ddeffro hen eiriau o gwrlid eu cloriau, a’u harddangos mewn golau newydd sbon. Ar y naill llaw, mae’r Gadair Wag yn gynhyrchiad syml, gwerinol ei naws; ar y llall, mae’n cynnig ‘perfformiad’ soffistigedig. Mynwch docyn i weld sioe sy’n mynd i’r eithaf i brofi sut mae’r reddf greadigol yn drech na rhyfel.

Mae Y Gadair Wag yn parhau ar daith ledled Cymru, ac Iwerddon – cliciwch yma am ragor o fanylion. Mae’r cynhyrchiad yn rhan o brosiect Barddoniaeth Colled / Poetry of Loss, a weinyddir gan Llenyddiaeth Cymru, ac a ariennir gan Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf  Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio – Wales Remembers 1914-1918.

Os na fydd modd i chi brofi sioe bwerus Y Gadair Wag ar daith, gadewch i mi eich annog i wylio’r rhaglen gysylltiedig Hedd Wyn; Canrif o Gofio ar S4C. Mae’n cynnwys archif anhygol o werthfawr gan nifer fawr o unigolion, gan gynnwys fy Nhaid, W.D.Williams, yn adrodd yr hanes o fynychu seremoni’r Cadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Penbedw, yn 1917.

Dyma i chi lun y rhannodd fy ewythr Iolo Wyn Williams (Tregarth) â mi yn sgil y darllediad hwnnw, o Nhaid – Y Prifardd W.D. Williams o’r Bermo – yn arwain criw ifanc i Drawsfynydd i adrodd hanes Hedd Wyn, a Mam, Nia Powys, (y trydydd o’r chwith) yn eu plith.

IMG_2568

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s