Adolygiad Theatr: Y Tad (Theatr Genedlaethol Cymru)

Dwi di drysu’n lân ers gweld Y Tad – drama newydd y Theatr Genedlaethol. Dementia yw’r thema;  gosodir y gwyliwr yn sgidie’r claf, gan arwain at  brofiad ymdrochol  dros ben. Ceir colli tymer, amynedd, adnabod a chartref , hunaniaeth ac – yn y diwedd –  y plot. Wrth neidio ’nol a mlaen, collir synnwyr o amser, gan adael y gwyliwr hefyd yn teimlo ar goll.

Ar lefel empathetig, mae’n ddrama gaboledig, wrth i ni uniaethu’n llwyr ag Arwyn (Dyfan Roberts), y claf. Yn ŵr gweddw a chyn-beirianydd, mae e hefyd yn dad, i Ann (Catrin Mara), sy’n mynd adre yn gyson i’w weld. Mae ganddi hithau hefyd ei bywyd, ac mae’n ddibynnol ar gynorthwy-wyr  am help i ofalu am ei thad. Ond mae Arwyn yn gyndyn  o drosglwyddo  hualau ei fywyd, i eraill, yn ei gartref ei hun. Wedi’r cyfan, mae ganddo’i allu, ei falchder a’i drefn, a’i oriawr… sydd wastad ar goll.

Wedi’n denu gan stori gyfarwydd,  llawn cecru cysurus, fe’n hanesmwythir ni gan gyfres o ‘jump cuts’.  Cyflwynir y stori mewn dull episodig;  aiff pob pennod â ni ar gyfeiliorn llwyr. Diffoddir y golau, cyn ei droi ’nol ymlaen, ond ceir fflicio parhaol gerllaw. Wrth i’r gorffennol, presennol  a’r dyfodol doddi’un, fe deithiwn mewn cylchoedd di-ri. Cawn ninnau, fel Arwyn, ein taro oddi ar ein hechel, a’n gosod mewn darlun M.C. Escher. Pwy yw’r dyn/ion dieithr yn ei gartref sydd wastad mor gas (Dafydd Emyr / Rhodri Sion), ble mae Helen, chwaer Ann – a pham fod angen symud y dodrefn rownd rîl? Ceir newid gwynebau, ac enwau, a lleoliadau, nes gyrru dyn yn honco bost. Mae’n teimlo fel gêm, ond heb ronnyn o hwyl,  wrth geisio datrys y dirgelwch hwn. Ceir digonedd o chwerthin – pa ffordd arall i ddelio â hyn? – ond does dim eiliad o ryddhad.  Cynyddu wna’r drwgdeimlad, a’r huna-amheuaeth, a’r paranoia cynyddol am bawb. Arweinia’r ‘gas-lightio’ creulon  at  ddagrau anochel, a sylweddoliad;  mae Arwyn druan – a ninnau – ar goll.

Cyfieithiad yw’r gwaith o ddrama Ffrengig  Le Père a hawliodd wobr Molière (am y ddrama orau) yn 2014. Perfformiwyd drama Florian Zeller  ledled y byd, wedi i Christopher Hampton ei drosi i’r Saesneg. Geraint Lovgreen sy’n gyfrifol am y cyfieithiad Cymraeg, ac yn wir, mae’r addasiad yn gweithio’n wych. Symudwyd y stori o Baris i Fangor, ac mae’r dafodiaith naturiol, a’r hiwmor hollbresennol yn taro deg.  Mae’r sgipt yn rhodd i actorion o fri, a dyma ensemble cryfaf  y Theatr Gen ers amser maith. Dyfan Roberts sy’n torri’ch calon, ond Catrin Mara sy’n chwalu’ch pen, mewn rhan ganolog sydd yn gymhleth dros ben. Rhaid iddi ddenu’n cydymdeimlad – yn llwyddiannus iawn, gyda llaw-  cyn ein dieithrio ni gyd drachefn.  Yn y bôn, perspectif unigryw Arwyn y claf yw’r ddrama hon; a serch pŵer y perfformiadau, teimlais drueni braidd fod lleisiau eraill y clefyd ar goll.

Does dim bai ar y cyfarwyddo – mae Arwel Gruffydd yn gafael yn gadarn mewn sgript cyfrwys tu hwnt,  sy’n mynnu  disodli o’r dechrau. Ac mae’r dechrau yn ein denu,  yn enwedig yr Ann ‘dauwynebog’, a bortreadir hefyd gan Fflur Medi Owen.  Ond gweithio ar un lefel mae’r testun  yn y bôn – dilyn dirywiad, nid y dirgelion, a wnawn.  Cyflwynir sefyllfa dor-calonnus, ond cymharol ‘ffodus’ – does dim trafferthion cael gofalwyr di-ri. Mae gofal Arwyn yn ddi-fai (chwareir y nyrs gan Mirain Fflur), yn wir, bron y tu hwnt i anghredinedd… ac efallai mai dyna paham mod i’n teimlo fod ambell elfen arall ar goll.

Rwy’n  amau na ddeallais y  diweddglo o gwbl; ai cynnwys pen Arwyn oedd y cyfan?  Ai ei feddwl yn unig oedd yn chwarae triciau arno ef – a ninnau hefyd, y gwylwyr, drachefn? Bum yn trafod yn hir wedi’r ddrama hon, a do’n i dal ddim yn glir yn fy mhen. Ond dyna mae’n debyg yw pwrpas y ddrama hon;  gadael y gwyliwr yr un mor dryslyd a’r dioddefwr, ac yn teimlo ar goll.

Gyda drama Perthyn / Belonging, cyflwynwyd dehongliad aml-haenog, o straeon pawb – y nyrsys, teulu, a’r claf – gan gloddio’n ddyfnach i drasiedi torfol Dementia. Yn dilyn ei llwyddiant aruthrol yng Ngwobrau Theatr Cymru 2017, bydd y ddrama honno yn dychwelyd i lwyfannau Cymru o fis Ebrill ymlaen. A yn ddiddorol hefyd cymharu Y Tad â chynhyrchiad arall sy’n teithio Cymru ar hyn o bryd; Ŵy, Chips a Nain gan Theatr Frân Wen.

Gwn o brofiad fy nheulu pa mor gymhleth yw pob peth sy’n gor-gyffwrdd â’r clefyd ciaidd hwn. Ond galla i hefyd werthfawrogi fod hwn yn un stori, o gynnwys ymennydd un dyn, ac un teulu. Mae’n gynhyrchiad cyhyrog, a safon yn perthyn i bob haen, o’r gerddoriaeth i’r cynllun set cyfoes. Mae’n ddrama, fel y clefyd, sy’n gwrth-ddweud ei hun yn gyson; ar y naill llaw’n bersonol, yna yn eich dieithrio chi’n llwyr. Pa ryfedd felly mod i’n teimlo ar goll?

Mae drama Y Tad (Theatr Genedlaethol Cymru) yn parhau ar daith ledled Cymru tan yr 16eg O Fawrth, 2018. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

w

Connecting to %s