Wythnos d’wetha bues i’n ffilmio cyfres deledu o ‘rough guides’ i Gaerdydd, i’w darlledu ar raglen Heno ar S4C i gydfynd ag Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
Mae’r cynghorion yn seiliedig ar gynnwys fy llyfr Canllaw Bach Caerdydd (Gwasg Gomer) ac mae’r gyfres yn cynnwys Hanes, Natur a Bwytai Caerdydd.
Darlledwyd y cyntaf nos Lun, Gorffennaf 30, a bydd yr olaf yn darlledu ar Awst y 3ydd, 2018. Diolch i’r tîm cynhyrchu ffantastig gawson ni ddiwrnod llawn hwyl, yn teithio o amgylch y ddinas. Dwi’n falch i ddweud i’r gyfres eisioes ddenu clôd – a chymhariaeth â chyfres deithio eiconig!