Cylchgrawn Barn: Bwytai’r Brifwyl – Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

D4CAC85F-ED94-4DAD-B16C-831A62D508DF.jpeg

45F7998E-E8F9-49E4-B5A4-375FBC575518

Fydd dim prinder llefydd i fwyta ynddynt i Eisteddfodwyr Caerdydd. Penderfynu ble i fynd fydd y broblem, gyda’r fath ddewis ar gael. Brodor o’r ddinas, ac awdur Canllaw Bach Caerdydd, sy’n cynnig ei detholiad personol i hwyluso’r gwaith…

Nid fy hoff le yn y byd yw Bae Caerdydd, yn enwedig  pan ddaw cyfle i wledda. ‘Mae’r lle’n llawn bwytai cadwyn’, yw fy rhesymeg arferol  i, gan ddileu Cei’r Fôr-forwyn oddi ar fy rhestr gyrchfannau’n ddi-hid. Wel, rhag fy nghywilydd am fy rhagfarn, sydd erbyn hyn yn gynyddol ddi-sail. ‘Chwiliwch a chwi a gewch’ yw’r mantra i’w gofio ddechrau mis Awst; mae na berlau cudd i’w canfod lawr y Bae.

Y rheswm am y fath sensitifrwydd yw’r hyn sy’n gyffredinol wir; mae canol Caerdydd, a rhannau o’r Bae, yn bla o ‘enwau mawr’. ‘Beth sy’n bod ar hynny?’, meddech chi. Wedi’r cyfan, onid yw presenoldeb Bill’s a Jamie’s, Carluccio’s ac ati yn adlewyrchiad o ddinas sydd ar y brig? Ond caiff bob bwrdd a archebir yn y bwytai Llundeinaidd hynny effaith andwyol ar funesau sy’n gynhenid i Gaerdydd. Yn y flwyddyn a fu, caewyd llefydd lleol di-ri – Arbennig a Chez Francis yn eu plith. Dyma apêl gen i, felly, i eisteddfodwyr ar frys: ystyriwch yn ofalus wrth gynllunio’ch wythnos o wledda yng Nghaerdydd.

Bydd hi bron yn amhosib i osgoi’r ‘enwau mawr’, yn enwedig pan glywith y plant fod cangen Nando’s gerllaw. Ond peidiwch â chuddio a chywilyddio os ewch yno – mae bron yn anochel y bydd hwylustod yn drech na’ch cydwybod.  Ymysg y gorau o’r ‘enwau mawr’ sydd i’w canfod ger Plas Roald Dahl yw brasserie ‘Ffrengig’ Côte, a leolir gyferbyn â ‘phafiliwn’ Canolfan y Mileniwm.

A sôn am Roald Dahl Plass, yno y bydd y ‘Pentref Bwyd’ eleni, lle bydd stondinwyr yn cynnig arlwy o Gymru a gweddill y byd. Onid eisteddfodwyr yw’r hipsters bwyd gwreiddiol, a hwythau wedi arfer â’r fath arlwy o fwyd-y-stryd ymhell cyn i’r Depot a’r Street Food Circus ei droi’n ffasiynol? Ymysg y stondinwyr bydd cwmni baedd rhost Hogi Hogi Hogi a hufen iâ Môn ar Lwy, ynghyd â chwmnïau adnabyddus bwyd-y-stryd; cewch flasu ‘souvlaki’ Meat and Greek, byrgers blasus The Grazing Shed, a danteithion  nefolaidd The Early Bird, sydd â chaffi a becws rhagorol yn Cathays.

Os am baned, ceir caffis ym mhobman yng Nghei’r Fôr-Forwyn, a’r enw amlycaf yw cwmni Coffi Co. Ceir dwy gangen yn y Bae, gan gynnwys yr un mewn hen gistiau cargo coch ger Porth Teigr, nid nepell o’r morglawdd a Maes B.  Ar y morglawdd, yn ogystal, y mae Caffi Hafren – unwaith eto mewn hen gistiau cargo, ond rhai oren y tro hwn – sydd hefyd yn ganolfan gwylio adar.

Yn nes at Drebiwt, a Sgwâr Mount Stuart yn benodol, ceir dau ddewis nid nepell oddi wrth ei gilydd. Mae’r te prynhawn yn boblogaidd iawn yn Sunflower and i (£21.50 y pen), tra mae Octavo’s yn gyfuniad o gaffi,  siop lyfrau a bar gwin. Ac os am flas bach ar ras, prynwch bice ar y maen sawrus o sinamon o siop Fabulous. Ond fy hoff gaffi i yw Nata & Co. a sefydlwyd yn wreiddiol yn 2012 yn Waunadda. Mae’n gyfuniad o gaffi a becws Portiwgeaidd, sy’n gwerthu tartenni cwstard nefolaidd. Prynwch goffi a ‘Nata’ am £2.50, i’ch cadw chi i fynd rhwng rhagbrofion ac ambell sesiwn yn y Babell Lên.

Am rywbeth mwy swmpus na phaned a chacen, ga i’ch cyfeirio at Bara Menyn; fe’i lleolir yn GloWorks, Porth Teigr, gamau’n unig o Far Syched ger yr Eglwys Norwyaidd.

Mae’r gangen newydd yn deillio o lwyddiant y safle yn Ffandango’s, Llandaf ar ol sefydlu’n wreiddiol yn Emporiwm y Castell. Mae  Catrin Enid o Lanarth, Ceredigion, yn gweini bwydlen gwbl Gymreig a Chymraeg, sydd ar gael o fore gwyn tan nos. Ymbaratowch am ddiwrnod cyfan o steddfota wedi paned o de Hiraeth a ‘Brecwast Cymro’, sy’n cynnwys caviar Cymreig a bom bara lawr!

Gan fod y caffi wedi’i leoli nepell o Faes B eleni, gallech ddychwelyd yno fin nos am farbeciw wrth ymyl stiwdios Cyw. Ond, os ydych am swper mwy ffurfiol cyn cyngerdd Bryn Terfel, archebwch fwrdd ym mwyty Ffresh, Canolfan y Mileiniwm. Enillodd y bwyty chwaethus hwn glod a bri dros y blynyddoedd am weini bwydlen sydd â’i phwyslais ar gynnyrch tymhorol Gymreig. Marc Corfield, gynt o’r Walnut Tree yn Sir Fynwy, yw’r prif gogydd a chyd-gynlluniwyd y fwydlen gyda’r cogydd Michelin Shaun Hill. Cynigir yno fwydlen ‘cyn y sioe’ (£19.50 am ddau gwrs neu £23.50 am dri).

Hefyd werth ei ystyried yw bwyty Pearl of the Orient, sydd ymysg y gorau o fwytai Dwyreiniol Caerdydd . Cewch yno bryd tri chwrs am lai na £13 tan 3 o’r gloch y prynhawn, neu os am flas ysgafnach, trowch at y fwydlen ‘Dim Sum’ Ba Orient (drws nesaf) i’w sawru gyda choctel, wrth i chi fwynhau’r olygfa wych dros Roald Dahl Plass. Gerllaw, yng Nghei’r Fôr-Forwyn mae bwyty Indiaidd  Moksh, a ddyfarnwyd droeon yn ‘dŷ cyri’ gorau Caerdydd. Ar y cyd â hen ffefrynnau fel Tikka Masala a Saag Aloo a ceir bwydlen flasu £55, sy’n dathlu arddull unigryw Stephen Gomes o goginio, gan briodi gastronomeg moleciwlar â blasau Mumbai. Ac o gofio hoffter mawr yr awdur Roald Dahl o sgrifennu am fwyd, efallai y byddai rhai yn eich prith yn hoffi blasu’r cig oen Willy Wonka & The Spice Factory, sydd hefyd yn Moksh.

Tipyn yn nes at ganol y ddinas, ceir cyfle i sawru seigiau o Sbaen, Galisia a Gwlad y Basg. Trefnwch grôl gwahanol i’r cyffredin ar gyrion Stryd Porth y Gorllewin gan gychwyn â phlateidiau o pintxos yn Curado Bar.

A0B0DC11-DDCE-4A0E-BF2A-5CE910F47C87

Dyma’r cam dinesig ymlaen yn hanes caffi-bar-deli  Ultracomida,  sydd â changennau yn Arberth ac Aberystwyth. Rhannwch blatiad cig a chaws am £10, gyda jin a thonig 1831 o Donostia. Ewch yn eich blaenau i Bar 44, i rannu potel o Cava, yna i’w frawd-fwyty Asador 44  ar Stryd y Cei. Yno cewch wledda ar Rubio Gallega o Galisia – y stecen orau yn y ddinas yn ddi-os.

Ond os ydych am bryd bwyd Eidalaidd, trowch yn hytrach drws nesa, i fwyty deulawr ysblennydd Casanova, a sefydlwyd yn 2005. Nid oes spag-bol na lasagne ar gyfyl y fwydlen hon, sy’n dathlu seigiau a gwinoedd o amrywiol ranbarthau yn yr Eidal. Ceir, felly, gawl o Galabria, ragu cig oen o’r farchnad gyfagos, neu saig sardîns o Venezia a weinir â nionod ar fara surdoes. Mae’r tiramisu gyda’r gorau yn ninas Caerdydd. Ond, wedi dweud hynny, gwell ei gymharu â fersiwn Elgano ar Heol y Gadeirlan. Cewch groeso cynnes yno gan Elgan Davies, o Dregaron yn wreididol, a’i wraig Hazel.

Os oes gennych awydd pizza, paratowch i ddadlau am oriau  â dinasyddion o’r  ddwy ochr i’r afon Taf . I drigolion Treganna, bwyty Calabrisella yw’r lle gorau, er bod Dusty Knuckle Pizza gystal bob tamaidd, rhaid dweud. Yn wir, mae pizza ‘Blas y Môr’ Phil Lewis o Lanymddyfri yn atyniad ynddo’i hun. Bwyty anffurfiol yw Dusty Knuckle, wedi’i leoli yn stiwdios Printhaus, Pontcanna, ar ôl cychwyn fel stondin ym marchnad ffermwyr Glan’rafon bob bore Sul. Ond i beswylwyr Penylan, does dim curo pizza La Vita – mae’r ‘pizza Gianni’ gyda dail roced a ham a chaws Parma yn werth pob cam i Heol Wellfield. I gadw’r ddysgl yn wastad beth am gytuno i rannu platiad yn mwyty Citta ar Stryd yr Eglwys yng nghanol y dre?

Mae brwydr y byrgers yn faes cad arall. Ceir dwsinau o ddewisiadau ledled y ddinas, ond os am safon ewch i Got Beef yng Ngabalfa. Fel cynifer o lwyddiannau diweddar y brifddinas, deilliodd cwmni Cai Pritchard o’r sîn bwyd-y-stryd. Dechreuodd weini’r byrgers mewn bws, cyn troi at  dafarn The Canadian yn y Sblot fel lleoliad ‘bwyty unnos’ a gynhelid pob penwythnos. Yna, yn 2014, agorodd fwyty ar Heol yr Eglwys Newydd, sydd bellach yn gyrchfan bar  a bwytai bywiog rhwng Maendy a Gabalfa.

Wrth gerdded i’r de o Gabalfa  tuag at at Heol y Ddinas, byddwch yn siwr o ddod ar draws Milgi yn ardal y Rhath. Sefydlodd y chwiorydd Becky a Gabby Kelly y caffi/bar coctel yn 2006, gan ei droi’n raddol yn gwbl lyseiol dros y blynyddoedd.

Deilliodd hynny o ddiddordeb cynyddol y merched, a’u cwsmeriaid, mewn bwyta’n ystyriol, gyda’r pwyslais ar seigiau blasus.

Archebwch mojito tsili gyda’ch thali; neu beth am kombucha gyda’ch salad maethlon?  Bu’r fenter mor llwyddiannus, fel bod cangen o Milgi bellach ym marchnad ganolog y dre.

Gerllaw, ar Heol Mackintosh mae caffi figan chwaethus Blanche Bakery, sy’n gweini toesion i gystadlu â Krispy Kreme.

12C7529B-53B6-4249-934F-E36EB2B5976B

Cofiwch hefyd os ydych chi’n figan am Anna Loka ar Heol Albany, a’r Vegetarian Food Studio yn Grangetown, sy’n porthi’r llwglyd llysieuol ers y flwyddyn 2000.

6620B41D-4B36-4F5A-BC89-16F8A867025E

Ond beth am y bwytai eithriadol hynny, sy’n ennill sêr a chipio rhosynnau ac a fyddai’n addas ar gyfer aduniad neu ddathliad yn ystod wythnos y Steddfod? Mae’n achos cywilydd i rai nad oes seren Michelin yng Nghaerdydd, gan borthi beirniadaeth (anheg) o’r ddinas fel lle sy’n dathlu’r diwylliant yfed, ac felly’n dioddef o ddiffyg dychymyg. Yn un peth, yn bendant, mae rhenti dychrynllyd canol y ddinas yn gwahardd pawb ond y cadwyni Llundeinaidd rhag sefydlu. Ond pe baech chi wir yn dymuno profi bwydlen o safon seren Michelin, croeswch y morglawdd i Benarth i fwyty rhagorol James Sommerin.

04D76970-D626-4011-A5F7-E00A0A5FE7EC

Yn nes at ganol y ddinas, rhowch dro ar  fwyty Park House, a bwydlen Andrew Frost sy’n wreiddiol o Aberddawan. Cychwynnodd ei yrfa yng ngwesty St David’s, yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd 1999. Dychwelodd adre yn ddiweddar o Baris, lle fu’n gweithio yn Le Cinq yng Ngwesty Georges V, a chyn hynny, Petrus ac Auberges du Lac. Roedd bwydlen flasu mis Hydref yn un o’r prydau gorau i mi’u mwynhau erioed yng Nghaerdydd, gyda’r pwyslais ar gynnyrch tymhorol a Chymreig.

Er bod bwyty Arbennig newydd gau ym Mhontcanna (lle bu bwyty Le Gallois slawer dydd), ar fin agor yno mae bwyty newydd Tommy Heaney o Ogledd Iwerddon. Os bydd yr arlwy yno gystal â’i fwydlen yn The Great House, Trelales, bydd yn wych. Nid nepell o’r fan honno, ar stryd fawr Pontcanna, mae bwyty Milkwood yn mynd o nerth i nerth. Dychwelodd Tom Furlong a Gwyn Myring (The Potted Pig, gynt,  sy’n dal o safon uchel iawn, ac werth ymweld ag ef yn hen fanc Lloyds ganol dre) i safle eu cegin gyntaf un, gan agor eu bwyty newydd lle bu Cibo, Pontcanna, am gyhyd.

CCEB044A-1276-4BAF-84D1-C3649D9C34A2

Mae’r fwydlen ginio yn fargen – tri chwrs am £19, neu ddau gwrs a glasied o win am £17; ewch am y macrell â blasau Asiaidd i ddechrau,  gan orffen â’r melysgybolfa eirin mair.  Cofiwch hefyd, gerllaw yn Nhreganna, am Purple Poppadom Anand George, a  deli a bwyty Catalwnaidd Montserrat Prat,  La Cuina.

9F5D475E-D784-49C7-9241-2B7C4C3CF022

Ond beth am y cwestiwn oesol hwnnw a glywaf yn amlach na’r un; lle ewch chi yng Nghaerdydd am ginio Sul o safon? Yn syml, mae gen i dri argymhelliad i chi. Dydy bwyty Laguna yng ngwesty cyfoes y Park Plaza erioed wedi fy siomi – ewch am y cig eidion Cymreig, yw nghyngor i.  Am ginio mewn tafarn, mae’r Landsdowne yn Nhreganna, a bwyty hyfryd Bully’s, Pontcanna, yn saethu i’r brig.

Ac am brofiad sy’n taro’r nod gyda thrigolion ac ymwelwyr, ewch yn syth i Fae Caerdydd. Hwyliwch gwch – neu croeswch y morglawdd –  draw i’r Custom House, lle ceir dewis o ddau fwyty poblogaidd. Yn El Puerto cewch ddewis eich toriadau cig eich hunain, tra mae La Marina yn cynnig profiad mwy ffurfiol. Cewch olygfa wefreiddiol a phryd bwyd o fri. Bydd yn chwa o awyr iach wedi wythnos o gyfeddach, a steddfod wahanol iawn i’r arfer yn y ddinas.

Daw’r erthygl hwn o rifyn Gorffennaf o Gylchgrawn Barn – prynwch eich copi chi o’ch siop Gymraeg leol neu ar-lein. Os oes diddordeb byw ganddoch chi ym sîn bwytai Caerdydd, croeso  chi ymuno â mi yn sesiwn ‘Bwytai Caerdydd: Y Da, y Drwg a’r Hyll’ am 1 o’r gloch ar brynhawn Sadwrn, Awst 4ydd, yn y Llannerch Gudd, ger Crefft yn y Bae, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Gwyliwch allan yn ogystal am fy ‘Nghanllaw Bwyd Caerdydd’ ar raglen Heno ar S4C ar nos Wener, Awst 3ydd, 2018. Bon apetit!

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Bwyd, Bwytai Cymru, Caffi, Caffis Cymru, Canllaw Bach Caerdydd, Cylchgrawn Barn, Delweddau o'r Ddinas, Tafarn/ Bar. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

2 Ymateb i Cylchgrawn Barn: Bwytai’r Brifwyl – Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

  1. Dywedodd comicsaaron :

    Waw. Am ebost i dynny dwr at y danedd! Ambell i enw gyfarwydd, ond lot o rai newydd i mi fyna – yn enwedig yn y Bae.

    Diolch i ti am dy wasanaeth i grourmands (a bolgis barus) Cymru.

    Huw

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

w

Connecting to %s