Sêr Michelin Blaenau Gwent: Ysgolion Creadigol Arweiniol

Mae’n sbel ers i mi sgwennu blogbost sydd ddim yn adolygiad o ryw fath, gan fod 2017 di gwibio heibio mewn llu o weithgareddau, teithio tramor, teulu a ffrindiau a bywyd a’i bethau. Ond y tu hwnt i ngwaith cyson fel beirniad ffilm, theatr, llen a bwytai, mae na un joban wych sy’n ysbrydoliaeth fawr i mi, wrth gael cyd-weithio a phlant a phobol ifanc.

Dwi’n ‘ymarferwr creadigol’ gyda chynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae’n brosiect pum mlynedd, ac yn athroniaeth uchelgeisiol, i gynyddu cyrhaeddiad disgyblion, ac ysgolion, ledled Cymru. Dros y flwyddyn ddiwethaf, profais hyn ar waith sawl gwaith, wrth gael fy apwyntio i gyd-weithio â thair ysgol wahanol am rai misoedd ar y tro.

Y syniad sylfaenol yw mewn byd sy’n carlamu yn ei flaen, mae angen sgiliau ychwanegol ar blant; ychwanegol, hynny yw, i’r maes llafur sylfaenol. Crêd yr athroniaeth arbrofol hwn yw fod angen cyflwyno sgiliau creadigol i blant, ac nid yn y pynciau celfyddydol traddodiadol. Felly, gall ysgol sy’n teimlo, er enghraifft, fod angen hwb mewn hyder, rhifedd a mathemateg, apwyntio gwneuthurwr gemwaith i arwain prosiect, fel y gwnaethpwyd yn Ysgol Gynradd y Rhws – lle welwyd canlyniadau cadarnhaol dros ben.

Fel un sy’n cynnal gweithdai ysgolion ar fy liwt fy hun ers 2012, ac sy’n dotio at weithio gyda phlant, rhaid dweud i’r cynllun hwn ddenu fy chwilfrydedd i’n llwyr, a dwi’n falch i ddweud i mi gael fy apwyntio droeon. Cael fy apwyntio, hynny yw, ar ôl cyflwyno syniad i ysgol cyn derbyn gwahoddiad am gyfweliad. Y disgyblion, ac nid yr athrawon, sydd yn cyfweld â’r ‘ymarferwr’ dan sylw, cyn penderfynu pwy i ddewis ar sail eu hanghenion nhw.

Cychwynais y flwyddyn fis Hydref 2016, yn Ysgol Coed y Garn ym mhentre Blaina. Mae’n ardal eithriadol o hardd reit yn nhopiau Blaenau Gwent, a des i i’r ysgol yn lawn syniadau – a rhagdybiaethau!

Derbyniais ebost, yn wreiddiol,  gyda briff go agored yn gwahodd ceisiadau am brosiect yn ymwneud â bwyd. Wedi cyflwyno fy syniad innau, ro’n i wrth fy modd i gael fy apwyntio i arwain prosiect sgwennu bwyd uchelgeisiol. Fy mwriad oedd archwilio perthynas disgyblion Blwyddyn 3 â bwyd; beth oedden nhw’n ei fwyta, hoff flasau, cas fwydydd, sut a ble oedden nhw’n gwledda ac yng nghwmni pwy, a’u hystyried i arbrofi a blasau newydd sbon. Wrth gofnodi eu teimladau, a phrofiadau lu, fy ngobaith oedd hyfforddi beirniaid bwytai bychain y fro o dan yr enw ‘Sêr Michelin Blaenau Gwent‘.

Mae hyn oll ynghlwm â ngwaith fel awdur bwyd, a beirniad bwytai ledled Cymru. Enillais ysgoloriaeth i Galiffornia rai blynyddoedd yn ôl, a agorodd fy meddwl i fyd sgrifennu bwyd. Rwy’n ferch i fam a oedd yn gogyddes cartre wych, a a rannodd ei chariad a gofal amdanom mewn amryw ffyrdd, ond yn bendant ger y bwrdd bwyd. Roedd hithau yn ei thro yn ferch i’r Prifardd W.D. Williams, a anfarwolodd y berthynas rhwng  ‘ein lluniaeth a llawenydd’ yn ei englyn adnabyddus Gras o Flaen Bwyd.

Yn sicr, mae gwledd o unrhyw fath yn borth i atgofion, ac argraffiadau – da  a drwg – ac mae patrymau ac agweddau bwyta teuluol yn allweddol. Mae datblygu perthynas iachus gyda bwydydd o bob math o oedran gynnar yn hollbwysig, ar gyfer magu hyder, creadigrwydd a iechyd meddwl.  Gall patrymau niweidiol o’r gorffennol amharu ar hynny’n fawr, mewn nifer o wahanol ffyrdd. O broblemau gordewdra, ac anhwylderau bwyta, i fwyta ‘ffyslyd’ a cham-ddefnydd a cham-ddehongliadau o alergeddau. Caiff bwyd yn aml ei ddefnyddio fel arf, i reoli neu amddifadu unigolyn, gan arwain yn y pendraw at newynnu personol a chymdeithasol, o bob math.

Fy mwriad i felly oedd i ddeall agweddau’r plant at fwyd, cyflwyno blasau newydd sbon, archwilio’r ymatebion, a chloddio i’w atgofion bwyd. Efallai i chi feddwl fod 8 oed yn gynnar iawn, ond byddech chi’n synnu o ddeall yr hyn mae meddyliau ifainc yn prosesu. A gan fod y plant wrthi’n darllen gwaith Roald Dahl a Lewis Carroll ar y pryd,ymgorfforwyd hwyl y dychymyg mewn perthynas â bwyd yng ngwaith yr awduron hynny; o de parti’r Mad Hatters yn Alice in Wonderland i snoscymbrau’r BFG, ‘bwyd barf’ y Twits a ffatri siocled adnabyddus Willy Wonka.

A sôn am hwyl y dychymyg, ro’n i hefyd yn awyddus iawn i’r disgyblion gael profiadau gwahanol – o’r sylfaenol i’r arall fydol, o bobi bara, fforio am fwyd yn eu milltir sgwâr eu hunain, hyd at ymweld â bwyty seren Michelin. Oedd, roedd y syniadau hyn i gyd yn uchelgeisiol iawn, ond wyddoch chi beth, rwy’n berson reit benderfynol!

Trwy nghysylltiadau i fel beirniad bwytai, llwyddais i sicrhau cydweithrediad cyfres o bobol anhygoel. Eisioes ynghlwm â’r prosiect hwn oedd ymarferwraig ioga wych, Kalavathi Claire George, oedd am gydweithio â mi ar yr elfen fyfyriol ac ymddygiadol y disgyblion, a aeth lawlaw â’r holl gysyniadau hyn; bu’r berthynas rhyngom wth gyfnewid syniadau yn llwyddiannus dros ben.

Yna, yn dilyn cymorth gan Angharad Lee, Asiant Creadigol y cynllun hwn, trefnais gyfarfod ag Adele Nozedar, sy’n guru fforio, a hela am fwyd, yn ardal Aberhonddu wedi gyrfa lwyddiannus fel cynhyrchwraig cerddoriaeth bop yn Llundain (i artistiaid mor ddylanwadol â Betty Boo, S-Express a Bomb the Bass, Moby a Leftfield, i enwi dim ond rhai!).

O fewn munudau i’n sgwrs gychwynnol, pan aeth hi â mi am daith natur ar hyd Nant Lleucu yn fy nghymdogaeth innau ym Mhenylan a’r Rhath (uchod), gwn y byddai Adele yn gaffaeliad i’r prosiect. Roedd y bore hwnnw’n brofiad y gwnaf ei drysori am byth, wrth iddi gyflwyno deimensiwn oesol, ond newydd sbon i  mi, i filltir sgwâr fy magwraeth yng nghanol Caerdydd.  

A dyna’n union a ddigwyddodd, rwy’n hapus iawn i ddweud, gyda disgyblion Ysgol Coed y Garn. Wrth iddynt fforio tir yr ysgol, dan arweiniad hwyliog Adele,  i ganfod planhigion bwytadwy (a hynny, cofiwch, ganol gaeaf!). Ac fel cogyddes, sy’n cynnig gwleddoedd ym Mannau Brycheiniog o helfwydydd ei milltir sgwâr, aeth ati i bobi bara gyda’r plant, gan gyfuno blasau’r deiliach a pher-lysiau, a chreu losin naturiol i gystadlu â Willy Wonka ei hun!

Gallwch chi ddychmygu fy nghynnwrf ar hyd yr wythnosau wrth i’r holl elfennau hyn ddod ynghyd. Pleser arall oedd cydweithio â’r athrawon gwych, yn arbennig Rachel Jones, Cymraes Gymraeg o Aberdâr. Fel fi, fe gafodd ei thrwytho’n llwyr yn athroniaeth Ysgolion Creadigol Arweiniol, gan olygu i ni fownsio oddi ar ein gilydd, ac ymateb yn naturiol i anghenion y plant wrth gynllunio pob ‘gwers’. Os oes gen i feirniadaeth – o’m profiadau mewn sawl ysgol erbyn hyn- yna dylai pawb sy’n rhan o’r broses hefyd dderbyn yr un ‘ymdrochiad’ hwn. Holl bwynt y cynllun 5 mlynedd hwn ydy fod athrawiaethau’r cynllun hwn yn ymdreiddio i’r maes llafur ac ethos ehangach yr ysgol, gan olygu fod pob prosiect unigol ledled Cymru yn gadael gwaddol, er gwell.

Rhwng chwarae ‘gemau’, holi cwestiynau a thaflu syniadau, daeth y disgyblion i adnabod eu hunain yn well. Rhai enghreifftiau o’r rhain; atgofion bwyd y Nadolig, creu bwydlen dri chwrs i ‘Mamgu’ neu ‘elyn pennaf’, ac adolygiad o swper eu noson cynt. Roedd yr enghraifft olaf yn ddadlennol iawn, yn ein sesiwn gyntaf un.

Holais nifer o gwestiynau ar ddogfen ‘gerdyn bingo’ o fath; disgrifiwch beth oedd ar eich plât, sut oeddech chi’n teimlo cyn cael swper, ble oeddech chi’n bwyta yn union, beth oedd eich barn, a gyda pwy oeddech chi, yn eu plith.

Soniais yn gynharach i mi gyrraedd yr ysgol â rhagdybiaethau fy hun, a does ond angen cymeryd un cip ar stryd fawr Blaina, gyda’i bwytai tec-awe,  i ddeall paham i’r ardal ôl-ddiwydiannol ddifreintiedig hon (yn economaidd, ta beth) bleidleisio o blaid Brexit – serch y cymorth gan arian Ewropeaidd, dros y blynyddoedd.

Ond mae yma hefyd gymuned fyw a chyfeillgar, gyda’r clwb rygbi a’r teulu’n ganolog i’r gymdeithas, a thirluniau eithriadol o hardd; paham fyddai unrhywun ar dan i ymadael, onibai i sicrhau gwaith?

Cwestiwn gor-simplistig efallai gan ferch ddwad o’r ddinas, ond un gymhleth iawn i’w hateb ar yr un pryd; dyna i chi fymryn o gyd-destun, bethbynnag, i’r ardal yr ymwelais i ag ef ar gyfer y prosiect hwn. Felly pan holais y cwestiynau ynglyn â phatrymau bwyta’r plant, cynigodd yr atebion fraslun da o’r gymdeithas hon, sy’r un mor aml-haenog, gyda llaw, ag unman arall yng Nghymru heddiw.

‘Ble oeddet ti neithiwr yn bwyta dy swper?’ ‘Yn y maes parcio’, oedd ateb un bachgen. ‘Be goblyn?’, meddyliais i, gan ofni’r gwaethaf mewn gwironedd. Yr eglurhad? ‘Yn KFC, gyda Mam a Dad a mrawd a chwaer yn y car’. Fy ateb i i hynny; wel o leia roedd o efo’i deulu, oherwydd atebodd un bachgen arall ‘Ar y gwely yn gwylio fideos you tube, yn aros i Mam ddod â chicken nuggets a chips i mi lan stâr.’ Dyna’i batrwm ef bob nos. Ble roedd hithe’n bwyta ei swper felly, gofynnais innau? ‘Lawr staer yn y gegin, gyda’r ffôn yn gwmni iddi hi’. Eisteddai eraill ar lawr y stafell fyw, tra bod eu rhieni yn y gegin, neu gyda’r teulu cyfan ar y soffa tra’n gwylio’r teledu.

Clywais hefyd ferch yn dweud iddi helpu ei thad yn y gegin wrth baratoi risotto ar gyfer teulu; yn hwyrach nag arfer, am 7 o’r gloch, am fod ei thad yn hyfforddi cyn hynny ar gyfer ras Iron Man.  Clywais hefyd fachgen yn sôn iddo fwynhau stêc a sglods a saws pupur wrth y bwrdd gyda’r teulu, a hynny ar nos Lun; a cafodd mab y cigydd wledd o selsig a thatws stwnsh, ac roedd wrth ei fodd. Ateb arall, trawiadol, oedd ‘ges i sushi gyda Mamgu, mewn canolfan siopa yng Nghaerdydd’.

Roedd yr atebion hyn i gyd, yn ystod y sesiwn gyntaf un, yn drysorfa o wybodaeth wrth lunio gweddill y daith. A thaith, yn wir, a gafwyd, i mi, yr athrawon a’r plant. Ffocws yr ysgol oedd i geisio cynyddu hyder wrth siarad a sgwennu, a gwella ymddygiad a lefel canolbwyntio rhai. Bu’n ddadlennol darganfod beth oedd ‘brecwast’ i’r plant; brecwast ysgol i rai, bariau siocled i eraill, ond llaeth, grawnfwydydd, nutella ar dost, iogwrt, mêl a ffwythau i nifer fawr.

Doedd dim beirniadu, na phregethu o’m rhan i, ond roedd yn ddiddorol gweld sut effaith gafodd yr holl batrymau bwyta hyn ar ymddygiad a lefel cyrhaeddiad y plant. Cafwyd tipyn o hwyl wrth herio’r plant i flasu bwydydd gwahanol yng nghategoriau ‘chwerw’ , ‘melys’, ‘hallt’ , ‘sur’ ac ‘umami’, ynghyd â chyfuniadau go gyffredin fel ‘chwerwfelys’. Yn wir, deallodd y plant ymhen dim beth oedd blas dwys  ‘umami’, ‘fel caws sanau drewllyd’ a ‘chig di’i sychu’n grimp’. Yn wir, os ystyriwch enghreifftau fel ham Proscuttio a chawsiau glas, yna blas marwolaeth yn ei hanfod yw  umami, a’i brif nodweddyn, sef msg. Mae’n cynnig chwa y mae nifer o bobol yn ei grefu i gydbwyso blasau’r daflod yn llawn – yn arbennig ar adegau bregus, megis penmaenmawr. Ond nol i’r ysgol â ni…!

Cythrodd pawb, bron â bod, ati i flasu olewydd duon a garlleg amrwd, siocled tywyll, malws melys a chaws Parmesan, gan fwynhau’r cyfle i fynd ati i wneud gwynebau hyll, neu bêr-angylaidd, gan brofi fod plant yn llawer dewrach, ac yn hapusach i arbrofi, nag oedolion. Ond mae’n wir i ddweud fod ‘taste-buds‘ plant yn llawer iawn cryfach nag oedolion, a’u bod yn meddalu (a diflannu) wrth i ni heneiddio’n raddol. Mae hyn yn bendant yn egluro paham fod blasau cryfion, fel caws ac ysgewyll (a gweadau gwahanol, fel madarch a chigoedd) yn gallu esgor ar ymatebion eithafol, gan yrru rhieni prysur, sydd eisioes dan bwysau, yn gwbl hanner pan yn y gegin.

Wedi’r holl weithgaredd ymennyddol, profi blasau newydd, a phlanhigion lleol, daeth cyfle i’r plant gael cyfle i ymarfer eu sgiliau fel ‘beirniaid bwytai’. Yn gyntaf, gyda’r ysgol yn astudio Alice’s Adventures in Wonderland ar y Maes Llafur, roedd Mrs Jones yn awyddus i’r plant gael profi ‘Te Prynhawn’ mewn gwesty lleol, cyn sgwennu adolygiad o’r profiad llawn. Yn naturiol, doedd nifer erioed wedi clywed am y ffasiwn beth, nac yn gyfarwydd â bwydydd Cymreig fel bara brith na chacennau cri.  Cafwyd diwrnod gofiadwy i’r plant a’r athrawon yng ngwesty Bryn Meadows, Ystrad Mynach , a chofnodion difyr ac amrywiol iawn.

Arsylwodd nifer yn eu sgrifennu ar eu hymddygiad eu hunain; roedd yfed o’r cwpanau a soseri, a bwyta ger y byrddau â’u llieiniau gwynion, yn reswm iddynt ymbarchuso, a gostwng eu lleisiau mewn lle mor ‘posh’. Roedd rhai wrth gwrs yn nerfus, ac eraill – ond nid pawb –  ar ben eu digon i weld pentwr o frechdanau heb grystiau a theisennau testlus ar eu cyfer.

Yna, ym mis Chwefror 2017, daeth y prosiect aeloesol hwn i ben â dau brofiad bwyd a hanner;  cynnigwyd cyfle i nifer o’r disgyblion agor eu siop losin pop-up, dros-dro, yn yr ysgol, gan ymgorffori sgiliau mathemateg a menter a busnes, a blasau losin lleol a naturiol, a baratowyd ar y cyd ag Adele (sy’n awdur y llyfr Great British Sweets, cyfrol drawiadol tu hwnt sy’n cynnwys hanes losin a da-da Cymreig).

Yna, yn achos 16 aelod o’r grwp, a ddewiswyd gan yr athrawon, trefnais i, ar y cyd â chogydd arbennig iawn, ymweliad i brofi bwydlen flasu mewn bwyty Michelin cyfagos.

Ges i’r syniad yn wreiddiol ar ôl gweld fideo gwych ar wefan y New York Times yn 2014, yn cofnodi ymweliad disgyblion ysgol gynradd cyhoeddus P.S. 295 o Brooklyn â bwyty gorau Efog Newydd ar y pryd, sef Daniel, a gipiodd dair seren Michelin, ac a oedd yn llwyfan i gastronomeg y Ffrancwr Chef Daniel Boulud. Bum yn meddwl fyth ers hynny y byddai’n gwych gwneud rhywbeth tebyg yng Nghymru, ond wnes i erioed dychymygu y gallwn i roi’r syniad ar waith…

Wedi noson fythgofiadwy ar gyfer adolygiad bwyty The Whitebrook yn Sir Drefynwy meddyliais yn syth am Chef Chris Harrod.

Mae’r cogydd yn gwneud defnydd o’r goedlan hynafol o’i gwmpas ac mae’r cynnyrch gorau lleol yn gwbl greiddiol  i’w weledigaeth, a’i lwyddiant mawr. Cysylltais ag ef, ac fe aeth ati yn llawn cyffro i lunio bwydlen flasu saith cwrs ar gyfer y plant. Estynwyd gwahoddiad yn ogystal i fforiwr y gwesty, Henry Ashby – un o enwau enwocaf y Deyrnas Unedig yn y maes – i gyflwyno’r planhigion rhyfeddol i’r plant cyn profi’r wledd.

Os ydych chi’n fy nabod i, fe wyddwch chi fy mod i yr eiliad hon wrth sgwennu, ddeg mis wedi’r wledd yn dal i arnofio ar gwmwl o hapusrwydd wrth hel atgofion! Bu’r ymweliad hwn – yn wir y prosiect cyfan yng Nghoed y Garn – yn bendant yn uchafbwynt gyrfa i mi, wrth gydweithio â chynifer o arwyr bwyd, ac i gael rhannu’r awen gyda’r disgyblion hyfryd hyn. Oherwydd aeth y diwrnod ei hun fel breuddwyd, o’r daith fws i Sir Fynwy trwy drwch o niwlen hudol, i’r prynhawn godidog yng nghoedwig Gwenffrwd.

Dewiswyd yr 16 disgybl gan yr athrawon, yn seiliedig ar y datblygiad mwyaf yn ystod y prosiect 12 wythnos. Nid yn unig o ran pwy fyddai’n debygol o sgrifennu adolygiad da, ond hefyd y rheiny a arsylwyd yn cynyddu mewn hunan-hyder, sgiliau beirniadol, defnydd o’r dychymyg a dealltwriaeth. Rhoddodd eu rhieni, yn ogystal, ganiatad i ni gyhoeddi lluniau o’r diwrnod…

Gadewch i’r plant eu hunain ddisgrifio’r profiad!

‘One day there was a school called Coed y Garn. There was 16 children and 3 teachers and we went on a trip to The White Brook…

‘The landscape was beautiful, I was in a blanket of forests and wildlife. As we got higher and higher we were higher than the clouds’

‘As soon as I walk in the door I was shocked, the lay out was marvellous… I want to give them another star.’

‘I thought that Whitebrook was curious and posh and I loved the posh bathrooms with carpet…’

‘When I got there I was shocked because I didn’t know it was going to be so posh and beautiful…The best forager named Henry Ashby collected all sorts of plants for us they were all very interesting but there was one plant was truly amazing. It was a hedgehog mushroom… I have never seen anything like it.’

‘I can’t belive they done all that work for us. The bathrooms were so posh I couldn’t believe my eyes and they even had seats to do your hair and other stuff…’

‘The starter was a pumpkin custard. It reminded me of mustard, but I liked the chorizo…’

‘The hand-dived scallop made me feel uncomfortable a little bit but I enjoyed it very much…’

Hand Dived Scallop - The Whitebrook

‘The courses were Roast Jerusalem Artichoke; they were strong and tasty. Then there was hand-dived scallop that was good. There was a pigeon lollipop after that mmmmmm it was so tasty and warm…’

Pigeon Lollipop - The Whitebrook

‘I thought it was a chocolate lollipop shaped like a pigeon. But no it was meat on a stick. I wasn’t so fussed on that… but oh this was the world’s best fish I’ve tasted even though my Mam do make nice fish I thought Chris Harrod’s fish was better…”

‘The trip was a rollercoaster ride, the food had pros and cons…the poached  pear was full of flavour but the texture was a little bit slimy for my liking… The pine crumble was a let down for me, it tasted a bit overwhelming and left a lingering taste. I wish it was a little bit less pine taste…’

Pear Meiringue - The Whitebrook

‘When I got to the afters it felt like I was dreaming but it was the meiringue, looked like Santa’s sleigh’

‘When I was there I felt like I was in a dream. It was a gloomy day but when I stepped inside I felt the sun had burst through… the waiters were very very kind and made me feel welcome… The Whitebrook is a small restaurant but really posh, magnificent, divine place with really good food and really good quality. I wouldn’t go there every day but I would go there once or twice every year.’

‘Coming here is like a dream come true. It is hidden in a forest filled with secrecy. On the way you will come through the twists and turns. The walls are covered with moss. It is truly a sight to see. The place is wrapped in a bed of nature. It is a lovely place to be.’

‘Chris Harrod the chef who made all this had 27 years of experience and that’s how he has made good food. At the end we went back to school with happy faces because it was so much fun’

A wyddoch chi beth oedd y peth gorau i ddod o’r diwrnod anhygoel hwn? Pan ddychwelais i’r ysgol drannoeth, i oruchwylio gwaith sgrifennu yr holl adolygiadau, fe brofais i olygfa na ddigwyliais i weld o gwbl, wedi holl hwyl y gemau, blasu a gweithgareddau.

Welwch chi’r ddelwedd ganlynol o’r disgyblion yn sgrifennu’n ddiwyd, ar y cyd â’r athrawes, Mrs Rachel Jones?

Dyna a fu am bron i  ddwyawr gron, gyda phawb â’u nodiadau o’r diwrnod o’u blaenau yn ysu i dywallt eu diwrnod bythgofiadwy ar dudalen. Fe ddarllenoch chi eisoes ddetholiad bychan o’r dyfyniadau hynny, ac rwy’n trysori’r adolygiadau hirfaith, sy’n adrodd ‘straeon’ eu gwibdaith gastronomaidd, mewn ffordd unigryw, creadigol a phersonol.

Peidiwch â gadael i neb ddweud wrthoch chi nad yw plant bach yn fodlon mentro, ac arbrofi gyda bwyd, na chwaith yn deall trosiadau a chymariaethau ysbrydoledig o oedran mor gynnar. Fe welais i â’m llygaid fy hun sut y deffrowyd dychymyg pawb gyda prosiect o’r fath, a’r wefr a brofwyd gan bob unigolyn. O’r disgyblion a’r athrawon, ymarferydd yoga, fforwyr a chogydd Michelin – heb sôn am awdur a beirniad bwytai fel fi, sy’n dal i arnofio ar gwmwl o ddedwyddwch! Dwi’n eithriadol o falch o’r prosiect gwefreiddiol hwn, ac yn diolch i bawb am y cyfle i wireddu fy weledigaeth.

O.N. Dyw’r stori ddim yn gorffen gyda’r prosiect hwn, gyda llaw… edrychwch allan am adroddiad arall fydd yn adrodd rhagor o fy anturiaethau gyda chynllun Ysgolion Creadigol Cymru, i ymddangos ar y blog hwn yn fuan iawn!

Diolch i rieni plant Ysgol Gynradd Coed y Garn am ganiatad i gyhoeddi’r lluniau hyn. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ynglyn â chynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Bwyd, Ysgolion Creadigol Arweiniol. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

  1. Dywedodd Huw :

    GWYCH!

    Wedi mwynhau darllen hwn yn fawr iawn, a chware teg i’r holl blant am eu hymdrechion.

    A wyt yn amau yr oedd pob plentyn yn hollol agored gyda’u hatebion e.e. i guddio diffyg bwyd a thlodi?

    • Dywedodd lowrihafcooke :

      Diolch i ti Huw, hoffwn wedi sgwennu llawer mwy a rhannu mwy o ymatebion y plant, ond blogbost ydy hwn, felly di trio cadw’r cyfnod yn ‘gryno’. I fod yn onest, roedd y plant mor ifanc, a’r athrawon yn adnabod pob un – a’u teuluoedd nhw – cystal, nes nad oedd modd celu llawer o wirioneddau, ac roedd yr ysgol – a’r athrawon ardderchog – ‘on top’ o bob dim, ar y cyfan. Tipyn o dlodi economaidd, ond nid o ran agwedd a gwerthoedd, a nifer annisgwyl (o’m rhan i a fy rhagdybiaethau) o deuluoedd ‘dosbarth canol/ canol uwch’; Blaina o fewn cyrraedd i Fryste/ Casnewydd / Caerdydd a’r Fenni, a gwreiddiau dwfn, yn rhesymau da i deuluoedd aros. Gadewodd yr atebion i gyd, bob tro – o bob haen cymdeithas – â minnau’n geg-agored, yn ‘bositif’ a ‘negatif’. Ac eto, dwi’n pwysleisio, do’n i ddim yna i farnu, jyst trio annog pob un ohonynt i gloddio i’w profiadau a’u hargraffiadau eu hunain. Felly fe wnes i ddysgu cymaint gan y plant ag y gwnaethon nhw ‘ddysgu’ gen i. Profiad anhygoel ym mhob ystyr.

  2. Hysbysiad: Perlau Penarth: Ysgolion Creadigol Arweiniol | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s