Adolygiad Theatr: Undod (Canolfan Berfformio Cymru)

C3D91FA9-EEB9-4420-9FBA-2DF5FBFB1E02

Pe bai’n bosib i ddrama lwyfan fynd yn ‘viral’ ar amrantiad, byddai Undod yn siwr o brofi llwyddiant mawr. Mae’n ddrama wreiddiol Gymraeg sy’n gafael â’r gwyliwr gerfydd y gwâr, wrth gyfathrebu neges glir, amserol iawn. Gair o gyngor, felly, i ysgolion ac athrawon drama ledled Cymru; dyma’r cynhyrchiad i chi ar gyfer 2018/19 ar blât.

Mae’n biti felly i mi brofi sgript garlamus Branwen Davies mewn gofod anaddas sy’n dioddef o cryn broblemau sain. Golygai hynny na allwn ddeall swmp helaeth y drafodaeth, sy’n anffodus a dweud y lleiaf, ar gyfer ‘premiere’ o’r fath. Rwy’n cofio nodi adwaith debyg am ofod canolfan The Gate yn dilyn cynhyrchiad Deffro’r Gwanwyn  y llynedd. Mae acwsteg  yr hen gapel dinesig yn grêt i gig neu ganu angerddol, ond rwy’n ofni i Undod brofi’n ormod o her.

Perfformiwyd y ddrama gan fyfyrwyr BA Perfformio, Canolfan Berfformio Cymru (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant), a serch y problemau, dangoswyd addewid gan nifer o aelodau o’r cast. Cyfarwyddwyd y cyfan gan Buddug Elen Bowman â chyffyrddiadau wnaeth weddu i’r gofod, serch y sain.  Comisiynwyd y darn gan y Ganolfan, yn seiliedg ar hanes go iawn; cynhaliwyd arbrawf addysgiadol ym 1967 i gyflwyno’r cysyniad o ffasgaeth i blant.

73377928-EB37-4E71-B6A7-4E7E5FC2E10F

Yn Undod cawn groeso i ddosbarth o ddisgyblion anystywallt, mewn ysgol Gymraeg sy’n dioddef toriadau mawr. Yno i geisio arwain Blwyddyn 12 mae athrawes gyflenwi, Miss Anna Bosse (Eiry Thomas), gaiff ei brawychu gan agwedd anifeilaidd  y plant. Mae lleiafrif yn awyddus i ddysgu, ond mae’n amhosib mewn sŵ o’r fath – mae bwlio’n rhemp, y ffraeo’n ddi-baid a does dim disgyblaeth ar gyfyl y lle.

Testun gwers gyntaf Ms Boss yw ‘Awtocratiaeth’, ac fe geisia’i gorau i gael y plant i gyfrannu eu barn. Trafodir fathau gwahanol o ffasgiaeth, gan ennyn ymateb brwd – dros dro. Ond mae’r disgyblion yn gyndyn i gredu y gallai unben fel Hitler lwyddo mewn gwlad fel Cymru’n hawdd. Serch ei hymdrechion i greu rhyw fath o gonsensws, aiff y dosbarth yn llwyr ar chwâl, gyda’r cliques i gyd yn hawlio hunaniaethau gwahanol iawn.  Yna caiff Miss Bosse syniad, i geisio codi graddau pawb, gyda’r pwyslais ar ddod â’r dosbarth ynghyd. Mae’n dechrau prosiect aml-gyfrwng wahanol i’r arfer, sy’n profi llwyddiant mawr. Yn anffodus, try’r llwyddiant yn drasiedi, mewn ffordd sy’n sioc fawr i bawb.

Gwell fyddai peidio datgelu camau’r cynllun craff, sy’n profi adwaith anniswyl iawn. Digon yw dweud fod y ddrama’n un gref, a’i phrif thema’n gwbl oesol. Gwaetha’r modd, o’r cychwyn cyntaf boddwyd cymaint o eiriau gan gynnwrf  llwyfaniad ‘noson agoriadol’.  Mae’r ddrama yn gofyn am dwrw mawr i greu argraff fawr o’r cychwyn, ar gynulleidfa ddylai gydymdeimlo – yn gyntaf – â Miss Bosse. Dychmygwch seiniau ffrenetic  curiadau cyson a chadeiriau gwichlyd, a lleisiau’n torri ar draws ei gilydd yn ddi-baid. Am bron i awr a hanner, fe drawyd y gynulleidfa gan donnau anferth o sain aflafar. Ar ben hynny, roedd mynegiant y rhan fwyaf o’r perfformwyr yn rhy garlamus a chwbl aneglur.

Mae’r fath adwaith, i gychwyn, yn effeithiol iawn, ond wedi tipyn rhaid i’r ddrama (a’r gwyliwr) fedru anadlu. Gallwn i fod wedi tagu cymeriad ‘mean-girl’ Louise am ei ‘snapio’ gwm di-ddiwedd, wnaeth amharu ar fy mwynhad o berfformiad disglair yr actores â’i phortreadodd hi. Hefyd, yn achos ambell i actor – a llais hynod ddwfn, neu sgrechlyd o uchel – fe gollwyd ystyr eu geiriau’n llwyr yng nghrombil yr hen gapel. Felly ple, os gwelwch yn dda, mynegwch yn glir a hawliwch eich ‘lle’ ymysg cast hynod gref, er mwyn creu argraff dda ar y dorf. Ac mewn gofod o’r fath, mae troi eich cefn at y dorf wrth ddatgan eich darn fel cyflawni hara-kiri honco bost.

EE5F7543-1170-4B64-9571-A156766F29F3

Afraid dweud, llwyddodd yr actores Eiry Thomas i oresgyn prif broblemau’r gofod, gan ein denu ni fewn gan bortread gafaelgar o gymeriad amheus o amwys Miss Bosse. Roedd Gavin (Jacob Oakley) yn rodd o ran – bachgen annwyl ond  bregus – ac fe’i chwaraewyd â chryn sensitifrwydd gan Jacob Oakley. Roedd ef ymysg yr actorion i hawlio’i lais yn glir, gan ddenu cydymdeimlad – a dealltwriaeth lwyr – y dorf.

Ond i fod yn deg, cydweithiodd pawb yn arbennig, yn y golygfeydd mwyaf epig, fel y gêm-rygbi merched, a’r sesiwn hyfforddiant a weithiodd fel dawns gaboledig. Cynorthwy-wyd hyn oll gan gerddoriaeth trydanol, a ategodd at naws cynyddol sinistr filwrol. Heb feiddio datgelu gormod o stori sy’n werth ei sawru, cyfathrebwyd nifer o motifs ffasgaidd  yn effeithiol; o Droogs i Jack-Boots a’r Hitler Youth, doedd dim amwysedd ynglyn â hanfod y mudiad ‘Undod’. Cynyddodd y tensiwn yn raddol effeithiol  at yr olygfa derfynol; pan ddaeth y crescendo, effeithiol dros ben, ochneidiodd y dorf fel un.

Mewn cyfnod o ‘fake news’ a lluniau insta #teamgoals mae Undod yn dangos sut all haid o Gymry cyfoes gael eu hudo gan ‘Il Duce’ i’r Unfed Ganrif ar Hugain.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Theatr. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s