Adolygiad Theatr: Wythnos yng Nghymru Fydd (Opra Cymru)

Opra Cymru Wythnos yng Nghymru Fydd

Rai misoedd ar ôl i mi brofi Y Tŵr – yr opera gyntaf  i mi ei gweld erioed yn yr iaith Gymraeg – ces i’r cyfle i fwynhau cynhyrchiad operatig arall a addaswyd o un o weithiau mawr yr Ugeinfed Ganrif.

Nid gwaith abswrdaidd yn deillio o ddrama alegorïaidd oedd hwn, ond cynhyrchiad hwyliog a ‘hygyrch’ dros ben, yn seiliedig ar nofel wyddonias boblogaidd gan Islwyn Ffowc Ellis, Wythnos yng Nghymru Fydd (1957). Cywaith ydy’r darn Opra Cymru hwn rhwng y Prifardd Mererid Hopwood, sef awdur y libretto, a’r cyfansoddwr Gareth Glyn.

Fel yn y nofel, dilynir siwrne Ifan Powell (Robyn Lyn Evans) i ddau fersiwn gwahanol o’r flwyddyn 2033;  y naill yn ddelfryd o’r Gymru hyderus anibynnol, a’r llall yn ‘Western England’ hunllefus.  Mae’n cwrdd â merch ei freuddwydion, yr actores Mair Llywarch (Gwawr Edwards), sy’n  ei sbarduno i newid ei agwedd at wleidyddiaeth Cymru, a brwydr yr iaith. Trwy’r gweledigaethau rhyfeddol hyn, daw Ifan i ddeall fod ganddo ran bendant i chwarae yn nyfodol ei wlad a’i iaith.

 minnau braidd yn nerfus o ddychwelyd i fyd yr opera, wedi her a hanner ddiwedd ganwyn, es i ati i ail-ddarllen y nofel a gyhoeddwyd 60 mlynedd yn ôl. Dwi’n falch i mi’i wneud a dweud y gwir;  mae’n nofel hawdd iawn  i’w darllen a’i mwynhau. Ceir nifer o fanylion y gwnaeth yr awdur eu rhagweld, fel pŵer y rhyngrwyd  ac effaith tîm pel droed o fri ar hyder a hunaniaeth gwlad.  Ond serch hynny, mae gwendidau,  ac mae wedi dyddio’n fawr mewn mannau,  ac felly edrychais ymlaen i weld beth allai’r addasiad cerddorol hwn i gynnig i un lled-newydd i fyd yr opera fel fi.

Rwy’n hapus iawn i ddweud i mi fwynhau’r cynhyrchiad yn fawr. Am un peth, mae’r gerddoriaeth swynol yn eich cipio i le arallfydol, yn llawn ‘motifs’ ac adleisiau y gall bawb eu dilyn yn rhwydd. Roedd y perfformiadau, gan bawb, yn afaelgar dros ben, sy’n pwysleisio mai drama ramantus – mewn sawl ffordd- yw’r stori apelgar hon yn y bôn. Symleiddiwyd y stori, trwy drugaredd, gan gywasgu 174 tudalen o ‘faniffesto’ o’r Gymru ddelfrydol i hanner cyntaf sy’n symud yn chwim, cyn bwrw mlaen â hanner  olaf arswydus, sy’n cynnig blas cas o’r dystopia Cymreig.

Un o wendidau mwya’r nofel yw mai propaganda gwleidyddol yw hi; fe’i chyhoeddwyd gan Blaid Cymru, ac fe’i chyflwynwyd i Gwynfor Evans, yn blwmp ac yn blaen. Golygai hyn  nad oes llawer sy’n amwys  a ‘llwyd’ am y ddau ddyfodol gwahanol, y cofnodir yn glir mewn du a gwyn. Ar adegau, wedi darllen am BOB haen o’r gymdeithas  Gymreig sydd wedi gwella yn y dyfodol, dechreuais ddiflasu ar y weledigaeth sosialaidd oedd yn ymylu ar fod mor un mor unffurf â’r Western England dotalitraidd ei naws. Wedi’r cyfan, yn nyfodol llawn ‘daioni’ yr awdur, mae’r rhan fwyaf o bobol yn lwyr-ymwrthodwyr llysieuol sy’n nyts am grefydd, cerdd dant a dawnsio gwerin, ac sy’n yfed fawr ddim ond ysgytlaeth mwyar duon. Mae hefyd yn gymdeithas sydd yn boenus o batriarchaidd, gyda’r Stepford Wives Cymraeg un ai’n gweini neu’n nyrsio ynteu’n gwenu’n siriol iawn ar eu gŵyr.

Atebwyd y broblem olaf hwn gan benderfyniad ysbrydoledig ar gyfer yr addasiad operatig; newidiwyd rhyw dau gymeriad mawr, sy’n cyflwyno Ifan i’r gweledigaethau dyfodolaidd. Yn yr opera, mâe Sian Meinir yn chwarae’r bio-ffisegydd Dr Heineke, sy’n gyfrifol am greu’r ‘dyfais’ amser, a hefyd prif dywysydd Ifan, Alfana Llywarch – sy’n academydd, ac yn fam i Mair.

Problem fwya’r cynhyrchiad opera, hyd y gwelwn i, oedd y pwyslais gormodol a roddwyd ar is-stori’r ‘Crysau Porffor’, sef yr heddlu cudd sy’n gymharol ymylol yn y nofel wreiddiol. Rhoddwyd llawer mwy o sylw’r rhain yn yr opera, gan ddrysu nifer o nghwmpas nad oedd wedi darllen y nofel ers tro byd. Ond wedi dweud hynny, rhaid canmol cyfraniad Sion Goronwy, sy’n chwarae’r ffasgydd Capten Steele; hawdd oedd dilyn pob gair wrth iddo leisio’n gyfoethog ddyhaeadau ei wrthblaid ei hun.

Roedd y bartneriaeth rhwng Robyn Lyn a Gwawr Edwards yn un ddisglair, gyda’r cemeg rhwng y ddau yn tasgu o’r llwyfan yn ystod eu meet-cute yn Theatr Genedlaethol y dyfodol. Ond wrth i’r ddau droi eu cefnau yn achlysurol ar dorf  neuadd Memo y Barri, collwyd ystyr ac yngangiad ambell linell yma a thraw. Trueni am hynny, gan fod libretto Mererid Hopwood yn ‘canu’ ac yn slic iawn drwyddi draw.

Cafodd y ddau, ynghyd ag eraill, rannu deuawdau a thiawdau gwych; yn aml iawn, teimlais fy mod y arnofio ar gwmwl rhif  9 o bleser wrth wylio ffilm gerddorol o Hollywood yr oes aur. Cyflwynodd y delyn adlais hardd o stori eu rhamant, a wreiddiwyd yng Ngwlad y Gân.

Creodd Siân Meinir argraff gref  fel tair merch amrywiol a gynigent borth i Ifan i’r dyfodol. Yn achos y Fraulein Doktor Heineke, ac Alfana Llywarch, cawsom gip delfrydol ar y dyfodol; ond yn achos ‘Hen Wraig y Bala’, yn ei dryswch a’i dementia, torrwyd ein calonnau, gan ysbrydoli’r anthem ola’ angerddol,  am frwydro ‘Ymlaen’.

Cafwyd cefnogaeth gref gan aelodau ifainc y corws, a hefyd gan leisiau ‘addawol’ cwmni Opra Cymru; Seimon Menai a Gethin Lewis yn arbennig, mewn rhannau cynorthwyol. Gwerthfawrogais y gwisgoedd, a’r deunyddiau sgleiniog Bucks-Fizz, a lynodd yn gawslyd o daer at weledigaeth hen-ffasiwn Islwyn Ffowc Elis ar gyfer dyfodol sy’n cyfuno brethyn a baco-foil.  Dibynai’r set syml ar waith goleuo celfydd iawn i gyfleu’r ‘daith amser’ yn ddeheuig, a hoffais gysgodion y coedwigoedd i’n daearu yn y Gymru hunllefus,  fel a gafwyd yn y nofel, er na aethpwyd i fanylder am hynny yn y sgript.

Yr oedd digon i’w fwynhau, ac i’n hatgoffa o’r clasur llenyddol, sydd fel Cysgod y Cryman, mewn ffordd, yn cynnig ‘sebon’ o gynhyrchiad poblogaidd ei apêl. Wedi denu cynulleidfaoedd i ddau gynhyrchiad opera Cymraeg a addaswyd o glasuron o ganol yr Ugeinfed Ganrif, efallai ei bod hi’n bryd i ni brofi opera gyfoes, a honno’n un newydd sbon.

Efallai fod rheiny yn eiriau wnaiff ddychwelyd i’m melltithio i, ond dwi’n credu mod i’n barod i gamu i lawr nesaf yr opera Cymraeg. Fe brofodd y cynhyrchiad llwyddiannus hwn nad oes rhaid ‘ofni’r’ opera,  a bod modd cynnig celfyddyd o’r radd flaenaf wrth hefyd apelio at y gynulleidfa graidd. Fel y dywed Islwyn Ffowc Ellis yn y nofel ei hun, ‘Mae cenedl yn gwneud pethau mawr wedi colli’i chymhleth israddoldeb’. ‘Ymlaen’ yn wir i’r opera nesaf Gymraeg.

Bu opera Wythnos Yng Nghymru Fydd (Opra Cymru) yn teithio ledled Cymru rhwng Tachwedd 10ed- 25ain, 2017. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am y cynhyrchiad a’r daith.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Cerddoriaeth, Llenyddiaeth, Llyfrau, Theatr. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Adolygiad Theatr: Wythnos yng Nghymru Fydd (Opra Cymru)

  1. Dywedodd Marconatrix :

    “Mae unrhyw beth yn bosibl” (ff.251) … ond mae ‘na fwlch ofnadwy rhwng ‘posib’ a ‘thebyg’ …

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s