Perlau Penarth: Ysgolion Creadigol Arweiniol

Yn dilyn profiad bythgofiadwy yn arwain prosiect o fri  yn 2017 yn Ysgol Coed y Garn, Blaenau Gwent, rhaid cyfaddef i mi ofni na chawn i eto gyfle tebyg- ac na fydde modd rhagori ar brosiect o’r fath.

Wel, coeliwch neu beidio, ond daeth ebost arall i’m byd tra ar ganol y prosiect hwnnw, yn hysbysebu rol ddelfrydol arall…

Roedd Ysgol Stanwell, Penarth yn dymuno gweld sut allai prosiect ddigidol helpu criw o ddisgyblion ail-iaith ym Mlwyddyn 8 i gynyddu eu hyder a balchder yn yr yr iaith Cymraeg. Eu bwriad oedd datblygu ap teithio rhyngweithiol yn yr iaith Gymraeg, i helpu eraill i ddysgu’r iaith mewn ffordd hygyrch a hwyliog dros ben. Roeddent felly am apwyntio un ymarferydd ag arbenigedd wrth gynllunio’r ap, ac ymarferydd arall gyda sgiliau penodol; awdur a sgwennwr Cymraeg â phrofiad helaeth o flogio am deithio, yn lleol ac yn rhyngwladol.

Helooo?!! Weithiau, mewn bywyd, mae ambell gyfle yn syrthio i’ch côl, a lluniais gais, yn seiliedig ar gynllun am ap teithio i am Benarth. Fast forward i’r cyfweliad gyda phum disgybl 12 oed, oedd yn llawn cwestiynau, a diddordebau amrywiol. Gan i mi droi’r cwestiynau arnyn nhw erbyn diwedd y cyfweliad, darganfuais fod gan y 5 oedolyn ifanc angerddau amrywiol o fewn eu milltir sgwâr; cerddoriaeth oedd maes un, chwaraeon (a rygbi yn benodol) oedd diddordeb yr ail; hwylio a gwirfyddoli a bâd achub Penarth oedd dileit y trydydd. Roedd y pedwerydd yn dotio at gelf, a’r pumed yn caru bwyd a  choginio. Wel myn yffach i, roedd cynnwys yr ap gyda ni yno yn y fan a’r lle!

Ciniawa ym mwyty Y Dosbarth oeddwn i drannoeth yng nghwmni Beti George ar gyfer adolygiad ar gyfer Y Dinesydd, pan ges i alwad gan y disgyblion, yn cyhoeddi eu bod nhw am fy apwyntio i i’r prosiect! Sôn am alwad i’w sawru, mewn cwmni da – ac enw addas iawn i’r achlysur ar fwyty! A dyma ddechrau ar brosiect arloesol arall ar droad 2017…

Fe soniais i ychydig yn y blogbost blaenorol am athroniaeth cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol. Y bwriad yw cynyddu cyrhaeddiad disgyblion ysgolion o Fôn i Fynwy, wrth gyflwyno creadigrwydd i fyd addysg ledled Cymru. Mae pob ymarferydd yn derbyn hyfforddiant dwys mewn athrawiaethau y gellid eu hymarfer ar hyd y daith. Un o’r pethau ffeindiodd fy sinig mewnol i’n ofnadwy o ryfedd oedd y pwyslais ar chwarae gemau, ond wrth roi’r ymarferion hyn ar waith, dwi wedi gweld canlyniadau.

Rhwng sgwennu dau deithlyfr,  Canllaw Bach Caerdydd a Caffis Cymru, a chyhoeddi blogbostiau niferus am fy nheithiau rhynwgladol, roedd gen i syniad go lew ynglyn â sut i annog y disgyblion fynd ati i gasglu gwybodaeth am eu milltir sgwâr, a chreu ‘cynnwys’ fyddai o ddiddordeb i eraill. Ond fel daearyddwraig Gymraeg , gwyddwn fod angen cloddio trwy haenau dwys o ymwybyddiaeth yn is-ymwybod y cywion awduron hyn. Rhaid oedd deffro unrhyw deimlad neu angerdd am dref eu magwraeth, yn ogystal â’r iaith Gymraeg, i gael unrhyw obaith o ennyn cynnwrf ynddynt i wneud hyn oll trwy gyfrwng eu ‘hail iaith’.

Penderfynais gychwyn y sesiwn gyntaf gyda chyfres o weithgareddau llawn hwyl, ond a fyddai’n datgelu llawer o wybodaeth am agweddau’r disgyblion hyn at yr iaith Gymraeg, i mi gael asesu sut i gynllunio’r prosiect. Efallai mai’r gêm fwyaf gwerthfawr i mi, er yn hollol ffwrdd ô hi, yw’r ornesorffwyll wallgo’ ‘peli eira’.

Holais gwestiynau niferus- un ar bob darn o bapur – i gyd yn ymwneud â’u gwybodaeth am dre Penarth, a’u hymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg,-  cyn eu sgrwnsio nhw i fyny drachefn. Erbyn i mi gyrraedd yr ysgol ar y bore cyntaf roedd gen i bentwr sylweddol o beli cwestiynau (cymysgedd o rai digon ‘arwynebol’ , eraill yn annisgwyl o ‘ddwys’ – ond i gyd, yn eu ffyrdd eu hunain, yn rhannu gwybodaeth gwerthfawr), y’i teflais i’r awyr i’r disgyblion gael eu hateb ar fyrder, er mwyn gallu taflu rhagor o gwestiynau – ac atebion cynyddol – at ei gilydd.

Ymysg y cwestiynau hyn; ‘enwch berson adnabyddus o Benarth’, ‘ble mae eich hoff barc lleol i gerdded eich ci?’; ‘beth yw enw eich stryd?’; ‘i ba le ewch chi â’ch Mamgu am baned a chacen?’; ‘ble mae’r olygfa orau ym Mhenarth/’; ‘enwch arwr Cymreig’; ‘ beth yw eich hoff gyfrwng cymdeithasol?’; ‘beth yw eich hoff air Cymraeg?’; ‘lle yw’r lle gorau i ddathlu Sul y Tadau yn lleol?’; ‘beth yw enw eich hoff dîm chwaraeon lleol?’; ‘sut fyddwch chi’n teimlo pan glywch chi’r Gymraeg yn cael ei siarad ym Mhenarth?’ Ac yn y blaen… ac yn y blaen… storom eira o gwestiynau felly i’w hateb ar fyrder, heb oedi gormod i ystyried yn rhy ddwys…

Coeliwch chi fi, roedd yr atebion i gyd o help mawr, ac yn sylfaenol, yn ddadlennol tu hwnt.

Roedd gan bawb eu hoff gaffi a bwyty…ac  os oes diddordeb, siop Greggs oedd y ffefryn gyda’r bechgyn, sydd i’w ddisgwyl gan bobol ifanc! Ond i un fel fi sydd ar dân i gefnogi cwmniau anibynnol, ro’n i’n falch i weld fod ganmol mawr i siop sgod a sglods Plassey Steet! Ac roedd na ddigon o ymwybyddiaeth o leoliadau nodedig i fynd â’r ci am dro. Roedd Craig Bellamy yn un arwr lleol, a Prezzo neu Bar 44 yn taro tant â theuluoedd nifer… felly beth am yr iaith Gymraeg?

Wel dyma sut y profias deimladau go iawn y disgyblion disglair hyn mewn ymateb i’r cwestiwn allweddol ‘Sut ydych chi’n teimlo pan glywch chi’r iaith Gymraeg ar y stryd ym Mhenarth?’ Dyma ddetholiad…

‘Proud – it’s the language of Wales’

‘Intrigued – I wish I understood more words’

‘Ashamed that I don’t understand’

‘Annoyed – why don’t they just speak English like everybody else?’

‘Irritated – it just sounds like gibberish’

‘Strange’

Eto, fel ag ym Mlaenau Gwent, doedd dim diddordeb gen i mewn barnu’r disgyblion hyn; dyma onestrwydd, a didwylledd pobol ifanc, mewn du a gwyn. Roedd nifer helaeth o’r plant hyfryd, deallus a chwilfrydig hyn – ond nid pawb, yn amlwg – yn teimlo dieithrwch (a gwaeth na hynny) o’r iaith Gymraeg, er iddo fod yn rhan (fechan) o’u haddysg ers yn ddisgyblion ysgol gynradd. Doedd nifer ddim yn gweld mai eu hiaith ‘nhw’ oedd yr iaith Gymraeg, a soniodd nifer nad oedden nhw byth yn clywed yr iaith ym Mhenarth.

Felly dyma, i mi oedd sylfaen fy her – ceisio’u darbwyllo, fod yr iaith yn perthyn iddyn nhw, gymaint ag y mae o’n perthyn i mi. Felly, rhaid oedd mynd ati i gynllunio siwrne wahanol i’r ap teithio arferol.

Dwi’n pwysleisio, fel yn achos y prosiect blaenorol, Sêr Michelin Blaenau Gwent, y datblygodd pob cam o’r cynllun hwn yn organig, wrth estyn allan i bobol eraill, ac anelu am y sêr wrth fod mor uchelgeisiol â phosib, i geisio cynnig profiad gwerthfawr, a hollol unigryw, yn seiliedig ar anghenion penodol y disgyblion dan sylw. Ac os ydw i’n hollol onest, ro’n i’n ysu i gynnig profiad oedd hyn yn oed yn fwy gwefreiddiol na phenllanw fy mhrosiect diwethaf!

Arweiniais daith gerdded o amgylch Penarth, i ddenu’r disgyblion o’r stafell ddosbarth, iddynt gael gweld, ac arogli, a gwrando ar y dre o’r newydd, gan orffen ag ymweliad â chaffi Foxy’s Deli, Siân Fox, sy’n ganolbwynt i gymuned Gymraeg Penarth. Ymysg y cwsmeriaid y mae trigolion lleol, gan gynnwys Bryn Terfel, ac roedd yn lle gwych i herio’r plant i archebu diod a chacen yn yr iaith Gymraeg, mewn awyrgylch hamddenol  lle mae’r Gymraeg i’w chlywed, ac i’w weld yn glir ar gynnyrch y silffoedd. Cawsom hefyd sawl sgwrs ar hap gydag ambell gwsmer lleol Cymraeg, gan gynnwys un oedd yn gwisgo hoodie Cowbois hynod atyniadol!

Nid yn unig yr oedd yn gyfle iddynt ymarfer holi rheolwr lleol am wybodaeth hanfodol ar gyfer yr ap am eu busnes,  ond hefyd roedd hwn yn gyfle i weld – a chlywed – caffi cyfarwydd o berspectif newydd. Roedd y rhan fwyaf o’r plant lleol wedi bod i Foxy’s droeon, ond erioed wedi ystyried, neu ‘diwnio fewn’ i’r elfennau Cymraeg.

Dros yr wythnosau nesaf, aethom ar sawl daith gyffelyb i rannau amrywiol o’r dref, i archwilio elfennau hanesyddol, crefyddol a morwrol, ac atyniadau amlwg fyddai angen cynnwys yn yr ap. Ar yr holl deithiau hyn, ces gyfle i siarad â phawb, ac i’w holi pa lefydd oedd yn eu cyffroi nhw am eu milltir sgwâr, ond hefyd i gael dod i ddeall beth oedd eu diddordebau nhw.

Roedd un ferch wrth ei bodd fod ei mam wedi archebu tocyn iddi hi weld Hamilton yn y West End yn Llundain ymhen 18 mis… ond yn dotio cymaint at fynychu perfformiad theatrig yn y Pagent Rooms lleol. Roedd bachgen yn cefnogi’r tim rygbi lleol, Old Penarthians,  ac yn ymarfer rygbi gyda nhw yn gyson ar ôl oriau ysgol. Roedd pawb bron a bod ar snapchat, ac yn gwylio fideos youtube– nid rhaglenni teledu – yn eu hamser sbâr. Roedd eu harwyr yn flogwyr you tube;  yn bendant nid ‘b-list celebs’ o TOWIE, ond nid enwau o Gymru chwaith…

Dyma feddwl wedyn, pwy alla i gyflwyno i’r disgyblion sy’n wreiddiol o Benarth, sy’n siarad ac arddel a dathlu’r Gymraeg… ac sy’n arwr cenedlaethol yn ei f/maes ei hun? Wel dim ond un enw neidiodd yn syth i fy meddwl i… ond tybed fydde fe’n addas ar gyfer y plant?

Ddo i ‘nol at hynny, yn y man, oherwydd arweiniodd cwestiwn arall at brofiad ysbrydoledig. Tra’n stwna dros syniadau am y prosiect hwn, ges i baned gyda ffrind. Yn dilyn sesiwn bâtcamp awyr iach ym Mharc y Rhath, roedd fy mhen yn chwildroi am y prosiect; ro’n i wir am gynnig profiad arbennig i’r bobol ifanc hyn. Pan grybwyllais fod gen i brosiect diwyllianol ar y gweill yn nhre Penarth, soniodd fy ffrind iddi fwynhau taith gerdded Saunders Lewis yno rai misoedd ynghynt. Rhyfeddais i glywed fod y fath beth yn bod, ac i griw bach gerdded o gartref yr awdur, dramodydd, a sefydlydd Plaid Cymru ar Westbourne Road i’w fedd nid nepell i ffwrdd ym Mynwent Gatholig Penarth. Cysylltais i’n syth â’r trefnydd lleol, Ruth, oedd wedi dysgu’r Gymraeg, ac ro’n i’n gegrwth i ddeall mai dyna’r unig daith gerdded Saunders Lewis a fu erioed.

Afraid dweud, ymgorfforwyd taith gerdded gyffelyb ar gyfer disgyblion Ysgol Stanwell, gan gynnwys elfennau personol tu hwnt! Cychwynnwyd ein taith o’r ysgol ei hun, lle fu Saunders yn athro am gyfnod, ymlaen i Stryd Bedwas, lleoliad cyfarfod cyntaf Plaid Cymru erioed, trwy gyd-ddigwyddiad oedd drws nesaf i gartref un o ddisgyblion mwyaf disglair y criw ifanc – bachgen a aned yn Lloegr ond a oedd yn prysur ddatblygu’n angerddol dros yr iaith Gymraeg.

O’r fan honno, ymlwybrom draw i Westbourne Road – heibio’r holl strydoedd a enwyd ar ôl beirdd Lloegr, fel Wordsworth Avenue, Tennyson Road, Shakespreare Avenue a Milton Road  – ond dim un i goffhau bardd lleol o Gymru.

Cawsom groeso yng nghartref Saunders Lewis ei hun – Bryn y Môr – gan y preswylydd Granville John, sydd yn rhentu ystafell ar Air BnB, ac sydd wedi cynnal cymeriad y cartef, a stydi Saunders ei hun.  Mae ganddo yntau lwyth o  wybodaeth, a chyfrolau gan yr awdur, dramodydd a bardd i ymwelwyr sy’n chwilfrydig amdano, ac mae’r olygfa o ‘Goeden Eirin’ yr ardd gefn  – a anfarwolwyd gan Saunders mewn cerdd – yn werth y mynediad ynddo’i hun. Cawsom fynd am dro rownd yr ardd, ac ymlaen o’r fan honno i fynwent Gatholig Penarth. Yno y saif llechen syml i gofebu Saunders Lewis, un o arwyr mwya’r iaith Gymraeg. Roedd y plant wedi’u syfrdanu fod cymeriad mor arwrol wedi byw yn eu tref glan môr eu hunain.

Cafodd Ruth hefyd gyfle i rannu’i phrofiadau â nhw fel un a aeth ati fel oedolyn i ddysgu’r iaith. Cafodd ei geni a’i magu yn Aberdar, a chyfle i fwynhau eisteddfota’n lleol o oedran gynnar. Ond chafodd hi erioed y cyfle i ddysgu’r iaith, tan iddi gyrraedd canol ei 30au. Eglurodd, yn syml, yr effaith ar ei bywyd hi; ‘where my whole life was once in mono, I now hear everything in stereo, and where before I used to see the world in black and white, I can now see all sorts of colours.’

Yn ystod y prynhawn, wedi hynny, es i i fwy o fanylder am frwydr yr iaith; aeth y disgyblion ati o’u gwirfodd i ymchwilio i’r hanes eu hunain, a teg yw dweud y bu i fideo ar youtube o foddi Capel Celyn greu argraff enfawr ar nifer fawr.

Cymeriad arall a gyflwynais i’r disgyblion oedd yr artist lleol a thrysor cenedlaethol Ifor Davies;  dwi ddim yn meddwl mod i’n adnabod dyn iachach yn ei 80au, sydd â gweledigaeth mwy ddireidus, ac afieithus am yr iaith Gymraeg.  Roedd Ifor newydd orffen arddangos Ffrwydriad Tawelretrospective o’i yrfa gelf gyfan fel artist rhwngwladol, yn orielau celf cyfoes Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; efe yw’r artist cyntaf erioed i gael y fraint o arddangosfa o’r fath. Mae ei weithiau heriol ac arbrofol ers  1960au yn ymdrin â hunaniaeth Gymraeg. A phan gerddais i fewn i’w stiwdio gudd yn un o lonydd cefn Penarth, fe’m syfrdanais gan ddarlun anferthol oedd cyfleu i’r dim y parch oedd ganddo at arwyr mwyaf Cymreig yr 20fed Ganrif.

Ond roedd mwy na Lewis Valentine, Saunders Lewis a D.J. Williams-‘Triawd Penyberth’ – yn llechu’n gyfrin mewn stryd gefn ym Mhenarth; roedd darnau eang am Lyn Tryweryn, Mynydd Epynt a cherdd Cofio Waldo Williams, ynghyd â chomiswn newydd sbon ar ei hanner am William Williams Pantycelyn, i gydfynd â’i dri chanmlwyddiant eleni, ar gyfer y Llyfrgell Gen.

Yn fwy na dim, pan gyflwynais ef i’r plant, yr hyn yr oedd gan Ifor i rannu â’r disgyblion oedd hwyl di-ben-draw; fel un a fagwyd ym Mhenarth, ac a aeth yn ddisgybl i Ysgol Stanwell cyn teithio’r byd fel ffigwr o bwys rhyngwladol, fe groesawodd ef y plant i’w fyd creadigol ei hun, a Penarth ei deulu, a fu’n hafan Gymraeg ers cenedlaethau.

Neshau wrth gwrs wnaeth yr amser i ni gyhoeddi yr ap, ond roedd cyfle am un profiad olaf arallfydol. Fel yn achos y prosiect diwethaf, Sêr Michelin Blaenau Gwent,  fe wyddwn yn iawn y gallai profiad cyffelyb roi gwefr, a chynnig her feirniadol i’r cywion awduron hyn.

Nawr er nad yw James Sommerin yn medru’r Gymraeg, mae ei fwyty Michelin lleol yn bendant wedi rhoi cynnyrch lleol Penarth – a Chymru – ar y map gastronomaidd, ac am y rheswm hynny, yn fy marn i, mae e’n arwr cenedlaethol. A byddai’n gyfle go iawn i gomisynu adolygiadau diddorol yn y Gymraeg gan arddegwyr anodd iawn i’w plesio! Bu Chef Sommerin mor garedig â chroesawu 15 i’r wledd, ac fe agorwyd y bwyty yn benodol ar eu cyfer nhw un nos Lun, a nhw yn unig.

       

Rwy’n falch iawn i ddweud y ffilmiwyd y noson  hon gan Fran Jones (a’i olygu i becyn bach 13 munud o hyd!), i chi gael blas o brofiad difyr dros ben y criw ifanc. Yn fy naifrwydd, ro’n i’n grediniol y byddai plant bach gryn dipyn anos i’w plesio nag oedolion ifanc… ddim o’r fath beth! Ond serch yr her gastronomaidd, cafwyd noson, yn wir, i gofio!

Yn y cyfamser, bu’r disgyblion i gyd yn derbyn sesiynau a’r datblygwr yr ap, Nadeeke Illeperuma o Cardiff App Developers. Chwaraewyd â syniadau, a gramadeg ap atyniadol, a gwnaethwyd yn fawr o’r syniad o rannu ‘Perlau Penarth’ ag ymwelwyr, a motif ‘pen’ yr ‘arth’ ei hun fel allwedd i’r cyfan.

Mae’r ap gyda llaw ar gael i’w lawrlwytho o iTunes, ac ynddo fe gewch chi lu o syniadau am ystod o brofiadau ym Mhenarth… o ymweld â’r pier Fictorianaidd, i siop sglodion Plassey Street, hanes Saunders Lewis… ac, ie, hyd yn oed adolygiad o siop Greggs! Roedden ni’n hapus i gynnwys unrhywbeth yr oedd y disgyblion ar dân i sgwennu amdanynt trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Ac fe hoffwn i ddiolch yn arbennig i’r athrawes Gymraeg ysbrydoledig Judith Lock a’r dirprwy gwych Rebecca Connor; dwy weithwraig di-flino oedd ar dân am y prosiect hwn,  oedd yn bleser i gydweithio â nhw.

Yr ap, yn amlwg oedd penllanw’r prosiect hwn, ond llwyddais i greu un storom olaf o beli eira; roedd ‘how do you feel when you hear the Welsh language being spoken in Penarth?’ unwaith eto ymysg y cwestiynau adlewyrchol olaf, a  atebwyd, unwaith eto, yn ddidwyll ac ar fyrder, heb roi cyfle i’r disgyblion feddwl rhyw lawer am baratoi rhyw ateb ‘parchus’, a gwleidyddol gywir i blesio’r ‘bigwigs’. Afraid dweud, ro’n i dan deimlad yn darllen yr ymatebion hollol wahanol y tro ma.

Allai ddim pwysleisio cymaint o newid a fu yn  agwedd y disgyblion at yr iaith mewn cwta dri mis. O’m rhan i, wrth adlewyrchu, profais ddefroad, a gwelais newid yn agweddau nifer o’r disgyblion tuag at yr iaith Gymraeg. Gwelais nifer yn dangos dulliau anibynnol o feddwl wrth fynd at i archwilio syniadau a hanesion yn eu hamser eu hunain. Wrth roi cyfle iddyn nhw ddilyn eu diddordebau eu hunain, gwelais hefyd fwynhad, a mwy o ddiddordeb yn eu milltir sgwâr.

Dyma bobol ifanc sydd byth a hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol, sy’n ‘gaeth’ i youtube a snapchat – i enwi ond dau – erbyn hyn. Ond gwelais hefyd bobol ifanc deallus, aeddfed, chwilfrydig, sydd yn ysu i gael eu herio a’u sbarduno i feddwl yn wahanol, ac roedd yn bleser i weld eu hagweddau yn newid o weld y Gymraeg yn iaith y dosbarth yn unig, i iaith fyw, sy’n ffynnu, ac yn bodoli yn eu byd go-iawn.

Gwelais hefyd, ymysg y disgyblion, yr awydd i berchnogi eu hunainiaeth Gymreig – hyd yn oed gan sawl un a aned yn Lloegr a Gwlad Pwyl. Rwy’n eithriadol o’r falch o’r prosiect ffantastig hwn, ac yn diolch yn fawr iawn am y cyfle i fod yn rhan ohono.

Cliciwch yma i ddeall rhagor am gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol Llywodraeth Cymru ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru.

O.N. Gyda llaw, dyma flas i chi o’r prosiect diweddaraf yr wyf yn gweithio arno gydag Ysgol Gynradd Ton yr Ywen, y Mynydd Bychan  yn ardal Y Waun, Caerdydd. Prosiect ydy hwn i atgyfodi nifer o arwyr a dihirod hanesyddol Caerdydd, ac ardal Y Waun yn fwyaf penodol, a aeth i ddifancoll dros y blynyddoedd, a’u dathlu nhw i gyd wrth gael ein hysbrydoli gan straeon gwerin ledled Cymru. Yn eu plith y mae Cati Goch a Ladi Lwyd, ynghyd ag enwau mwy cyfarwydd fel Gelert, Gwylliaid Cochion Mawddwy a Blodeuwedd!

Arweiniodd y prosiect hwn yn ogystal at gomisiwn i ymuno â phrosiect arall yn 2018 yn Ysgol Gymunedol Trimsaran – edrych ymlaen!

Os hoffech chi gysylltu â mi ynglyn â chomisiwn arbennig i’ch ysgol chi, cysylltwch â mi yn uniongyrchol ar yr ebost;  lowri.cooke@live.co.uk

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ysgolion Creadigol Arweiniol. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s